Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
GARBTOMAEIFR.
GARBTOMAEIFR. TBANC A DYLANWAD: CYD-DDIGWYDDIAD. 1791, Mawrthyr 2, bu farw John Wesley, M.A." 1877, Mawrth yr 2, Cyhoeddir y Rhifyn cyntaf o'r (gwyliedydd. Er byw yn hir a byw mewn parch, Is heulwen; marw raid! Gwehelyth Adda, pan daw'r arch, I'r bythol fyd r'ont naid. All! Wesley ddoeth, pe gall'sai lln 'Th edmygwyr, gadw draw Erch ingol ddyrnod angeu du, Ni chawsit deimlo 'i braw, Ond 'r ail o Fawrth, yr uchod flwydd, Seliedig gallu'r llawr! Rhaid oedd perffeithio 'th hynod Iwydd Yn neithior Iesu mawr! Am hirfaith oes, clir fu dy rawd; Dy lwybrau, dysglaer hwy; Ac er dy lafur, gwych dy ifajvd !— Cei fraint yn Salem mwy! Rhyw seraph oeddit yn dy ddydd, Yn dwyn newyddion da, I wael drueiniaid athrist, prudd, Yn ngafaol marwol bla. D' angylaidd wedd, dy nefol lais, A swynent dorfoedd byd Yn rhwydcl-heb uchel-floedd na thraia— Caet sylw pawb bob pryd. Wrth iti dramwy trwy ein tir I son am iawnol waed, Ca'dd miloedd trwot hedd^vch gwir, A llygredd dan eutraed. Clir efengylydd, o'r iawn ryw, A oeddit,—cenad glwys Yn teimlo 'th rwymau i dy Dduw,"— Addysgydd ffraeth, ond dwys. Rhyw nefol drydan, mawr ei rym, Oedd dy hyawdledd pur, Drywanai, fel rhyw gleddyf llym, Ddwfn wreiddyn moesol gur. Dy Dduw 'th eneiniodd di o'r Nef, Ail Baul o'e't yn y byd; Rhyw Ddwyfol nerth ddilynai 'th lef, Yn mhobman, a phob pryd. Ysgubau gai, fel gwlith y wawr, r.w casglu, ddydd dy Dduw; Dy fri, pan ddywed Naf, fydd mawr, Da was gofalus gwiw Ac er dy farw, byw yw'r Gwaith, Parha 'th ddylanwad di, Trwy eang wledydel daear faith Dy enw sydd mewn bri. Dy Feiblaidd gredo, perchir hwn Gan filoedd is y ser Tra'n gweithio ar eu moesol rwn, Am dano molant Ner. Llefaru'r wyt o oes i oes, Trwy 'th hil, o blaid y: ffydd ■ Miliynau geir, yn bur eu moos, Yn deyrngar it' bob dydd. Yr ail o Fawrth, 'r ail uchocl flwydd, Gwyliedydd, allan ddaw; Saif yn dy rych :—mawr fyddo llwydd Yr esgud was difraw Fel angel hedd, tramwya'n gwlad, Bendithion ddug i'n tir Gwasgara hwy, hob dwyll na brad, A nodda'n ddewr y gwir. Fe barcha yntau 'th goffa di, Ac amddiffyna 'th gred Heb ball na rhua mawrha dy RI; I wneuthur da y rhed. Boed iddo oes ddefnyddiol faith,- Un fel a gefaist ti Tra'n fyw y bo ein henwog iaith, Boed yntau mewn mawr fri! HYWYN.
