Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Y DIWEDDAR BARCH. MORRIS ROBERTS,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y DIWEDDAR BARCH. MORRIS ROBERTS, REMSEN. (Parhad o'r rhifyn diweddaf.) Cyn hir, ar ol pripdi, symudodd Mr. Rob- erts a'i wraig i Lanarmon, Dyffryn Ceiriog t fyw, lie buont am saith mlynedd. Yn ystod y saith mlynedd hyny, bu yn amser lied gynhyrfus mewn dadleuon ar byneiau crefyddol, rhwng yr Uchel Galfiniaid a'r Calfiniaid Cymedrol, fel y gelwid hwy, mewn perthynas i natnr a helaethrwydd lawn Crist galwad yr efengyl, &c a bu talu sylw i'r dadleuon hyny, ac yn en- wedig ei ymddyddanion a'r Parchedigion Cadwaladr Jones, Dolgellau, a John Jones Talsarn, yn foddion i dueddu Mr. Roberts I ddarllen a chwilio llawer mewn perthyn- as i'r pynciau mewn dad!. Hefyd, bu dadl rhwng un Silas Glan Dyfrdwy, a Wm, Jones, Pwllheli, yn Seren Gomer, yn gym- orth iddo i ddeall rhai pethau yn well. Llyfr John Roberts, Llanbrynmair, hefyd, a llyfr bychan o waith Samuel Bowen, o'r Dref Newydd, a fuont yn offerynol i'w ddwyn i weled rhai pethau yn wahanol i'r hyn oedd wedi meddwl am danynt o'r blaen. Rhwng pobpeth, llwyr argyhoedd- wyd Mr. Roberts fod lawn Crist yn anfeid- Tol ei werth, ac mor gyffredinol ag angen dynoliaeth; ac fod yr Efengyl yn nghyf- lawnder ei bendith, a rnadlonrwydd ei thelerau i'w phregethu i bob dyn byw. Yr oedd y weinidogaeth deithiol yn yr amser hwiiw, yn fanteisiol i roddi cyhoeddus- rwydd i'r syniadau a goleddid; a thybiai Mr* Roberts y gallai yn gwbl ddiberygl bregethu anfeidroldeb yr lawn; ac ar ryw nos Sabboth yn Treffynon, dywedodd fod lawn Crist yn fwy na phechodau yr holl fyd, &c, Ysgrifenodd rhyw lencyn ei ym. adroddion i lawr, a rhoddodd liwynt i John Jones, yr hen bregethwr oedd yn byw yno, a roddodd yntau hwynt i John Elias, yr hwn, y pryd hwnw ydoedd brenin Methodistiaeth, yn teyrnasu mewn rhwysg mawr-" Y neb a fynai a lladdai, a'r neb a fynai a gadwai yn fyw." Y canlyniad fu i Mr. Elias, heb ymgynghori dim a neb, gyhoeddi yn Nghymdeithasfa y Wydd- grug, fod Morris Roberts, a Thomas Huhges, Machynlleth, ac un arall, yn her- eticiaid cyfeiliornus, a'u bod i ymddangos yn Llanidloes o flaen y gymdeithas i roddi cyfrif am eu syniadau. Nid oedd un o'r tri yn bresenol ar y pryd, ond cariwyd y genadwri iddynt: ac i Mr. Roberts yr oedd fel "cenad angau." Ymddangosodd Mr. Hughes yn Llanidloes, a gwnaeth ryw fath o gyffesiad, a maddeuwyd iddo. Aeth Mr. Roberts i Gyfarfod Misol Sir Feirion- ydd, ac adroddodd ei gwyn with yr hen frawd Richard Jones, y Wern, yr hwn, ar ol gwrando yn astud arno, a'i cynghorodd i beidio a myned i Lanidloes, fod Cymanfa y Bala i'w chynal yn fuan, ac mai teg oedd iddo gael ymdriniaeth yn ei Sir ei hunan. Cymerodd Mr. Roberts ei gyngor; ondach- osodd hyn gyffro mawr drwy yr holl gym- ydogaethau, ac