Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

GRIFFITHS, GLANDWR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GRIFFITHS, GLANDWR. MR. GOL.,—Awgrymai Mr. Davies, Trawsfynydd, yn y DYDD yn ddiweddar yr hoffai i rywrai anfon ychydig o hanes y Parcli. W. Griffiths, Glandwr, etto i'r DYDD. Y mae yn gofus genyf i mi glywed y pethau digrif can- lynol yn cael eu hadrodd am dano. Pan yn cyd-deithio unwaith ag offeiriad, dywedai hwnw wrtho fod ganddo barch iddo am nad oedd yn dweyd byth ddim yn anmharchus am danynt hwy fel offeiriaid. O,' meddai yntau, nid wyf yn gymaint .y coward ag y gwnaf daro neb sydd ar lawr.' Yr oedd yn anfoddlon fod rhai yn dweyd pan yn myned i'r oedfa mai myned i'r cwrdd yr oeddynt. Cwrdd, meddai, ydyw i mi roddi fy llaw arnoch chwi, neu i chwi roddi eich llaw arnaf ft, yn hytrach na dy- wedyd myned i'r cwrdd dyweder myned i'r cyfarfod. Yr oedd yn ddarllenwr Cymraeg braidd heb ail iddo. Dywedai Dr. Phillips, Neuaddlwyd, nad oedd yn rhoddi i fyny i neb am ddarllen Cymraeg ond i Mr. Grffiths, Glandwr. Pan yn gwrandaw un yn darllen pennod yn yr areithfa unwaith i ddechreu y cyfarfod, dywedai hwnw, Dyna fel y darllenwyd y bennod.' Ie, meddai yntau yn uchel, dyna fel y darllenwyd hi, ond nid fel yna y mae hi er hyny. Darfu i'w synwyrau ddyrysu rhyw gymaint unwaith, a meddyliwyd mai y peth goreu i'w wneud ag ef oedd ei gadw yn ei wely, a gosod dyn i'w wylied nes y deuai i'w le drachefn; ac fel yr oedd yno yn aflonydd ac eisieu dyfod i lawr neu allan o'i wely, bygythiai y dyn oedd yn ei wylied ei guro. Na, medd ef, paid a'm curo, os dyn elaf ydwyf (fel ag yr oedd yn y gwely). Y mae yn druesi i ti fy nghuro; ac os dyn dwl wyf, y mae yn drueni i ti fy nghuro. Yr oedd eisieu un o Gymru ar eglwys y Boro' yn Llundain unwaith i fyned yno am chwarter blwyddyn i weinidogaethu iddi. Anfonasant eu cais at Mr. Jones, Trelech. Rhoddodd yntau eu hachos mewn cyfarfod chwarterol o flaen y gynnadledd; ac yna gofynai pwy a. wnaent anfon, a dywedai ei fod yn meddwl y byddai yn well iddynt beidio anfon neb o'r gweinidogion ieuaino yno, am eu bod yn dyfod oddiyno yn feilchion iawn. Ar hyn cyfododd yntau ar ei draed, a dywedodd, An- fonweh Mr. G. o H- yno; nis gall y diafol ei wneud ef byth yn fwy balch nag ydyw. Gwyddai ef, a phawb yn y lie, nad oedd Mr. G. o H- ddim yn falch, ond yn unig fod yr olwg allanol ar ei wedd a'i gerddediad yn tueddu i feddwl felly am dano. Gwrandawai ar Mr. ——— ryw dro yn pregethu yr hyn nad oedd yn ddeall. Wedi y cyfarfod, gofynodd i Mr. Pa un ai fi neu chwi ydyw y dyn mwyaf deallus? 0 chwi, Mr. Griffiths, ydyw y dyn mwyaf; yr ydych yn hynach ac yn fwy o ysgolhaig na fi. Wel, meddai yntau, y mae yn rhaid nad oeddych yn deall yr hyn oeddych yn bregethu heddyw, oblegid yr oeddwn i yn methu eich deall. Mewn rhyw gyfarfod mawr dygwyddodd fod Dr. Lewis, Llanuwchllyn, ac yntau yn llettya gyda'u gilydd yn yr un lie. Wedi iddynt fyned i'w hystafell wely, dywedai y Dr. wrtho, Yr ydych chwi yn Gymro da, onid ydych ? Ydwyf, oedd ei ateb, ac y mae gwaa, gan fy mam ym gystal Cymro a minnau; oblegid yr ydym ein dau wedi cael ein geni yn Nghymru. Efallai er hyny mai Cymreigydd da oeddych chwi, Mr. Lewis, yn feddwl yn eich gofyniad. Capel Seion. T. JONES.

SCRIW Y TORIAID YN LLWYNGWRIL,…

TYSTEB Y PARCH. RICHARD HUGHES,…

SARAH JACOB.

DIENYDDIO.

GAIR AT OHEBWYR Y 'DYDD.'

CANU CYNNULLEIDFAOL.