Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

YR AR3YLLFA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YR AR3YLLFA. Gwelaf fod ymdrafodaeth faith wedi sy* meryd lie yn MwrddGwarcheidwaid Bangor' rai o'r dyddiau diweddaf, o berthynas i'r dretb. Mae'r Cynghor Sirol yn gofyn treth uwch eleni na'r llynedd; ac wedi gwneud ymholiad yn nghylch hyD, caed mai y rhee- wm ydJw ymweliad Tywysog Oymru ag Eisteddfod Caernarfon! Fel y dywedai un, os na all yr ymwelydd hwn dd'od i Gymru beb ychwanegu treth ar ddynion, gwell iddo aros yn ei wlad ei hun, gan fod ei gadw yn y fan hono yn Hawn cymaint ag a ellir ei wneud heb ychwanegu y dreth. Dyma brawf fod cycffona i'r mawrion yn costio yn ddrud i rywrai, a'r werin yn gorfod dyoddef. Gweled fod Undeb Ysgolion y Methodist- iaid Oalfinaidd Dolgellau, wedi anrhydeddu brawd cymhwys am y gwasanaeth a wnaeth i gerddoriaeth. Dyma barch i'r hwn y mse parch yn dflyledus, a phrawf fod yr Undeb wedi gwerthfawrogi y llafar. Caffed Mr Roberts flynyddau lawer i wasanaethu ei wlad, a chadwed yr oriawr yr ameer yn gywir iddo. Gweled fod tramps yn heidio drwy'r wlad y dyddiau hyn, ac y dylid gwneud rhywbeth er atal y giwaid diog. Bu y taater o flaen cyd-bwyllgor heddgeidwadol Maldwyn; ond methwyd a pbasio un penderfyniad arno. Yn ystod y tri mis diweddaf, ymwelodd a'r air dros ddwy fil o'r crwydriaid yn rhagor na'r chwarter cyferbyniol y llynedd! Dyma destun treth eto mae'n ddiamheu, canys y bodau Irwyaf diog sydd yn costio drymaf ar y wlad. Gweled fod 'gwyr da' y Rhyl yn psnder- fynu gwneud y dref mor lan ag y medrant erbyn y dydd yr ymwela Tywysog Cymru a hwy. Y dvdd o'r blaen yr oedd y Bwrdd Lleol yn trwyddedu; ac yr oeddynt yn ben- derfynol o beidio rhoddi trwydded i berch- enogion mulud, os nad elent ar eu llw y byddai y mulod ya cael eu cadw mewn gwedd dda, y cyfrwyau yn lan a gslygus a'r gyrwyr yn dwt, ac o edrychiad parchus! Dyma'r tro cyntaf i ddeddf o'r fath gael ei phasio mi goeliaf; canys cre-,dariaid anolyg- i us iawn oedd mulod Rhyl, a'r rhan fwyaf o'r gyrwyr yn droednoeth a budr. Tybed fod y Bwrddd Lleol am roddi 'Donkey ride' i'r Plince1 Modd bynag hyderaf y cedwir at y rheol ar ol i'r Tywysog fyned yn ol i'w wlad. G weled fod yr.ymladdfa fwystfilaidd a gy- merodd le yn Aberdar, wedi tynu sylw llawer man heblaw y dref ei hun; a da oedd pasio penderfyoiadau cryfion yn cosdemnio boxinc/ nouses. Mae tua dwsin o ddynion ieuainc wedi eu cymeryd i fyny ar y cyhuddiad o fod yu gyfranog o ladd, heblaw yr un a fox- iodd y dyn ieuanc i farwolaetb. Beth bynag a ddaw o laonyjat, dyma brawf nad diogel dilyn owmpeini drwg, a gresyn meddwl fod y dyn ieuanc a laddwyd wedi bod yn aeiod o'r YsgolSabbathol, ac yn mynychu moddion gras pan yn blentyn, Ond newidiodd ei flyrdd a'i gwmpeini, a chostiodd hyny yn y diwedd ei fywyd iddo. Dylai rhieni fod yn ofalus o'a plant, a oiynu gwybod pa gwm- peini a ganlynant er atal profedigaethau chwerwon o'r natur yma. Gwelad fod pwyllgor Rhyddfrydol, Sir Drefaldwyn, wedi nodi amryw wyr fel rhai oymhwys i frwjdroyn erbyn Syr Pryce Pryce Jones, yr aelod Toriaidd; ac fod un o bonynt sef Mr Hugh Lewis, Drefoewydd, wedi boddloni i ddyfod allan. Gwn y dylid cael rbywan heblaw y 'Syr' i gynrychioli y sir, ond pwy sydd yn meddu digon o ddylanwad i enill y sedd sydd bwnc arall. Dylai yr ymgeisydd Rhyddfrydol fod yn dra adnab- yddus drwy yr etholaetb ,-In wr o fedr, ac yn siaradwr effeithiol; ac oblegid hyny dylai y pwyllgor fod yn dra gwyliadwras yn eu dewisiad. Gweled fod y DYSGEDYDD am Mehefin yn llawn o ysgrifau darllenadwy. Ysgdfena y Proff. J. M. Davies, M. A, Bangor ar y tastun amserol, (Gogwyddiadau Duwinyddol yr Oes,' a da fuasai genyf gofnodi rhai sylw- adau o'i eiddo ar y pwnc; ond ni chaniata gofod. Gan fed ysgrif arall i ddilyn, dichon y ceir gwneud hyny eto. Rhydd y Parch H. Ivor Jones, Porthmadog, ysgrif ragar- weiniol ar 'Arloeswyr y Tir,' a pharha Mr Carno Jones gydag 'Iechydiaeth.' Mae'r ddau yn nodedig o dda, yn ogystal a Tawel. fryn ar y diweddar wron o GarBo-y Parch Joseph Thomas,. Ganmoliaeth ddigymysg a roddir i'r 'Nodiadgiu Misol;' a Herber yn ddoniol gyda'i gartref newydd yn Mangor; a gwelaf nad oedd Mr W. J. Parry yn ang- hofio y misolyn hyd yn nod yn Monte Video. Beth pe buasai Mr Parry yn anrhegu y dar- Ilenwyr a hanes y daith. Nid wyf yn gofyn hyn gan olygu fod 'Gwybodaeth a Chariad' yn llai dyddorol—pell wyf o dybio byny; ond gwn fod cael ysgrifau tebyg i'r 'Fonedd- iges yn Nghanaan' yn dderbyniol iawn g. n y darllenwyr. Cymerer yr awgiym. Gallwn feddwl fod Cwrdd Chwarter Meirion wedi cael gwledd yn mhapur y Parch John Hughes, Tanygrisiau. Testun yr ysgrif yw 'Y Cyfarfod gweddi Cenadol.' Ysgrif ya cynwys awgrymiadau gwerthfawr ydyw. Da genyf weled rhifyn Mehefin o'r DYSGEDYDD ac ysgrifau mor deilwng. 0 Yr hyn a ddywedwyd uchod, ellir ei ddweyd am ynadreohion y Parch D. Silyn Evans, gyda DYSGEDYDD Y PLANT; a diau y ceir adroddiad mynych gan y Plant, o 'Jonah a'i helyntion,' yn y Binds of Hope, er na cheir peuawd yr ysgrif ar y wyneb- ddalen o'r rhifyn; a diau hefyd y cenir y d6n, 'Mae'r gwaed a redodd,' &o., yn lied gyffredinol drwy Dde a Gogledd Cymru. Llwyddianfc mawr i'r misolion i wneuthur daioni lawer yn yr enwad Annibynol. GWELEDYDD.

Advertising