Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
COLEG CAERFYRDDIN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
COLEG CAERFYRDDIN. MR. GOL.,— Gadawyd enw Mr. W. Rhys Williams o Congre- gational Institute, Nottingham, allan yn ddam- weiniol o lechres enwau y rhai a dderbyniasant addysg ar gyfer y weinidogaeth yn y sefydliad uchod yn yr Adroddiad diweddaf. Byddaf ddi- olchgar i chwi am ganiatau i hyn ymddangos yn eich colofnau. Yr eiddoch, WJI. THOMAS, Ysg.
LLANWRTYD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLANWRTYD. Yn fy llith ddiweddaf addewais anfon gair am y cyfarfodydd, yr arweinwyr, a'r "G. Meudwy" sydd yma yn bla cymdeithas. Yn ystod y mis diweddaf cynaliwyd Iluaws o gyfarfodydd llenydd. ol ar y cae yn ymyl y ffynon. Mae cyfarfodydd o'r natur yma, yn ol eu cario allan yn briodol, yn fendith anrhaethol i'r ymwelwyr, heblaw y dylanwad a'r nerth swynol sydd ynddynt i dynu ac i ychwanegu nifer yr ymwelwyr i'r lie. Ar ddiwedd un o'r cyfarfodydd yma, dywedodd tua dwsin wrthyf, oedd wedi dyfod i'r lie am ddiwrnod o fan arall, mai Llanwrtyd a fuasai eu pleser-fan o hyny allan. Yn y cyfarfodydd yma, cafwyd canu, adrodd, darllen, ac areithio, ac ar brydiau cystadleuaeth, a'u tueddiad oil at y moesol, ac yn benaf y crefyddol. Yr arweinyddion oeddynt Mr. T. John Evans, Hirwaen, a'r Parch. E. Edwards, Abertawe. Yr oedd y doniol, yr hyawdl, a'r ffraeth barablwr Mr. Evans yn llywyddu yn fendigedig; yr oedd fel y dywedir yn delyn a chrwth ynddo ei hunan, a digon o elfenau ganddo i roddi bywyd cyfiredinol i'r gymdeithas. Mae y brawd Evans yn bregethwr cynorthwyol parchus gan y Bedydd- wyr, ac yn oruchwyliwr mewn gwaith glo, ar Hirwaen. Yr oedd pawb o yfwyr y sulphur yn gofidio yn ddwys o herwydd ei ymadawiad; ac ar ei ol cafwyd Mr. Edmunds, a lied sier genyf fod rhan fwyaf o ddarllenwyr y CELT yn adnabyddus o hono, fel mai afreidiol hollol i mi ddweyd dim am dano, ond yn unig ei fod wedi llenwi ei swydd fel llywydd yn dra rhagorol. Medrai wneuthur y gwyddfodolion chwerthin ac wylo bob yn ail, gan y rhaiadrau o ffraethderau sydd. ganddo wrth law bob amser. Y cantorion blaenaf yn y cyfarfodydd yma oeddynt Mrs. Williams, Rhydyfro; Miss Thomas, Brynmawr; Mr. Watkins, Treforis; James, Aberteifi, heblaw lluaws eraill ddangosant dalent neillduol mewn adrodd ac areithio, a phawb yn rhoddi eu gwasanaeth yn rhad ac am ddim, ond y gystadleuaeth a Meudwy. Mae G. Meudwy fel y gelwir ef yn aros am gryn amser yn y ffynonau bob haf. Rhyw bedair blynedd yn ol, daeth i Lanwrtyd yn afiach a thlawd ei am- gylchiadau, a gosododd ei achos o flaen yr ymwel- wyr fel y cyfryw; ac fel dyngarwyr, gwnawd iddo, mewn un cyfariod, tua phunt, ac mewn un arall tua deuddeg swllt, heblaw lluaws o gasgliadau eraill a gafodd er ei gynorthwyo. Cafodd gymaint o flas ar elusenau a chymwynasgarwoh yr ym- welwyr y pryd hwnw, fel y mae y diog-ddyn hwn yn parhau i fyw heb weithio, er ei fod yn berffaith iach, ac yn grefftwr da, yn ol pob tystiolaeth. Mae gan ei frodyr weithfa gwebyddiaeth yn Llanybri, ger Cross Inn, ac yn barod i roddi gwaith iddo yntau pe b'ai am'hyny; ond yn fuan mi fydd yn rhaid iddo wneuthur rhywbeth neu drengu, gan fod