Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Enwogion Cymreig.—XXIV. Y…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Enwogion Cymreig.—XXIV. Y Parch. J. Ossian Davies. YM mhlith y lliaws o fechgyn Cymru sydd JL wedi llenwi pulpudau Seisnig yn ystod y chwarter canrif diweddaf ni chyrhaedd- odd yr un fwy o boblogrwydd na'r gwr anwyl ac adnabyddus y rhoddwn i'n darllenwyr ddarlun a braslun ohono y tro hwn. Ac nid poblogrwydd damweiniol ac anesboniadwy ydyw ychwaith eithr poblogrwydd yn gorphwys ar seiliau teg a chedyrn—-ar rym athrylith naturiol wedi ei mheithrin a'i disgyblu yn dda, ym- roddiad diarbed a diorphwys i'r gwaith yr ynigyflwynodd iddo, crediniaeth ddiysgog yn efengyl Crist fel moddion i waredu a dyrchafu dynoliaeth, a sel ymhlaid pob daioni yn llosgi yn ei esgyrn megis tAn. Un o Blant Tref Aberteifi ydyw Mr. Ossian Davies. Mae rhyw ddeuddeg neu dair blynedd ar ddeg a deugain er y gwelodd oleuni dydd gyntaf. Yn y dref honno y magwyd ef, yn swn y tonnau a gurant yn ddibaid ar arfordir Ceredigion. Ni wyddom a dreuliodd lawer o ddyddiau mebyd ar y traeth neu beidio, ond y mae yn gadael ) r argraff arnom yn wastad fod ysbryd y mor lond ei enaid. Mae ei wynebpryd agored, hawddgar, yn peri i ni feddwl am y mor pan fo yr hin yn dawel a'r haul yn disgleirio ar ei wenyg llyfnion, ap y mae rhuthr a hyawdledd ei ymadrodd yn em hadgoffa am ruthr y tonnau a ymdaflant i'r Ian pan fo'r mor yn gynhyrfus, ac am y llanw hiatal ac ymchwyddol a orchfyga holl rym hfeiriant y Deifi deg. Wedi cael cwrs cyffredin plant y dreflan o addysg, gosodwyd ef mewn Swyddfa argraffu, a bu yn olynol yn gysodydd, gohebydd, ac is-olygydd newyddiadur wyth- "°sol. Dywed ef ei hun fod y swyddfa wedi pd o lawn cymaint o les iddo a'r coleg. Ond nid oedd y wasg yn gvfrwng digonol i ddoniau y Hanc, a'i awydd i lesoli ei gyd-ddynion. Deehreuodd areithio ar ddirwest ac mewn cyfarfodydd gwleidyddol, a daeth yn fuan yn dra phoblogaidd. Bu am dymhor Yn Ysgrifenydd Cymdeithas Ddirwestol Deheudir Cymru, a j-haflodd ei holl egni i waith y swydd hon fel ob peth argil. R>wbryd yn y cyfnod hwn refc reUOdd bregethu, a derbyniwyd ef yn y yriwr i Goleg Aberhonddu. Tynodd ei oniau eithriadol sylw yr eglwysi yn fuan, ac Ym mhell cyn i'w gwrs colegol derfynu yr oedd 0 •H/yw o'r eglwysi cryfaf yn cynnyg galwadau | °" n V flwyddyn 1876 Ymsefydlodd yn Llanelli sef ar eglwys ieuanc y Tabernacl a bed "aS1<^ cyn hynny. Bu yno am air blynedd yn anarferol o Iwyddianus. Tyrrai y bobl i wrando arno, ac aeth ei glod fel pregethwr a darlithtwr drwy yr holl wlad. Gelwid am ei wasanaeth o bob cvfeiriad, ac ar bob math o achlysur. Traddododd ei ddarlith ar y Bwystfil Rhufeinig" mewn mwy na dau gant o leoedd, ac un arall ar" Christmas Evans" mewn llawn cant a hanner. Ond er mor boblogaidd ydoedd Ossian ym mysg y cynnulleidfaoedd Cymreig, llwyddodd y cylch Seisnig i'w ddenu iddo ei hun. Yn 1880 symudodd i Abertawe i gymeryd gofal