Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

NODIADAU.~

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODIADAU. ENYD O HOE. Ar ol llafurio am ddeunaw mlynedd yn yr un fan, a chyda'r un bobl, y mae'r Parch. John Lewis, Birmingham, wedi rhoi rhybudd o'i ymddiswyddiad fel gweinidog i eglwys Wheeler- ( street. Yr oedd eisiau gwydnwch mwy na'r i cyffredin a mesur o ymdrech. canmoladwy i | t .• « ddal i dori ymborth i'r un gynulleidfa Sabboth ar ol Sabboth am dymhor hir fel hwn mewn tref Seismg, a hyny yn mbell o gymorth newid o fath yn y byd. Gwahanol iawn yw bywyd gweinidogaethol ein brodyr Cymreig yn Lloegr i'r hyn yw bywyd pregethwyr Cymru, ac o herwydd hyny hawliant barch deublyg. Heb- law hyny, llafuria Mr Lewis mewn eyleboedd mwy cyhoeddus, ac y mae llawer o betbau yn disgwyl wrtho. Cymerodd boen dirfawr gyda thysteb arddercbog a llwyddianus y Prifathraw M. D. Jones, a chydnabyddir mai i'w egni ef y mae'n rhaid priodoli cwblhad dymunol y mud- iad hwnw. Fel trysorydd penigamp Coleg y Bala, nid oes iddo gymhar gan fod ei holl galon yn y gwaith, a gwna wasanaeth anmhrisiadwy i'w enwad a'i wlad yny cysylltiad hwn. Felly, er fod Mr Lewis wedi ymneillduo am enyd o seibiant oddiwrth waith neillduol ac arbenig gweinidogaeth Wheeler-street, bydd yn gwas- anaethu ei oes mewn cylchoedd pwysig eraill. Tymhor o weithio caled fu'r deunaw mlynedd byn i Mr Lewis yn Birmingham. Agorwyd y capel yn 1872, ac y mae'r addoldy a'r adeiladau perthynol iddo yn werth dros ddwy fil o bunau, ac beb ddim ond oddeutu dau gant o ddyled yn aros. Nid oedd rhif yr aelodau ond 35 yn 1870, ac erbyn byn maent yn 140. Bu, ac y mae yr eglwys a Mr Lewis yn gyfeillion unol ac ymroddgar, ac y maent hwy, yn nghyda'r holl gyfeillion yn Nghymru, yn gobeithio y bydd y seibiant hwn yn foddion adgyfnertbiad per- ffaith iddo, fel y caffo wasanaethu blynyddoedd eto yn ngwinllan ei Feistr. j CICIO'B "CELT." Nid yn ami y syrth i ran newyddur yr anrhydedd o gael ei erlid gymaint a'r Celt Erlidir ef o lys i lys, o gastell i gaatell, o gynhadledd i gynhadledd, o gylch-lythyr i gylcb-lythyr, o berson-dy i berson-dy, ao o organ Doriaidd i organ Doriaidd, ac nid oes genym ond y diolchgarwch calonocaf i'r gwahanol gylchoedd pwysig hyn am hysbysiadu y Celt mor rhad ae mor effeithiol. Gweiwn, modd bynag, fod eu termau wedi myned dipyn yn ystrydebol yn ddiweddar, a'u hansoddeiriau braidd yn weiniaid. Pe byddai iddynt anfon i'r swyddfa, ymrwymwn i gyflenwi unrhyw gylch or rhestr a tnwasorn a brawddegau priodol iddynt eu defnyddio pan yn cyfeirio y Celt, a rhai fydd yn sicr o gyfarfod a'u dy- muniadau mwyaf hedegog hwy, ac ar yr un pryd yn meddu y rbagoriaeth o fod yn newydd. (Byddai hyn yn cael ei gadw yn hollol gyfrin- achol, bid sicr). Ffurf ar erledigaeth sydd yn tala yw yr un y cyfeiriasom ati, ond y mae ffurf arall o erledigaeth y galwyd ein sylw ati gan obebydd yn ddiweddar, sydd, er yn erled- aeth boeth iawn, eto, yn un anonest ac anfon- eddigaidd. Galwodd clochydd yn Ngheredig- ion (ni waeth heb enwi'r lie), yn nby un or Celtwyr ffyddlonaf yn y gymydogaeth, a gofynodd am fentbyg copi o'r rhifyn a gyn- wysai ysgrif ar Canolbarth sir Aberteifi, gan Dr. Pan Jones. Cafodd fenthyg y rhifyn hwnw, ond bu yn hir iawn yn ei ddychwelyd. Ar ol gweled nad oedd yn osio d'od ag ef yn ol, aeth ein cyfaill at y clochydd i geisio ei Gelt, pryd yr atebodd ei fod wedi ei losgi yn ulw yn y tân, ac mai c--l o bapur ydoedd. Yn awr, os ydyw clocbydd yr allwyl gariadus frodyr yn B yn ddigon pechadurus i regu papur newydd, tfe ddylasai fod yn ddigon gonest i dalu am dano yn lie llosgi peth nad oedd eiddo iddo. Ni bydd genym un --wrth., wynebiadiwcrthu pentwr o'r Celt i'w llosgi ar ben Trichrug neu Plinlimon yn ol ceiniog yt un, os ydyw ein cyfaill clochyddot yn hoffi y matb hwnw o ysbleddach, a dichon y Uwyddem i daflu ein goleuni llawn mor effeithiol i yatafelloedd deall tywyllion teulu yr anwyl gariadus frodyr yn y ffordd hono ag mewn unrbyw ffordd arall, ond cofied y ceryn cloch. yddol fod yn iawn iddo dalu i'rehwibanwr paa alwo am ddawns. Bu erlid ar y Celt gan weinidog Anibynol yn un o brif drefi Arfon, a'r ffurf a gymerodd yr erledigaeth yno oedd i'r pregethwr beidio myned i siop ein dosbarth. wr i brynu llyfrai: pan welodd ei fod yn gwerthu y Celt. Mae erlid wedi bod arnom

Advertising