CREFYDDWYR A DYLEDSWYDDAU…
CREFYDDWYR A DYLEDSWYDDAU DINESIG. SYR,—Yr wyf yn gweled ar eich Rhaglen, y bydd i chwi ganiatan i Ohebwyr draothu eu lien ar. wahanol bethau fyddent yn tueddu i ddysgu a llesau. Mae genyf finau fy lien, ac yr wyf yn gofyn caniatad i'w thraethu, gan gredu y bydd codi y peth i sylw or lleshad. Argyhoeddiad dwfn a llwyr fy meddwl or's amser maith yw, fod crefyddwyr, fel rheol, yn mhell o fod yn ddigon blaenllaw gyda dyledswyddau dinesig; ac fod moesoldeb cyhoeddus yn cael anfanteision dybryd o'r herwydd. Dyma un engraitft-y Byrddau Lleol. Yr wyf yn credu mown Local Board fel cyn- llun cyliawn a manteisiol i gadw ein troti mewn trefn offeithiol, a dyladwy; yn wir yr wyf yn credu yn gadarn na ddylai un dref fod hebddo. Ond mae yn rhaid i mi gyfacldef fod fy ffydd mewn llawer o fyrddau yn rhyfeddol o fach, am fy mod yn gwybod pa fath rai 8ydd arnynt. Er cae y peiriant mwyaf rhagorol, os na cheir peirianydd cymwys, nid diogel fydd teithio; ac er cael cynllun da, os na cheir dynion iawn i'w weithio allan, bach iawn fydd y fantais o hono. Yr wyf yn ofni fod y llywodraeth led mewn ami fan yn cael ei gadael yn ormodol yn nwylaw darllawyddion, a thafarnwyr, a man-dwrneiod, a rhai sydd yn byw yn yr un awyr a hwynt. Mae gan y rhai hyn yn ami bwyntiau i'w cyrhaedd trwy fod ar y byrddau heblaw boddloni uchelgais. Ceir hwynt yn dyfod yn mlaen yn benderfynol, ac yn cymhell eu hunain ar bwys yr hyn a fydd ar y pryd yn boblogaidd; ac y mae dynion da, er mwyn arbed costau, a chythrwli etholiad, ac am fod ganddynt ddigon o ofalon o'r eiddynt eu hunain, yn cilio yn ol ac yn sefyll draw. Y canlyniacl yw fod yr awdurdod yn myned i ddwy- law nas gellir dysgwyl mwy o foesoldeb oddi arnynt nag a wasanaetha yn unig i ymddangosiad o barch- usedd. Cafwyd digon o brofion, er's deng-mlynedd- ar-hugain, fod dynion o syniadau baa am wir foes- oldeb, tra mown swyddau o awdurdod, a galla, yn gwneyd drygau fwy nag a wnaeth Alexander. Gwyddom yn dda pa fath rai oedd mwyafrif ein ■>. Hynadon Heddwch yn y cyfnod hwnw, a gwyddom fod tafarnau mor ami a llin-y-mynydd yn Ffrith- ooed-y-bryn, mewn canlyniad. Nid wyf yn meddwl mai eu bwriad, a'u hamcan, wrth ganiatau trwy- ddedau mewn modd mor afrad, oedd meddwi trigolion gwlad a thre'. 0 na, nid oeddynt yn bwriadu hyny mwy nag yr oedd Jeroboam mab Nebat yn bwriadu gwneyd Israel yn eilunaddolwyr wrth wneyd y ddau lo aur Eu hamcan, bid siwr, oedd chwanegu gwerth property. Aberthwyd y wlad i Bacchus nid or ei fwyn ef, druan, ond er mwyn bnddiant arianol! Nis gallasem ni ddim—yn uniongyrchol, modd bynag- wrth bcnodiadau yr ustusiaid ond y mae "genym lais a dylanwad a vote yn otholiad ein Byrddau Lleol. Ac mae o'r pwys mwyaf caol dynion arnynt a fyddont yn meddu golygiadau clir, a diamwys, a phenderfynol, am foesoldeb cyhoeddus. Mae mil ac un o ffyrdd trwy ba rai y gall dynion o'r fath, yn y safle hono, wneyd lies i foesoldeb; a chynifer a hyny o ffyrdd hefyd, ag y gall dynion yn y fath safle, heb y fath syniadau, wneyd dirfawr niwed a cholled. Gobeithio, syr, y bydd i'r Gwyliedydd gymeryd mewn llaw i argyhoeddi pobl grefyddol ein trefi, ag sydd mewn amgylchiadau manteisiol i hyny, y dylent ymgymwyso, yn mhob undeb, i gymeryd lie blaen- llaw gyda symudiadau cyhoeddus—nid er mwyn uchelgais a chlod; nid er mwyn amcanion sectol, ond or mwyn cael eymaint o ddylanwad moesol, iach, ag fyddo yn bosibl i'n cyrfE cyhoeddus. Maddeuwch i mi am dresmasu cymaint ar eich gofod fy nadl yw, fod y pwne yn un pwysig; a chyda'ch caniatad, fe alIai. y bydd genyf air i'w ysgrifenu eto.-Yr eiddoch, &c., Cn-IRO LIAVYD.
