Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
BRAWDLYS MEIR10NYDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BRAWDLYS MEIR10NYDD. Agorwyd y brawdlys uchod prydnawn dydd Mercher gan y Barnwr Syr Henry Manisty. Cyfarfyddwyd ei arglwyddiaeth yn yr ors3 f ir-1 n Mr. Beale, yr Uchel-sirydd, a Mr. GiUiith, yr Is-Sirydd, a'r gosgordd o denantiaid a gweithwyr Mr, Beale fel arferol yn eu gwisg- oedd priodol at yr amgylchiad. Ar ol darllen y commisiwn yn y Neuadd Sirol, aethpwyd i Eglwys y Plwyf, 118,Y pregethwyd yn ihagorol gan y CangheUydd Lewis, rector Dolgellau, a chaplan yr Uchel-sirydd. Dydd inu am haner awr wedi deg, agorwpd y llys eilwaith. Yu ei anerchiad i'r uchel-re:.thwyr, dywedai ei arylwyddiaeth fod yn hyfryd ganddo ganfod had oe 'd odid un peth i dd'od gerbron, mor belted ag yr oedd troseddau y sir yn myned. Wrth edrych ar y Calendar, y gofyniad naturiol oedd, I ba beth yr ydym wedi .dyfud. ymal Nid oedd ond un achos i ddyfod gerbron. Cyhuddiad ydoedd o ddiffyg gofal priodol gan ddynes o blentyn a ymddir- iedwyd i'w gofal. Fe udylaiai yr achos hwn, yr hwn nad yw yn gofyn dim sylwadau genyf, fod wedi ei benderfynu y frawdlya ddiweddaf. Wrth orphen, dywedodd ei ar- glwyddiaeth wrthynt nad oedd yn meddwl ei fodynmyned oddiar lwybr ei ddyledswydd wrth ofyn id ivnt ddweyd. a ydoedd cynal pedwar brawdlys yn y flwyddyn yn beth anyenrheidiol ai nid oe id. Yr oedd y Calendar presenol yn dystiolaeth iddynt ar y pwne; ac os oedd yr uchel-reithwyr yn meddwi datgan eu meddyliau ar y peth, yr oedd yntau yn barod i anion syniadau i'r lie priodol. Ar ol hyny, gwnaeth yr uchel- reithwyr ddatganiad i'r pwrpas ea bod oil yn unfrydol o r i«rn fod dwy frawdlys yn y flwyddyn yn ddigon, yn nghyda brawdlys o'n holl siroedd mewn man canolog os byddai eisieu.
CYHUDDIAD 0 DDYNLADDIAD YN…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYHUDDIAD 0 DDYNLADDIAD YN ERBYN GWRAIG 0 TOWYN. Margaret Rowlands, dan feichniafon, a gyhuddid o achosi marwolaeth Robert Pugh Williams. Erlynid gan Mri. Ignatius Wil- liams a Bevan, ac amddiffyrtid gin Mr. Coxon. Yr oedd y gtrcbarores yn byw yn Nhowyn, ac yn Mehefin, 1877, ganwyd plentyn anghyfreifchlaWn i'w merch yn nhlotdy Machynlleth. Fe adawodd y fam a'r plentyn, yr hwn a ddarlunid fel un oryf ac iach, y tlotdy mewn pymthegnos, ac a drosglwyddodd y plentyn i ofal ei mam (y carcharor), gan addaw talu pum' punt yn y flwyddy » am ei fagu. Y cyhuddiad oedd, fod y plentyn wedi cael ei esgeuluso a'i lwgu, a chynaliwyd Post Mortem Exmaninati ,n ar y corff gan y meddygon J. Foulkes Jones a Grisholz yn Awst diweddaf. Dywedent nad oedd yn pwyso ond haner pwysau cyffredin plentyn o'r oed hwnw, a bod llawer o b nau ddynod ar y corff'a phrofion eraill o ddiffyg digon o ymborth a gofal. Dros yr amddi ffyniad, dywedwyd fod y plentyn yn agored i ffitiau, yr hyn a dystiodd mam y plentyn er ei bod yn dyst dros yr erlyniad a thystion eraill. Ar ddiwedd tystiolaeth yr erlyniad, gofynodd y barnwr i'r rheithwyr a hoftent hwy i'r achos fyned yn ei flaen yn mhellach a chlywed yr ochrarallj ar ol yeagyngh ri am ddau tunyd, dywedodd blaenor y rheithwvr,, Mr. Lovegrove, Harlech, nad oedd digon o dystiolaethau i'w cyfiawnhau i fyned yn rolaen, ac felly daethant a dyfarniad o Dieuog. Nid oedd yr un echos arall i'w drin.
