Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

LLANUWCHLLYN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLANUWCHLLYN. SYR,- Mynych y dangosir gymaint rhagorach yw yr oes bresenol na'r ddiweddaf, ond ni sonir gymaint yn waelach ydyw —mewn rhai pethau, beth bynag. Nid ydym Di, Eglwyswyr presenol y plwyf hwn, yn deilwng o'n cymharu &'n hrodyr yn yr oes o'r blaen yn y sel a'r eiddigedd a ddygent dros lwyddiant yr Eglwys. Yr ydym ni yn petruso gormod mewn pertbynas i'r motion i gyrbaedd yr amcanion hyn, gao anghofio fod yr amcan, bob amser, yn eyfreith- loni y moddion, bydded ef dda neu ddrwg ynddo'i hun. Dywed y prif-fardd Seiscig, 'All's well that ends well;' ac mae hyny yn eithaf gwir yn y eysylltiad hwn. Wrth cbwilio am rywbeth yn ddiweddar, dy- gwyddais ddyfod o hyd i hen lyfr tra dyddorol ar hanes yr Eglwys mewn rhan o'r dvwysogaeth, a'r hwn a gynwys amryw wersi buddiol i ninau yn yr oes bresenol. Mae wedi myned yn rby fregus i mi allu dweyd pa blwyf a olyga; ond yind iengys mai tua'r blynyddau 1778-79 yr ysgrifenwyd ef; felly, oddeutu can' mlynedd yn oJ, chwi welwch. Mynych yr eoliwiadau a gaent gan yr Ymneillduwyr y pryd hwnw, megys ninau yn awr, nad oedd neb ond rhai wedi tramgwyddo wrthynt hwy, a thlodion y plwyf-dysgyblion y torthau, fel y gelwid hwynt- yn arfer mynychu'r Eglwys, neu rai a chanddynt rhyw elw tymhorol, megys dyfod yn ddeiliad tir, ae felly jn y blaea, mewn golwg; ac eto, yr oeddynt yn ddigon beiddgar i guro yr Eglwys, er mai Eglwys- wr penboeth oe d goruchwyliwr yr yetad yn y lie. Yn bur ffodus hefyd i'r gelynion hyn, dygwyddai mai un dibidio o bobpeth (ond iddo ef gael y degwm) ydoedd ficer y plwyf ar y pryd. Ond daeth tro ar bethautrwy drugaredd, dilynwyd ef gan wr oedd yn Eglwyswr yn mhllth Eglwyswyr, ac Did hiry bu ef a'r goruchwyliwr cyn ymgyngbori l'u gilydd pa fodd i ddiogelu parch a bri yr Eglwys. Pender- fynodd y ficer wneud ei egni; aeth heibio i edrych am gleifion, a rholdai ei gyboeddiad i bregethu yn fynych yn anedd-dai hyd yn nod yr Ymneillduwyr eu hunain; a tbrwy hyny, enillaiserch pawb yn ddi- wahaniaeth. Sefydlodd ef a'r goruchwyliwr gyfun- drefn berffaith o gosbau a gwobrau. Pwy ffermwr bynag a feiddiai sarhau yr Eglwys, byddai yn rhaii iddo DailI ai ymddibeuro yn ddioed, neu ynte ym- adael A'i dir, neu oddef gwg yr Yswain, fel y gelwid ef byth wedi hyny. 0'r ochr arall, denent rai i'r Eglwys drwy addaw iddynt gael y fllermydd cyntaf elai yn wag. Gwnaethai y goruchwyliwr, coffa da am dano, ddiofryd y byddai iddo wneud gwrandawyr yr Eglwys yn ffiermwyr parchasaf yr ardal, a sicrhai iddynt y tamaid brasaf. Gweithred- odd hefyd yn unol &'i ad lewid: aeth un Alarm yn wag drwy afiechyd y tenant, a llanwyd ei le yn ddioed gydag Eglwyswr, yr hwn a fuasai gynt ya Annibynwr. Aeth ffarm fawr arall yn wag drwy farwolaeth y tenant, ond gan na anturiai un Eg- lwyswr, caniatawyd, am y tro, i Annibynwr symud iddi o un lai. Llanwyd lie yr olaf gan Eglwyswr (hen Annibynwr eto), a symudasai o le llai dra- chefn. Llanwyd lie hwn drachefn gao glochydd y plwyf, yr hwn, wrth gwrs, a ddilynwyd yn ei swydd gysegredig gan Eglwyswr egwyddorol a gwybodus arall. Chwi welwcb, fy anwyl gariadus frodyr, mor ymdrechgar ydoedd ein taiau, gynt, er eangu ter- fynau'r Eglwys rhagor ydym ni yn awr. Gadawer i ninau ddeffroi ati o ddifrif, c/n y gordoir ein gwlad. Hwyrach y cawn air gan rai o honach ar hyn. Yr eiddocb, EGLWYSWB.

AT E. JONES A TEGWYN.

EISTEDDFOD MEIRION, A GOHEBYDD…

———mI' AT DYFED GWAWDRYDD.…