Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

I BRAWDLYS CAERNARFON. !

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I BRAWDLYS CAERNARFON. Agorwyd fy frawdlys hon ddydd Llun, gerbron y Barnwr Vaughan Williams. "JOHN JONES" YN ADDEF F, I EUOGRWYDD. Plediodd Frank Armitage, neu yr hwn a ad waenir wrth yr enw "John Jones, yn euog o ladrata oriawr aur, un gadwen aur, idau froch aur, un locket aur, a toothpick, sef eiddo Margaret Davies, Caernarfon; oriawr aur, cadwen arian, dwy fodrwy aur, peithyn- ol i F. M. Lezzird, Rhyl, Traddodwyd y careharor i chwe' mist.o garchariad gyda llafur caled am bob trosedd,'ond fod y cyfryw gydredeg. Co\EL ARIAN TRWY DWYLL. William Owen Rees (56), hawker, a bled- iodd yn euog o gael 2s. 6c. drwy dwyll oddiar a Laura Jones, Clynnog.—Traddodwyd ef i chwe' mis o garchariad. HONI TORIAD AMOD PRIODAS. Achos ydoedd hwn, yn mha un yr ym ddangosai gweddw o'r enw Mrs Catherine Evans, Talybont, ger Bangor, fel hawlyddes, a Mr Richard Jones, landlord y George and Dragon Inn, gf-r Bangor, fel diffynydd.—Ym- ddangosai Mr J. Bryn Roberts, A.S. (yc cael ei gyfarwyddo gan Mr S. R. Drew) dros yr hawlyddes, a Mr Honoratus Lloyd (yn cael ei gyfarwyddo gan Mr Thornton Jones) dros y diffynydd.-Yn ei anerchiad agoriad- ol dyweiodd Mr Roberts mai gweddw gyda thrl o blant ydoedd yr bawlyddes, ac yn byw yn Llandegai. Bu y diffynydd ar un adeg yn heddlu Arfon. Pan wedi ei sefydlu yn Talybant, lletyai gyda mam yr hawl- yddes. Yno y bu am tua tair blynedd. O'r diwedd rhoddodd i fyny ei le yn yr heddlu, ac a-th i gadw y Skerries Inn, Bangor, ac yn ddiweddarach y Gaorge and Dragon Ion. Mae y diff, nydd, befyd. yn tr&feilio dros yr Utoneter Brewery. Yn y flwyddyn 1887 y cynygiodd y diffynydd brioii yr hawlyddes gyntaf. Gan fod ei fusnes yn ei gymeryd oddicartref yn bur ( fynych, byddai yn aofon llythyrau ati i'r amcan o wneud trefniadau iddi i'w gyfarfod mewn gwahanol leoedd. Nid oedd dim yn neilluu 1 iawn yn y llythyrau. Ond mewn, rhai o hocyut atierch-i hi fel 'Fy nghariad,' 'Fy anwyl gariad,' 'Fy anwylaf gariad,' a 'Fy enwylyd.' Mewn on ilythyr dywedai, 'Pe Luisech yn agos ataf pa fodd y buaswn yn rhoddi casan iawn i chwi;1 'yr ydwyf wedi cynyg fy hun i chwi gorph ac enaid.' Yn Mehefin, 1891, aeth yr hawlyddes i dy y diffynydd fel ei 'housekeeper.' Bu yno am flwyddyn a saith aiis. Yn mis Gorphenaf, y flwyddyn ddilynol, rhoddodd enedigaeth i blentyo, a'r diffynydd ydoedd y tad. Tybid, mewn gwirionedd yr oedd yn ffaith, fod y diffynydd wedi priodi, a chredid fod ei wraig yn awr yn fyw. Wedi ppih ystyriaetb, dychwelwyd rheith- fara o blaid yr hawlyddes gydag iawn o Is. Gofynodd Mr Honoratus Lloyd am ddy- farniad o blaid y diflfynydd, gan ddadleu nad oedd yna dystiolaeth gadarnhaol, Dywedodd ei arglwyddiaeth y buasai yn ystyried y mater, ao y rhoddai ei ddyfarniad yn y boreu. Dygodd Mr Richardson gwyn yn erbyn post feistr, Llanddaniel, Mon, fod ei gi wedi brathu y cyhuddedig. Talodd bill meddyg o 41p 12s. 6c. Dedfryd i'r post feistr. Athrod:-Cyhuddai Anne Owen, Anne Williams, o anfon post cards, &c, ati. Ded- fryd i Anne Williams.

. !BWRDD LLEOL, DOLGELLAU.1

Advertising