Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

CYMRY BIRMINGHAM A'U HELYNTION.'

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYMRY BIRMINGHAM A'U HELYNTION. [GAN LLYWARCH.] Dichon mai nid pob an o ddarllenwyr y Celt sydd yn gwybod fod gan Gymryy ddinas hon gymd6ithas a elwir ganddynt Undeb y Bry- thoniaid." Ei phrif amcanion, feddyliwD, ydyw dwyn y Cymry i fwy o aduabyddiaeth, ae undeb a'u gilydd ac i ymgydnabyddu yn hanes a llen- yddiaeth eu gwlad enedigol. Mae yn bollol an- enwadol, acni pherthyn i un blaid wleidyddol mwy na'u gilydd. Ychydig wyf, yn bersonol,. yn wybod am dani eto. Ond ymddangosai i mi, nos Fawrth, wythnos i'r ddiweddaf, fel mewn cyflwr blodeuog iawn. :It .¡¡c Ar y noson hono, Mr Gol., yr oedd y pumed eisteddiad o'r undeb hwn, yn cael ei agoryd, yn y Mason College, gan neb llai na'r Parcb. O. M. Edwards, Rhydychain, y llywydd am y tymor. Testyn ei ddarlith agoriadol ydoedd, "Dyled- swydd y Cymro tuag at ei gymydog." Yr oedd tipyn o ddyfalu yn ein mysg, cyn y ddarlith, pwy allai y "cymydog" fod? Ond, wedi i'r darlithydd ein hysbysa, mai y Sais a olygai wrth y "cymydog," yr oedd pawbyn rhyfeddu na fuasai wedi meddwl hyny yn gynt, gan mor briodol ydoedd i ni fel Cymry sydd yn byw yn nghanol y Seison. Dangosodd y darlithydd, mewn modd eglur,. ac argyhoeddiadol, yr hyn a wnaiiih y Cymry i'r Seison yn y gorphenol. Yr oedd ya dda penyf ei glywed yn profi mor anwrthwyueboJ, a hyny yn nghlywedigaeth y nifer luosog o Seison oedd yn ei wrando, fod lleoyddiaeth Seiscigyn ddy- ledus am y pethau goreu ynddi i'r Cymry. Dangosai mai Cymry ydoedd arwyr penaf prif feirdd a ffughaneswyr Lloegr—Arthu*, er eng- raifft, mewn ffughanesiaeth, a Lear, a Cordelia, a Glyndwr, yn chwareugerddi Shakespeare. Pro- fodd hefyd, mai drwy feirdd a barddoniaeth. Gymreig y cafodd Wordsworth, ac ereill eu deffro o swynion natur, ac felly mai i feirdd Gwlad y Bryniau y mae y Sais i ddiolch am ei feirdd natur. < Wedi sylwi yn y modd yna ar yr hyn a wnaeth y Cymro i'r Sais yn yr amser a fu, sym- udodd yn mlaen i sylwi fod gan y Cymro lawer mwy i'w wneud i'r Sais yn y dyfodol. Y brif ddyledswydd, meddai ef, oddiwrth y Cymry i'r Saeson ydyw, dwyn llenyddiaeth Cymreig i'w cyrhaedd, neu mewn geiriau ereill, troi,llenydd, iaeth Gymreig i'r Saesneg. Mae ar Gymru, meddai, yn awr eisieu un i wneud a chwedlon- iaeth a hanes, a barddoniaeth Gymreig yr hyn a wnaeth Scott ag eiddo yr Alban. Dywedai y darlithydd, hyd y gwyddai ef, nad oedd y "Scott" Cymreig wedi ei eni eto. Ond yr ydw i yr un farn ag un fa'n siarad ar ei ol, nad oes eisieu neb cymhwysach at y gwaith na'r Proffeswr Edwards ei hun. Yr oedd pawb yn teimlo ei fod yn berffaith feistr ar hanes a llen- yddiaeth y Saeson, yn gystal a hanes a llenydd- iaeth ei wlad ei hun. Hir oes i'n eydwladwr enwog ydyw dymnniad pawb o Gymry Bir- mingham. 4

UNDED CYNULLEIDFAOL LLOEGR…