eglwys Photo TV. JReadJ [Bournemouth. Y PARCH. J. OSSIAN DAVIES. Arglvvyddes Huntingdon yn Herbert Place. Cyn pen tair blynedd Denwvd ef i Lundain gan eglwys gref New Court, Tollington Park, a threuliodd yno bum mlynedd a hanner rhyfeddol o ddedwydd. Daeth yn fuan iawn yn un o bregethwyr mwyaf poblogaidd y Brifddinas, a rhedodd ei glod drwy yr eglwysi Cymreig. Profodd ei hunan yn fugail llwyddianus yn ogystal a phregethwr. Ond oherwydd sefyllfa iechyd un o'i blant bu raid iddo adael Llun- dain yn 1888, ac ymsefydlu yn Bournemouth. Eithr yr un gwr oedd ef yno drachefn,—y gweithiwr difefl.. Cododd yr eglwys yn Richmond Hill i gynwr mwy llewyrchus nag y buasai ynddo erioed o'r blaen, ac adeiladwyd yno addoldy newydd godidog a erys yn hir yn enw iddo ac yn goffadwriaeth o'i lafur. Yn ychwanegol at ei lafur mawr gartref, yr oedd yn barhaus yn gwasanaethu eglwysi eraill ar hyd a lied y wlad, yn enwedig yr eglwysi pentrefol yn Neheubarth Lloegr. Yn 1897 cafodd ahvad o Gapel Paddington, Marylebone Road, a dychwelodd i Lundain. Yr oedd yr achos wedi dadfeilio rhagor yr hyn fuasai, ond dechreuodd adfywio yn fuan o dan weinidogaeth Ossian," a theimlai yntau ei fod mewn cylch a roddai gyfleusdra i wneyd gwasanaeth mawr. Eithr byrhawyd ei nerth ar y ffordd, Torrodd ei lechydi Lawr. Y syndod ydyw iddo ddal cyhyd. Buasai y drydedd ran o'i lafur ef am bum mlynedd ar hugain yn ddigon i unrhyw un. Aeth am dro i'r Cyfandir, a disgwyliai ei fod yn ddigon cryf pan ddychwelodd i ail ymaflyd yn ei ddyledswv ddau. Ond yr oedd y natur a drethasid mor drom yn gofyn rhagor o orphwys cyn ymadnewyddu. Er golid mawr i'w eglwys penderfynodd ymddeol o ofalon gweinidogaethol, a chymeryd seibiant llwyr am dipyn o amser. Cyflwynwyd iddo dysteb o dros fil o bunnau pan ymadawodd. Preswylia yn alAr yn Shortlands, Kent, ac y mae pob argoelion y daw yn fuan yn ddigon cryf i ail ymaflyd yn y gwaith sydd mor agos at ei galon" ac y rhoddir iddo flynyddau lawer eto i wasanaethu ei genhedlaeth. Nid yw ei afiechyd yn gyfryw ag a'i gorfoda i fod yn segur yn nhir neillduaeth. Yn ddiweddar cyhoeddodd Gyfrol o Bregethau o dan y teitl Old, but ever Arew." Ysgrifena hefyd lawer i'r cyfnodolion yn barhaus. Mae yn amhosibl mewn braslun fel hwn rhaddi unrhyw elfeniad o'i neillduolrwydd fel pregethwr. Doniwyd ef a dawn ymadrodd anghyffredin hyd yn nod ym mhlith ymadrodd- wyr Cymreig. Ni safodd mewn pulpud nag ar lwyfan erioed barablwr mwy hylithr nag ef yn nyddiau ei nerth. Meddai gyflawnder dihysbydd o iaith, geiriau cryfion, detholedig, a bwrlymai y rhai hynny dros ei wefusau heb rwystr nag ataliad. Ac yn ei holl bregethau a'i ddarlithiau disgleiria meddwl yn ymwneyd a phynciau pwysicaf bywyd dynoliaeth. Nid siarad er mwyn siarad yw ei nod, ond siarad er mwyn symud dynion i ymestyn at yr hyn sydd uweh a, pherffeithiach. Ac i goroni y cwbl argyhoedda bawb ei fod o ddifrif. Dyn ar dan ydyw Mr.

HENRY BOWN, Photographic Artist,