Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
Family Notices
Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu
BU FARW. JONES.—Mawrfch 8fed, Mr Henry Jones, railman, Mariah-street, Rhymney, ya 58 mlwydd oed. WILLIAMs.Mawrth 7fed, Lillie, Williams, yn flwydd oed, merch Mrs Capt. Williams, Six Bells House, Llanbadarnfawr. Mae ami don wedicyfarfod Mrs Williams y blynyddoedd hyn, yr oedd colli Lillie fach ya dristwch ar dristwch iddi. Claddwyd yr hyn oedd farwol o'r un fechan anwyl, dydd Mawrth, 13eg cyfisol, yn ol y drefn newydd. Yr oedd yn amlwg oddiwrth y dorf barchus ddaeth yn nghvd ddeall fod yr ardal yn cydymdeimlo a Mrs Williams yn ei iihrallod. Duw fyddo yn a-rweinydd i'w phriod yn ol i'w chysuro. Gweinyddwyd yn yr angladd gan yr ysgrifenydd, Griffith Parry, Llanbadarn.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
f TYSTIOLAETH UNFRYDOLY BYD YW MAI MEDDYGINIAETH ANGHYMHAROL YW HUGHES'S DROPSY PILLS At y Clef yd Blin ag y maent yn dwyn ei enw Wrth T nodau canlynol vea aunabod y Clef yd os bydd wedi gafael?d ynoch:— Diffyg Dwfr, Gravel; Chwydd jn y Traed, Cliniau, Ymysgaroedd, &c.; Gwynt a Llawnder yn y Bol, Poen yn y Cefn a'r Arenau, Ouriad y Galon, Cramp a Chwsg y Cluniau, Asthma neu Ddiffyg Anadl. Teimlad o Stiffdra yn y Corff, Ac. Y rhai ydynt brawf sicr o bresenoldeb y DrtOPSY n y eyfansoddiad, ac y mae yn bwysig peidio sgeuluso defnyddio Meddyginiaeth ar ol teimlo'ua 'r nodau uchod. Trwy anwybodaeth a diffyg ofat goddefir i'r clefyd marwol hwn i sefydlua wreiddio yn y cyf ansoddiad, cyn sicrhau y Feddyginiaeth Briodol, ac felly terfyna yn angeuol i filoedd yn flynyddol. Er sicrhau gwellhad buan a sicr, dylai pob dioddefydd sicihau Blychiad o'r PILLS BYD- ENWOG, sef HUGHES'S DROPSY PILLS EFFEITHIAU RHYFEDDOL AR WYNT A DWFR. Ysgrifena y Parch. W. M. Jones, Gweinidog y Bedyddwyr yn Ebbw Vale. "Yr wyf wedi fy awdurdodi i anfon y dystiol- aeth ganiynol gy'da'r bwriad i chwi wneud unr few ddefnydd eyhoeddus o honi a fernwch. yn briodol er Up-sad dynolryw. Ymwelais a Evan Francis yn ddyddiol, ac yr oedd cyflymder gyda pha un y gostyngwyd y chwydd annghyffredin y peth mwyaf rhyfeddol yn fy ngolwg i. Y mae Evan Francis yn hen wr 66 mlwydd oed. Dioddef- odd yn ddrwg oddiwrth y DROPSY yn ystod y gauaf diaveddaf. Yr oedd wedi myned yn Uwyr analluog i ddyfod o'i wely gan y Chwydd a'r Poen yn ei Gefn, Ymysgaroedd, a'i Goesau. Yr oedd yn barhaus o dan ofal y meddyg, ond er hyny myned yn waelach oedd bob dydd. Nid oedd neb yn meddwl y gallai wella mwyach. Yn unol achynghor roddwyd iddo, treiodd H UGHEW DROPSY PILLS." Oddeutu y pedwerydd dydd wedi iddo ddechreu eu cymeryd, ymddangosai arwyddion ei fod yn dyfod yn well. Cysgodd y bedwaredd nos, yr hyn nad oedd wedi allu wneud am wythnosau cyn hyny. Cafodd y PILLS yr effeithiau rhyfeddaf ar y GWYNT a'r DWFR. Yn mhen oddeutu wythnos yr oedd y Chwydd yn e Goesau wedi d'od i lawr o 24 modfedd i 12 modfedd. Y. mae. yn awr mor iach fel y • mae yn gallu treulio wythnos oddicartref. < Y tnae yn teimlo o dan rwymau i wneud ei wellhad cyflym a rhyfeddol yn hysbys i'r cyhoedd fel y byddo i eraill i allu treio y FEDDYGINIAETH WERTHFAWR HON. Y mae Gwyr, Gwragedd, a Phlant yn mhofe gwlad wedi derbyn budd anrhaethadwy o'u defnyddio. W RHYBUDD c:aØ Er mwyn sicrhau pawb rhag twyll, gofaler cael y Trade Mark (se ilun Diamond) a'r geirian DROPSY PILLS" oddifewn ar bob blwch, a'r enw JACOB HUGHES ar Stamp y Llywodraeth. Heb hyn twyll ydyw. Ar werth trwy yr holl deyrnas am Is lie, 2s 9c, a 4s 9c trwy y Post, Is 3c, 2s 11e, a 4s 9e oddiwrth y Perchenog— JACOB HUGHES, D.S., A.Ph.S., Manufacturing Chemist, FENARTH, CARDIFF. Goruchwyliwr yn America—MB R. D. WILLIAMS, Chemist, &c., Plymoutb, Pa., gan yr hwn y gellir cael hefyd GOMEB'S BALM. a Hvolaleg Duopsy PiLLs."
