Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

yr holl fyd gwareiddiedig. Ond y mae efe yn rhywbeth heblaw a mwy na phregethwr. Mae yn un o'rgweithwyr mwyaf dychrynllyd (ni fedrwn gael gair gwell), yn ei ddydd. Ychydig o bobl y tu allan i'w gynulleidfa, lieu y tu allan i gylch y rhai hyny ydynt wedi ei wneud yn fusnes neillduol i chwllio allan, fedr ffurfio y ddirnadaeth leiaf o gyfartaledd a belaethrwydd y canghenau sydd gan Mr. "Spurgeon wedi eu sefydlu i wneud daioni, y rhai a lywodraethir ac a gynelir ganddo ef ei hun yn benaf. Mae terfyniad cyfnod obum' tnlynedd ar hugain o lafur caled yn ein temtio i wneud adolygiad byr ar ei weithgarwch, ac i goflhau yr argraffiadau a gafwyd trwy ym- weliad personol a'r sefydliadau y mae efe yn -fywyd ac yn enaid iddynt. Mae hanes y dysteb ardderchog a gafodd yn ddiweddar, ynddi ei hun, yn esboniad addysgiadol o'r dull hynod sydd gan Mr. Spurgeon o drin pethau. Fel ag yr oedd dathliad ei briodas a'i eglwys yn agoshan, awgrymwyd y byddai i'r cyfleusdra gael ei gymeryd i gyiwyno anrheg iddo teilwng o'r achlysur. Pan ddaeth y cynllun i glustiau Mr. Spurgeon, ni cheisiodd ei ddigaloni mewn un modd. 1'r gwrthwyneb, cymeradwyodd ef yn fawr. Gadawer iddynt godi faint fyn- ont o arian; po fwyaf y bydd y swm, mwyaf y bydd ei foddhad yntau-yn unig na chy- tnerai gymaint a cheiniog o honynt ei hunan. Yr oedd yr Elusendai mewn angen am wadd- oliad; gadawer i'r deyrnged briodasol gael ei rhoddi at yr amcan hwnw. Nid yw cynull- leidfa y Tabernacl ya arferol ag ymddadleu Wti gweinidog; derbyniwyd ei gais yn llawen ac ar unwaith, a'r canlyniad oedd, i'r swm anrhydeddua o £6,500 gael ei godi trwy offer- ynotiaeth y Bazaar, a thrwy hyny, i gartrefi yr hen wragedd gael ei sefydlu ar gadarnach sail nag erioed. Mae yr Elusendai yn sefyll yn Station-street, allan o New Kent-road, a phreswylir hwy gan ddwy ar bymtheg o Wragedd oedranus. Yr hynaf yn y drefedig- aeth fechan yma ydyw Miss Gay, yr hon sydd yn awr yn ei 86ain mlwydd o'i hoedran, ac wedi bod yn aelod o'r gynulleidfa sydd yn hresenol dan ofal Mr. Spurgeon am 72 o flynyddoedd. Un arall o'r boneddigesau ydyw Miss Bonser, yr hon sydd wedi bod yn dy- oddef oddiwrth gryn brofedigaeth ya ystod ei bywyd hirfaith oblegid ystyfnigrwydd y bobl yn sillebu ei henw yn Miss Bonsor. Mae hi yn 75 oed, ac mor hoew ar ei throed a phe na buasai ond ugain. Mae yn ysboncio 0 gwmpas ei hystafell yn gyffelyb i robin goch, ac yn clebran mor bleserus wrth ddeagrifio ei hamrywiol fendithion a phe buasai yn derbyn ei mil o bunau yn y ■ flwyddyn. Meddai Miss Bonser gofrhagbrol, yr hwn a rydd mewn gweithrediad drwy gyfeirio at faterion cysylltiedig a'r Eglwys o ba un y mae yn aelod. Y mae fel math o Almanac Eglwysig byw, ac wrth edrych i lawr ddalenau ei bywyd chwi gewch, nid cofnodion o enedigaethau a marwolaethau o freninoedd a brenhinesau, ond y dyddiad y bu Dr. Rippon farw, y gwnaed Mr. Hwn a Hwn yn ddiacon, ac y bedyddiwyd Mr. Rhywun .Arall. Addurnir muriau ei hystafell A darluniau o dduwiuyddion y,madawedig-Dr. Hippon, Dr. Adam Clarke, y Parch. James -Smith, ac eraill. Mewn un lie o anrhydedd yno ceir darlun ardderchog o Mrs. Fry, y gymwynaawraig ddaionus, gwyneb siriol a Wygaid tyner yr hon sydd wedi bod yn dal i edrych ar Miss Bonser er ya di-os 33 o flynyddoedd. 'Mi clywais hi yn pregethu am dri chwarter awr fan leiaf,' ebai Miss Bonser, gan edrych yn gariadus ar y darlun, ac i bob ymddangosiad ya ystyried hyny yn orchwyl ,rhyfeddol mewn' gwraig. Mae ysgoldy yn L*hedeg dros yr Elusendai uwchben. Yn gysylltiedig a'r Tabernacl y mae ysgol gy- hoeddus, lie y derbynia 360 o blant addysg elfenol o'r fath oreu. Mae yr ysgol bob amser yn llawn. Nid oes ar bobl cymydogaeth Kent-road eisieu gwybod dim yn mhellach na'i bod yn ysgol dan nawdd a gofal Mr. Spurgeon. Iddynt hwy y mae yr enw hwn yn cydredeg a phebpeth sydd yn ymarferol, yn onest, ac yn ddidwyll; a thyda golwg ar yr addysg a gyfrenir yn yr ysgol hon, ni ddywed neb fod eu hymddiriedaeth yn cael ei roi mewn lie anmhriodol. Ond yinataliwn hyd y tro nesaf.

.HANESYN HYNOD.

DOLGELLAU.

1-LLANDDERFEL.

BALA. ,'