YMNEILLDUWYR YN PRIODI YN…
YMNEILLDUWYR YN PRIODI YN EGLWYS LOEGR. MR. GwYHEDYDD,—Rhyfodd yr argraff y mae ar feriad yn ei adael ar y creadur. Yn rhai o Ynysoedd Mor y Do mae hongian modrwy wrth y trwyn yn ddefod wladol er cyn cof a chred y gwirioniaid yw, fod hyny yn hanfodol i ddynoliaeth. Yn Eglwys Loegr yr arferid priodi yn y canrifoedd diweddaf; yno y cysylltwyd ein rhieni, ac erbyn hyn myn rhai ei fod yn hanfodol i briodas ymddangos o flaen offeiriad y plwyf, a phlygu glin ger bron allor y llan. Pe gwelem aelod o'r Eglwys Wladol yn priodi mewn capel, dy wedwn yn y fan, Dyna ddyn sydd Bglwys- wr oddiar ddigwyddiad, nid oddiar egwyddor ac nid yw yn werth brwynen i gymdeithas ac wrth Ymneill- duwr a elai i r llan i briodi, dy wedwn, Digwyddiad noeth yw yr achos dy fod ti yn Ymneillduwr, ae nid argyhoeddiad o ysgrythyroldeb Anghydffurfiaeth. Nid oes gan ddynion o'r .fath un rheswm dros eu Hymneillduaeth. Maent felly yn unig am mai dyna oedd ffasiwn y He eu dygwyd i fynu ynddo, ac mai at yr enwad hwn, neu yr enwad arall, yr arweiniwyd hwy gan eu rhieni. Crefyddwyr yr amgylchiadau, ac nid yr egwyddorion, yw y rhai hyn. Pe buasent wedi eu geni yn Twrei, buasent yn ganlynwyr Mahomet; os yn China, buasent yn Uefain hwre gyda Confucius; neu pe yn Rhufaincusanasantfawd ei sancteiddrwydd y Pab.SgNid y pwnc yn awr yw dywedyd dros, nac yn erbyn Eglwys Esgobaethol, Ymneillduaeth, nac un grefydd arall, ond ar i'r bobl fod yn gyson a hwy eu hunain. Os yw y dyn yn dewis bod yn Eglwyswr, wel, bydded felly, ond iddo fod yn Eglwyswr cyson; o'r tu arall, os yn Ymneill- duwr, bydded yn Ymneillduwr cyfan. Wedi sylwi cymaint a hyna, goddefer i ni roi gair neu ddau o gynghor 1. Na lywodraether ni gan amgylchiadau, ond gan Ily egwyddorion; os yn Ymneillduwyr, bydded fod genym resymau dros fod felly heb hyn ni byddwn end bradychu ein hochr. 2. Gan fod rhyddid gan yr Ymneillduwyr i briodi yn eu capelau, mwynhawn y fraint hono trwy gof- restru, &c., ein lleoedd addoli. 3. Tra yn Ymneillduwyr, peidiwn, rhag cywilydd, a myned i'r llan i briodi, fel na byddom yn gwarad- wyddo ein proffes, dynoethi ein gwendid, a rhoi achos i'r personiaid a'r clochyddion chwerthin yn eu llewis at ein llwfrdra a'n penwendid. 4. Bydded i ni ymdrechu dwyn ein hunain ao eraill i wybod, ac yna trwy rtls Duw, ymddygwn yn cvson a rheswm ac a Gair Duw. j Gastell Comfy. Y G\valCu.
