Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Y BYD A'R BETTWS.

ARGLWYDD PENRHYN A'I WEITHWYR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ARGLWYDD PENRHYN A'I WEITHWYR. Unwaith eto y mae helynt y Penrhyn yn hawlio cryn sylw. Ychvdig amser yn ol gwnaed cais at ei arglwyddiaeth ar iddo dderbyn dau bendefig parchus fel cyflaredd- wyr i'r anghydwelediad. Y ddau wr a awgrymwyd oeddent Arglwydd Rosebery a Mr. Balfour, ond er mor barchus yw y ddau enw hyn yn ei olwg, dywed ei arglwyddiaeth wrth y bobl nas gall efe ar unrhyw delerau adael i'r neb pa bynag, o'r tu allan, i heddychu rhyngddo ef a'i bobi. Mewn gair y mae Arglwydd Penrhyn wedi gwneyd ei feddwl i fyny nas caniata ar unrhyw achlysur i neb dieithr i ymyryd dim a'i chwarel ef. Dengys yr ysbryd hwn ar unwaith beth yw gwreiddyn yr anghydfod. Dyma Arglwydd Penrhyn yn ei wir oleuni fel teyrn trahaus, ac fel gwr sydd yn hawlio bod yn ben ar ei eiddo deued a ddel. 0 dgn y fath berson, pis gall neb fod ond fel math o gaethwas, ac os hudir y bobl yn ol eto heb eu hawliau fel undebwyr, byddant yn gwybod yn dda pa beth i ddisgwyl o dan yr amgylchiadau. Ni fydd iddynt byth dderbyn eu hiawnderau, a gwna ei arglwydd- iaeth ei eithaf er llindagu pob math o undeb a ddigwydd fod cydrhyngddynt, a byddant hwythau yn hollol at ei drugaredd a'i awdur- dod, a gwae y gwr a ddisgyno i'r safle isel- wael hono. Nid yw'r holl helynt ond agwedd neillduol ar ystyfnigrwydd un person, a gwir a ddywedai Mabon y gellid setio y cyfan yn mhen 'chydig fynudau pe bae'r pleidiau yn cyfarfod a'u gilyd, ond yr anhawsder yw cael y bobl a'i arglwyddiaeth i gyfarfod, a dyna a geisir ar hyn o bryd trwy offerynoliaeth y ddau wr a enwyd. Er hyny y mae perchen y chwarel yn barod i dderbyn deiseb oddiwrth y bobl eu hunain, ac os cytunir i wneyd hyny hwyrach y gellir gosod i lawr ryw fath o sylfaen ar yr hon y gellir adeiladu heddwch parhaol yn y He. Y mae un peth yn eglur i bawb, sef fod yr anghydfod presenol yn creu difrod lawer yn yr ardal, a goreu po gyntaf y gellir cael rhyw fath o ymwared, a chan Arglwydd Pen- rhyn y mae'r gallu i ddwyn yr ymwared hwnw i'r cylch. Wel boed iddo ei ddwyn yn fuan er mwyn ei enw da ei hun, ac er mwyn an- rhydedd i'r bobl.