ARGLWYDD BEACONBFIELD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ARGLWYDD BEACONBFIELD. Fe fydd yn destun llawenydd i edmygwyr Arglwydd Beaconsfield, medd y World, gael ar ddeall fod gaHddo, yn ol deddfau hirho-dl- edd teuluol, lawer o flynyddau i edryeh yn mlaen atynb ar y ddaear. Bu ei dad fyw i fod yn ddwy a phedwar ugain, a'i daid, I Benjamin, Disraeli, i fod yn chwech a phedwar ugain. Nid oedd ei fam ond unarddeg a thriugain pan y bu farw; ond bu nain (mam-gu), Mrs. Seybroot, fyw i fod yn ddeg a phedwar ugain mlwydd oed. Caffed yr ben greadur fyw hwyaf y gallo, ond goreu po gyntaf iddo farw i bethau politicaidd, debygem ni.
., NEWYDDION POLITICAIDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
NEWYDDION POLITICAIDD. Y mae y Prifweinidog wedi anfon allan wahoddiad at ei bleidwyr i giniawa gydag ef, yrlhyn sydd fletenbrawf fod rhytel boliticaidd ar ddechreu. Nid oes ond mis eto hyd nes egyF y Senedd. B dd y Llywodraeth mewn yehydig ddiwrnodau yn tynu rhaglen o'i gwaith yn y Senedd dyfodol. Y cwestiwn mwyaf dyrys heb ei benderfynu ydyw pwnc yr addysg colegfcwl yn yr I^e ddon. A feiddia y Llywodraeth ddwyn un mesur yn mlaen mewn perthynas iddo? A oes ganddynt ddigon o wroldeb i gyffwrdd âg ef o gwbl1 Bron na feiddient dd'od a mesar yn mlaen er's ychydig wythnosau yn 191, ond erbyn hyn y maent wedi newid ea meddwl o herwydd fod amgylchiadau yn newid. Y maent yn teimlo nad yw eu seddau yn ddiogel o gwbl, ac o gaulyniad y gallai y pwnc tod yn faen tramgwydd ac yn graig rhwystr iddynt, a bod yn foddion i'w dymchwelyd o'u swyddi a'u seddau. Mae yn ofnus mai Senedd ddiffrwytk fydd y nesaf, fel eu holl ragflaen- oriaid.. Taenir y gair fod larll Beaconsfield yn bleidiol i osod treth ar nwyddau a ddygir i'r wlad hon, a'i fod am roddi toll ar fasnachwyr cotwm yr Unol Daleithiau, er mwyn enill tfafr sir Lancaster, yr hon sydd yn raddol wrthgilio oddiwrtbo o herwydd ei driniaeth ef a'i gydswyddogion o Arglwydd Derby, yr hwn sydd fel duw bach yn y sir h6no. Nid amheuem ryw lawer ar wirionedd yr haeriad, o herwydd y mae efe wedi newid ei farn lawer gwaith. Y daadl gryfaf yn erbyn y rhyfel Affghanistanaidd ydoedd ei eiriau ef ei hun yn ystod y rhyfel diweddaf ag Affghanistan, o dan weinyddiaeth Ar- glwydd Palmerston. Ae wrth ddweyd ei fod yn ffafriol i roddi toll ar y nwyddau tramor, dy lid cofioei fod yn cyhoeddi i'r byd drwy ei weithiau llenyddol yn ystcd ei ymosodiad ar Syr Robert Peel, mat masnach rydd oedd prif arwyddair y blaid Doriaidd. Ond gallem feddwl na fyddai myned yn groes i'w gyd- swyddogion, yn enwedig pan y mae dynion e safle Syr Mathew Ridley a Syr Massey Lopes yn siarad mor wresog o blaid masnach rydd. Taenir y gair fod Mr. JohnBevan (Rhydd- frydwr), diweddar Uohel-sirydd swydd Catu- bridge, yn myned i ymgeisio am eisteddle y sir, yn erbyn yr ymgeisydd Ceidwadol, Mr. Hicks. Cynaliwyd cy'arfud brwdfrydig yn Neuadd Masnach Rydd Manchester dydd Maw»th diweddaf. Mr. R. -A.. Phillips, A.S. dros Bury yn gadeirydd. Yr oedd Syr Thomas Rugby, A.S., a Mr. Jacob Bright, A 8., yn bresenol. Cvnygiodd Mr. Robert Leake, cadeirydd y Gymde thas Ryddrrydol, yr hyn a gymeradwj td gany cyfarfod, set ei bod yn uairydol yn galw ar Mr. Gladstone i ym- geisio am yt eisteddle a fyddai yn wag yn