IEIN HADDOLDAI DIDDYLED.
EIN HADDOLDAI DIDDYLED. SYR,—Trwy lawe* ymdrechion dyfal ac egniol y mae amrai o'n haddoldai, naill ai yn ysgeifn eu beiohiau, neu ynte wedi eu owbl ysgafnhau. Un o'r anhawsderau a deimlir o dan y cyfryw amgylchiadau ydyw diogelu parhad o sel a brwdfrydedd gyda chadw y cyllid i fyny. Tuedda llawer at fod yn fwy dipfal gyda thalu am yr eiateddleoedd, a chyda chyfranu at chwyddo trysorfa y capel yn y cylch- wyliau. Y mae y demtasiwn yn un gref a hawdd ymollwng gyda hi. Ond y mae ychydig iawn o ystyriaeth uwoh ben y mater yn ddigon i argyhoeddi pawb fod yr ymollyngiad yn beryglus a niweidiol. Nid yr amcan gyda cliddyledu capelau ydyw cefnogi cybydd-dod a diogi; yn hytrach, yr amcan ydyw diogelu nerth adchwanegol i ddwyn y gwaith mawr yn ei flaen. Dylid meddwl a ohynllunio rhyw fodd- ion i wrthweithio yr adwyth hwn. Y mae ar fy meddwl i awgrymu un neu ddau o beth- au a gyferfydd &'r angen. Un ydyw, ffurfio yr arferiad o gyfranu yn gyson at gyllid y Cyfarfod Chwai-terol. Mae cynnaliaeth y weinidogaeth yn un o brif am- canion dilead dyledion capeli. Cyfarwydda ein Model Deed yn y cyfeiriad hwn. I ddiogelu hyn, byddai yn ianteisiol ffurfio yr arferiad o drosglwyddo rhyw swm yn chwarterol at cyllid y gylchdaith. Ni ddylai yr un Chapel Trust Fund, pa mor drwm bynag y gofynion, gael ei hesgusodi rhag hyn. Ni olygir fod y Trust Fund sydd o dan faich trwm i gyfranu llawer; ond o dan amgylchiadou cyffredin ,,y ni ddylai y Trust Fund gael ei hesgusodi er i'r baich Sod yn wasgedig. Peth hawdd mewn canlyniad fyddai chwyddo y swni gydag vsgafnMd baich y Trust, a phan y deuai y Trust yn gwbl rydd, byddai yn fEordd dyledswydd yn y cyfeiriad hwn. Am hyny argymhellir i'r arferiad gael ei ffurfio. Boed y ddyled yn gloffrwm, oud liurfier yr arferiad, a bydd channel wedi ei hagor i lanw cyfoeth y Trust gael lie o ymweithiad rhosymol a chyfreithlawn. Mae clibyniad cyllid yr addoldy ar y weinidogaeth yn ffurfio dadi grof dros i hyn gaol ei wneyd. Yr awgrym nosaf yw, cynorthwyo Trust. Funds isel a gwasgedig. Onid peth hawdd i Trust ambell gapel mewn cylchdaith fyddai rhoddi can' punt ar unwaith i esmwythau beichiau y rhai sydd yn cael eu llethu gan ddyled ? Nid wyf yn sior iawn na flaenorir arnom fel enwad gan Iwythau eraill yn Israel yn-y poth hwn. Nid peth anghyifredin yn mhlith yr Annibynwyr, er nad yw yr egwyddor gyfundebol yn cael ei chydnabod ganddynt, ydyw i eglwys grof a chlyd ei hamgylchiadau, naill ai cym- eryd cyfrifoldeb dyled lie gwan, neu dalu y ddyled ar unwaith. Onid oes genym ni wers i'w dysgu yn y mater? Gall fod pethau tebyg wodi cymeryd llo yn ein plith ninnau, ond nas gwn am danynt. Yr awgrym nesaf yw, ymgymeryd A chodi capel lie nad oea un mewn ardal lie y gellir codi achos Wesleyaidd. Un o'r prif anhawsderau