Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

SEFYLLFA BRESENOL DIRWEST…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

SEFYLLFA BRESENOL DIRWEST YN NGGGLEDD CYMRU. fPapur a ddarllenwyd yn Nyhymanfa Ddirwest- ol Gwynedd Hydref Ml, 1890.] GAN Y PARCH. J. EVANS OWEN, LLANBERIS. II.-DINBYCR. Dim ar bymtheg o bapurau (returns) a dderbyniwyd o sir Ddinbuch; ac nid yw y wybodaeth a gynwysant ond hanerog a lied anfoddhaol. Chwech o drefi ac ardaloedd sydd yn meddu ar gymdeithasau dirwestol, ac un ar ddeg o ardaloedd heb un peirianwaith cyhoeddus o'r cyfryw gymeriad. Y mae deg o ardaloedd yn nodi fod yn eu mysg Bands of Hope, er mai llwyd a llesg ydy w amryw o honynt; y mae eraill yn rymus a blagurog. Cynhaliwyd cyf- arfodydl cyhoeddus mewn naw o ardaloedd, eithrmewn tairyn unig y gwnaed ymdrechion neillduol er bywhau sel gyda'r mudiad dir- westol. Saith, allan o 17eg, sydd yn crybwyU fod dirwestwyr yn vmarfer cymhellion personol; gwneir hyny hefyd mewn rhai eglwysi. Yn y cysylitiad yma, nodir fod EglwysLloegr yn y 11 Llandudno, drwy gyfrwng Clwb y Gweithwyr, yn dwyn egwyddorion dirwest i arweddu ar y bobl a fynychant y lie hwnw. Cedwir llyfrau dirwestol mewn tair ar ddeg o ardaloedd. Ychydig a ddywed ein returns am ddychwel- edigion tri lie yn unig sydd yn gallu rhoddi ,cyfrifou, y rhai a gyrbaeddant cldeg a thrigain rhyngddynt. Anfonir o ddosbarth Llansanan, fod myned a Uyfr dirwest o ddosbath i ddosbarth yn yr Ysgol Sul wedi bod yn foddion bendithiol yno; ac ymddengys fod ambell athraw a roddodd ti fryd ar fod yn 'ddoeth' drwy I enill eneidiau' yn arfer a chadw llyfr dirwest yn ei ddosbarth; a thrwy addfwynder a diwydrwyddyneni11 dysgyblion i ymarfer llwyr ymataliad. Efeuthyn a'i maesdrefi sydd yn dioddef drymaf oddi wrth haint oer difrawder. Fel prawf sicr o'r ystad ddilewyrch hono, nodir yn y return 'fod dirwest wedi myned o'r wlad, ac mai anhawdd cael gan neb o'r blaenoriaid i sônàm dano.' Tra yn cono fod genym yn Arfon ddwy gadran ddir- westol yn ymladd brwydr anghymedroldeb ar eu gliniau, yn ogystal ag ar eu traed, a chan mai llawer a ddiehon taer weddi dirwestwyr cyfiawn, pwy a &yr na welir ar fyrder, wedi y cyrhaeddo y wybodaeth honan clustiau, nerth- oedd adfywiad dirwestol yn Ruthin, a cyfeillion moesoldeb chrefydd yn pyngcio clodydd dirwest, ac yu liama gan lawenydd o hcrwydd ei gwaith. III.-FFLINT, CAERLLEON, LIVERPOOL A BIRKENHEAD. Tri ar ddeg o bapurau a ddychwelwyd. Pum' ardal sydd yii meddu ar gymdeithasau dirwestol, ac mewn wytb y cynhaliwyd eyfarfod- ydd cyhoeddus, Ytnddsngys fod Bands of Hope ynmhob ardal, oddigerthCaerlleoa. Ni wnaed unrhyw 'ymdrech neillduol' yn yr un ran o'r sir, nac yn y trefi Sdsnig, yn ngorph y ""•flwyddyn. 0 Liverpool, crybwyllir am yrn- weliad nifer o chwiorydd selog a holl aelodau eglwysi y dref hono. Nis gallaf nodi ai enwadol ai cyffredinol yr ymweliad, na pin fudd a ddilynodd y cyfryw. Os casglwyd -ystadegaeth 0 rif llwyr-ymwrthodwyr a chymedrolwyr yr «glwysi, da fuasal gan y gymanfa hon ei gael. Xxallasai cyboeddi y cyfryw yru eiddigedd ar ^lwysi eraill am ragori mewn purdeb, canys nid tormodedd o ysbryd cydymais yn yr hyn sydd rinweddol sydd yn ein plith a gwerthfawr y lCyfrwng, gan nad beth a fyddo, a fedr enyn y ■cyfryw dan. Y mae yn ofidus sylwi, nad oes jcymaint ag uc o'r returns yn son gair am ymdrachion personol, mewn anog a pherswadio; gall hyny fod yma ac acw, eithr nid oes uodyn wedi tyfu i'r golwg yn yr alwedigaeth. Orybwyllir yn y papur o Fostyn am yr arfer o ardystio yn ddirgel yn nhy yr ysgrifenydd hwnw. Yir- 4dengys y cedwir llyfrau dirwestol mewn dego ardaloedd gan enwadau crefyddol, ond prin y 4efnydd a waeir o honynt. Nid yw y return yn cvnwys fod neb wedi ardystio o'r newydd. Y mae attebion sir Fflint yn fyw gan ysbrycl- iaeth, ond ysprydiaeth marwol i'w hachos ydyw. Enfyn boueddwr o Gaer ei gydymdeimlad llwyraf a gwaith y gymanfa hon, gydag addewid .am 10s. yn flynyddol at ei threuliau. IV.