Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

GOHEBIAETH 0 L'ERPWL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GOHEBIAETH 0 L'ERPWL. CYN H YKFI AD A I* Y DYDD. Twrw a dwndwr digyffelyb yn cael ei wneyd gyda phwnc diddarfod y Dadgysylltiad, a gellicl barnu oddiwrth natur y cynhyrfiadau nad llawer o les sydd yn deilliaw i'r cyhoedd o'r miri mawr. Eithaf peth i'r Eglwys Wladol ifywar ei chorn ei hun; ond pan ddadgy- sylltir hi oddiwrth y Llywodraeth, credwyf mai dyna yr amser y derfydd Prydain a bod yn llywodraeth unbenol. Ceir miloedd o fyw- ioliaethan yn pertliyn i'r eghvys a bery cyhyd ag y pery y byd, am fod y cyfryw gynysgaeth ,,y wedi ei rhoddi gan gyfoethogion ar wahanol amserau, mewn amryfal ddulliau, ac, o dan mae amrywiol amgylchiadau. With reswm, mae gan bawb ryddid i weitliredu fel. ymynont, ond credwyf nad rhinweddol iawn y cyfarfod- ydd a gynelir i wban a gwaeddi., tebyg i un o'r cyfarfodydd diweddaraf a gynaliwyd yn XTerpwl, ar bwnc y Dadgysylltiad. Gan nad yw yr Eglwys yn sefydliad ag sydd yn arwain y bobl at bethau anmhur a phechadurus, paham y ceisir ei diddymu o fodolaeth. Mae yr Eglwyswr fel yr Ymneillduwr yn hwylio ei gwch am borthladd gogoneddus y ddinas aur- aidd; ac os yn rhyfela ar y ffordd, sut y bydd hi wedi cyrhaedd glanau y Ganaan nefol. Nid yw y croes ddadleuon a'r cynhwrf i gyd yn ddim amgen na chais personau neillduol am enwogrwydd, a cheir un neillduol yn L'erpwl wedi methu ohono fyned i'r Senedd. Nid oes ganddo, weithian, ddim i'w wneyd ond bod ar y stump, fyth a hefyd, i gynhyrfu yr anwybodus a'r diddeall; oblegid mae yn sicr nad oes un dyn a fyddo yn ei iawn bwyll a wnai aros yn y fath le am fynud awr—yn nghanol swn oernadau annaearol. Gallaf fod yn cyfeiliorni, ond, yn fy myw, nis gallaf weled y priodoldeb o gynal i fyny ymladd- feydd diddarfod, yn neillduol felly ar bynciau crefyddol. Mae rhyfel, o ba natur bynag y bvddo. vn deilliaw oddiwrth dad pob drygioni —allan o hen ffynon cenfigen a malais. Fel dinaayddion o'r byd, ein prif bwnc ddylai fod i wella y byd, gan ei adael yn well nag y cawsom ef. Clywais un g'Vr cyfrifol yn siarad yn erbyn arferion a defodau, tra, yr un pryd, ya ddefodwr selog o argraffiad lied ddiweddar. Cawn lawer yn siarad am wladgarwch mewn cyfarjodydd cyhoeddus, ond pan ddygir y cyfryw i roddi prawf o'u gwladgarwch, bydd yn lied fain, ac ambell dro mor fain nas gellir ei weled. Mwyaf y swn lleiaf y sylwedd, o'r hyn lleiaf dyna fel y gwelaf fi bethau yn ughwrs bywyd, fel nas gallaf ond edrych ar y cyfryw bethau ond gyda gradd helaeth o an- mheuaeth. Gall fod yn ddigon rhesymol i rywun arall feddwl a barnu yn wahanol; ond, os cymer y darllenydd olwg rydd a chyffred- inol ar y byd, ni fydd yn mhell o ddyfod i'r un penderfyniad a minau, os bydd wedi cael •ei hunan yn rhydd oddiwrth y dylanwadau gwibiol sydd yn dilyn y stump orators a gyfar- fyddir mor ami ar esgynloriau ein cyfarfodydd cyhoeddus. Edrychwyf ar y pleidiau gwleidyddol fel yr edrychai y dyn hwnw gynt ar Pat, pan oedd yn cneino'r mochyn,—" Great cry and no wool." Addewidion fyrdd a mwy gan Oeid- wadwyr a Rhyddfrydwyr, ond