Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

UNDEB CYNNULLEIDFAOL LLOEGR…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

UNDEB CYNNULLEIDFAOL LLOEGR A CHYMRU. Cynnaliwyd Cyfarfod Hydref yr Undeb yn Leeds y dyddiau cyntaf o'r wythnos ddiweddaf. Yr oedd yno gynnulliad lluosog o gynnrychiolwyr yr eglwysi, ac yr oedd y croesaw cynhesaf iddynt yn Leeds. Pum mlynedd ar hugain yn ol, yr oedd Cyfarfod Hydref yr Undeb wedi cael ei gynnal yno o'r blaen; a phregethwr yr wyl hono, sef yr Hybarch Thomas Binney, oedd y pregethwr eleni; ond yr oedd llawer o genhadau enwog y cyfarfod hwnw wedi cael eu galw i'r gymanfa fry; megys Ely a Hamilton a Scales o Leeds, ac Angell James, a Dr. Redford, a Dr. Vaughan, ac amryw eraill. Testyn pregeth Mr. Binney oedd—"Goddefwch air y cynghor;" ac yr oedd ei gynghoryn untyner, effeithiol, llawno gariad. Llywydd yr Undeb eleni ydyw Dr. Raleigh, ac yr oedd ei Anerch o'r gadair yn un wir ardderchog, ar bwnc pwysfawr y dydd, sef Dadgysylltiad crefydd oddiwrth gadwynau y Llywodraeth. Y mae yn rhyfedd fel y mae y pwnc hwnw yn gweithio ei ffordd i bob cyfarfod ac i bob cynnadledd. Manylwyd gan amryw o'r brodyr ar yr effeithiau ded- wydd o ryddhad crefydd oddiwrth iau y fath gaethiwed. Darllen- wyd yno bapyr manwl ac addysgiadol gan y Parch. J. Beazley, ar ammodau ac amcan aelodaeth eglwysig; ac un arall ar rwymedig- aeth yr eglwys tuag at blant; ac un arall ar waith Lleygwyr yn yr eglwys; a bu yno gryn lawer o gyd-ymgynghori ynghylch y materion hyny. Yn y cyfarfod cyhoeddus, cyfeiriodd y Cadeirydd, Mr. Baines, A. S., yn bur gynhes at lafur ac ysbryd brodyr anwyl ag oeddynt wedi blaenu, ac at gynydd Defodaeth yn yr eglwys, a'u rhwymau i bleidio y mesurau o iawnder crefyddol a gwladol sydd yn awr dan sylw y wlad. Areithiodd y Parch. J. Harrison, er annog ymlyniad wrth Brotestaniaeth; a'r Parch. R. Dale, ar y gwas- anaeth oedd cynulleidfaoliaeth wedi wneud i achos Rhyddid, a Dr. Parker, ar y pwys o symledd gyda phob cyflawniad crefyddol; a S. Morley, Ysw., ac eraill. Yr oedd yr areithiau yn rhai goleu cryfion, a chawsant eu derbyn gydag uchel gymeradwyaeth.

PORTHMADOC.

. MANCHESTER.

LIVERPOOL.

LLYTHYRAU 0 PATAGONIA.