Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
AWSTRALIA.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AWSTRALIA. Llythyr yn yr Amserau, dyddiedig Melbourne, Tach- wedd 26, 1856, a rydd yr banes canlynol am gyflogau gweithwyr, &c., yn A wstralia Y mae hon wedi bod yn wythnos fywiog yn y farchnad lafur, yn enwedig am weision ffarmio, pladurwyr, a phob math o weithwyr amaethyddol. Mae morwynion etto yn brin. Y can- lynol ydynt hnriau sydd yn rheoli am yr wythnos:— Gyda chyfraniadau o fwyd,—Cyp!au priodasol, heb deu- luoedd, o £75 i t- 85 y flwyddyn etto, gyda theuluoedd, £55 i £ 65; etto, garddwyr, JE50 i JM5 etto, march- we;sion, .£40 i £ 50; etto, ceidwaid anifeiliaid, jE60 i £ 70 etto, bugeiliaid, JE35 i £ 70 etto, bwthgeidwaid, £ 25 i J630 etto; gweision cyffredinol fferm, 25s. i 30s, yr wythnos; pladurwyr, 7s. i 3s. ydydd; cyweirwyr gwair, 25s. yr wythnos; tdri gwair, 9s. y dunell; gyrwyr ychain ar y ffyrdd, 30s. i 35s. yr wythnos etto, ar orsafau, 25s. etto cneifio defaid, 18s. i 20s. y can dafad golchi defaid, 7s. 6ch. ydydd; cSgwyr, 470 i d690 y flwyddyn cog- yddesau, zC30 i £45 etto morwynion trwyadl, E30 ik35 etto; t^forWynion, jE25 etto; golchyddesau, £"30 i E36 etto; magwresau, X20 i zC25 etto. Y rhaicaniynola yatyrir y dognau gosodedig wytbnosolo ymborth:—12 pwys o gig eidion neu ddafad, 10 pwys o flawd, 2 bwys o ► sugr, + pwys o de. Yn mhob cangen o lafur celfyddydol, y mae gwelliant hollol, a llawn brisiau yn cael eu rhoddi. Heb yinborth-ddognau.—Cyssodwyr, Is. 4c. y fil etto, Wrth yr wythnos, X4 4s.; gwasgweithwyr, X4 4s. i £4 10s. etto seiri coed, 14s. i 15s. y dydd seiri meini, 15s. etto; plastwyr, 15s. i 16s. etto; bricklayers, 14s. i 15s. etto; gofaint, 12s. i 14s. etto; chwarelwyr, 10s. etto; holltwyr coed ac amgauwyr, 5s. i 7s. y dunell, amgau wrth y rod, y defnydd i'w hollti yn unig, 6s. labrwyr ar y ffyrdd, 9s. y dydd,—coed, dwfr, a thentau yn cael eu darparu. Y mae llai o ymofyn am forwyr. Am fordaith gartref neu i'r dwyrain X7 y mis mewn coasters, X6 i £ 7; cooks a stiwardiaid, X7 i £8 j mates, mewn coasters, £ 9 y mis."
1MANION.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MANION. MA* y 23ain gatrawd, sef y Welsh Fusiliers, wedi cael gor- chymyn i fyned i India i gymmeryd rhan, yn dra thebyg, yn y rbyfel Perltiaidd. Cafadd dyn o'r enw Allen y swm o XI,400 gan Owmni Rheilffordd Caer a Chaergybi yn ddiweddar, fel iawn am niw- eidiau a gafodd ar y llinell yn agos i Fangor yn mis Mai diweddaf. Yr oedd Mr. Allen yn ysgrifenydd yn ngwasanaeth y Llythrrdy ar y pryd. Traddodwyd darlith hyawdl gan Kossuth yr wythno* cyn y diweddaf, yn Rochdale; testun y ddarlith oedd, "Sefyllfa Cyfandir Ewrop." Dysgwylir y bydd i Amherawdwr Rwsia gyrhaedd Berlin yu mis Ebrill, ar ei ffordd i Nice drwy Baris. Y mae Ernest Jones wedi bod yn areithio ar Siartiaeth yu ddiweddar yn Smithfield. Ei gynllnn oedd gwneyd amaethwyr o'r bobl, drwy eu gosod i drin diffeithdiroedd y deyrnas. Ym- ddangoaodd erthygl synwyrgall yn y Times ar y mater. Dygodd dyn o'r enw Jackson gwyn yn erbyn Cwmni Rheil- ffordd Manceitrion ac Altrineham yn ddiweddar, am ei attal i fyned