ar ffordd cychwyn achos mewn lleoedd newyddion ydyw diffyg moddion i godi capelau. Mae amgylchiadau pethau wedi newid yn y wlad. Yn y dyddiau gynt, gallesid cychwyn achos mewn anedd-dy neu vsgubor; end Did folly yn awr. Y mae yn argyhoeddiad cy- ffredin yn awr y rhaid cael lie wedi ei noillduo i addoli Duw, a hwnw yn lie cyfleus, cyn y gellir dysgwyl am achos. On'd cael modd i godi capel yn 01 gofynion oin Chapel Committee ydyw yr anhaws- der. Wel, dyma un allwedd i'r dyryswch, cael gan ymddiriedolwyr y capelau sydd yn ddiddyled, ao yn esmwyth arnynt, i gyfranu swm teilwng i gyfarfod a'r angen. Yr awgrym olaf yw, chwyddo ein Trysorfeyddj Talaethol. Mae y gwasanaeth a weinyddwyd gan ein Loan a'n Grant Funds yn anhraethol. Mae amgylchiadau esmwyth llawer o'n hen addoldai, ,,y a'r addoldai newyddion ardderchog sydd yn britho ein Talaeth, yn gofgolofnau arddangosiadol o werth y Trysox-feydd hyn. Ond y mae nerth y Trysorfeyd, hyn yn dibynu ar yr adgyflenwad a dderbyniant. Gresyn na byddai i hyn gael ei ystyried. Mae amrai o'r ymddiriedolwyr fu yn fwyaf awchus am dderbyn cynorthwyon yn lied hwyrfrydig i feddwl o ba le y mae y Trysorydd hyn i dderbyn eu hadgyf- lenwad, ac ychydig bach yn fwy hwyrfrydig fyth i gyfranu yn ol eu gallu tuag at chwyddo y Trysor- feydd. A gaf alw sylw ein hymddiriedolwyr at yr ystyr- iaethau awgrymol hyn. Maddeuwch i mi, Syr, am gymeryd eymaint o'ch gofod at fater mor sych ac anmhoblogaidd; ond yr oedd pethau o'r fath yn croni yn fy mynwes er ys talm, pe buasai cyfrwng cyfleus i'w hamlygu yn gyraeddadwy. Diolch am I" G'Wyliedydd.- Y I' eiddoch, Yr Ala las. PEBLIG. Glanau y Fenai.
COMit Ún ttlùhI f tmrnx.
COMit Ún ttlùhI f tmrnx. JOE BACH, YR YSGUBWR. Yr oedd Joe bach yn dychwelyd adref, ar ol bod yn ysgubo crossings yr heolydd trwy y dydd, wedi n gweithio yn bur galed, ond heb ennill ond ychydig geiniogau. Rhywfodd neu gilydd, fel yr oedd yn digwydd weithiau, yr oedd A penny, please sir,' a moesgyfarchiadau cyifelyb Joe, tra wrth ei orchwyl Ily y diwrnod hwnw, wedi ffaelu a chael iddo ond ychydig iawn yn wir; ac yr oedd yn dychwelyd adref yn flinedig iawn ei gorff a'i ysbryd. Yr oedd ei ysbryd yn fwy trymaidd wrth gofio am yr hofel druenua a thlawd i ba un yr oedd yn awr yn dych- welyd, yr hwn a alwai yn gartref," ac wrth gofio am y tad meddw oedd yno yn ddiau yn ei aros, a'r hwn oedd wedi ac yn gwneyd; pawb o'r teulu yn druenus, ac yn êU newynu i farwolaeth trwy ei af. radlonedd creulawn. Wel, meddwn, yr oedd Joe yn hwylio ei gamrau yn araf tuag adref, gan feddwl am y pethau hyn, pan, wrth fyned heibio cornel un o heolydd iselaf y brifddinas, efe a glywai sain can a moliant, fel tyrfa yn cadw gwyl." Erioed ni ddisgynodd seiniau mwy hyfryd ar glust Joe, druan; a nesaodd yn grynedig ond awyddus at ddrws yr