—MALDWYK. I Pedwar ar ddeg o bapurau ymholiadol a ddychwelwyd o Faldwyn. Ar y cyfan; y mae eu ton yn uchel, a'r bywyd dirwestol yn y sir yn prifio mewn nerth a gwaith. Er hyay, nid oes gymdeithasu dirwestol ond mewn naw, allan o bedair ar ddeg o ardaloedd. Wedi i Gymanfa Ddirwestol y sir, yr hon a sefydlwyd yn ddi- weddar, ddechreu ymysgwyd, odid fawr nad ei gwaith cyntaf fydd ff urfio cymdeithasau lleol drwy'r wlad. Cynhaliwyd cyfarfodydd cyhoeddus a phregethu dirwest mewn deg o ardaloedd yn ystod y flwyddyn. Crybwyllir alu Bands of Hope mewn wyth cymydogaeth—rhai o honyut yn flagurog iawn, eraill yn wywedig a diffrwyth. Felly hefyd y dywedir am Demlyddiaeth Dda. Gwnaed ymdrechion neillduol mewn pedair ardal yn Machynlleth a Chwmdu, ataliwyd trwydded dau dafarndy drwy yr egnion hyny, a bu heolydd y dref flaenaf yn diaspedain gan broriaeteh drnm a bands meibion llwyrm- ymwrthodiad, ar heolydd yn ferw gan fywyd eu gorymdeithiau. Pedair ardal sydd yn son am ymdrechion gyda phersonau unigol. Nid ydys heb ofni fod dirwestwyr y gwledydd yn dis- gwyl llawer gormod wrth gyfryngau y tu allan iddynt eu hunain yn y matr hwn, gan fwrw dros g6f y ffaith bwysig, fod pob Cristiön-yn enwedig Cristion dirwestol, yn genad ei hunaa dros Grist at ei gyd-ddyn. Crjbwyllir am lyfrau dirwestol mewn deg o ardaloedd, a chawn gyfrifam 643o ddychweledion yn nghorph y flwyddyn. Yn ol pob golwg, y mae y rhif yn lawer uwch na hyn; eithr lie na byddo manylwch eglur yngtyn ag ystadegaeth ddirwestol, diog- elach ymgadw o fewn cylch y cyfri isaf a anfonwyd. V.MEIRION. Un ar bymtheg o bapurau a ddychwelwyd o wlad Meirion. Yrnddengys fod sefyllfa y mud- iad dirwestol yno yn Hed fyw-mewn rhai manatr; Ffestiniog, Towyn a'r amgylchoedd, a Llandderfel—yn bur dda. Ymae. tair ar ddeg o ardalofedd yn meddu ar gymdeithasau dirwest- ol, allan o un ar bymtheg. Ardaloedd gwledig niegvs Dyifryn, Trawsfynydd, a Glyndyfrdwy sydd hebddynt. Cynhaliwd amryw gyfarfodydd gwerthfawr mewn deg o ardaloedd. Cyfeiria y returns hefyd at ychydig brergethau dirwestol yma ac acw. Coinodir fod Bands of hope mewn un ar ddeg o ardaloedd. Gwnaed chwaneg o ymdrechion neillduol ya Meirion yn ystod y flwyddyn aag yn yr un o'r siroedd eraill; crybwyllir am hyny o wyth o ardaloedd. Ymdrcchion yn erbyn adnewyddiad trwyddedau oe Idvut, gan mwyaf. 0 Llan Ffestiniog a Llan- dderfel, nodir ddarfod iddynt lwyddo yn eu gwaith. Bu y cyfeillion yn y -Blaenau, Traws- fynydd, a*r Penrhyn, yn anffeithiol. Yh ffodus ol haflwyddiant y diodwyd hwy ag ysbrydiaeth wrol i fyned rhagddynt yn yr uorhy w orchwyl. Crybwllir am ymdrechion personol ac eglwysig o naw o ardaloedd. Cedwir llyfrau dirwestol yn yr holl ardaloedd ac anfonwyd j sta legaeth am chwaneg na 550 o ymrwymiadau uewyddion yn ystod y flwyddyn. Llawenydd i holl gared- igion y mudiad fydd deall fod Cym^rfa Ddir- westol Meirion mewm ystad facb gryniun, er fod -oneyd rhyngddi etto a chyraedd y safle hono o ddylanwad cyffredinol yn ysir mae ei harwedd- wyr a'u bryd ar ei feddianu. Dilynir cyfar. fodydd y gymanfa gan nifer dda o weinidogioo, lleygwyr dylanwedol, ac ychydig foneddigesau. Mantais nid bychan hefyd yw presenoldeb ynadon beddwch yn nghyfarfodydd blynyddol y gymanfa. a thray, bydd gan ddijweswyr 1 ymwaeyd 9g ynadon gyda materion trwyddedol, enill o'r ddeutu fydd eu preseiVoldeb yn ein cyaulliadau dirwestol.

Advertising