ymwelwyr Llanwrtyd wedi pen- derfynu ei newynu allan o'r lie. Mae yr hen greadur yma yn rhy beryglus i fod yn agos ato. Pan oedd Air. Edmunds yn beirniadu yr areithiau ar "AthryUtli" yn un o'r cyfarfodydd, fe aeth y rhigymwr hwn i dreio ei ddawn llygredig ar "Athrylith;" ac wrth roddi y ieimiadaeth ar yr areitbiau fe ga'dd gystal trii.f i am ei ryiyg a. ga'dd creadur erioed; ae yn mben ychydig amser, dyma y geuau aflan yn gollwng allan leng o lwon, a'r tyngu a'r rhegu, hyd nes oedd dychryn ac ofn wedi meddianu yr holl dorf. Hefyd, yr oedd wedi bygwth taflu un hen wr parchus i'r afon. Ni fu "haint y nodau" erioed yn salach i gymdeithas na hwn. Y noson gyntaf ar ol hyny, dywtdodd Mr. Evans, Hirwaen, wrtho nad oedd i gael agor ei enau ar ol hyny mewn unrbyw gyfarfod cyhoeddus, gan fod y cyfarfodydd mewn perygl i gael eu cablu o achos y cablwr yma. Hefyd, gwnawd amryw achwyniadau wrth Mr. Jones, Dolecoed, am dano iel un rhy isel a llygredig i fod yu mhlith plant aphoblieuaine. a mwy na thebyg y gwna Mr. Jones wabardd y He iddo, gan ei fod yn rhegu a blag-gardio y gweiuidogion a'r boneddigion mwyaf parchus,sydd yn dyfod i'r lie. Y mae yn waeth eleni nac arfer, gan fod yr ym- welwyr wedi ei wrthwynebn, a dirmygu ei ben ganu pen-ffair, neu y peth y geilw Solomon ef, "Can ffyliaid; a chan nad oes neb mor ffol a'i wrandaw, y mae yn bygythio yn greulawn haner dwsin o'r hen gymeriadau yma, ac anfona yr ym- welwyr i ryw le arall yn fuan. Mae wedi dodi wrth eu gilydd ychydig rigymau, a'i waith ydyw treio hudo y dyeithriaid ar eu dyfodiad i mewn i brynu y peth galwodd un ef, mai Ffroth i gyd yw ffrwyth ei gan, Hen dd g brydydd aflan," ac y mae rhai yn eu diniweidrwydd yn prynu oddiwrtho; ond nid yn hir y byddant heb wybod ei gastiau aflan. Mae amryw wedi ysgrifenu am dano i'r newyddiaduron er ei ochelyd. Darllen- wyd iddo tua mis ol ysgrif faith o Tarian Gweith- iwr" yn achwyn yn druenus arno tuag eisteddfod Llangadog, oddiwrth un sydd yn ei adnabod. Diolch iddo am rybuddio y eyhoedd am dano. Yn awr, cyn terfynu, rhoddaf ychydig gynghor- ion cyfiredinol er budd a lies iddo yn y dyfodol:— 1. Gan ei fod wedi cael ei dori allan o gym- deithas lenyddol Llanwrtyd, ac o fod yn aelod gan y brodyr Methodistiaid, bydded iddo fyned adref ar frys. 2. Bydded iddo fyned at ei grefft, a gweithio fel pob dyn gonest, yn He mynel o gwmpas y wlad i fod yn faich ac yn bla ar gymdeithas. 3. Bydded iddo aros gyda'i greRtbyd nes yr enilla ddigon o arian i fyw ar ei enilliou. 4. Os ydyw am fyned i Lanwrtyd eto, bydded iddo fyned yno fel pob dyn arall, yn lie byw ar eraill trwy gasgliadau, a hocian ei hen brydydd- iaeth fel beger o gwmpas y lie. 5. Gobeithio y gwna y cynghorion uchod les iddo, ac na fydd eisieu b) th eto ysgrifenu yr un llinell i achwyn arno i'r CELT nac i unrhyw bapyr arall. YMWELWB. SARDIS, TRIMS A RAN. Cymanfa Ysgolion— Sabbath, Gorph. 