Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

I 11,Cymru yn y Senedd. Mr.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I 11, Cymru yn y Senedd. Mr. David Davies, Maldwyn. FEL y nesai amser yr etholiad sydd newydd fyned heibio, pan y taflai gwleidyddwyr Cymreig olwg dros y Dywysogaeth, ac y y t, ceisient ragfynegu yr hyn a gymerai Ie, un o'r ychydig etholaethau y teimlai llawer o Rydd- frydwyr eu bod braidd yn ansicr oedd sir Drefaldwyn. Ni wyddom yn iawn paham yr ystyrid hi felly ychwaith, dichon mai oherwydd fod dylanwad Seisnig sir y M'wythig yn lied gryf mewn rhan ohoni, ac hefyd am nad oedd y mwyafrif Rhydd- frydol yn fawr iawn yn yr etholiad blaenorol. Bu sir Drefaldwyn yn hwy na'r rhan fwyaf o siroedd Cymru cyn i'r llanw. Ymneillduol a Rhyddfrydol ei gorlifo. Hyd 1880, er cyn cof,. sedd' Geidwadol oedd y sedd, a llenwid hi fynychafgan un o deulu y Wynniaid, sydd yn dirfeddianwyr mor fawr yno. Ond yn. y flwyddjn a nodwyd daeth Mr. Stuart Rendel- Arglwydd Rendel yn awr—i'r maes ar ran y Rhyddfrydwyr, a chariodd y sedd gyda mwyafrif cryf, gan ychwanegu ato ymhob etholiad dilynol a ymiaddodd. Pan ymneillduodd ef, etholwyd y diweddar Mr. Humphreys-Owen yn olynydd iddo. Brwydr galed iawn a gafodd ef yn erbyn y gorlanw Ceidwadol yn 1895 a 1900, ond daliodd feddiant o'r eisteddle. Bu Mr. Humphreys-Owen farw ar fin yr etholiad diweddaf, ac yn ei farwolaeth collodd Cymru gymwynaswr ffyddlon a pharod. Dwyblaid yn Edrych i'r un Cyfeiriad. Pan y bu farw Mr. Humphreys-Owen, ni feddai y Ceidwadwyr ymgeisydd yn barod, ac yr oedd yn rhaid i'r Rhyddfrydwyr chwilio am wr i gario eu baner hefyd. A digwyddodd i'r ddwy blaid droi eu hwynebau i'r u i cyfeiriad. Rhedent bron am y cyntaf, ac os nad ydym yn camgofio bu dirprwyaeth oddiwrth y Rhydd- frydwyr yn ymweled a Mr. David Davies heddyw, a dirprwyaeth oddiwrth y Ceidwadwyr yforu. Ni chlywsom erioed am redegfa gyffelyb yn hanes pleidiau gwleidyddol. Ychydig iawn a wyddai odid neb beth oedd daliadau gwleid- yddol y boneddwr o Landinam. Aethai rhyw son allan ei fod yn gogwyddo at Doriaeth. Yr unig sail i'r fath si ydoedd ei iod yn dadgan ei anghymeradwyaeth o ffurf y Cadymgyrch Addysg,, ac yn barod i wrando ar lais y Trefedigaethau yng nghylch trefniadau cyllidol a'r famwlad. Fodd bynnag, diwedd y rhedegfa cydrhwng y pleidiau fu i Mr David Davies Godi i Fynu y Faner Ryddfrydol, a chael ei ddewis yn ymgeisydd gan Gynghor y blaid gydag unfrydedd mawr. Methodd y Ceidwadwyr a pherswadio neb i ddod i'r maes i'w wrthwynebu, ac yn lie bod canlyniad y frwydr ym Maldwyn yn ansicr, cafodd y sir gynrychiolydd heb drafferthu mynd i'r etholfa, a hwnnw yn gynrychiolydd o blith ei mheibion ei hun. Mae CysyMtiadau Teuluol y boneddwr o Landinam mor adnabyddus fel nad oes angen manylu arnynt. Mab y diweddar Mr. Edward Davies, ac wyr y diweddar Mr. David Davies, fu yn aelod dros Geredigion am flynyddau lawer ydyw. Mae hanes y taid yn un o'r penodau mwyaf rhamantus yn holl groniclau diweddar Cymru. Cychwynodd ei oes yn weithiwr cyffredin, ond cyn ei diwedd yr oedd yn un o'r dynion cyfoethocaf yn y wlad, yn berchenog tiroedd, a glofeydd, a rheilffyrdd, a dociau. Ychydig o ran a gymerai Mr. Edward Davies mewn bywyd cyhoeddus, ond yn ystod MR. DAVID DAVIES, A.S. ei ddyddiau ef ychwanegodd cyfoeth y teulu yn