Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

IHANESION CARTREFOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ifor, a nifer mawr o fasgnachwyr a ffermwyr y gymmyd- Ogaeth. Dydd Sadwrn, cynnaliwyd cyfarfod yn Llambedr, -Inglis Jones, Ysw., yn y gadair. Dydd Llun, cynnal- iwyd cyfarfod yn Nghai Newydd, pan ycytnmerwyd y gadair gan offeiriad y plwyf. Cymmerwyd amryw ranau (shares) yn mhob un o'r cyfarfodydd, a phenodwyd hefyd ar bwyllgor yn y gwahanol drefydd er ceisio rhagor o gymhorth. Hyderwn bellach y bydd i'r wlad gymmeryd y mater mewn llaw yn egniol, fel y galluoger y cwmni i fyned yn mlaen gyda phob brys. Y DRAFNIDIAETH RHWNG NEYLAND A WATERFORD. —Ar y 22ain, y 24ain, a'r 26ain o Ionawr, dygwyd dros- odd o'r Iwerddon, gan yr agerlongau y Malakoff a'r City ef Paris, dim Ilai nag ]21 o dunelli o nwyddau masg- nachol, a thuag ugain o fordeithwyr. Deallwn hefyd fod trefniadau wedi eu gwneyd i'r llythyrgod i'r rhan dde- heuol o Iwerddon gael ei chario o hyn allan gan y Ma- lakoff" a'r City of Paris, a bod hyny i gael ei ddwyn i weithrediau ar y cyntaf o'r mis presenol. Bydd i'r pell- der rhwng Llundain a'r Iwerddon gael ei drafaelu mewn un diwrnod; a'r llythvron a ysgrifenir yn sir Benfro heddyw, a gant eu darllen yn yr lwerddon yr ail foreu. ABERYSTWITH.—DyywyddiadMarwol.—Dydd Mawrth, Ionawr 27ain, cymmerodd dygwyddiad le yn ngwaith mwn Penycefn,yn agos i'r dref hon, drwy yr hyn y collodd dau ddyn eu hywydau. Pan oedd y dynion yn gweithia, cwympodd darn mawr o'r tir uwch eu penau, a niweid- iwyd hwynt i'r fath raddau, fel y buont furw o'r herwydd. ABERTEIFI.—O'r diwedd y mae cytundeb wedi ei wneyd a Mr. Benjamin Davies, o Llanddowror, i gario y llythyrgod o orsaf Narberth Road i'r dref hon. Bydd ein cyfeillion yn Aberteifi yn awr yn alluog i ateb eu llythyron o Lundain a lleoedd ereill gvda dychweliad y llvthyr-gerbyci, yr hyn yn ddiau a fydd yn fantais fawr i fasgnachwyr y lie. DYSGEIDIAETII YN Y GWEITHFEYDD.—Mae cym- deithas er cyfranu gwobrwyon rhwng yr ysgolion yn y Gweithfeydd, o Gwm Llynfi i Abertawy a Llanelli, wedi ei ffurfio yn ddiweddar, dan lywyddiaeth C. R. M. Tal- bot, Ysw., A.S.; noddwr, y Gwir Barch. Esgob Ty Ddewi. Mae y pwyllgor yn cynnwys y honeddigion canlynol C. H. J. Hampton, Ysw., W. Gilberston, Ysw., H. H. Vivian, Ysw., A.S., LI. Llewelyn, Ysw., S. Benson, Ysw., C. W. Nevil., a J. M. Clabon, Ysw. Ysgrifenydd Anrhyd- eddus, P. St. Leger Grenfell, Ysw., Maesteg House. Dys- gwylir y bydd lies mawr i ddeilliaw oddiwrth y gymdeith- as hon ac hyderir y hydd i ysgolfeistri, a charwyr dysg- eidiaeth yn gyffredinol, ei gwneyd mor hysbys ag y gellir. Mae afreoleidd-dra plant yn yr ysgol, a'r oedran ieuane y eymmerir hwynt o honi, yn anfanteisiol i gynnydd dysg- eidiaeth ac ymdrecha y gymdeithas hon gael diwygiad yn hyn. DOWLAIs.-Mae Cwmni Gwaith Haiarn y lie hwn yn tori pyllau glo newydd, ar ochr mynydd Gelligaer. Mae yma fil o erwau o lô, a bernir y cynr.yrcha driugain mil- iwn o dunelli, yr hyn, yn ol banner miliwn o dunelli y flwydilyn, y nifer a ddefnyddir gan y cwmni yn awr, a fearha am driugain mlynedd.—Da genym gael ar ddeall Had yw Cwmni Dowlais yn bwriadu gostwng huriau y gweithwyr, fel y mae rhai wedi gwneyd. Mae Cwmni gwaith Rumni wedi dyfod i'r un penderfyniad hefyd. TWYN- Y-DUC.—Camsyniad Digrif-Taflwyd Twyn-y- Duc, ger Sirhowi, i ddychryn mawr rhyw noswaith yn ddiweddar, o achos clywed ysgrechfeydd dychrynllyd gan fenywod oedd yn cario dwfr o bistyll oedd yn agos i'r tai yma, o herwydd eu bod wedi canfod rhyw hwdwch an- ferth ei faintioli yn sefyll, meddynt, ar ochr un o'r tips oedd gerllaw i'r pistyll. Ymgynnullodd en hysgrech- feydd luaws o wrrywod, menywod, a chrytiaid, i'r He, pa rai a sylient ar yr hwdwch o hirbell mewn dyohryn mawr, a dechreuwyd ffurfio gwahanol opiniynau yn ei gylch. Rhai a gredent mai ysbryd oedd, o berwydd fod yr ardal hen o'r blaen wedi cael ei haflonyddu