Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

BWRIADAU Y BEDYDDWYR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BWRIADAU Y BEDYDDWYR. (GAN WYLIWR). Nid yw Cynulleidfaoliaeth noeth yn ateb y diben y dyddiau hyn. Y mae y "theori," fel y cyfryw, wedi methu mewn llawer cyfeiriad. Pob eglwys i fyw arni ei hun yn anibynol ar eraill, heb gwlwm o un math ag unrhyw eglwys yn y byd! Wel, ni thai mo'r fath unigoliaeth Tone 1. Mae dyn. wedi ei greu at undeb a chymdeith- asiaeth eang. Y mae indipendiaeth gaeth mor amhosibl i eglwys ag ydyw i berson unigol. Cenfydd enwad y Bedyddwyr wirionedd hyn, a bod eisieu cyfnevvidiad yn ei gyfu*drefn gynull- eid&ol er ateb gofvnion yr amserau. Mabwysiadwyd yn ddiweddar gan Cynghor Undeb y Bedyddwyr rai trefniadau tra phwysig. Cynwysa y "scheme" newydd dair adran. Y gyntaf sydd mewn perthynas ag uniad yr wyth Coleg Bedyddiol ym Mhrydain, a'r priodoldeb i'r ymgeiswyr am fynediad i mewn iddynt dder. byn cymeradwyaeth y Cynghor a nodwyd, yn ogysTal a'r gwahanol bwyllgorau gan ba Tai ar hyn o bryd, meddir y mae bron yr holl aw- durdod. Ymdrinia yr ail adran a'r fugeiliaeth. Anogir yr eglwys: i ffurfio math o federasiwn neu un- deb i gael ei lywodraethu gan fwrdd cynddrych- iadol canolog, yr eglwysi yma i addaw peidio gwahodd neb i fugeiliaeth heb ganiatad y bwrdd hwn. Penir tymhor y weinidogaeth ym mhob man i barhau am 3, 5, neu 7 mlynedd, ond os cytuna dwy ran o dair o'r aelodau gall gweinidog aros am dymhor pellach. Os metha gweinidog yn y federasiwn neu'r dosbarth gael galwad rhaid i'r bwrdd gaffael bugeliaeth iddo, neu ddarpar ar I eu gyfer mewn rhyw ffordd arall. Bydd gan y bwrdd hawl i uno dwy neu dair o eglwysi bychain o dan un gweinidog yn cael ei gynorth- wyo gan bregethwyr lleyg. -4- Ymdrinia y drydedd adran a chyflogau y gweinidogion. Nid ydynt i fod yn is na lOOp. ac mewn rhai manau 130p. Bwriedir sefydlu cronfa gynhaliol at ba un y rhaid i bob eglwys gyfranu dim llai na 70p. Heb fanylu ym mhellar-h digon yw dweyd mai amcan y cynllun newydd hwn ydyw uno yr eg- lwysi yng nghyd fel y bo i'r eglwysi cryfion gynorthwyo y rhai gweiniaid.

[No title]

Y LLYFYRGELL GENEBLAETHOL.

OLLA PODRIDA, NEU| Dipyn o…

Advertising

ANFARWOLDEB YR ENAID.

--__-----CONGLV BL ; RDD.

" DYSTA WRWYDD."

LLINELLA U

Rainfall at St. Davids, 1908.

Advertising

OLLA PODRIDA, NEU| Dipyn o…