Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
AT EIN GOHEBWYR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN GOHEBWYR. CCNGI. YR EFRVDYnn.— 0 ddiffyg Ile, gorfu i ni adnel allan amryw o atebion o'r Rhifyn presenol cant ymddangos yn y nesaf. Gan fod cymraaint o atebion yn dyfoii i'n Haw, ac nad atebai un dyben i gyhoeddi rhagor nag un i bob gofvii- iad, dymunwn hysbysu, mai ein rheol o hyn allan fydd, go- sod yr ateb cywir cyntaf a ddaw i'n 11a w yn y SEREN, Methasom gael lie yn y Rhifyn hwn heiyd i'r ysgrifau ag oeddym wedi barotoi i'r "Aelwyd" a'r Cartref," OWAITH HAMILTON,—Dymunwn hysbvsu ein darllenwyr cerddorn], ac ereill, y bydd i'r Berinod gyntafo waith Ha- milton ar Gerddoriaeth ymddangos yn y 7fed Rhifyn o SERP- EN CVMHO. Gan y bydd y Rhifyn hwnw yn dechreu chwarter, bydd yn gyfle da i'r eyfryw nad ydynt yn derbyny SEREN hyd yn hyn, i ddechreu. Hyderwn y bydd i'n dos- parthwyr ffyddlawn wneyd y peth yn hysbys yn eu cym- mydogaethau. E.J, Dowlais.—Gwelwch fod yr banes wedi ymddangos yn ein Rhifyn diweddaf. Hoffem glywed oddiwrthych etto. W———wi —
AT EIN DERBYNWYR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN DERBYNWYR. NID ydym hyd yma wedi dwyn SEREN CYMRU i'r rhagor- oldeb llenyddol arfaethedig genym, o herwydd fod amryw rwystrau nad allem eu rhagweled wedi ein lluddias; er hyny, y mae yn dwyn cysur meddyliol mawr i ni, fel golyg- wyr a chyhoeddwr, i glywed fod ein hymdrechiadau yn rhoddi boddlonrwydd mor gyffredinol, ac fod i ni ganmol- iaethau mor lluosog yn mhob cwr o'r wlad. Y mae serch cannoedd o'n derbynwyr at y SEREN yn gymmaint, fel y methant fyw yn gysurus, meddynt, beb ei llewyrch wyth. nosol. Y mae llawer wedi dywedyd hyny yn bersonol wrthym, ac y mae amryw wedi ysgrifenu hyny atom. Fel enghraifft o'r sypyn llythyron ag ydym wedi dderbyn, gos. odwn yma un o honynt FONEDDIGION,—Vn ostyngedig erfyniaf eich hynawsedd a'ch amynedd tra y byddwyf yn gosod allan mewn byr eiriau yr hyn sydd yn gwasgu yn ddwys ar fy meddwl tnewn perthynas i SEREN CYMRU. Fy marn, fel un o'r rhai gwaelaf o'r derbynwyr, ydyw, nad ymddang- osodd hyd yn hyn yn ffurfafen y byd llfinyddol un cyhoeddiad tnwy ysplenydd lia'r SEREN. Ymddengysi mi, wrth yrerthyglau penigamp a ymddangosodd yn y rhifynau blaenorol, fod y gohebwyr yn rhai olr galluocaf yn yr oes. Gwelir yn amlwg wrth eu hysgrifau fod eu meddyliau yn goethedig dros ben, ac y mae amrywiaethau v goheb- iaethau yn ateb chwaeth pawb o'i darllenwyr. Y mae yn lion iawn genyf fod y SEREN yn penderfynu i ymwrthod a phob difrïaeth a checraeth, yr hyn beth nid ydyw yn ateb un dyben ond i fagu amryson ac annghariad rhwng cymmydogion. Addewais na buaswn yn eich blino a stori faith, gan hyny, dy- wedaf wrthych yn fyr beth ydyw fyamcao yn eich anerch, sef, a oes ,dim modd i gael y SEREN i ymddangos yn wythnosol ? Gall fod y SEREN mor ddysglaer, a chymmaint o ddefoyddiau ynddi tuag at goethi meddyliau y darllenwyr, y mae yn resyn o'r mwyaf nad ellir cael ei llewyrch bob wythnos. Gwedi i mi roddi hyn o awgrymiad, .terfynaf, gan fawr obeithio y cymmer rhyw un o ohebwyr y SEREN y mater mewn llaw, er hyrwyddo rhyw lwybr er iddi ymddangos yn wythnosol. Nid yn unig mae y gohebwyr yn haeddu clod am eu llafur, ond y mae yr Argraffwr hefyd yn teilyngu y ganmoliaeth fwyaf, yn ei waith yn dwyn y SEREN drwy y wasg mor foddhaol i bawb, debygaf. Mae plygiad y papyr yn fy moddloni yn annghyffredin, wrth feddwl, os byw fyddaf, y gallaf ei rwymo yn gyfrolau heirdd, fel y byddont yn llesol i'r oesau dyfodol. "Aberystwyth." ISAAC WILLIAMS." Ofnwn fod llawer o'n derbynwyr, fd. Mr. Williams, yn rhoddi" mwy na'n haeddiant o ganmoliaeth i ni, ac etto teimlwn yn ddiolchgar. Er y clodydd caredig yma, awn rhagom mewn rhagoroldeb-ar ei gwell y mae'r SEREN i fyned, ac os bydd galwad am dani yn wythnosol, ni laesa hyny ein hymdrechion, ac ni bydd ei goleuni hithau yn llai dysglaer a chynnyddol. Y mae ei hymddangosiad wythnosol, modd bynag, yn ymddibynu yn gyfangwbl ar bleidleisiau ein derbynwyr lluosog—dyma'r mater i'w dwy- law hwy, yn ol dymuniad cannoedd o honynt, a gwnawn yr hyn a benderfynant. Ni byddai dwy geiniog yr wythnos £ xao yma nac acw i neb, ac ni byddai bosibl gwario dwy geiniog yn well nag ar rywbeth i ddiwyllio y meddwl. Er cael gwybod barn gyffredin ein derbynwyr ar hyn, a fydd ein dosparthwyr mor hynaws a'u holi hwynt, a danfon i ni y canlyniadau yn ddioed ? ac os byddant yn agos a bod yn "unHais unllafar," ni bydd gyda ni ond ufyddhau i'r dewisiad, a gyru y SEREN i arllwys ei goleuni arnynt bob dydd Sadwrn o ddeuddeg wythnos a deugain y flwyddyn.