ystafell o ba un y deuai y canu prydferth. Wedi cael ei hunan wrth y drws, safodd a gwrandawodd drachefn. Ie plant oedd yn canu ao wrth edrych o gil y drws efe a ganfu mai bechgyn tlawd carpiog oeddynt i gyd. Ond y canu oedd yn tyuu sylw Joe fwyaf; ac yr oedd yn ganu hearty, swynol o enau y plant bychain tlawd hyny. A dyna oeddent yn ganu;— "There is a happy land, Far, far away; Where saints in glory stand, » Bright, bright as day;" &e. That's beautifml meddai Joe, druan; ac or ei waethaf dechreuodd wylo, oblegid yr oedd yn dwyn ar gof iddo ei gartrof truenus ei hun, yr hwn oedd yn bobpeth ond yn I- bright." Trodd ymaith yn drist; end yr oedd wedi ei weled wrth y drws gan un o'r boneddigion oddifewn, yr hwn a alwodd arno yn garedig, Dowch i fewn, 'machgen i; mae yma ddigon o le." Yr oedd y geiriau mor garedig fel nad allai Joe anufuddhau am hyny efe a aeth yn araf a gwylaidd i mewn i'r ystafell, a chafodd ei hunan yn un o'r Bagged Schools lluosog a bendithfawr sydd i'w oael yn Llundain. Gosodwyd Joe i eistedd gyda'r bechgyn. Aeth un o'r athrawon i weddi yn fyr a difrifol; ac yna anerchwyd y plant ganddo ar Fab y Brenin a Meibion y Brenin," sef lesu Grist, a'r rhai a achubir trwyddo Ef, v rhai ydynt "blant," ac etifeddion hefyd." Aeth yr athraw yn mlaen i siarad yn brydferth iawn am ein Ceidwad, gan ad. rodd yr old, old story am dano yn dyfod i'r byd i gadw pechaduriaid, Ond ei bwnc mawr ef ydoedd gwasgu ar feddyliau y rhai bach tlawd o'i flaen fod Iesu Grist wedi ac yn eu oaru hwythau, ac yn dv- muno am iddyut hwythau ei garu Ef-focl ganddo fodd i'w gwneyd yn blant i Dduw—yn foibion i Frenin, bob un o honynt. Gwrandawsai pawb yn ddifrifol iawn; a phan y gofynodd y boneddwr iddynt a hoffont hwy fod yn feibion i Frenin, yr oedd un lef gyffredinol 'trwy yr ystafell yn ateb 0, yes sir!" ac nid oedd neb yn ateb yn fwy calonog na Joe bach. Ond daeth awr y terfynu; ac ar ol gweddi fer, gollyngwyd pawb adref wedi iddynt gael gwahodd- iad cynhes i ddyfod yno nos dranoeth. Uuwaito eto cychwynodd Joe tuag adrof; yr oedd y gwynt yn oor, yr oedd yntau yn llwm ac yn nowynllyd iawn, ac yr oedd yn myned tua chartref truenus; ond rhywfodd yr oedd wedi anghofio pobpeth ond yr araeth am Fab y Brenin, a bod yn feibion i'r Brenin a dyna lie yr oedd y creadur bach yn holi ei hun wrth fyned yn mlaen, Tybed a oes modd i mi fod yn fab i'r Brenin ?" ao, yn y fan, 0, mi leiciwn fod yn fab i'r Brenin hwnw!" Poor Joe nid oedd erioed wedi clywed am y fath both o'r blaen; ac weithiau yr oedd yn barod i ammeu. Meddyliai droi yn ol i holi yr athraw yn nghylch y mater; ond y funud hono dyna yr athraw yn myned heibio iddo. Rhed- odd Joe ato mewn eiliad, a chan dynu yn llawes ei gob, a gwneyd bow, gofynodd yn wylaidd, Os gwelwch yn dda, syr, a ydyw y stori hono am Fab y Brenin yn wir ?" Edrychodd y boneddwr arno yn addfwyn ao ateb- odd, Ydyw," 'machgen i, yn berffaith wir y mae yr hanes genyf yn llyfr yma, yr hwn a roddwyd i mi gan y Bronin ei Hun." Buaswn yu loicio yn fawr glywed vchwaneg am dano, syr,—buaswn yn leicio bod yn fab i'r Brenin hwnw a ydych yn meddwl, syr, y cymerai efe fach- gen tlawd carpiog fel fi ?" 