-.-GOHEBIAETHAU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GOHEBIAETHAU. Y GYMDEITHAS ER ADDYSGU Y DEILLION YN MON AC ARFON. FONEDDIQION,—Sgfydl^yd y Gymdeithas uchod Si Mangor rai blyriyddoedd yn ol, ac er's rhai ynyddoedd mae iddi gangen weithfaol yn Kghaernarfon. Mae Miss Ellis, athrawes y gym- doithaii, yn ymweled a'r deillion tlodion yn M6n ac Arfon, ac yn eu baddyagn i ddarllen y Beibl a llyfrau eraill sydd wedi ea hargraffn. yn llythyr- oxiiaoth y deiiiien. Mae llwyddiant mawr wedi dilyn ymdrechion y gymdeithas, ond y mae yr anhawsder arianol yn nesteirio et g weithrediadau. Ar ran y gymdeithas dymunaf alw sylw y •yhoedd at y dyfyniad canlynol o lythyr adder- byniodd y trysorydd oddiwrth ysgrtfenydd y Gardner's Trust for the Bliod, Westminster," Mae yr ymddiriedolwyr hyn yn at fer anfon rhodd flynyddol at dreuliau y gymdeithas, a gwelir fod narhyw gymorth lleol a dderbynirar hyn o bryd yn meddu dwbl werth. Bydd y tanysgrifiadau yn wertbfawr ynddynt eu hnna'n, a bydd iddynt atal lleihad rhoddyn >. md<liriedo] wyr, yr hon yw prif gynhaliaeth y gymdeithas. Wele gyfieithiad o ran o'r llythyr "Cjfarwyddir fi gan y pwyllgor i'ch hysbysu en bod yn dymuno galw eich sylw at y swm bycban o danysgrifiadau a cbyfroddion a godir yn lleol, a hyderant y gwneir pob ymdreeh i loosogi ac ychwanegu y cyfraniadau hyny cyn y gwneir y cais nesaf at y drysorfa hon. Gan fod y rhodd o 80p oddiwrth yr ymddiriedolwyr yn ffurflo rhan mor fawr o gyfanswm eich derbyo- iadau, bydd yn rhaid i'r pwyllgor o hyn allan ystyried y priodoldeb o atal rhan o'i rhodd oddi- eithr i'r gymdeithas dderbyn mwv 0 gymorth lleol." Yr wyf yn gobeifchio y bydd i gyfeillion y deillion gofio ana y gymdeithas yn ddioed, fel na bydd iddi hi a'r dciilion dderbyn y fath golled. Bydd yn dda genyf ateb pob ymholiad yn nghylch amcanion a gwaith y gymdeithas.—Yr eiddooh yn gywir, GERTRUDE G. WILLIAMS, Friars, Bangor, Ysg. Mygedol. Mawrtb 6ed, 1888. BEDDFAEN Y DIWEDDAR WM. GLYN WILLIAMS, GANLLWYD. Mn GOL.,—-A fydd y rbai sydd wedi derbyn llyfrau casglu at teddfaenydiweddar Mr Wm. Glyn Williams, Ganllwyd, fod mor garedig ag anfon y cyfryw yn nghyda'r arian a gasglwyd y tuag at yr amcan uchod, i'r trysorydd, Mr Hugh Jones, Shop, Ganllwyd, Dolgellau, neu i'r ysgrif- enydd, o hyn i ddiwedd y iris hwn. Mae peth arian mewn Haw gan y trysorydd er's tro, a bwriada'r pwyllgor fyned yn nghyda'r gwaith o'i g)80d mor fuan ag y daw y gwedaill o'r arian i w. Hyn sydd i'w gyfrif droa ein bod yn oedi cyhyd. Trwy ganiatad y Gol., anfonir rhestr o iwm y casgliadau i'r Celt wedi j'roll dd'od i mewn. Gobeithiaf y gwneir pob ymdreoh i sicrhau beddfaen deilwng i goffad nrriaeth yr hwu oedd mor ddwfn yn serch pawb a'i hadwaenai. Grespn gweled man fechan ei fedd heb yr un lech i nodi'r fan. Mawr hyderaf y gwneir sylw effeithiol o'r cais hwn. J. C. GRIFFITH, Ysgrifenydd. Y GYNDDAREDD. MR GOL,—.Wrth. ddarllen y newyddnron yn ddlweddar, tueddir fi i gredu fod y clefyd ofuadwy yma fel pe yn lluosogi yn nifer ei ddeiliaid mewn gwahanol ranau o'r byd. Ryw 33 neu 34 o flyn- yddoedd yn ol bum mor anffodua a chael cooad gan gi cynddtiriog, trodd allan ei tod felly a chafodd ei ladd. Yn fuan wedi i mi gael y cnoad cymerwyd fi gan fy nhad at un o'r enw Billy neu Henry Billy Tomaa