Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Family Notices

Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu

Hyd. 27, priod Mr. W. Davies, Bethel, ar ferch ¡lrb.lbasau. Hyd. 16, yn nghapel y Methodistiaid, Garno, gan y Parch. J. Thomas, yn cael ei gynhorthwyo gan y Parch. T. J. Rees, Mr. David Jones, a Miss Lizzie Humphreys—y ddau o Carno. Hyd. 27, yn nghapel y Methodistiaid Calfin- aidd, Llanuwchllyn, Mr. R. E. Jones, Gaergai, Miss Jane Davies—y ddau^mll|. a' 'u Hydref 11, wedi ychydigddiwrnodau o gystudd trwm, Mr. John Ho wells, Penpompren, yn 24ain mlwydd oed. Ar y 14eg, dodwyd yr hyn oedd farwol o hono i orwedd yn mynwent Hebron. Dygwyd y gwasanaeth yn mlaen yn y ty ac yn y capel, gan y Parch. S. Evans, a phregethodd yn darawiadol' iawn oddiar Daniel v. 11. Bydd bwlch amlwg ar ei ol yn yr Ysgol Sabbathol. Hydref 11, yn 81 mlwydd oed, Mrs. Louisa Phillips, priod Mr. John Phillips, Glandwrisaf. Aryr 16eg, hebryngwyd hi i dy ei hir gartref yn mynwent Hebron. Gwasanaethwyd yn y ty gan y Parch. S; Evans, ac yn y capel, wedi darllen a gweddio, gan y Parch. R. Perkins. Bu yn aelod ffyddlon yn Hebron am flynyddoedd lawer. Bydded i'r hwn sydd wedi addaw cynal mewn henaint, daenu ei aden dros ei phriod oedranus sydd wedi ei adael ar ol. ,J: Hydref 31, Esther Elizabeth, baban Mr. a Mrs. R. E. Lloyd, Watchmaker, Dolgellau, yn bum wythnos oed. Claddwyd hi yn mynwent newydd y dref. Hydref 21, Mr. Morris Jones, Pwllcallod, PWll- glas, ger Rhuthin (gynt o Coedybedo), wedi hir nychdod, yn 54 mlwydd oed. Yr oedd yr ym- adawedig yn ddyn bynaws a charedig, a theimlir chwithdod mawr wrth feddwl na weiir ef yn nhir y rhai byw mwyach-" Y llygaid a'm gwelodd, ni'm gwel mwy." Gadawodd weddw a thri o blant i alaru ar ei ol. Bydded i Farnwr y gwcddwon a Thad yr amddifaid ofalu am danynt. Claddwyd ef yn Rhydywernen, Bala, dydd Gwen- er. Yn Pwllcallod, cyn cychwyn, darllenwyd a gweddiwyd gan Mr. E. Davies, Plasbenet. Wedi cyrhaedd Rhydywernen, yr oedd yn hawdd deall fod u-n a gerid yn fawr gan bawb yn cael ei gladdu, wrth welerl torf mor fawr wedi ymgasglu. Gweinyddwyd wrth y bedd ac yn y capel, gan y Parchn. W. D. Edwards, Graigfechan; M. D. Jones, Bala; ac H. Ellis, Llangwm. Hydref 27, yn ddwy flwydd a saith mis oed, William Henry, plentyn anwylgu Mr. a Mrs. John Hughes, 105, Thornton Street, Collyhurst Street, Rochdale-road, Manchester. Duw fo yn eu goleuo nY. :ierthu i ymdawelu yn ngwyneb y brofedi" chwerw. Credwh Jod "Willie" bach 1; uuch wedi ei "bromotio" yn angel dis- glaerwych yn Nheyraas

AMLEN DDU AR OL FY MAM,

LLANELLI.