Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

JEarrhMtoshi), Set.

AT EIN GOHEBWYR.:

TELERAU Y "CELT."

[No title]

Y RHYFEL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y RHYFEL. Dywedir fod ychydig o obaith eto am Gyn- hadledd Ewropaidd i benderfynu pwnc y Dwyrain drwy ymgynghoriad yn lie drwg ryfel. Mae Count Schouvaloff wedi myned ar neges at y Czar, meddir, i geisio ei ddarbwyllo fod buddiant Rwssia yn galw arno ildio i Ewrop gyfanswm yr hyn a ofynir gan Loegr, ac y mae tebyg- rwydd ei fod wedi llwyddo. Os felly, bydd cynhadledd yn cael ei chynal. Dy- wedir fod papyrau Rwssiaidd ag oedd yn cynhyrfu am ryfel yn awr wedi newid eu t6n, a haerant mai gwell i Rwssia yw cael heddweh. Mae'r cadlywydd Todleben wedi anfon at y Sultan ei fod am i'r Tyrciaid ymad- ael o'u cadarnfeydd yn Shumla, Varna, a Batoum; hefyd fod y byddinoedd Tyrc- aidd i ymadael o Maslac. Gorfodid ef i ofyn hyn fel maes-lywydd Rwssiaidd, o herwydd ei sefyllfa filwrol, ac hefyd i'r Rwssiaid gael meddianu Buyukdere. Nid yw'r Llywodraeth Dyrcaidd wedi roddi un ateb eto. Mae'r Cretiaid yn dal i sefyll yn erbyn y Llywodraeth Pyrcaidd. Ond y mae Saeson yn ceisio cyfryngu ac yn ymdrechu eu darbwyllo i ymostwng. Mae y Traf- noddwr Prydeinig yn Crete yn ceisio cael y Cretiaid i'r dymher yma. Mae y Traf- noddwr Prydeinig yn Thessaly wedi llwyddo i gael gan y Thessaliaid i wneud hyn. Bydd y Cretiaid a'r Thessaliaid yn cael eu hamddifadu trwy hyn o freintiau milwrol, ac y mae hyn yn gam a'r Cretiaid a'r Thessaliaid. Mae j groegiaid yn gor- fod gwrando ar Brydain, am fod Ewssia wedi ymwrthod a'u hachos. Ond nid oes modd i Saeson, ochri y Tyrciaid a'r Groegiaid. AYrfch foddloni y naill, y mae yn sicr o ddigio y Ilall. Mae Twrci yn hawlio cael llywodraethu y Groegiaid, ac y mae y Groegiaid yn hawlio eu hanni- bvniaeth. 01 Dywedir fod lluaws mawr o "VYyddelod yr U nol Daleithiau wedi ymgasglu i goedwig yn rhan ogleddol talaeth Vermout er mwyn ymosod ar ranau o Canada. Mae eu niter yn cynyddu yn feunyddiol, a dywedir bod golwg gyfrifol arnynt. Mae y milwyr wedi cael eu galw allan yn Canada i'w gwrthwynebu, os bydd iddynt groesi'r terfyn. Drwy gymorth Boumania, Servia, a Thaleithiau gwrthryfelgar Twrci y mae y Rwssiaid wedi llwyddo gystal i orchfygu y Tyrciaid; ond nid oes y ddealltwriaeth oreu rhwng Roumania a Rwssia. Mae gohebiaeth bigog ac anfoddhaol rhyng- ddynt yn ngylch Bessarabia, yr hon sydd yu perthyn i Roumania, ac yn yr hon y mae llawer o filwyr Ewsiaidd.

Y WLADFA GYMREIG.

[No title]