0 ydwyf, 'machgen i; y mae ef ei hunan wedi gwneyd hyny, ac wodi dyvreyd wrthym ninnau am ddyweyd hyny nefyd;— Ni fwria neb ddel ato Oddiwrtho mewn un modd ond, fy machgen i, deuwch i'r ysgol nos drannoeth, a chwi gewch glywed ychwadeg o son am dano; yr ydwyf fi ar frys yn awr-eisien myn'd i gyfarfod arall. Jfos dawch." "Nos dawch, syr;" ac yr oedd Joe clrachofn yn unig, yn myned tuag adref a a meibion y Brenin o hyd yn ei galon; a dyna oedd yn sibrwd wrtho ei hun ar hyd y ffordd. Yr oedd wedi ei lyncu i fyny gymaint gan y medd- wl, fel na chlywodd drwst y corbyd a ddeuai o'r tu 01 iddo a chyn iddo allu symud o'r ffordd, yr oedd wedi ei daraw i lawr, a'r cerbyd wedi myned drosto, gan roddi iddo niweidiau angeuol. Poor Joe Daeth lluaws o ddwylaw caredig yn mlaen i'w godi; ond clywid un ffroenfalch ac anys- tyriol yn dywedyd, Only a crossing sioeeper." Ie, crossing sweeper," mae yn wir, ond yr oedd y cre- adur bach tlawd hwnw wedi ei brynu trwy waed yr Oen Cludwyd ef i'r hospital. Nid oedd yn gwybod. dim oddiwrtho ei hun—yr oedd wedi llcwygu; a phan ddeffrodd, yr oedd y doctor yn edrych arno yn ddifrifol. Gan anghofio ei boenau arteithiol, gofyn- odd Joe bach yn awyddus iddo, A ydych chwi yn fab i'r Bronin, syr ?" Tybiodd y meddyg mai ramblo yr oedd; ond deallai y nurse ef yn y fan, a dywedodd, Byddwch dawel, fy mhlentyn; cewch wybod hyny eto." 0 na, dywedweh wrthyf am y Brenin, os gwelwch yn dda," meddai y creadur bach; ac or mwvn ei foddhau, dechreuodd ddyweyd ychydig wrtho am Iesu Grist, tra yr oedd y doctor yn trwsio ei ddolur- iau. r Yr oedd Joe bach wedi cau ei lygaid drachefn, ac yn gwrando gyda gwen yn nghanol ei boenau. Y mae arnaf eisieu bod yn fab i'r Brenin—eisieu myn'd at y Mab a fu farw yn fy lie—y dywedodd y boneddwr am dano Methodd ddyweyd dim yn ychwaneg. Yr oedd yn amlwg nad oedd ganddo ond funudau i fyw; ond yr oedd gwen angylaidd ar wyneb y dyoddefydd bach tlawd! ac yn y man agorodd ei lygaid, a chydag ymdrech, ond dan wenu yn hyfryd, dywedodd, Yr ydwyf yn myned i fod yn fab y Brenin," a chauodd ei lygaid drachefn, byth i'w hagor mwy yn y byd yma, ond yn mhalas y Brenin mawr, lie y caiff Joe Bach, y Crossing Sweeper, fod yn un o feibion y Brenin am byth, a byw gyda myrddiynau eraill mewn gwynfyd tragywyddol. Anwyl blant Cymru, gwnewch y goreu o'ch man- teision crefyddol; bydd yn ofnadwy arnoch chwi a ninnau os bydd Joe bach yn codi yn nydd y farn i'n condemnio.
