Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

-010---MYNYDD SEION, LERPWL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

-010- MYNYDD SEION, LERPWL. Nos Fawrtb, wythnos i'r diweddat, yr oedd y gobeithlu yn cynal ei gyfarfod olaf am y tymor presenol. Daeth nifer dda iawn o'r plant yn nghyd i fwynhau gyda'u gilydd gwpanaid o de a gwledd rhagorol, yr hon oedd yn cael ei rhoddi iddynt gan dair o chwiorydd cariadlawn perthynol i'n heglwys. Yr oeddym yn falch 0 weled yn bresenol gyda'r plant y Parchn W Morris Jones, B.A., a John Felix, llywydd y gobeithlu. Siar- adwyd ychydig o eiriau buddiol i'r plant gan y llywydd wedi iddynt ddigoni eu hunain gyda'r danteithion blasus, ac anrhegwyd Master Wm. Pritchard gyda thlws prydferth am ysgrifenu traethawd ar "Effeithiau alcohol ar y corff." Wedi hyn cawsom entertainment gan y plant mewn ffordcl o ganu ac adrodd, pryd y treuliwyd awr hapus iawn, ac wedi iddynt dderbyn orange bob un aethant gartref a'u calonau yn lion a diolchgar i'r chwiorydd canlynol am gofio am danynt, sef Mrs David Lloyd. Carlingford Street, Mrs Robert Jones, Coltart Road, a Mrs Wil- liams, Kingsley Road. Rboddwyd" cheers" i'r chwiorydd hyn, yn nghyda'r chwiorydd ieu- ainc oeddynt yn gwasanaethu wrth y byrddau, ac hefyd i'r swyddogion, Mri F M Roden a D Jones. Os oes gwae i'r rhai sydd yn rhwystro y rhai bychain, yn sicr hefyd y mae hapusrwydd yn wir i'r rhai sydd yn eu helpu yn mlaen Y mae genym achos cryf i gredu fod yr oil gafodd ei roi a'i wneyd i'r plant yn cael ei wneyd o wirfodd calon. Y mae y tymor hwn yn awr wedi terfynu. Ein hyder yw y byddwn yn gweled amser mwy ffrwythlawn yn y dyfodol, ac y bydd dyddordeb yn y plant o hyd yn parhau.—Ysg.

SION, PENYGRAIG.

Advertising

Nodiadau Cyfundebol.

----010-0 Dredegar Newydd.

0 0 Trysorfa Addysg Ymgeiswyr

Un arali o Blant Diwygiad…