unwaith yr elont i Sant Stephan, bydd y werin yn cael ei chwbl annghofio, a'r addewidion wedi myned i'r gwellt. Gellid yn hawdd brofi y gosodiadau hyn, gyda ffeithiau didroi yn ol, mewn cysylltiad ar aelodau dros Gymru a Lloegr; ond, oyhyd ag y byddo'r werin yn llwfr a diymdrech, tebyg mai felly y bydd pethau yn ein gwlad, am yr unig reswm mai cyfoeth bydol sydd y cael syhv yn He synwyr a thalent, yn mhob rhanbarth, cwmwd, a chongl. Gwn fy mod yn sangu tir hynod o beryglus, ond ni waeth genyf am ddyfnder y corsydd lleidiog tra bydd y gwmonedd genyf i'm cynorthwyo. Fe ymddengys llawer o bethau yn chwithig i'r darllenydd, ond nid wyf yn meddwl fod dim yn fwy chwithig na chlywed dyn yn gwaeddu am ddadgysylltiad, a'r fynud nesaf yn myned fraich- yn mraich gydag offeiriad Pabaidd. Gall y bydd rhywun yn dweyd fy mod yn cyfeiliorni; ond dealled y darllenydd na waeth genyf am. hyny, oblegyd yr hyn a welais a'm ljygaid a dystiolaethaf o flaen y byd, a beiddaf ddweyd fod annghyson- deb o'r fath a nodir uchod genyf yn frenin ar toll annghysonderau y byd cymdeithasol, moesol, a chrefyddol. MASNACH Y MOR. Marwaidd y deil pethau hyd yma, yn neill-, duol felly yn y cysylltiad agerddlongawl. Myn rhai sibrwd fod seren fechan i'w gweled -yn y pellder, a bod hono yn arwyddocau ad- fywiad, pryd y disgwylir cyfFroad cyffreftinol. J)aeth yr agerlong fyd enwog. y Great Britain, i mewn i'r afon ddoe (dydd Sul), ac yn ei mynwes oddeutu cant a haner o deithwyr, gyda llwyth amrywiol. Nid yw y manylion am y daith wedi dyfod allan hyd yma, felly Thaid aros hyd yr wythnos nesaf cyn y gellir .cael ymanylion cysylltiedig a gwahanol bethau a berthyn i'r Great Britain. Tybiwyd unwaith ei bod wedi ein gadael, i redeg ar orsaf Lhin- dain a Melbourne; ond nid felly y parhaodd, oblegyd y mae wedi dyfod yn ol i'w hen gar. tref, yr hyn fydd yn llonder ilM byclian i lawer o deuluoedd yn y porthladd, am fod dwylaw y llong gan mwyaf yn L'erpwliaid; carirefol. Teimlid y golled mewn cylchoedd masnachol, ond bellach wele y golled wedi ei [ hadfer yn ol, a sicr ydyw fod calonau miloedd yn dymuno llwyddiant y Britain i wneyd tei^hiau llwyddianus fel yn y dyddiau a'r blynyddoedd sydd wedi myned heibio. Dyma yr unig agerlong ag sydd wedi llwyddo i gadw cymundeb rheolaidd rhwng Prydan ac Awstralia am yn agos i chwarter canrif, heb golli ond ychydig iawn o fywydau. TREULIAU YMWELWYXL. Byddwn yn ami yn cael ein bendithio ag ymweliadau Tywysogion ac. Ymerawdwyr daearol. Cafodd y trethdalwyr y pleser o dalu 1523p. am weled y Due o Edinburgh a'r Sultan o Zanzibar. Ymwelwyr lied gostus onite ? ac nid yw yn debyg fod y naill na'r llall o honynt wedi gwneyd ond y peth nesaf i ddim o les i drigolion y dref, er y gall ym- weliad yr olaf fod yn achos i agor masnach rhwng Prydain a'r wlad lie y preswylia ei fawredd lliwiedig. Mae ymweliadau tramor- iaid yn lies a llwyddiant i fasnach y wlad mewn amrywiol ffyrdd, ond am yr ymweliadau ereill, nid ydynt yn ddim amgen na gwastraff y 11 ag y gellfr ei hebgar yn eithaf, heb daflu ditn allan o'r ftordd. Rhag myned a gormod o Ie, ac i fod yn brydlon er dal yllythyrgod, rhaid diweddu yn y fan yma.