yr j | etholiad nesaf, o herwydd ymddiswyddiad ( Syr Thomas Rugby, A.S. o honi o herwydd gwaeledd a henaint. Nid peth bach oedd fod y dymuniad wedi cael ei gymeradwyo gan ddeg mil ar hugain o Ryddfrydwyr y ddinas, ond peth arall oedd a wnai Mr. Gladstono addaw sefyll ac yntau yn rhoddi eisteddia lie mor bwysig a Greenwich i fyny; ond digon o reswm iddynt dros ofyn iddo oedd, pwy oedd mor gymhwys i gynrychioli miloedd o weithwyr oedd yn credu fod eu dyfodol disglaer yn beth posibl trwy weithiad allan yr egwyddorion ac y mae y boneddwr anrhydeddus wedi bod yn eu dadleu trwy ei oes. Cefnogwyd y cynygiad gan Mr. Henry Lee, a chariwyd yn unfrydol a chyda taranaa o gymeradwyaeth. Anerchwyd y cyfarfod gan Syr Thomas Bazley, A.S., a Mr. Bright, A.S., y rhai a gondemniant wladlywiaeth dramor y llywodraeth yn ddidrugaredd. Dydd Mawrth, traddodedd Syr W. V. Harcourt, yr aeloH Rhyddfrydig dros ddinas Oxford, yr araeth fwyaf tanllyd, beirniadol, a chynwrysfawr a draddodwyd ganddo erioed, J yr oedd ei arabedd a'i dalent areithyddol I tuhwnt i ddim glywyd ganddo erioed. Dywedai yn rywle yn nghanol ei araeth ar- dderchog, Pe buasech yn y Senedd y mis diweddaf, buasech yn cael eich taro gan y cyfnewidiad oedd wedi cymeryd lie yn ysbrydoedd y ddwy blaid er mis Awst. Ni welais erioed, meddai, leiafrif mor galonog, a'r mwyafrif drachefn mor isel a digalon yn nghanol eu buddugoliaeth. Pryd bynag y rhoddwyd ar law etholwyr i ethol aelod yn ystod y chwe' mis diweddaf i roddi eu Uais i mewn, cafwyd fod canoedd a miloedd yn llai o etholwyr wedi pleidio y llywodraeth bres- enol, a miloedd yn fwy o etholwyr wedi coudemnio ei holl weithredoedd. Byddwph yn galonog, y mae amser da yn dyfod, a hyny yn fuan. Nid wyf yn synu fod y Llywodr- aeth yn.crynu wrth yr enw dadgorfforiad, yr hyn oeddynt unwaith mor hyderus yn ei daflu i'n gwynebau; na, ni wnant hwy ddadgorffori y Senedd, ond cyn hir fe'i I dadgorfforir hwy. A chredaf yr amser hwrxw y llefara y genedl yn groew o blaid eu I hawliau henafol, a chondemniant mewn modd eglar y mwyafrif sydd wedi bod mor anffydd- Ion i'w hetholwyr, ac wedi darostwng drwy gyfundrefn ffol barch ac urddas y genedi Brydeinig. Tystiolaeth pawb yw, mai dyma yr araeth odidocaf ddaeth oddiwrtho erioed, y mae y Rhyddfrydwyr yn siarad am danofel blaenor eu plaid yn y dyfodol. Nos Fercher diweddaf, cynaliwyd cyfarfod mawro etholwyr bwrdeisdrefi Halifax, pryd yr anerchwyd hwynt gan yr aelodau Rhydd- frydig Mri. Stansfield a Hutchinson. Dy- wedai Mr. Stansfield, ar ol datgan ei farn o blaid dadsefydliad a chyfyngiad y fasnach feddwol, ei fod yn wrthwynebol i bolicy y Llywodraeth mewn achosion Dwyreiniol. Priodolai y marweidd-dra presenol mewn masnach, a'r dyoddefaint presenol ar hyd a lied y wlad, i wladlywiaeth beryglus Beacons- field, a dywedai mai nid efe a Salisbury ddaeth a herJdwch o Berlin. Darluniodd rvfel Affghanistan fel un anghyfiawn a diraddiol, a bod y llywodraeth bresenol yn I byw mewn dirgelwch a thwyll. Cydanai Mr. Hutchinson yn mhobpetb a ddywedai Mr. Stansfield. Pasiwyd pleidlais o ymddir- ied yn y ddao yn unfrydol.
DEDFRYD MARWOLAETH. ,
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DEDFRYD MARWOLAETH. Yn Mrawdlys Maidstone, dydd Idn, I oafwyd Thomas Bartlett Mumford, llongwr,