Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

PLINLUMONYDD A'R BALLOT.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PLINLUMONYDD A'R BALLOT. ME. GOL.Erfynaf ganiatM i wneud appel atoch yn ffafr y Ballot. Pell lawn oddiwrthyf ydyw y syniad o godi dadl bersonol reolaidd & chwi ar y Pwnc. Dynesaf atoch fel y gweddai i ddysgybl nesu at ei athraw. Cydnabyddaf chwi yn athraw i mi. Yn athraw y celfyddydau-o drefniadau eglwysig Uenyddol a gwleidiadol. Braidd na feddyliaf fod pwnc y Ballot, gan amrai, yn fater o chwaeth, yn fwy efallai nag yn fater o farri. Darllenais yn fanwl eich holl sylwadau yn erbyn y Ballot. Os na ddywedaf fy mod yn awr yn cyduno a, chwi, dywedaf fy mod hyd yn ddiweddar yn unfryd unfarn a chwi. mae amgylchiadau a phersonau wedi newid fy marn i yn llwyr. Nid af i geisio ymresymu yn groes i chwi, oblegid credaf fod y cyfan a ysgrifenasoch yn erbyn y Ballot yn gadarn safadwy. Dywedir i ni fod Cicero yn ymffrostio ei fod ef wedi ei ethol yn aelod o Senedd ei wlad drwy bleidleisiau cyhoeddus a phleidleisiau dirgelaidd. Y mae'n bosibl dwyn oddiamgylch yn ein gwlad ninnau gyfundrefn ddyblyg fel hyny. Nid wyf yn hawlio y Ballot fel un sydd arno ofn tramgwyddo neb drwy unrhyw bleidlais a ddymunwn roi yn bersonol. Os na cheir settlement gwell ar y pwnc, boddlonwn yn y diwedd i gael pleid- leisiad agored i Freeholder, a'r Ballot i Denantiaid a gweithwyr. Dywedais eisoes fod y cwbl a ysgrifenasoch yn erbyn y Ballot yn gadarn safadwy. Goddefer i mi ychwanegu, mai mewn agwedd neillduol o gymdeithas y mae cadernid eich rhesymau, ac nad yw y wedd hono o gymdeithas yn awr yn bodoli yn Nghymru. Pe buasai tegwch, cyfiawnder, boneddigeiddrwydd, £ wybodaeth, doethineb, a chrefydd, yn teyrnasu yma yn holl gylchoedd cym- deithasgar a chymydogol ein broydd, ni chyfodasai yr angen am y Ballot. Pe "Uasai penau a chalonau "y gw £ r a bia y nen-brenau" fel y dylasent fod, Perffaith weddus fuasai i bob perchenog pleidlais weithredu ei hawlfraint yn lIygad haul a gwyneb goleuni,— gerbron Duw a cherbron dynion. Addefaf mai yr hwn a'm hargyhoeddodd, MAI PRIF ANHEBGOR ETHOLIAD TEG YDYW Y BALLOT, yw fy nghyfaill Mr. David Pugh, Dolgellau. Efe a esbonia i ohwi oddiwrth hanesion etholiadau Meirionydd, y gwir angen am y Ballot. mae yr hyn a wnaed yno, yn nghyda'r hyn a fygythid ei wneud yno, ac mewn manau eraill, wedi anwroli dosbarth Iluosog o'n cydwladwyr, yn enwedig y dosbarth hwnw sydd, er eu hanrhydedd, yn ddiniwaid, yn dda, yn Srefyddol, ac yn gall. Hawlir amddiffyniad y pleidleisiad dirgelaidd i'r cyfryw ar seiliau a enwir with fyned yn mlaen. Er mwyn i'r dull hwnw fod yn berffaith ddiogel, y mae yn ofynol mai felly y dylai pawb bleidleisio. Hawlir y Ballot genyf, mewn rhan, oblegid y camdriniaeth creulawn a weithredid tuag at y dosbarth da a ?lqdais gan y rhai oedd yn alluog i'w niweidio yn eu personau a'u hamgylch- ladau. Agos berthynas sydd rhwng yr amgylchiad a'r person. Y person yw canolbwynt yr amgylchiad. Daeth rhai allan yn gyhoeddus o blaid rheswm, cyfiawnder, a rhyddid. Fel boneddigion natur a gras, safasant yn dystion cyhoeddus o blaid eu hegwyddorioii. Rhuthrodd eu gwrthwynebwyr i ddi- nystrio eu hamgylchiadau, ac yn ninystr yr amgylchiadau dinystriwyd y