Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

BYDDINOEDD AMRYWIOL SIR GAERFYRDDIN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ei arllwys yn ol ac yn miaen, a'i daflu gan chwyldroadau, ni buasai ei, anwiredd yn gymaint-cawsai ei buro oddiwrth ei eulunaddoliaeth; ond gan na chyfarfyddodd a chynhyrfiadau gwladwriaethol, iddo gael llonydd i fwynhau ei hunan mewn esmwythder, nid rhyfedd ei fod, fel llyn llonydd, yn magu gwenwyn ac anmhuredd ynddo ei hun. Yr ydym oddiwrth y darluniad hwn yn bendifaddeu yn credu fod chwyldroadau yn anhebgorol angenrheidiol i buro pob math ar gymdeithas oddi- wrth eu harferion drwg, yn gystal ag yn fantais i gynnydd a diwylliant cenedlaethol. Efallai na bu adeg mor gynhyrfus erioed ar ein gwlad yn hanes neb sydd yn fyw a'r cyfnod pwysig hwn. Nid ydym o gwbl yn teimlo yn ddedwydd dan yr amgylchiadau, oblegid y dygasedd aIr digofaint a ennynir cydrhwng y gwahanol bleidiau â'u gilydd; ond gwell genym o lawer fentro i ganol y tan, ac ymladd yn ddewr dros ein hegwyddorion, na goddef i'r Toriiaid caeth uchelfrydig ein marchogaeth mewn tawelwch ar hyd y blynyddoedd. Megys y Diwygiwr mwyaf, felly ninnau, gan na chawn chwareu teg trwy fod yn dangnefeddus a heddychol, yr ydym yn barod i "ddanfon cleddyf a thân ar y ddaear." Y mddengysfodsir Gaer- fyrddin yn 11awn cyn- hwrf o'r naill ben i'r llall. Gellir dweyd yn [ddibetr- us, nad oes yr un sir yn y Dywysogaeth yn fwy Ym- neillduol; ond etto, y mae yn debyg i eiddo Caer- narfon, wedi bod dan grafangau gwaedlyd Tori- aid a Thoriaeth am dros ddwy flynedd ar hugain. Yneb a fynai yrarglwyddi tiroedd a anfonent i'r Senedd, a'r neb a fynent a gadwent oddiyno. Caw- sant eu ffordd, heb i neb ammheu eu hawl na'u hawdurdod, am yr holl amser yma. Nid rhyfedd yn y byd eu bod eleni, wedi i'w heddwch gael af- lonyddu arno, yn nwyd- wyllt gan ddigofaint. Y mae y Tofiaid, fychain a mawrion, wedi ymdyng- hedu i fygwth a seriwio. Y mae mellt eu cynddar- edd yn ffaglu yn mhob congl, a tharanau eu byg- ythion yn diaspedain drwy yr holl wlad. Nid ydym yn wir, yn credu fod y pleidiau gwrthwynebol tnor danllyd a chynhyrfus yn un sir yn'Nghymru ag ydynt yn y sir enwog amaethyddol hon. Y mae dau aelod Seneddol i'w dy- chwelyd dros y sir; ond y Baae pedwar o ymgeiswyr ar y maes, yn ymladd eu gwaethaf am y ddwy eis- teddle. Enwau y pedwar ydynt — Mri. J. Jones, Blaenos; a H. L. Puxley -dau Dori o'r rhywog- E. PIERCE, Ysw., M.D., Maer Dinbycb. (GWEL EI HANES YN Y RHIFYN DIWEDDAF). aeth waethaf; Mr. D. Pugh, (yr aelod presenol)—Tori o'r rhyw- ogaeth oreu; a Mr. E. J. Sartoris-Rhyddfrydwr call a chydwybodol. Y mae yn Nghaerfyrddin felly dair byddin amrywiol ar y maes. Cydgasgla y cigfrain Torïaidd i gyd o gwmpas Jones a Puxley. Hwynt-hwy yw eu duwiau, ac ar eu hoi hwy yr ant. Ceir 11awer o ddosbarth canol y ffordd-dynion nad ydynt yn cymeryd golwg bwysig ar y naill ochr mwy na'r llall—yn sefyll dros Mr. Pugh. Ond y mae y blaid Ryddfrydig, y rhai ydynt, gan amlaf, yn Ymneillduwyr, yn glynu wrth Mr. Sartoris. Y mae tri dosbarth a canvassers fel hyn yn myned ar hyd a lied y wlad, yn gyffelyb i lwynogod Samson, a than gy wrth eu cynffonau, nes y mae holl gonglau y sir yn oddaith wenfflam