28, cynaliodd pedair Ysgol Sabbathol cylch gweinidogaethol y Parch. W. C. Jenkius eu cymanfa flynyddol yn y capel uchod. Am 2 o'r gloch, dechreuodd Ysgol Tabor, y ferch ieuangaf, drwy adrodd Esaiith Iii. Gweddiodd brawd ieuanc o Jerusalem, yna adroddodd y plant ddwy beuod o "Rhodd Mam," yn cael eu holi gan y gweinidog yna yn canlyn adroddodd yr Ysgol Mat. xi., a holwyd hi gau y Parch. J. Rogers, Jerusalem. Holwyd ac atebwyd ya ddyddorol iawn. Ar ol hyn, wele Soar, y chwaer ieuaugaf oud un, yn ymddangos. Adroddodd y plant benod o "Rhodd Mam" wrth eu gweinidog, a'r Ysgol Mat. xvi., yn cael ei holi eto gan Mr. Rogers. Canodd pob Ysgol un anthem, a'r gweddill yn donau cynulleidfaol o Jyfr hymnau a thonau Stephens a Jones. Am 6, wele gapelaid liawn eto, ac Ysgol capel Sul, yr hen fam, yn ymddangos yn gyntaf. Holwyd y plant yn Rhodd Mam gan y gweinidog, a'r Ysgol yn Mat. xvii. Aeth y ddau ddosbarth drwy eu hadroddiad- au a'u hattbion yn y modd hapusaf. Canodd y plant dan arweiniad Mr. James Williams, a'r Ysgol dan arweiniad Mr. William Jenkins. Dylaswn ddweyd hefyd mai y brodyr David Thomas a John Davies oeddent arweinyddion Tabor a Soar. Ar ol y fam, wele y ferch hynaf, Sardis. Adroddodd hithau Mat. xxvii. a xxix., yn cael ei holi gan y gweinidog. Atebodd ei holl gwestiynau yn rhwydd a naturiol, a chanodd dair anthem. Yna, wedi i ni gael awel gref o div Emanuel, ymadawsom wrth pin bodd, MAILLIW.
' LLANBRYNMAIR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
orymdaith wedi cael ei threfnu yn noble-yn blaenori yr oedd dau o ddynion pwysicaf y dref. Aethom heibio'r Belle Vue, ac yn mlaen trwy fuurth Llanina, a dyma ni yn awr yn y Cei. Cauais fy adenydd, a disgynais mewn lley gallas- wn glywed a gweled pobpeth, ond ni welnis ddim ag oedd. yn groes i ysbryd yr efengyl. Wedi i'r boneddigion a'r boneddigesau chwareu am tuag awr o amser, aethant i gael cwpanaid o de. Yr oedd y lwiters yn gwau y naill trwy'r llall fel gwenoliaid yn mrig yr hwyr. Cafndd pawb eu gwala. Aetbant i cliwareu dracbefn; a thua 8 o'r gloch cychwynasant adref dan gann, March on, singing as we gb," a .</o noble oedd ami hefyd. Aethant i lawr i'r pier-liead, ac at dy Mr. Hughes, yr ysgolieistr. Ymadawodd pawb a gwen ar eu gwyneb. Mr. Hughes oedd yn talu am y cwbl; ac yn wir, y mae Mrs. Hughes yn haeddu clod am ei hyriiilrteli i ddi/yru y plant. Hwre i Mr. a Mrs. Hughes am eu caredigrwydd. ALBA COLUMBA. :A.:> YMWELIAD A CHAXA. MR. GOL.,— Gwelwch yn dda ganiatau i'r ychydig sylwadau hyn ymddangos yn un o golofnau eich CELT clod- wiw. Mae y testyn sydd genym mewn llaw mor ragorol fel nad ydym braidd yn gwybod pa le mae dechreu na gorphtn. Y mae tua dwy flynedd bellach wedi dirwyn i gyrchlan amser oddiar pan fuom yn y gymydogaeth yma o'r blaen, ond er hyny, nid oes nemawr o gyfnewidiadau wedi cymeryd He. Saif y lie tlws yma yn nystawrwydd gwastadedd y Gorsgoch, tua 3 mill. a haner o Gaerfyrddin. Ffurfiwyd yr enw Cana oddiwrth enw y capel sydd yma gan yr Annibynwyr. Adeiladwyd y capel yma gyntaf gan Theophilus Davies, yr hwn oedd yn gweinidogaethu yn y lie ar y pryd. Bu achos crefydd yn wanaidd iawn yma fel mewn llawer ardal arall; ond erbyn heddyw, mae wedi esgyn o ris i ris nes y mae yn eglwys gref, weithgar, yr hon sydd yn bresenol dan ofal Mr. Jones, B.A., o Gaerfyrddin. Nid oes genym un orchest i ddarlunio y dref berthynol i Cana, am nad oes o honi ond tua thri o dai, sef Pass By, Tyuewydd, a Phantyffroga; ond saif y lie bychan hwn yn nghanol porfeydd