"Y PYTHEFNOS.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y PYTHEFNOS. Y MAE Francis Joseph, Amherawdwr Awstria, wedi bod yn pvsgota am gymmeradwyaeth yn mhlith ei ddeiliaid Eidalaidd, ond nid llawer a gafodd. Nid oedd dim llawenydd yno ond cymmaint ag a brynwyd ag arian Awstria. Y mae yr Eidal yn ffieiddio swydd- ogion a. milwyr Awstria, fel y ffieiddiai y Cymry y Saeson ganrifoedd yn ol, nid yn unig fel arwyddion o'i goresgyniad, ond o herwydd eu cigydd-dra a'u creulonderau ofnadwy. Y mae'r Ffrancwr yn medru bod yn gydymmaith serchog lie v mae yn feistr trwy- ad!. Y mae'r Sais hefyd wedi uno yr Iwerddon, yr Ysgotlaitd, a Chymru mewn undeb hynodol o gariad- gar, ond nid yw yr Awstriad yn gwybod dim am ddir- gelion y fath ddylanwad boddlongar gan hyny, y mae vn cael ei ffieiddio. Mor wahanol i dderbyniad Amherawdwr Awstria gan Eidalvvyr oedd derbyniad Signor Saffi gan y Pry- deinwyr. Un o gyn-drivyriaid Uweriniaeth Rhufain yw Signor Saffi. Y mae yn awr yn alltud o wlad ei dadau, ac yn ennill ei fywioliaeth mewn Prif-ysgol Seisnig. Bu Saffi yn darlithio ar yr Eidal yn Lluu- dain, ac v mae ei ddarlithiau wedi ymddangos yn y Daily News. Derbyniwyd ei ymadroddion gyda ban- llefau o gymmeradwyaeth, ac y mae'r banllefau hyny yn disgyn drwy y wasg fel taranau ar glustiau gor- meswyr Ewrop. Dychryn gormeswyr yw argraffwasg Prydain. Y mae gwirionedd yn cael gweled y goleu- ui yma; ac, er gwaethaf ceisbyliaid unheniaid y Cy. fandir, y mae yn arllwys ei belydrau ar Ewrop. Y mae yn edrych yn fwy gobeithioi ar Dwrci nag y gwelwyd hi er ys tro. Y mae aber y Danube yn awr yn hollol o dan ei llywyddiaeth cadwodd efyn rhydd oddiwrth bob rhwystrau tra yr oedd yn ei meddiant o'r blaen, ac y mae yn bur debvg o wneuthur hyny etto. Y mae anandy Caercystenyn yn sicr o wnen- thur y wlad yn well o ran ei sefylifa arianol, gan ei dwyn i gylch pob cenedl yn Ewrop. Y mae Mr. Lay- ard hefyd wedi crvbwyll am y lies o gael rheilffordd o Rustehuck neu Silistria.ar y Danube, heibio i Shumla. ac Adrianople, i borthladd Erios. Y mae y cynnyg yn cael ei dderbyn yn ffafriol, a bydd o fendith fawr i'r wlad. Dywedir fod Canton i gael ei dinystrio o brysur, yn herwydd ystyfnigrwydd Yeh a'r dinasyddion, ac fod y gwaith wedi dechreu. Dywed y newyddion o Bersia fod Y nys Karraek a chaerfa Bushire wedi caeleucym- meryd heb lawer iawn o golled i ni, a mynega y new- yddion diweddaf fod y Shah wedi derbyn ammodau Prydain; nyni a obeithiwn fod y newydd yn wirion- edd. Y mae'r newyddion o America yn dra dyddorawl. Y mae Deddfwyr Talaeth Caerefrawg Newydd wedi cyfarfod, ae yr oedd negeswriaeth y Llywydd yn con- demnio yr eiddo Mr Pierce yn fawr iawn. Arnddi- ffynai y Llywydd y sefyllfa ag oedd y Talaethau rhyddion wedi gymmeryd yn yr etholiad diweddaf am Arlywydd a dangosft ei fod yn eithaf ffurlfywodraeth- ol, yn y llythyren a'r ysbryd hefyd beia yr ymddyg- iadau yn Kansas; ac haera fod caethwasaeth wedi cael ei goddef yn y mauau lle'r oedd gan y flurflywod-