Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
I i Sjmtoprali. I
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
i Sjmtoprali. Nodiadau gan y Gol. 3 Y Golofn Ddirwestol 4 Adgofion am y Parch. J. Evans, Hebron 5 Y diweddar Barch. Morris Roberts, Remsen 6 Abertawe—Eamak, Llandderfel 7 PRIF EIITIIYGL- Arglwydd Beaconsfield yu Nghlwb Carlton 8 O'm Hawyren—Y Senedd-Penllyn ac Ed- eyrnion .9 Gohebiaethau 10 Ll an wrtyd- Sardis, Trimsaran 11 Cwmawrdu—Mydroilyn—Croesoswallt—Llan- gadoe—Crngybar—Aberdar—Aberporth 12 Cilcenin-Coleg Coffadwriaeth Aberhonddu— Llechryd — Liverpool- Merthyr Tydfil- Bala 13 Genedigaethau — Marwolaetkau — Barddon- iaeth-Hysbsiadau 14.-16
ffobiabau gan 11 Q9ùl.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ffobiabau gan 11 Q9ùl. r YR ARGRAFRWASG. Tlte Herald of Peaee.-Dylai y rhai ydynt am ddeall cysylltiadau gwledydd y byd a'u gilydd, ac ydynt hefyd am gyn- orthwyo y moddion goreu er eu gwelliant, astudio adroddiadau ac ymresymiadau Herald Cymdeithas Heddwch. Y mae rhifyn y mis yma, er nad yw ond dwy geiniog, yn gyfoethog o adddsg. Ceir yn- ddo yn gyntaf Adroddiad gan y Cenhadwr enwog Cyrus Hamlin, American Mission- ary, yr hwn sydd wedi bod yn llafurio am dros bymtheg mlynedd ar hugain fel prif- athraw coleg ger Caercystenyn, o'r daioni mawr a wnaeth efengyl Crist, er gwaethaf gormes Crefyddau Sefydledig, hyd yn nod yn awyrgylch Twrci. Cydnebydd Mr. Hamlin fod egniadau y Cenhadon Americ- anaidd wedi cael eu cefnogi gan Syr Strat- ford Canning, a Lord Lyons, a Mr. Lay- ard; ond cwyna. yn dost fod Syr Henry Bulwer, pan oedd yn llys-genhadwr dros Loegr yno, a bod M. De Boutineff, cen- hadwr Rwssia yno, ac Esgobion erlidgar cribddeiliog y Greek Church," sef Eg- lwys Sefydledig Rwssia, wedi gwneud eu goreu i nychu eu cenhadaeth; ond llwydd- asant, er pob rhwystrau, i sefydlu colegau ac ysgolion defnyddiol mewn gwahanol barthau o Twrci, lie y dysgir efrydwyr o wahanol genhedloedd gan athraw In efen- gylaidd o allu ac o ymroad, yn enwedig y coleg y rhoddodd C. R. Robert o New York ddeugain mil o bunaa tuag at ei gychwyn. Llwyddasant i gyhoeddi ac i ledaenu Beiblau yn holl ieithoedd ymer- odraeth Twrci. Y mae yn awr argraff- wasgau mawrion yn y prif drefydd. Cy- hoeddir dros haner cant o newyddiaduron yn Caercystenyn. Gwnaeth y celfyddydau a'r gwybodaethau lawer iawn 6'u hoi yno yn y blynyddoedd diweddaf er yr holl rwystrau. Dyrchafwyd tuag ugain o Gristionogion i fed yn Pashas, a gwnaed dau yn Viziers; a dywedodd y Sultan, Abdul Medjid, wrth Mr. Hamlin, yr hoffai gael cynhadledd neu lys cyd-wladwriaeth- ol, er terfynu pob dadleuon. Well done yr hen efengyl! Athrawiaethau ac ordin- hadau ac yspryd yr efengyl ydynt y modd- ion effeithiolaf i ddiwygio y byd. Ceir wedi hyny yn yr Herald of Peace Apeliad Cyfarfod Blynyddol y Society of Friends, ar ran achos pwysfawr heddwch; ac yn dilyn hyny adroddiad o egniadau HENRY RICHARD a'i gyfeillion i gael gan Gynhadledd ddiweddar Berlin, i gofnodi eu dymuniad am i lys o gyflafareddiad cydwladwriaethol gael ei sefydlu. Darfu i amryw o'r cynrychiolwyr amlygu eu cy- meradwyaeth o'r amcan, ond yr oedd rhyw rag-amodau yn eu lluddias i wneuthur penderfyniad cynhadleddol ar y pwnc. Cyfeirir wedi hyny yn yr Herald at ym- drechion Cymdeithasau Heddweh gwled- ydd tramor: ond, nid oes genym ofod yn awr i fanylu ar ymresymiadau a llafur y tangnefeddwyr, ond y mae genym fwy o galon nag erioed i ddywedyd, gwyn eu byd." Os ydyw brenhinoedd a mawrioh daear yn gyndyn i ollwng eu gafaelion o grefft greulawn a barbaraidd y cledd, daw y dydd, a hyderwn ei fod gerllaw, pan na chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac na ddysgont ryfel mwyach." Cofiant y Parch. D. Williams, Troed- rhiwdalar, gan D. Avail Griffith.