Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

6yd y law.

CYNGHERDD " CWCWLL."

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYNGHERDD CWCWLL." Nos Wener yr wythnos ddiweddaf y cym- erodd y cyngherdd hwn le yn Neuadd Drefol Holborn, ac, yn ddiau, yr oedd yn un o'r cyngherddau mwyaf dyddorol a gynhaliwyd yn ein plith er's llawer dydd. Hardd ydoedd gweled yn y gadair neb llai na'n cydwladwr caredig-Mr. Timothy Davies, C.S.LI, (cyn faer Fulham). Hyfrydwch, hefyd, ydoedd gweled nifer go lew o bobl yn bresenol, gan mai noson anghyfleus ydyw nos Wener i gynhal cyngherdd. Ni wyddis eto faint o fudd a wnaed o'r anturiaeth. Yn gwasanaethu, yr oedd y rhai canlynol: Miss Gertrude Hughes, Madame Juanita Jones, Mr. Thomas Thomas Mr. Meurig James, Cor Merched y Kymric a Mr. Philip Lewis y crythor, yn yr adran gerddorol; Mrs Albert S. Bradshaw yn adrodd, a Miss Jennie Jones a Mr. Merlin Morgan yn cyfeilio. Y mae eu henwau yn ddigon adnabyddus i bawb, fel mai afraid ydyw dyweyd i bob un o honynt wneyd eu rhan yn ganmoladwy. Ond dylid dyweyd mai talent ieuanc yw Miss Jennie Jones, a dyma'r tro cyntaf i ni ei gweled ar Iwyfan cyhoeddus ond y mae yn addawol iawn. Merch ydyw i Mr. D. R. Jones, Old Kent Road, a dymunwn iddi bob llwyddiant. Mr. Maengwyn Davies oedd yn beirniadu yn nghystadleuaeth y cwpan, a dyfarnodd Mr W. Rees, Castle Street, yn oreu. Rheolydd y gerddoriaeth oedd Mr. R. O. Jones, Wilton Square, a gwnaeth ei ran yn hwylus iawn. Yn ystod anerchiad byr ond hynod bwrpasol gan y cadeirydd mewn cyngherdd o'r fath, dywedai y buasai anerchiad gan Cwcwll ar gyflwr cymdeithasol a llenyddol Cymry Llundain pan ddaeth ef i fyny gyntaf, 34. mlynedd yn ol, yn rhwym o fod yn ddyddoroi. Barnai ef fod cryn gynydd mewn ysbryd dyn- garol a haelionus yn ein plith. Ugain mlyn- edd yn ol buasai yn bur anhawdd, os nad yn amhosibl, cael cyfarfod fel yr un a gaed y noson hono, pryd yr oedd pob enwad yn ym- uno i achlesu hen wr oedd yn meddu ar gryn allu a thalent, ac yn ei amser goreu oedd wedi bod yn Jlafurus a llwyddianus gydag achosion llenyddoi a dyngarol, ond sydd erbyn hyn wedi ei ddal gan afiechyd a methiantwch. Yr oedd yn falch o gael bod yn gadeirydd, a hyny am y tro cyntaf mewn cyngherdd, yn enwedig gan fod hwn yn arddangosiad tar- awiadol o'r cynydd ydym wedi wedi ei wneyd mewn haelioni tuagat y tylawd a'r teilwng. Anogai ar i bawb oeddynt yn teimlo eu bod wedi cael mwy nagwerth eu harian yn y cyng- herdd godidog hwnw, i roddi faint a fynont yn ychwaneg na'r geiniog a ofynid am y gan bert o eiddo Cwcwll i'r Gloyn Byw Crwydrol yn Llundain" a werthid gan y rhianod a ofalent am y rhagleni. Yna gofynai i Cwcwll ddod i'r llwyfan, yr hyn a wnaeth yr hen fardd, ac ni roddwyd i neb erioed dderbyniad mwy brwdfrydig nag a roddwyd iddo ef gan y gyn- ulleidfa. Edrychai yr hen wr yn bur siriol, er yn grynedig. Wedi moesgrymu i'r dorf, dywedai ei fod yn diolch o waelod ei galon i bawb yn ddiwahaniaeth am eu caredigrwydd mawr tuag ato yn ei lesgedd, ond gan fod ei feddyg, Dr. Evans, Homerton, wedi ei ry- buddio rhag cynyg gwneyd anerchiad cy- hoeddus, dymunai arnynt ei esgusodi o dan yr amgylchiadau. Gyda hyny, gofynai y cadeirydd am three cheers i Cwcwll, a rhodd- wyd hwy yn galonog. Clywsom fod rhai o'r beirdd wedi parotoi anerchiadau iddo, a bod un bardd ieuanc o gymydogaeth Kingsland Road yn teimlo yn siomedig am na chafodd gyfle i ymfflamychu. Ond rhaid oedd brysio ymlaen gan fod rhan helaeth o'r rhaglen yn ol. Diangodd y cadeirydd rywfodd cyn i neb gael y cyfle a'r pleser o dalu y diolchgarwch arferol am ei wasanaeth,-a gwasanaeth syl- weddol a wnaeth, gan ei fod yn gweithredu fel arweinydd yn ogystal a chadeirydd ac, yn ol fel y clywsom, yr oedd ei gyfraniad at amcan y cyfarfod yn sylweddol iawn hefyd. Ond, o ran hyny, nid gwr yw Mr. Davies sydd eisieu cael udganu o'i flaen ac ar ei ol: y mae ei haelioni diymhongar yn ddigon adnabyddus ac yn cael ei werthfawrogi. Gobeithiwn y bydd ei lwyddiant yn y dyfodol yn helaeth iawn, ac y" digonir ef a hir ddyddiau" i wneuthur daioni; ac y mae y dymuniad yma yn cael ei ddwyshau wrth feddwl am yr en- wogion Cymreig yn y cylch masnachol a gwympwyd gan angau yn ddiweddar, oddiwrth ba rai y disgwyliem lawer. Terfynwyd y cyngherdd dyddorol trwy ganu "Hen Wlad fy Nhadau," Mr. Meurig James yn arwain. Credwn i bawb fwynhau eu hunain yn fawr.

Advertising