gan ystranciau ys- .brydion, a'i fod yn fwy o faintioli nag un dyn ereill a farnent mai rhyw gawr o ddyn ydoedd, wedi dianc o ryw wallgofdy; ereill a farnent ei fod yn rhywbeth mawr, ond na wyddent beth ydsedd. Nid oedd neb yn bercben digon o wroldeb i anturio yn mlaen tuag ato, beth bynag ydoedd o'r diwedd, un T. L. (Alias Tomos Gwmtwrch), a aeth i'w letty, ac a arfogodd ei hun mor daclus a phe bu- asai yn myned i gymmeryd y Redan fawr yn Sebastopol. Nesaodd Tomos at yr hwdwch gyda dewrder digyffelyb, a phob cam oedd yn roddi, gosodai ei draed ar sylfaen gadarn, fel pe buasai y cam olaf iddo cyn yr ymosodiad oedd i gymmeryd lie yn fuan. Nid oedd wedi ineddwl y pryd hwn ei fod yn llafurio dan un twyll golygol (optical delusion). Pan ddaeth yn lied agos at yr hwdwch, go. fynodd, Betb sydd yna ?" Dim ateb yn cael ei roddi. Yna cododd T. ei fraich arfog i fyny gyda nerth y Brenin Arthur, yn barod i roddi dyrnod iddo, os mai bod daear- ol ydoedd, a fuasai yn ei symud i'r byd tragwyddol; a dychrynu ychydig arno, os mai bod ysbrydol ydoedd. Ond wedi nesu yn mlaen ychydig tuag at y gwrthddrych oedd wedi dychrynu gymmaint ar y menywod, a chynhyr- fu'r ardal, er ei fawr syndod, deallodd mai darn bychan o'r tip heb ei orchuddio gan eira ydoedd yr hwdwch an- ferth oedd wedi brawychu pobl lieddychol Twyn-y-Duc Achosodd yr amgylchiad digrif hwnw i D. E., y peirian- nydd, ac ereill oedd yn byw gerllaw, i chwerthin nes oedd eu hasenau ar dori wrth weled cyumaint o ffwdan am cyn lleied o sylwedd ond canmolai pawb ddewrder Tomos yn myned yn mlaen tuag ato, beth bynag ydoedd. Os byth ein blinir gan ysbrydion, Mae genym yma rai gwrolion, A safant wyllion drwg a chewri, Mor ddiysgog a chastelli. GWENTYDD. TREDEGAR.— Tanckwa.—Dydd Mawrth y 29ain cyn- fisol, bra'vychwyd y dref hon gan swn ergyd arswydol gerllaw v ifwrneisau, fel pe buasai lluaws o fagnelau mawrion wedi gollwng eu hergydion allan ar unwaith, yr hwn a roddodd ysgwydfa anferth i dai y dref, gan dori amryw o ffenestri. Ymddengys fod y peiriant chwythu (Blast Engine) wedi bod yn sefyll am beth amser i adgy- weirio rhyw ran o hono. Ac yn yr amser y bu yn sefyll, llanwodd nwy marwol y pibellau gwynt, &c., a bu un dyn yn agos a cholli ei fywyd, dmyanadlu y nwy. Cym- mysgodd y nwy hwn a'r awyr oedd yn y pibellau, nes ei wneyd yn fflamycliadwy (inflamable) a phun ddaeth pob peth yn barod, chwythwyd y nwy hwn ar draws tanau y ffwrneisiau, a gefaelodd y tan ynddo, fel mewn pylor, a chwythodd ran o do y peiriandy ymaith, a thorwyd y flbnesti-i- yn ddarnau man clnvilfriwin j'd y pibellau gwynt mawrion hefyd; darniwyd y Regulator gwynt, a thaflwyd rhan o hono, oddeutu tair tunell o hwysau, nid oes neb a wyr pa mor uehel; ond mae yn amlwg iddo gael ei daflu oddeutu ugain Hath, a'i fod wedi disgyn ar uwch tir o lawer. Yr oedd y darnau haiarn, y lIwch, a'rpridd- feini, wedi eu gwasgaru o gwmpas, fel nas gellid gweled dim dros beth amser; ond mae yn ddywenydd allu hys- bysu, na chafodd neb un niwed, er cymmaint o beryglon oedd yn eu hamgylchynu. Yr oedd y melinau yn agos iawn, a diau fod cannoedd lawer o ddynion yn gweithio yn mhob man o gwmpas; ac yr oedd braidd yn wyrth na chafodd neb niwed. Mae y ddamwain hon wedi achosi llawer o golled i weithwvr a meistri, gan nad yw y pibell- au wedi eu gosod etto (Ion. 30) mewn dull ag y gellir chwythu a hwynt, a phedair o'r ffwrneisiau heb un lie i gael gwynt iddynt, a diau y byddant mewn sefyllfa ddrwg iawn am beth amser.—GWENTYDD> RUMNI,-Prydnawn dydd Gwener, y 23ain o Ionawr, tua phump o'r gloch, cyfarfyddodd un John Morgans, Fitter, o'r gwaith uchod, a damwain, yr hon a derfynodd yn angeuo!. Fel yr oedd wrth ei waith gyda y droell (lathe), tebygol iddo blygu er cyrhaedd rhywheth (mae yn tiebyg mai ei olew-lestr allasai fod), yn anffodus gafael- odd un o'r pinau yn ei ben, yr hwn a soddodd drwy ei siol at yr ymenydd, nes y gwnawd ef yn'anymwybodoJ,