ymofynid yn ddifrifol beth a ddeuai o hono, am anufuddhau i'r wys i ymddangos yn Llanidloes Yn y cyfamser gofynodd Mr. Davies, Bronheulog, iddo ysgrifenu ar papyr ei farn ar y prynedig- aeth, yr hyn a wnaeth mewn ychydig eiriau, a dang'oswyd y papyr hwnw i Mr, Elias, gan ddysgwyl y buasai yn ei foddloni, ac yn rhoddi terfyn ar y mater. Cymerodd Mr, Elias y papyr i Lanidloes a dewisodd yn ddirgelaidd bwyllgor. o ddynion o'r un olygiadau ag ef ei hunan. Yna darllenodd y papyr iddynt, a'r canlyniad fu condemn- io Mr. Roberts fel un yn credu cyfeiliorn- ad; hefyd cyhoeddwyd, os na newidiai yn ei farn cyn Sassiwu y Bala, y diarddelid ef. Anfonwyd John Hughes, Pont Robert, i gario y genadwri iddo a mynegodd Mr. Hughes y ddedfryd yn y capel ar ol ei bregeth. Nid oedd Mr. Roberts gartref ar y pryd. Y chydig o chwiorydd, ac yn eu mysg ei anwyl wraig, a glywsant y genad- wri, a hawdd credu iddi beri iddynt deimlo yn ddwys iawn pan g'lywsant. Yr yd- oedd yn awr i Mr. Roberts a'i wraig yn ddiwedd y byd o'r bron, a theimlent yn dra isel a digalon. Bu cryn lawer o eiriol drosto gyda Mr. Elias, gan rai a'i clywsant ef yn pregethu a chyfarfu ag ef ei hunan, er ceisio cael dealltwriaeth ond yn gwbl ofer. I Sassiwn y Bala yr aed, ac yno bu ymdriniaeth lied faitb at yr achos. AnT- ddiffynwyd Mr. Roberts yn ddoeth a med- rus gan Mr. Richard Jones, y Wern, a methodd Mr. Elias a gwneud dim o'r achos yno, a gohiriwyd ef i Sassiwn Caernarfon, gyda gorchymyn na byddai i Mr. Roberts fyned i unman i bregethu hyd hyny, allan o'i Sir ei hunan. Ar ol yr ymdrafodaeth, aeth Mr. Roberts allan, a cbyfarfyddodd a Thomas Hughes, Machynlleth, a John Jones, Talsarn ac meddai John Jones wrth T. Hughes, "Y mae yn well genyf fi gyflwr Morris o lawer na dy cyflvvr di; cadwodd ef gydwybocl glir ond darfu i ti roi i fyny yn Llanidloes." A dywedai wrth Mr. Roberts Wel, diolch am yr hen Wern, beth bynag. Buasai dy fenydd di ar hyd y ceryg, oni buasai ef." Cariwyd yr achos eto i Gymanfa Caernar- fon ond yn flaenorol iddi pasiodd Cyfarfod Misol Sir Feirionydd i wrando ar Mr. Rob- erts yn traethu ei olygiadau, a barnwyd ef yn iach yn y ffydd. Pasiwyd hefyd eu bod yn ofni fod gan rai ragfarn gormodol yn ei erbyn, a dewiswyd Mr. R. Jones, y Wern, i fodyn gynghorwr iddo yn y Gym- anfa. Rhy faith ar hyn o bryd fyd Jai dyl- yn yr ymdrafodaeth o'r achos yn Nghaer- narron-digon yw dweyd i Mr. Roberts ddyfod allan o'r prawf yn fuddugoliaethus, a chael rhyddid llawn i fyned i bob man i bregethu. Ac aeth y gair allan i bob man fod Richard Jones, y Wern, wedi concro Mr, Elias yn deg, yr hyn a barai lawenydd mawr i laweroedd. Ceisiodd Mr. Elias, drachefn, godi y mater i sylw, pan ddeallodd fod Mr. Roberts yn bwriadu ymfudo i America ond yn hyny ni allodd lwyddo ac yn y flwyddyn 1 881, daeth drosodd i'r wlad hop, a chyme id- wyaeth