Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Mr. Enoch Jones, Cefnmaelan,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Mr. Enoch Jones, Cefnmaelan, Dolgellau, Taflwyd tref Dolgellau ddoe i dristwch dwfn, am fod y gair fod E. Jones, wedi ei ladd, ac an- hawdd oedd gwybod y gwiriotiedd pa fodd yr oedd hyny wedi cymeryd He, oblegid y dyn oedd mor heini ac mor selog ddydd LIun yn y Gymanfa, acyn claddu yn Rhydymain ddydd Mawrth. Mor iach ac nn amser yn gadael y ty ar ol boreufwyd boreu Mercher. Cynaliwyd trengholiad pryd. nawn Mercher yn Cefnmaelan gerbron ycrwnera Rheithwyr o'r dref. Yr oedd y crwner wedi ei orchfygu gan ei deimladau wrth geisio cynal y trengholiad. Y tyst cyntaf a alwyd gerbron ydoedd Joseph Jones, Bronyfoel, Llanfachreth. Dywedai ei fod yn gweithio gydag Evan Griffith, Tyddyn- bach.a'i fod yn cyd-gau y gwrych gyda Mr Enoch Jones, fod yn y cae yr oeddynt infer o ddiniewid a gwartheg; iddo ef fyned o'r neilldu i ymofyn pren at gau, ac i was Enoch Jones fyned i gyfeir- iad arall i ymofyn celyn ac i Mr Jones roddi ei law ar un o'r heffrod a thra yr oedd yn teimlo un heffer, i eidion fyned o'r tu ol iddo a rhoddi ei ddau droed ar ei ysgwyddau, ac i Enoch Jones syrtbio w oi Nsyueb, rbyw chwareus oedd yr anifail, ac ni syrthiodd ar gefn Enoch Jones, ond yn hytrach ciliodd oddiwrtho; aeth Joseph Jones at Enoch Jones i'w godi, ond gwelodd ei fod WEDI MARW, ni ddywedodd air. Yr oedd hyn tna 11 y boreu. Robert Jones, gwas Enoch Jones a ddygai dystiolaeth gyffelyh i Joseph Jones, a tbystiai na welodd ddim yn frwnt yn yr anifail, ac fod Mr Jones yn hynod o hoff o'r anifeiliaid wrth y byddai yn eu hanwesu, a bod yn dirion wrthynt. Fod Mr Enoch Jones y boreu hwnw mor siriol as iaell ac erioed. David Evans, Nantygwyrddail a ddywedai fod Enoch Jones, ei frawd yn nghytraith, yn 62 mlwydd oed, ac o gyfansoddiad iach, mor iach a'r eyffredin. Supt, Jones, a dystiai mai yr achos o'i farwol- aeth oedd toriad y madruddyn (spinal cord) yn y cwympiad ar ei wyneb. Dygwyd rheithfarn i'r perwyl uchod- iddo tanv o farwolaeth ddamweiniol; ac ar gynygiad Mr Meyrick Jones, pasiwyd cydymdeimlad a'r weddw a'r plant amddifaid yn eu trallod, Yi oedd Mr E. Jones yn adnabyddns iawn yn mbob ystyr—fel mab i'r hen batriarch Cadwaladr Jones, a brawd i C. R. Jones, Ysw., Llanfyllin. Mae yn gadael gweddw ac wyth o blant ar ei ol, saith yn ieuainc iawn. Mae un mab iddo yn atbraw mewn amaethyddiaeth yn Nglioleg Bangor. Yr oadd Mr Jones yn aelod o'r Cynghor Sirol dros randir y wlad, yn Warcheidwad Undeb Dol- gellau, yn aelod o Bwyllgor yr Ysgol Ganol- raddol, yn gymydog ac yn gyfaill caredig a chy- mwynasgar; yn ddiacon gyda'r Annibynwyr yn I Nolgellau, yn dwyn mawr sel gyda'r Ysgol Sab- bathol yn Penresgynfa—yu ddyn doeth a phwyllog yn ei gynghorion Cleddir ef ddydd Sadwrn yn Cemetery newydd Dolgellau am ddau o'r gloch, pryd y gweinyddir gan y Parchn, J. Walters, Brithdir; a J, Charles, Dinbych.

MARWOLAETH MRS. MARGARET LLOYD,…

BRAWDLYS MEIRIONYDD.

LLO N G Y FAR C HIA D.

JONES YN ERBYN OWEN.

MEISTRIAID A GWEITHVVYR.

Family Notices

CYMANFA YSGOLION.