Lewis, oedd yn byw yn Soar, plwyf Llandilo, swydd Gaerfyrddia, i gael meddyginiaeth rhag y gynddaredd, neu i wrth- weithio effaith y cnoad a gefais. Yr oedd gan y person yna ryw gareg, nea rywbeth yn debyg i gareg, ag y galwai fy rhieni ac yntan llithfaen neu llaithfaen ami. Yr oedd yn cymeryd ei gyllell ac yn chwalu rhyw gymaint o'r maen yma. ac yn ei roddi i mi mewn llaeth i'w yfed, ac ni chefais deimlo dim oddiwrth y cnoad byth. Yn awr, gan fod y feddyginiaeth mor syml, a'r dolur yn acn4\¡\ y fath boenau ofnadwy i'r sawl fydd mor ar. f adai a dioddef dan ei effeithiau, fy nghofyniad dyw, a wyr rhywun rywbeth am y maen yma. Ci wais ddywedyd nad oedd hwn yn myned yn llai er ei naddu. A oes rhaio deulu y Lewisiaid yma o Soar, plwyf Llandilo, swydd Gaerfyrddin, yn gwybod rhywbeth am y llaithfaen yma yn y dyddiau byn ? Fyarncanwrtil drethueicb gofod fel yma ydyw ceisio lleshau fy nghyd-ddynion, a cbael ychydig oleuni yn nghylch y feddyginiaeth yma ddarparedig gan natur i ragflaenu effeithiau y dolur ofnadwy boenus hwn. Brynaman. H. W. THOMAS.
COLOFN Y CLECION.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
COLOFN Y CLECION. .c. —Englyn a wnaed i Enoch Richards, wedi gwrando ar yr hen dad doniol yn cana Arch Noah," yn Mhentre Estyll. Enoe fad yn ieuanc fydd—yn Ngiwnef, Yn nghanol hoen beunydd; A chaa ar arch Noah rydd—nes byddo Ifad III yno fydo lawenydd.-Pedrog. -Dyma englynion wnaed i Maer Pwllheli: Apoles trwy-n capeli,—a'i fron fawr Yn fyw i ddaioni, Yw'n hoff frawd trwy'i roddion ffri, Mae llaw hael yn Mhwllheli. Eglwysi ag elusen-a,gofia, Mae'n gyfaill mewn angen; A cherdd ddiolch rhydd awen Ei chywir barch ar ei ben.-Pedrog. Eia llyw hwyliog, Maer Pwllheli—yn wir, Pwy'n well i'n blaenori ? Dawn ac aur, dyna gewri 'N weision iawn i'n heisiau ni.—Erfyl, -Dywed yr Inter Ocean, Chicago, pe gallai y Parch. Phillips Brooks, y pregethwr enwog o Boston, redeg can gyflymed ag ygall siarad, y diangasai o gyrhaedd y trên a'i niweidioddychydig ddyddiau yn ol. -Dosbarth mewn Ysgol Sabbothol yn ddiweddat a ymgymerodd a'r gorchwyl o benderfynu y pwnc o bersonoliaeth y diafol. Wedi i bawb roddi eu barn yn agored, yr athraw a draethodd ei eiddo yntau yn y geiriau hyn Ynwir, nis gwn i beth i ddyweud am dano y dyddiau hyn. Flynyddau yn ol gwelid ef yn ami, ond ni chlywais fod neb wedi gweled trem arno yn awr er's blynyddau lawer." —Gyfrif a Proff. Max Muller y bydd y Seisonaeg yn mhen rhyw ddau can' mlynedd yn iaith y byd yn gyffredinol, y b>dd mwy o bobl yn ei siaracl nag sydd ya bresenol mewn bod! Cawn waled os byddwn byw ac iach. —Ymddengys fod y Parch. Gurnos Jones o'r farn fod y diafol yn meddu cryfach cyrhaeddiadau na'r Ysbryd Glan. Clywsom ef yn dyweud yn ddiweddar mai esboniad rhyfeddol fyddai cynyrch calon yr Ysbryd Glan a phen y cythraul. —Da y gwnaeth Gurnos adael yr enwad a fedyddia blant. Nid oes dim yn fwy poeaus iddo na chlywed swn plentyn mewo eapel. Yn wir, clywsom ef yn ddiweddar yn gorchymyn i un o wyr y sSt fawr i anfon mam oedd a'i phlentyn yn ei breichiau, yn y eyntedd,allaBrrbeoI. —Fel hyn canodd Dan i Pan yn cwynaw am Lawlyfr."
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Ow aeth y llawlyfr bob cyfrol 1—Garw Mor gywrain yw'r Bobol" 1 Rhodded rhywun un yn ol! O'r anffawd i wirionffol M