reolaid 1 ganddo fel pregethwr yn Nghyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd. Wedi cyrhaedd yma, daeth ef a'i deula i (Jtica, lie yr oedd ei dad a'i fam yn byw cyrhaeddasant yma ar y Sabboth cyntaf yn Gorphenaf, 1831, gan aros yno am yn agos i ddwy flynedd, a phregethu gydag arddel- iad a llwyddiant mawr. Symudasant i Remsen yn 1833, yr hwn le a fu 'n gartref iddo am y gweddill o'i einices, ac a fu yn brif faes llafur ei oes. Yr oedd ei bregethu yn boblogaidd iawn, a'r cynulli dai yn mhob man yn lluosog a bywiog. Adfyw- iodd achos yr Ysgolion Sabbothol yn fawr, ac yr oedd y cynulleidfaoedd yn cynyddu yn gyflym yn y manau lie yr oedd yn preg- ethu. Cafodd amser dedwydd a llwydd. ianus am dymor; ond nid oedd i barhau felly. Fel Paul gynt yr oedd blindei'au," os nad rhwymau," yn ei aros yma hefyd. Yn mhen amser cododd yn ystorm, a churodd y rhyferthwy yn ffyrnig arno eithr nid yw yn bosibl, o fewn terfynau yr ysgrif hon, pe byddai ddymunol, i fanylu ar yr amgylchiadau g-oiidus a chynhyrfus hyny. Er mai yr un peth yn sylweddol a roddwyd yn ei erbyn yma, ac a roddasid o'r blaen yn Nghymru, sef ei fod yn cyf- eiliorni mewn athrawiaeth; eto, mae yn ffaith fod Mr. Roberts wedi rhoddi adrodct'- iad llawn i'r eglwysi o'r holl ymdrafodaeth ar ei achos yn Nghymru, a'i fod wedi par- hau i bregethu yr un gclygiadau yma am flynyddau, a chael ei oddef yn gwbl dawel, a'i ordeinio hefyd yn gyflawn weinidog heb unrhyw wrthwynebiad, yn nghyd a'r modd anheg, unochrog, a llechwraidd yr ymdriniwyd a'i achos, yu profi yn rhy eg- lur fod y gwrthwynebiad iddo wedi codi oddiar deimladau personol, tramgwyddus. a chenfigenus, yn fwy na dim arall. Mae y nifer fWYilf o'r rhai agodasant wrthwyn- ebiad iddo erbyn hyn wedi gwynebu eu eyf- rif mewn Ilys lie nad oes "gwyro barn ac nid oes ynom unrhyw awydd i ail-gvn- hyrfu materion sydd wedi' eu hen giaddu er's Ilawer o flynyddau bellach. Yn unig dywedwn fod amser, yr hwn sydd yn un- ioni llawer o bethau gwyrgam, wedi cwbl gyfiawnhau Mr. Roberts a'i olygiadau, a dangos yn eglur, tybiwn, maio ei ddiarddel- iad oedd yr ergyd drymaf a gafodd Meth- odistiaeth erioed yn America. Yn fuan ar ol ei ddiarddeliad gan yr hen frodyr, cynygiodd ei huuan i'r Annibyn- wyr, a derbyniwyd ef a'i wraig yn aelodau yn hen eglwys Gynulleidfaol Steuben; ac aeth yn mlaen i bregethu yn yr ardalot dd oddiamgylch mewn ysgoldai, tai anedd, ac ysguboriau, a bu yn cl adeg o ddadebriad moesol drwy y cymydogae'hau. Caffai ryddid yn awr i bregethu lawn anfeidrol y Gwaredwr, a Christ yn iachawdwr i bob dyn, heb neb yn gallu aflonydiu arno i ddim pwrpas. Gwir fod rhai yn chwythu bygythion, ac yn pentyru pob dtrnlyg ac enllibiau arno, ond dyoddefodd y cyfan yn dawel ac amyneddgar, ac ymroddodd a'i holl egni i lafurio yn y gair a'r athrawiaeth,

ADGOFION AM Y PARCH. JOHN…