—Yr eiddoch, Nos Lun, Ion. 31. "CnrEo GWYLLT. OLYSGRIF.—Pau y mae dymaint o son am ddynion yn gwneyd daioni, nid anmhriodol cofi nodi y rlioddion enfawr a adawodd Roger Lyon Jones, Ysw., yn ei,ewyllusr wahanol syfydliadau cyhoeddus y dref. ISfttl oes cofnod o gymaint o roddion mewn un eWjrllus at sefydliadau ag Sydd yn gwir deilynjpi nawdd a chefnogaeth ar gyfrif y swyddogaeth a' gyflawnant mewn gwahanol ffyrdd; ac yn liytrach na cheisio cyfieithu y rliestr, gadawaf iddi ymddangos yn hollol fel y daeth allan o flaen y byd. Gwna darllen rhestr o fath a ganlyn les rhyfeddol i lygaid ambell i hen gybydd cyfoethog yn Nghymru, ac ereill sydd yn proffesu bod yn wladgarol, pan nad ydynt ond yn ffugio i'r cyhoedd :— Royal Infirmary, £ 25,000. £20,000, yr un i'r Royal Southern Hospital a'r Northern Hospital. B10,000 yr un i'r sefydliadau, canlynolBluecoat Hospital, Seamen's Orphanage Endowment Fund, Female Orphan's Asylum, Boys" Orphan Asylum, Infants' Orphan Asylum. j65,000 yr un i'r rhai canlynol: — Dispensaries, Children's Infirmary, Stanley Hospital, Nurses' Convalescent Hospital, Woolton, The Indefatigable," Liverpool Scrip- ture Readetrs Society,'Church of England School Society. £ 3,300 yr un i'r rhai canlynol Eye and Ear Infirmary, Wright's Institution, Govern- esses' |Benevolent Institution (A.F.). £ 2,500 yr' un i'r rhai canlyuolConsumption and Chest Diseases Hospital, Cancer Hospital, Infectious Diseases Hospital, Homoeopathic Dispensaries, Church Aid Society, Home for Ineuritbles. 92,000 yr un i'r rhai canlynolSkin Diseases Dispensary. Lymg-m-Hospital, Workshops for the Blind, Blind Annuity Fund, Deaf and Dumb Annuity Fund, Aged Seamens' Widows Fund (M.M. A), Liverpool Shipwreck and Humane Society (A.F.), Ladies Parochial Bible and Domestic Mission, Curates' Aid Society, Pastoral Aid Society, Clergy Orphan School (Warrington), Juvenile Reforma- tory. £ 1,500 yr un at y rhai canlynol:—Industrial Schools (Everton-terrace), Kirkdale Industrial Schools. Holy Trinity Industrial Schools. £ 1,000 yr un i'r rhai canlynol :—The Indigent Blind Asylum, Medical Mission, The Girl's Industrial School (Toxteth-park), The Female Penitentiary, The Benevolent Penitentiary, The Home, The Magdalen, The Ragged School Union, Traihing School for Domestics (Everton)..6500 yr un i'r rhai canlynol:—St. Paul's Eye and Ear Infirmary, Ladies' Work Society, Needlewomen's Relief Society, Needlewomen's Establishment (Great Oxford-street). Cyfanswm, £220,000. Nid oes yn yr uchod un math o grybwylliäd am y rhoddion cyfrinachol i'w weision a'i law- forwynion, a chyfeillioh ereill o fewn cylch ei ei adnabyddiaeth. Er iddo farw, ei weithred- oedd dyngarol eto a lefarant, am hyny bydded heddwch i'w lwch hyd ganiad y "Corn mingorn mawr."—C. G.

Damweiniau ychwanegol ar y…

Dr. Kenealy yn ei Gymeriad…

[No title]

Unde Ib CySredinol y;: fJQfiaid…

ST. NICHOLAS, BRO MORGANWG.

Family Notices

Gwyl GprddMroI ])y&yn feliondda.

Brynfierws, Llanedi.

EISTEDDFOD IFORAIDD ABERDAR.

Advertising

Eisteddfod Gadeiriol Treherbert.I

CASTELLNEDD.

LLYTHYR O'R WLADFA.