[No title]
Dydd Gwener diweddaf dygwyd dyn (?) o'r enw Smith o flaen ynadon Bromyard o ymosod yn ddi- achos ar Thomas Watton. Yr oedd wedi tori gwefus y truan drwodd, ac wedi hollti ei ben. Yn Doncaster, ar y 23ain o'r mis diweddaf, cafwy- corff dyn anadnabyddus wedi ei wasgu yn ddychryni llyd o dan olwynion cerbydres. Yr oedd saith o'r asenau wedi eu tori, a'i galon wedi ei thaflu o'i lle.„ YR OEN A'R CYSGADWR.-Pan oedd Mr Lee yn preg- ethu mown ty annedd, daeth dyn meddw i'r oedfa, eisteddodd ar ystol gyferbyn A'r drws, a chysgodd. Yr oedd oen llyweth, neu oen wedi ei fagu heb ei fam, yn perthyn i'r ty, a'r plant wedi ei ddysgu i dwlcio. Daeth yr oen at y drws, a gwelai y cysgadwr yn hepian. Tybiodd mai ei fygwth ef yr ydoedd. Cerddodd yn ol i gael rhedfa, a rhuthrodd yn mlaen at y cysgadwr, a rhoddodd orgyd iddo nos yr oedd yn treiglo dros yr ystol, ac i lawr i ganol y bobl. Torodd yr holl gynnulleidfa i chwerthin, a methodd y pregethwr ei, hun am foment a chadw yn ddifrifol.
JOHN DAVID NORWOOD,
JOHN DAVID NORWOOD, Mab bychan y Parch. John Evans, Gweinidog Wesley fJjiM, Liverpool. Ganwyd, Bhagfyr 30ain, 1876. I. John David Norwood, henffych well i ti- Rhyw fyd i gyfarch yw yr eiddom ni: A thra'n ieuengyn ynddo, onid gwell, Dy gyfarch heddyw gyda Henffych well, II. Y bychan tlws, 'r wyt tithau erbyn hyn, A'th wen yn cyfarch y boreuddydd gwyn- Yn cyfarch gyda'th lygad wawl y nen, A chyda'th rudd, y rhos a'r lili wen, Ac yn y man, dy gyiaill, pan y daw, Gyfarchi gyda gwen a gwasgiad Haw. Wyt ar dy daith—cei gyt&rch car a ffrynd— A chyfarch byd a'i bethau—yna myn'd Ond boed y myn'd yn fyn'd yn ffafr y Tad, 'Rol byw i gyfarch ac i geisio gwlad." III. Pel rhediad Olwen gynt, dy rodiad boed- r Teg feillion llwydd yn tyfu'n ol dy droed Haul teg Rhagluniaeth weno ar dy ffyrdd, Yn mlaen hyd henaint gwyn, o'th ie'unctyd gwyrdd. Na weler cwmwl byth yn t'wllu 'th nen, I fod yn gronfa trydan uwch dy ben Na chlywer taran byth a'i thafod tan, Yn galw dychryn i dy ddwyrudd Ian; Ond boed it' drigo mewn tawelwch mad Dan gysgod aden dewglyd Duw dy dad. IV. Yn Nhy dy Dduw bydd ffydrllawn megis gwas- Mawrcddaa trymion Iachawdwriacth gras F'o'n dwyn dy fryd trwy gydol dydd dy oes, Nas cadw'th ymffrost uchaf yn y Groes. v. Pan gilia prif bregethwr Gwalia wen- Y JOHN fu'n amlwg megis haul y nen; Y dewraf un o'r dowrion, dros dy Ri— Y mwyaf un o'r mawrion fyddot ti. Gefnmawr. JOHN CADY AN DAVIES, y r~-