Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

WALTER LLWYD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

WALTER LLWYD. NEU HELYNTION Y GLOWR. DROS y clawdd,' sisialodd Jac. Mewn eiliad yr oedd y ddau tu arall i'r berth, ac yn llechu yn y ifos. Y r oedd trwst y dyn- lon ar yr heol yn awr yn eithafamlwg. Nid oedd ynt ond dau, a siaradent a u gilydd yn uchel. Fel yr oeddynt yn pasio y ddau a lechent y tu arall i'r clawdd dywedai un wrth y llall, 'Gellweh benderfynu fod Jac Huddog a Wil Simwnd yn fradwyr. Y maent yn rhwym o fod. Y mae genyf lawer o res- vmau brofi hyny.' W Pe gwybyddwn eu bod,' oedd yr ateb, llosgwn hwy yn fyw. Ni fyddwn uwch law deuddegawr cyn eu gosod o'r neilldu. Ond pa beth sydd genych i brofi eu bod V Fel hyn. Dyna y cyfarfod diweddaf, yr oedd Mr. Llewelyns yn gwybod pob gair a basiodd ynddo boreu tranoeth, a gwelwyd Jac a Wil yn dyfod o'r Castell y noswaith hono o gwmpas 12 o'r gloch.' 4 Nid oeddent hwy yn y cyfarfod.' Eithaf gwir nad oeddent yno yn wel- edig. ond yr wyf yn credu eu bod yno yn anweledig.' 4 Dichon nis gallaf eich amheu.' Yr oedd y ddau ddyn erbyn hyn yn rhy bell i fechyn y ffos i'w deall, ac felly darfu iddynt ddyfod allan o'u lloches, ac wedi syllu ar eu gilydd am rai mynydau, dy- wedodd Wil yn ddystaw, (canys nid oedd- ent yn neb amgen na Jac Huddog a Wil Simwni). 'Dyna pa beth yr wyf yn galw dianc gerfydd gwallt pen arno.' Yr ydych yn iawn,' oedd yr ateb,' ond yr wyf fi yn fwy na haner hurt. A ddarfu i ti adnabod y rhai yna-a basiodd V 'Do.' 4 Pwy oeddent V 4 Joseph Llwyd a Morgan Rhydderch.' 4 Morgan oedd yn dweyd y buasai yn ein llosgi yn fyw ¥ Ie.' 'Gelli benderfynu ei fod yn meddwl hyny. Creadur ofnadwy ydyw. Nid ydyw y yn hidio mwy am losgi dyn mwy na llosgi chwanen.' 4 Yr ydym mewn sefyllfa lied beryglus Pa beth a wnawn V Pa beth a wnawn V 4 Myned yn mlaen ac ymdrechu clywed pob gair a fydd yn cael ei siarad, amynegu y cyfan yn onest a didwyll i Mr. Llewel- yns boreu yfory.' Pa. faint ydyw y swm f 4 Pum bunt.' 4 Dwy bunt a deg swllt yr un: nid drwg. Pa bryd y mae yn ein talu V Wedi i ni orphen ein gwaith bid siwr.' 4 Boreu yfory ynte. Wel, pa beth ydyw eieh gynllun V Myned yn mlaen i ymyl y cae, ac wedi cael golwg arnynt, taflu ein hunain ar y glaswellt, ac ymlusgo yn mlaen fel nadr- oedd hyd atynt.' 0 'Yr hen gynllun ydyw hwna.' 'Ni chawn ei well, ac felly gad i ni gychwyn. Very well: ffwrdd a ni.' Yn sefyll rhyw ddau cant o latheni i bwynt y dwyrain o'r man hwnw, yn nghanol y coed, yr cedd llecyn glas by- chan, a galwai trigolion y ewm ef yn Cae y Groes. Dyma y fan yr arferai glowyr y dyffryn gynal eu cyfarfodydd, a dadleu y pynciau perthynol i'w gwahanol weith- feydd. Yr oeddent yn eu cynal fynychaf yn y r os am ei bod yn rhy beryglus i'w cynal y dydd. A deg ofnadwy arweithwyr ydoedd hon, a chawn olwg arni, feaUai yn fwy clir yn y man. Yr oedd y noson dan sylw yn noson hyfryd-y ser yn chwareu, a'r lloer yn tynu yn aref a phwyllog, tua'r gorllewin pell, ac anadlai yr awelon yn araf ac es- mwyth. Daeth y ddau ddyn yn mlaen a safasant yn nghysgod llwyn bychan ar derfyn yr anialwch. Syllent