ddirfawr. Nid oes yn Nhy y Cyffredin nemawr aelod cyfoethocach na Mr. David Davies, na nemawr un ieuengach nag ef ychwaith, oblegid nid yw namyn pedair-ar-hugain mlwydd oed. Fel yr edrychid cyn yr etholiad ar y sir a gyn- rychiola, felly hefyd edrychir arno yntau gan lawer yn Elfen Ansicr yng Ngwleidyddiaeth Cymru. Mae y ffaith fod y Ceidwadwyr wedi meddwl y gallai gario eu baner hwy yn ddigon i gyfrif am hynny. Ond yr oedd ei ddadganiadau ef ger- bron y Cyngor Rhyddfrydol yn bur glir ar yr holl bynciau gwleidyddol, yn enwedig pynciau yn dal perthynas a Chymru. Yr unig bwnc nad oedd yn barod i adsain Shibboleth y blaid yn ei gylch oedd trefniadau cyllidol a'r Trefedigaethau, ond ymrwymodd i beidio pleidleisio dros unrhyw ffurf o Ddiffyndollaeth hyd nes y byddai y gyn- hadledd a fwriedid gynal rhwng cynrychiolwyr Llywodratth Prydain a chynrychiolwyr y Tref- edigaethau wedi ei chynal. Er ei fod yn anghymeradwyo ffurf y cadymgyrch yn erbyn Deddf Addysg 1902, dadganodd yn glir ei fod yn wrthwynebol i ddarpariadau y Ddeddf honno, ac mor awyddus i'w diwygio a neb pwy bynag. Dichon hefyd fod peth o'r ansicrwydd a goleddir yn ei gylch yn codi o'r ffaith ei fod mor gyfoethog, a, pheth go anghyffredin yw i wr o gyfoeth mawr fod mewn cydymdeimlad trwyadl a dyheuadau politicaidd y werin. Ond y mae Mr. David Davies wedi Glynu wrth Symlrwydd ei Hynafiaid drwy bobpeth hyd yn hyn, er mor fawr y rhaid fod y demtasiwn i ymadaw oddiwrthynt. Cad- wodd symlrwydd bywyd Cymreig ym Mhrifysgol Caergrawnt, ac ni adawodd i hudoliaethau cryfion bywyd is-raddolwr cyfoethog yn y cylch hwnnw'ei dynnu oddiar y ffordd dda y rhodiodd ei hynafiaid ar hyd-ddi. Mae yn parhau yn Ymneillduwr cadarn, megis ei dad a'i daid, yn flaenor gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ac yn cymeryd dyddordeb dwfn ym mhob symudiad, fo yn dal perthynas a chrefydd, addysg, a moesoldeb Cymru. Ac y mae yn defnyddio ei gyfoeth mawr i hyrwyddo yr achosion hyn, a phe bai pob teulu cyfoethog yn troi ei gyfoeth i. wasanaethu cened], fel y gwna teulu Llandinam Hall, ni chai Sosialaeth fawr o dir i weithio. arno. Wrth gofio beth yw traddodiadau y teulu, a beth yw ei hanes yntau yn y blynyddau hyn sydd yn rhoddi y prawf cryfaf ar ddyn ieuanc o safle annibynol. Yr ydym yn teimlo yn bur hyderus y bydd gyrfa seneddol Mr. David Davies yn yrfa anrhydeddus, yn yrfa o wasanaeth gwerthfawr i'w wlad a'i genedl. Addysg Cymru. Yn unol a thraddodiad teulu Llandinam y mae'r yswain ieuanc eisoes wedi dangos ei fawr zel dros Addysg Uwchraddol y genedl. Mae'r, rhodd fawr a wnaed ganddynt dro yn ol i Goleg Aberystwyth i gael ei hychwanegu eto gydag amryw o fan gynlluniau, y rhai a dystiant yn eglur fod lies y werin yn gorwedd yn agos iawn at ei galon, ac mae pob gobaith y ceidw yn ei gariad at a'i ymlyniad wrth faterion Cymreig ar ol i un o'r etholaethau ei ddewis i'w chynrychioli yn Senedd-dy Prydain. Gan mai ieuanc yw, nid yw wedi cael mantais i ddeall holl agweddau ein pynciau cenedlaethol, ac hwyrach fod ei farn ar y pwnc cyllidol wedi ei ffutfio yn benaf oddiwrth ei ymweliadau a gwledydd tramor. Y mae wedi gweled llawer u'r byd oddiar yr ymadawodd a Phrifysgol Caergrawnt, ac un o'i deithiau diweddaf oedd i bellafoedd gwlad Japan tua'r adeg y dechreuodd y rhyfel cyd- rhwng y wlad honno a Rwssia.