o'r naill gwr i'r llall. Ond er hyny, y mae gwahan- iaeth mawr cydrhwng y pleidiau ka gilydd. Tra y defnyddia y y naill bob ystryw yn eu cyrhaedd i dwyllo -camddarlunio a seriwio—y mae y lleill yn dawel i bobpeth o'r fath; ond etto, yn dadlu yn ddewr dros eu hegwyddorion. Taena y Toriaid allan bob enllib yn eu gallu am Mr. Sartoris, a defnyddiant enwau trigolion y "pwll" ar ei bleidwyr, yn enwedig y gwein- idogion Ymneillduol. Drwg genym eu bod yn myned ar draws y wlad yn fynych yn ngwisgoedd defaid, a hwythau o'r dos- barth mwyaf rheibus o fleiddiau eu plaid. Y maent wedi bod, os nad etto, yn gosod papyrleni mawrion, wedi eu hargraffu mewn llythyrenau breision, ar barwydydd a choedydd, yn ngwahanol gyrau y wlad, i geisio denu yr'etholwyr Ymneillduol i gredu eu bod yr hyn nad ydynt. Clywsom am gynnwysiad pedwar o'r papyrleni hyn, ac wele hwy:—"Vote for Puxley, and Civil and Religious Freedom" Protestant Dissentel's t Vote for Puxley and Protestantism"—Down with Sartoris and the Pope"—" Down with Roman Catholic Tyranny." A glywodd rhywun, rywbryd, yn rhywle, am y fath wyneb a chalon- galedwch 1 Nid yw amgen na cheisio bradychu gwlad o ddyn- ion a chusan Judasaidd. Buasai yn ddigon, ac yn wir, yn ormod iddynt, i'n tyb ni, i gamddarlunio y Rhyddfrydwyr—i baentio y gwyn yn ddu-i daeru am y melus mai chwerw ydyw; ond pan y cam- ddarluniant neu y croes- ddarluniant eu hunain, o fod yn wyn ac yn deg, a hwythau wedi eu gwneud o'r huddygl bryntaf, mwy- af Beelzebubaidd, y mae yn rhy ofnadwy i'w oddef. Ond chwychwi, Ymneill- duwyr dewr Caerfyrddin, gobeitbio,nad ydycb heb adnabod eu dichellion hwynt." Y mae yn ddrwg genym glywed fod llawer o Ym- neillduwyr mwyaf cyd- wybodol y sir hon dan felldith scriw. Y maent fel Wyn yn mhalfau eirth, neu fel cywion dan fachau pawenog barcutod. Yr ydym o ddifrif yn cynghori y rhai hyn, cyn y symud- och law, tafod, na throed, dros nac yn erbyn eich meistri, i fynu yn gyntaf weled y gwaethaf. Peid- i wch bod yn xhy barod i gymeryd eich harwain fel \vyn i'r lladdfa. Brwydr fawr egwyddorion gwir- ionedd ydyw-y frwydr y bu ein tadau yn ymladd ynddi hyd at waed—a'r frwydr y dysgwylia y nef- oedd fod deuparth o ys- bryd y tadau ynom ninnau wrth ei hymladd allan. Os oes llawer o honoch yn tueddu yn hytrach i fyned gyda'ch meistri nag ab- erthu eu gwen er mwyn cydwybod, cofiwch fod mor ddystaw a llygod yn y cornelau. Na fydded i chwi fyned allan i gonglau yr heolydd, nac i benau y tai, i gyhoeddi mai Toriaid ydych, ac i fyned allan yn enw Toriaeth i gasglu pleidleisiau ar draws y wlad. Y mae yn ddifrifol o beth eich bod chwi bob Sabbath yn gwrando ar egwyddorion rhydd- frydig efengyl yn cael eu pregethu—yn proffesu yr egwyddorion hyn wrth yr allor—ac yn diolch, drwy ymaflyd yn nghyrn hbno, mai i ryddid y'ch galwyd chwi;" ond etto, yr ydych mewn gweithred a gwirionedd, ar ddyddiau brwydr etholiadol rhwng crefydd rydd a chrefydd gaeth, yn pleidio ac yn ymdrechu dros gadw y byd yn dragywydd mewn caethiwed a gorthrwm! MR. GLADSTONE.—Y mae ei anerchiad at ei etholwyr yn cynnwys esboniad llawn a theg o'i egwyddorion, ac o'i gynllun- '5 iau gyda golwg ar ddygiad yn mlaen wasanaeth y llywodraeth mewn dull teg er budd y wlad.