—Cyfrol hardd o 336 o dudalenau, mewn rhwym- iad tlws cryf, yn cynwys crynodeb trefnus o helyntion ei fywyd, sef darluniadau tarawiadol o foreu ei oes, ac o nodwedd- iadau ei weinidogaeth lafurus a defnyddiol am bymtheng mlynedd a thriugain, a'r eyfan am 3s. 6c. Yr oedd y fath hen weinidog eyfeillgar a gweithgar yn haeddu cael ei alw yn "Batriach," ac yr oedd yn gymaint o "olynydd apostolaidd" a neb yn ei oes. Nid rhyfedd ei fod mor anwyl gan ei holl adnabyddwyr. Llyfr Gioybodaeth Gyffredinol.—Y mae yr Argraffydd a'r Cyhoeddwr enwog Humphreys, Caernarfon, yn cyhoeddi bob wythnos, lyfryn ceiniog ar ryw bwnc pwysig a dyddorol. Y mae y deuddeg cyntaf, sef hanes 1. Pedr Fawr; 2. Pio Nono; 3. Brwydr Waterloo; 4. Alexan- der Fawr; 5. Y Pla a'r Tan yn Llundain; 6. Mahomet, y Gau Broffwyd; 7. Cyng- horion Teuluaidd ymarferol a gwerthfawr; 8. Columbus; 9. Gau-grefyddau; 10. Lion g-ddry Ilia dau 11. Poland; 12. Owain Glyndwr, newydd gael eu cy- hoeddi yn gyfrol hardd, pris swllt. Ni bydd neb ar ei golled o ddarllen v fath lyfr cynwysfawr a rhadlawn, oblegid y mae yn gyfoethog iawn o ddefnyddiau myfyrdod, ac ymddyddan, ac addysg. Undeb Cliwarelwyr Qogledd Cymru.-— Y mae adroddiad y gynadledd ddiweddaf, yr bon a gynhaliwyd yn Mhenygroea, Mai 18, 1878, yr hon oedd pedwaredd gynadledd yr undeb, newydd gael ei gyhoeddi. Ceir yn yr adroddiad, heblaw enwau y swyddogion a ebyfrifon o'r def- byniadau a'r taliadau, anerchiadau buddiol gan frodyr o broiiad, ar ddybenion cyfan- soddiad y fath undebau, a'r moddion goreu. i'w gwneuthur yn ddefnyddiol. Women's Suffrage Journal.—Rhifyn Awst, pris ceiniog. Y mae yr wythfed gyfrol o "Journal" Hawlfreintiau Merch- ed, yn awr wedi cael ei chyhoeddi. Y mae eu dadl yn enill nerth yn barbaus. Y mae yr vmresymiad tecaf o bob oesae o bob gwlad yn ymgroni o'u tu; ac er mor araf yr ydys weithiau yn caniatau yr hyn sydd deg, daw eu barn ar fyrder i fuddugoliaeth. Pan y mae merch yn talu trethoedd i drysorfeydd y wladwriaeth, nid uniawn ydyw gwahardd i hono gael pleidleisio yn etboliad ei chynrychiolydd i'r senedd. Hoffem i'r rhai sydd dipyn yn ddiystyr o hawliau merched gael yr hyfrydwch o glywed Mrs. Livermore, Mrs. M'Laren, Mrs. Taylor, Mrs. Hallet, Mrs. Byers, Mrs. Brookes, Mrs. Cairns, Mrs. Lordan, Mrs. Hullah, Mrs. Benn- ington, Mrs. Glover, Mrs. Bright, a Miss Shore, Miss Todd, Miss Williams, Miss Biggs, Miss Cobden, Miss Crawford, Miss lieeves, Miss Drew, ac eraill, yn ymres- ymu ar y mater. Chwelid drwy hyny ar unwaith, gyda'r pedwar gwynt, eu hen wrthddadl, nad oes dim digon o "logic" mewn merched i'w cymhwyso i bleidleisio yn etholiad seneddwr.
YR UNDEB CYNULLEIDPAOL CYMREIG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR UNDEB CYNULLEIDPAOL CYMREIG. -Cynelir cyfarfodydd blynyddol yrUndeb yn Llandeilo y dvddiau hyn, a bydd wedi myned heibio cyn y cyrhaedda y rhifyn hwn ddwylaw ein holl dderbynwyr. Bydd yn anmhosibl i ni gael fawr neu ddim o'r gweithrediadau i'r rliifyn presenol, am fod y llythyrau yn cymeryd mwy nag ar- ferol o amser i ddyfod oddiyn o yma, a ninau yn gorfod argraffu yr oil ddydd Mercher. Diameu y bydd yno gasgliad mawr o weinidogion a lleygwyr o wahanol ranau o'r Dywysogaeth, a'r trefi Seisnig, a gellir yn rhesymol ddysgwyl i lawer 0 ddaioni ddeilliaw oddiwrth y fath gyd- gyfarfyddiad. Os byw ac iach bwriadwn tyned yno, a chaiff ein darllenwyr adrodd- iad manwl a chywir o'r gweithrediadau yn y rhifyn nesaf. Bydded i'r darllenwyr hysbysuhyn i'w cyfeillion, fel y gallont os dewisant gael yr hanes yn gyflawn yn y CELT am geiniog.