breision, a natur wedi gorlwytho y tir o bob cyf- eiriad a chyflawnder o fendithion. Arogla y blodau amryliw ar bob Haw fel awelon balmaidd i'z ffroenau, a'r adar swynber sydd yn datgan gogoniant yr hwn a'u creodd; tra mae y cynnauaf ffrwythlon a'i gynyreh toreithiog yn ymddolenu o bob eyfeiriad, a'r gwenith euraidd yn bowio ei ben i ddysgleirdeb heulwen y boreu, a'i ruddiau yn wlyb gan wlith y nos, nes yr ydym braidd yn lSynu fod rhagluniaeth fawr mor drugarog wrthym eleni eto. A dyna'r wers yr wyf yn dynu pan yn syllu uwchben eyflawnder trugareddau Duw fel ydyw, faint yw ein dyled, hgbl anwyl, i'n Tad nefol am yr holl heihau hyn. Gobeitbio y gwna holl ardaiyddion Cana, a phob ardal arall, gydnabod Duw yn ostyngedig ac yn wresog am ei boll fendithion tymhoi ol a thragwyddol i ni f'eib- ion a merched dynion. YMWELYDD. CWMBWRLA. BABCHUS OLYGYDD,— Efallai nad yn ami yr ydych yn derbyn dim o hanes y lie poblog hwn. Saif y lie gerllaw tref fawr Abertawe. Chwi welwch ei fod yn sefyll o fewn llawer o brofedigaethau. Y mae yma un gwaith alcan, yr bwn sydd dan ofal J. J. Jenkins, Ysw., a'i gyf. Y mae olwynion y gwaith hwn yn troi yn bur gyson oddiar ei gychwyniad, ac y mae yma ugeiniau o bobl yn cael eu employo i enill ychydig luniaeth i gadw y eorff a'r enaid gyda'u gilydd. Y mae yma dri o gapeli, un gan yr Anni- bynwyr, ac un gan y Bedyddwyr, a'r llall gan y Methodistiaid; ac y mae pob un o honynt ar eu heithaf yn ceisio dal Crist yn ddigonol Geidwad i fyd o bechaduriaid. Cynaliwyd cyfarfod adroddiadol ae esboniadol gan Ysgol Sabbathol sydd yn perthyn i'r Anni- bynwyr Gorph. 27. yr hon ysgol a aeth drwy ei gwaith yn anrbydeddus. Y pwne oedd ganddvnt dan sylw ydoedd Heb. ix., pryd yr arholwyd hi gan y Parch. D. Jones, gweiuidog y lie, yr hwn a aeth drwy ei waith mewn modd deheuig a meistr- olgar, gan wneuthur sylwadau ar ddiwedd pob adnod. Yr oedd yma laiur mawr yn cael ei ddangos gan yr ysgol yn gyffredinol. Yr oedd y dosbarthiadau mor unfrydol gyda'u gilydd, ac «• yn ateb y gwahanol ofyniadau dyrus gyda'r bodd- had a'r parodrwydd mwyaf. Yr oedd yn treat i'w clywed yn myned dros hanes y grefydd Iuddewig 7 J a'i haberthau a'i seremoniau, ac yn ei chymbaru a'r grefydd Gristionogol—yn profi ac yn dangos rhagoriaethau y grefydd Gristionogol ar yr un Iuddewig. Yr wyf yn sicr fod pawb oedd yn gwrando yn teimlo ei fod wedi cael gwledd adnew- yddol i'w enaid. Yn mlaen yr eloch i'r un eyfeir- iad, er rhoddi mantais ac anogaeth i'r to sydd yn codi gael diwyllio eu meddyliau, a gwreiddio y Gair dwyfol i'w calonau, er eu gwneud yn bileri cryfion dan achos eu Gwaredwr. J)irwest.-Y mae y lie hwn yn cael ei flino yn fawr gan anfoesoldeb a meddwdod, yn wyr ac yn wragedd, ac y mae pleidwyr dirwest ar eu heithaf yn ceisio gwneud yr hyn a allont o ddaioni drwy ddyfod allan i sefyll yn erbyn pob drwg. Y mae yma gyfarfodydd gweddi ac areithio yn cael eu cynal yn yr awyr agored bob prydnawn Sabbath er ceisio rhybuddio y bobl o'u ffyrdd anuwiol, a dangos iddynt nad ydyw eu llwybrau yn rhai y mae Duw yn eu cymeradwyo. Yn miaen yr eloch yn ngwyneb pob gwawd a dirmyg i ddangos mai Iles y ddynoliaeth ac achos Duw sydd genych mewn golwg. GWKANDAWB.