i mewn i'r cae yu bryderus. Yn sefyll rhyw gant neu gant a haner o latheni oddiwrthynt, canfyddent rhyw beth tebyg i gwmwl yn ymsymud yn ] yn ol ac yn mlaen. Dynioll ydoedu. y c,, mwl hwn. Glowyr o bwll Abereithyn, a man cafodd y ddau ddyn olwg arnynt estynodd un o honynt ei ben yn mlaen a sisialodd yn nghlust y llall, 4 Dacwnhw. <- u I pa fodd y maemyned atynt.' Dyna y pwnc,' oedd yr ateb. 4 Bydd- ant yn sicr o'n canfod.' Yn ddystaw, os gweli yn dda. Cofia fod clusfiau gan y coed a'r ceryg. Wel, myned atynt yw y fusnes, ond yr yd m yn rhwym o fynedtrwy y gorchwyl bydd- ed y canlyniad y peth a fyddo.' Eithaf gwir ond yr ydym yn anturio ein bywydau. Pe dygwyddai iddynt gael golwg arnom, ni fyddai ein bywydau yn werth dinaai hren.' 4 Y niae yn rhaid i ni gynyg. Canlyn li. Yna tanodd ei hun ar y ddaear, a dechreu- odd ymlusgo yn mlaen fel neidr, agwnaeth y liall yruu peth. Rbyw ddeg mynyd a'u dygodd o fawn l bymtheg llath at y dyn- ion, ac felly yr oddent mewn man cyfleus i glywed pob gair oedd yn cael ei siarad. Yn fuan wedi iddynt ddyfod i'w safle newydd, clywent Joseph Llwyd yn cael ei alw yu mlaen, yr hwn addywedodd, Y mae yn eithaf gwir fod y nwyon yn yr hen waith yn gwasgu i lawr bob dydd, a chyn pen naw diwrnod eto y bydd wedi dyfod ar ein gwarthaf, ac yna Duw yn unisc a wyr pa beth fydd y canlyniad.' Felly yr ydych chwi yn ystyried y lie 1 yn rby beryglus i weithio ynddo,' ebai rhyw un o fysg y dorf. Ydwyf,' oedd yr ateb,' ac yr wyf yn ystyried fod llawer o bethau ereill yn galw am ein sylw, ond dichon y byddai yn well gorphen a hwn yn gyntaf.' A ydych chwi yn meddwl,' gofynodd' un arall,' ei bod yn bosibl gweithio awyr i mewn i'r hen waith, a chlirio y nwyon' ymaith V 7 Ydwyf yr wyf yn gwybod hyny. ,Pa- fodd ?' Agor y mnr sydd rhwng heading Twm Enoch a heading Dai o'r West, a hoMti yr awyr. Gadael un rhan o hono yn mlaen fyned trwy yr hen waith, a'r rhan arall trwy y brif fynedfa, a chyn pen wythnos bydd mor laned ag ydyw ya y fan hon o ran nwy/ Yr ydym yn rhwym o'i gael,' gwaedd- odd rhyw un o fysg y dorf. Os na chawn ef, bythefnos o rybudd boreu yfory,' dywedai un arall. Ie/ ebai y trydydd. Ac os na chawn y lie fel y mae Llwyd yn dweyd, ei.adael i'r ysbryd drwg i weitkio ynddo.' Cyn pen pum mynyd yr oedd y pender- fyniad wedi pasio fod Joseph Llwyd a Dafydd Jones i fyned at Mr. Llewelyns boreu tranoeth i osod y cais ger ei fron, ac os byddai iddo gael ei wrthod, fod pythefnos o rybudd i gael ei roddi y boreu canlynol, a phawb i ymadael yn mhen y tymhor. Ar yr adeg, hon dyma rhyw un yn gwaeddi, Beth gebyst ydyw y rhai hyn sydd yn gorwedd fel Harps yn y fan yma V Yn mha le 1 yn mha le 1 yn mha le t gofynodd degau ar unwaith. De'wch yn mlaenacedrychwch arnynt,' oedd yr ateb. 'Halo, Jac Huddog a Wil Simwnd. Lynch Ivw, boys.' I'r afon,' gwaeddodd un arall. Trugaredd,' gwaeddodd Huddog. Cai yr un faint o drugaredd a ganiata yr afon i ti,' oedd yr ateb, Cyn pen deg mynyd yr oedd y ddau greadur anffodus yn cael eu taflu ben-j dramwnwgl i'r afon. I'w barhau. T

ENWOGION SIR GAERFYRDDIN

CROMWELL.

[No title]

ABERTAWE A'R CYLCHOEDD.

. AMRY WION.