Person. Nid brawdol, nid cenedlgaredig, ydyw i'r wlad ofyn y fath dreth unochrog, neillduol, oddiar law y dosbarth goreu a feddwn. Sail arall pahani yr honir yr hawl i bleidleisio yn ddirgel ydyw, PWYSFAWR- BDD Y GWAITH 0 BLEIDLEISIO YN GYDWYBODOL. Nid if mor bell a dweyd ei fod ar bob adeg mor bwysig a chrefydda. I'r byd hwn a'i bethau y perthyna yn benaf. Fel dinesydd y byd hwn, nis gall dyn gyflawni gorchwyl pwysicach "a phleidleisio yn gydwybodol. Anhawdd iddo wahanu ei ddyledswyddau "infcsig oddiwrth ei ddyledswyddau crefyddol, masnachol, a theuluaidd. Y ?*aent wedi eu cyfrodeddu y naill drwy y llall. Fel crefyddwr, y Blaenor y drn e* &anlyn y^yw lesu. Ni bydd y cyfryw yn bell iawn o'i le os bydd iddo "dilyn esiampl ei Fiaenor mawr. "Wei, dewisodd lesu gyflawni ei brif Weithredoedd yn ddirgelaidd. Dewisai i'w ddysgyblion beidio cyhoeddi ei Weithredoedd. Ar hynyna y seiliaf mai nid arwydd sicr o wendid nac o annuwioldeb moesol ydyw i ddyn da ddewis cyflawni gweithred rinweddol yn ddirgelaidd. Af gam yn mlaen, a dewisaf dir uwcb. na hynyna etto. Y cynghor ysgrythyrol ydyw i ddyn gyflawni ei weithredoedd goreu a mwyaf cysegredig yn ddirgelaidd. Gradd eu diigelwch i fod yn ol gradd eu cysegr- edigrwydd, a gradd eu cysegiedigrwydd i fod yn ol gradd eu dirgelwch. Rhai 1 fod mor ddirgelaidd fel nad yw un llaw i wybod yr hyn a wna y llall, neu ynte gymeryd y canlyniad fod y cyhoeddusrwydd yn dinystrio y rhinwedd. "readur rhyfedd yw dyn. Y mae yn greadur cymdeithasol, ac yn hunan- neillduedig hefyd. Y mae dyn yn meddu y ffawd dda o fod cyflawni gweith- redoedd o bwys yn ddirgelaidd yn gydnaws &'i natur. Hyd yn hyn, y mae wedi arfer cyflawni ei brif weithredoedd-ei weithredoedd naturiol, ei weith- redoedd masnachol, a'i weithredoedd crefyddol yn ddirgelaidd. Os ydyw dynion goreu Cristionogaeth i ymgymeryd & thrin a thrafod am- Sylchiadau gwleidyddol y deyrnas hon, y mae mor angenrheidiol iddynt hwy gael nawdd a lloches y Tugel i gyflawni y gwaith o bleidleisio yn ol eu cyd- wybodau mewn dystawrwydd, i ymogel yn "fwy," ie, yn FWY, rhag gorgan- ^oliaeth uchel a thrystiog eu plaid eu hunain, nag ydyw iddynt rhag llid a gdyniaeth eu gwrthwynebwyr. Nis gall yr olaf niweidio fawr ar ysbrydol- j^ydd eu crefydd. Gall y cyntaf eu penysgafnu i raddau pell a pheryglus. ddywedodd calon y Parch. S. R. o Tennessee wrtho, mai gwell iddo ar bob ystyr oedd glanio yn Le'rpwl i fynwes dawel ddidrwst ei gyfeillion, na chael ei derbyn gan y fonllef frwdfrydig uchel, er mai oddiwrth ei gyfeillion y deuai y cyfan? Hyd yma y mae ef wedi ofni gorganmoliaeth; ond ni ofnodd y gwrthwynebiad cryfaf erioed. Ffaith, onide? Oes, Syr, y mae i'r da "fwy" berygl oddiwrth y gorlonder gorfoleddus nag y sydd oddiwrth y gordristwch Waf. Tir peryglus ydyw tir poblogrwydd. Tir llithrig iawn ydyw. Y obioeddynt ddoe gyda'r dyrfa yn llefain, "Hosanna i Fab Dafydd," ydynt eddyw yn gwaeddi, ■" Ymaith ag ef, croeshoelia ef." Prif ddadl pleidwyr y ^Hgel hyd ym^ ydyw mai amddiffynfa rhag y croeshoeliad ydyw. Yn ych- wanegol at hyny, yr wyf fmnau yn hdni ei bod mor angenrheidiol i ymguddio *aag yr hosanna. Pw barhau.)

!""PRIF DDINAS CYMRU.",

ETHOLIAD SIR GAERFYRDDIN.

RHYDDFRYDIAETH YN NGHONWY,…

"EICH PLEIDLAIS NEU EICH FFERM…