Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Betfjoltott.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Betfjoltott. Yr ydys wedi cael hysbysiad fod Dr. Livingstone yn fyw, a'i fod yn debyg o gyrhaedd yn fuan i Zanzibar; a dysgwylir am hanesion ganddo o barthau o Affrica na welwyd erioed o'r blaen gan deithydd o Ewrop. Cyfnfir y bydd i dros ddwy 111 o ferched gael hawl i bleidleisio yn yr etholiad nesaf. Y mae y sychder mewn rhanau o India wedi bod mor hir, ac y mae y llifogydd mewn rhanau eraill wedi bod mor drymion, fel ag y mae argoelion go drymion am brinder lluniaeth yno. Ymddengys fod trefniadau yn cael eu gwneud er rhoddi gwta- lythyrau yr Etholiad Cyffredinol allan Tach. lleg; ac y cymer ethol- iadau y Bwrdeidrefi le ddydd Llun a dydd Mawrth, Tach. 16eg a'r 17eg; ac etholiadau y Siroedd Mercher ac lau, Tach. 18fed a'r 19eg. Y mae ynadon Middlesex, drwy 44 o bleidleisiau yn erbyn 30, wedi gwrthod penderfyniad i roddi xal penodedig i offeiriaid Pabaidd ag sydd yn gweinyddu mewn pethau ysbrydol i garcharorion perth- ynol i'w cyfundeb eu hunain. Pa bryd y gwawria y dydd pan y caiff pleidwyr pob cyfundrefn grefyddol yr un chwareu teg oddiar law swyddogion gwladol ein teyrnas? Cymerodd Brenhines Spaen berlau ei choron gyda hi, ond gadaw- odd ei choron mewn cellar. Ni wyddir etto pwy sydd i'w gwisgo- y mae amryw dywysogion, hen ac ieuainc, a'u llygaid arni. Byddai yn deg i'r deiliaid gael llais yn y dewisiad. Y mae rheolaeth Prwssia yn creu llawer o anfoddlonrwydd ae o rwgnach yn Hanover. Anfonwyd o'r Unol Daleithiau i wledydd eraill, er dechreu y flwyddyn, dros ddeng miliwn a thriugain o alwyni o Petroleum, yr hwn a dardda o graig. Achosodd y llifogydd diweddar yn Switzerland golledion trymion drwy ranau helaeth o'r dyffryn-diroedd. Yr ydys yn ofni fod yr erledigaeth yn erbyn Qristionogaeth yn trymhau yn China a Japan, ac y bydd yno "ferthyru," os nad all rhyw ddylanwad o Ewrop dyneru calonau yr erlidwyr. Y mae yn Twrci hefyd gryn erlid ar Gristionogion Protestanaidd, a dywedir fod llaw gan batriarch yr Eglwys Babaidd yn nghychwyn- iad yr erledigaeth. Dywedir fod y "Nation" o Madrid, organ y "Progressists," yn cyhoeddi ei fod yn ffafriol i ffurflywodraeth unbenol, ac yn ystyried y Due o Edinburg, fel y tebycaf o fod yn ddewisedigh y bob! i lyw- odraethu y wlad. j Y mae llythyrau o Naples am yr lleg cyfisol yn dweyd fod crug- darddiad Vesuvius yn myned ar gynnydd graddol, a bod ffrwd deneu o'r llosgwy (lava) wedi disgyn mor bell a'r Hermitage. Y mae llu- aws yn dringo i fyny yn ddyddiol. Tua chanol dydd Llun cyn y diweddaf, drylliodd un o ferwedydd- ion mawrion yr Ystalfera Iron Works, Swansea. Ysgaldiwyd pud- dler o'r enw James James, mor druenus, fel y bu farw yn fuan ar ol hyny. Y mae bachgenyn arall wedi derbyn niweidiau mor fawr, fel y mae ammheuaeth am ei adferiad. Y mae gweinidogion y cyllid ac amaethyddiaeth yn Canada wedi penderfynu taflu'r pyrth yn agored i ddadforio anifeiliaid o'r Unol Daleithiau ar ol Hyd. 8; ond bydd ymchwiliadau yn cael eu gwneud arnynt gan arolygwyr hyd Tachwedd. Bydd hyn yn fantais i am- aethyddiaeth a masnach y ddwy wlad.

LIVERPOOL.