Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

TOW Y N.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TOW Y N. DA genym allu dwyn tystiolaeth fod y dref fecban hon a'r cymmydo^aethau cylchynol yn treulio y Nadolig mor foes- gar a Cliristionogol, drwy ymddifyru codi'n foreu i ganu carolau, a gwrandaw yn astud ar genadwri yr efengyl ar hyd y dydd. Y mae yn ymddangos mai yr efengyl ydyw y gallu cryfaf yn yr ardaloedd hyn. Nid oes dim moreffeith- iol i gynnull y lliaws ynghyd, ae i'w cadw gyda'u gilydd yn weddaidd a threfuus, yn debyg i'r genadwri am enedig- aeth Ceidwad pechadur. Y gweinidogion fu yn gwasan- aethu eleni oeddynt yn Towyii, y Parchn. E.Roberts(M.), Dyffryn; R. Roberts (A.), Manchester; a W. Caenog Jones (W.), Llanddulas. Yn Abergynolwyn, y Parchn. K. Rowlands (A.), Treflys; R. Jones (W.), Caer; a J. Roberts (M.), Rhuallt. Yn Llanegyn, y Parchn. T. J. Humphreys (W.), Abermaw; W. Williams (M.), Talsarn; H. Ivor Jones (A.), Porthmadog. Yn Aberdyfi, y Parchn. Isaac Jones a N. C. Jones. Er nad oedd y weinidogaeth mor rymus ag yn y dyddiau gynt, er hyny tystiolaeth y lliaws ydoedd, fod cryn eneiniad dwyfol yn cydfyned a'r genadwri fe! ag i'w gwrn-yd yn hyfrydlaii, ac yn ddanteithfwyd o'r f.th a garni y i;wj amlawyr. Y dydd olaf o'r hen flwyddyn, yn y prydnjwn, bu farw Mrs. Vaughan, priod Sir. Robert Vaughan, Frankwell St., wedi bod yn garcharedig gan afiechyd am saith mlynedd. Yr oedd yn gymmeriad nodedig iawn, ac o fuckedd ddi- lycliwiu. Yn yr awr olaf o'r hen flwyddyn, wele etto hen gymmer- iad nodedig a hynod barchus yn gorfod cerdded y llwybr na ddychwela, yn hynod ddirybudd. Cyfeirio yr ydym at Mary Lloyd, Church St., yn yr oedran teg o 82ain mlwydd ed. Cyfarfyddodd Robert Davies, Gareglwyd,:â'i ddiwedd yn anamserol, drwy syrthio oddi ar ei farch, prydnawn ddydd lau, Ionawr 2il. Pel y elywais, y mae yr amgylchiadau yn debyg i hyn Y dydd dywededig, aeth i dalu ymweliad a'i ferch sydd yn byw yn Llanegyn. Dychwelodd yn ol i gyf- eiriad y Gareglwyd drwy hen ffordd sydd yn fwy union- gyrchol i'w breswylfod na'r brif-ffordd. Pan yn agos i'r Ty Mawr, yr oedd bachgen o'r enw Griffith Vaughan Jones, gwas yr Hendy, yn ceisio gyru hwch i'r un cyfeiriad ond mewn cryn dratferth. Aeth Mr. Davies i geisio ei gynnorth. wyo oddi ar ei farch, pryd y trodd yr hwch yn sydyn at draed y march, yr hwn a neidiodd yn aflywodraethus, gan datlu y marchog ar ei ben i aber oedd yn oroesi y ffordd ger Haw. Derbyniodd y fath niwed fel y bu farw boreu dra- noeth. Yr oedd yn 82 mlwydd oed yn aelod, athraw, a blaenor hynod barchus gyda'r Annibynwyr, ac yn un o am. aethwyr blaenaf yr ardal. Gan nad oes yr un trengholydd yn y sir ar hyn o bryd, bu raid myned ag ef i Machynlleth i gynnal y trengholiad.-Gohebydd.

EISTEDDFOD GADEiRIOL MEIRION,…

CYFARFOD 2 O'R GLOCH.

IABERTEIF1. -

IMACHYNLLETH. __ .

CANOLBARTH CEREDIGION.

ICEBYG-Y-DRUIDION. I

LIVERPOOL.

I - RHOSLLANERCHBUGOG.I

DOLGELLAU.I

IBETHESDA.

[No title]

I-LLANGYNOG.,,,--,t-. ~n i…

CWMSTMLOG A'R CYLCHOEDD.