yn y gerbydres, gan haeru ei fod yn feddw. Profwyd nad oedd yn feddw, a buraid i'r Cwmni dalu X30 iddo. Cafodd gwraig weddw o'r enw Hicks £2,500 yn ddiweddar, am golli ei gwr drwy ddamwain ar y rheilffordd yn Mhont- ypwl. Gorchymynwyd i'r Cwmni dalu un rhan o dair i'r weddw, a'r gweddill i'r plant. Mae Argl. Brougham wedi gadael Lloegr, er myned i'w balas yn Cannes, Ffrainc, er goohelyd gwyntoedd oerJlyd mis Mawrth, Bu ei Arglwyddiaeth arymweliad gyda'r Amherawd- wr Napoleon dydd Sul wythnos i'r diweddaf, yn y Tuileries. Dywedir fod John Sadlier yn fywetto! Dyn genedigol o Tipperary, yr hwn oedd yn eydysgolia a John Sadlier, a ysgrif- ena gartref o Awstralia, yn hysbysu ei fod wedi ei weled yn Melbourne. DICHELL GYFRWYB.—Y dydd arall, aeth g\^r ieuanc i siop crydd yn Nottingham,, erpwrcasu par o fotasau a phan oedd efe yn gwneyd prawf obâr addangoswyd iddo gan y crydd, ac wedi eu cael am ei draed, daeth dyn arall, sarug ei olwg, i'r siop, rhoddodd ergyd i'r gwr ieuanc ar ochr ei gem, ae yna aeth allan. A ddyoddefaaech chwi hyna ?" ebe y cwsmeriad wrth yMOpwr. "Na wnawn, bid siwr," ebe y siopwr. Na wnaf finnau," ebe y gwr ieuanc, a ffwrdd ag ef ar ol yr ymos- odwr, ae ymddengys ei fod byth heb ei ddal, gan na welwyd ef mwyach yn Nottingham, er nad oedd wedi talu am y botas- au newyddion. FFOAD YN GROES I'R WBRVDD.—Gadawodd yr Atlantis Efrog Newydd i fyned i Lynlleifiad ar y laf o Ch wefror. Yu mysgy mordeithwyr yr oedd dyn o'r enw Winter (gyda'i wraig), ysgrifenydd yn perthyn i farsiandwyr yn y ddinas bono, a'r hwn oedd wedi myned a dwy fil o doleri o arian ei feistriaid gydag ef, y rhai a ledrataodd trwy agor cist haiarn. Cafwyd warant allan i'w ddal, achymmerwyd lie ar y Persia, yr hon a hwyliodd dridiau ar ol yr Atlantic. Yr oedd pob tebygolrwydd mai y lleidr anonest fuasai yn cyrbaedd Llynlleifiad gyntaf; oblegid er mai y Persia yw y lIestrcyflymaf ar y mor, etto prin y gallesid dysgwyl v buasai yn ennill tridiau ar yr Atlantic-. Ni chafodd y Persia un gol wg ar yr Atlantic hyd nes daeth wyd yn agos i'r porthladd, pryd y canfyddwyd hi, ac y daethwyd i fyny ati, a chyrhaeddodd y Persia yr afon ddwy awr o'i blaen, Aethwyd ar fwrdd yr Atlantic gyda'r warant, a gwynebwyd Mr. Winter erei fawr syndod, yr hwn oedd wedi bieuddwydio fod pob peth yn ddiogel. Yr oedd yn agos yr oil o'r arian a gymmeiodd gydag ef ganddo yn ei feddiant. Dygwyd ef i'r lan, ac y mae yn awr yn aros penderfyniad Mr. Nathaniei Hawthorne, cenadwr yr Unol Daleithiau yn Llynlleifiad. FFRWYDRIAD ARSWYDUS PWLL GLO.- Y chydig wedi ban- ner dydd dydd Iau, Chwefror 19eg, cymmerodd ffrwydriad ar. swydus le yn mhwll glo Lund Hill, tua phum milltir o Barns- ley, swydd Lancaster, drwy ba un y mae nifer mawr o fywyd- au dynol wedi eu colli. Aeth y gweithwyr dyddiol, tua 180 o bersonau, ac 8 bachgen, i lawr am 6 o'r gloch yn y boreu thua banner dydd daeth 22 o honynt i fyny i gael ciniaw, ac arosodd y lleill i lawr i fwyta. Yn fuan wedi hyny y cymmer- odd y ffrwydriad le, yr hwn a siglodd y ddaear am bellder o ffordd. Rhoddodd y cymmydogion bob cymborth galluadwy, ac erbyn 7 o'r gloch yr oedd 17 o ddynion wedi eu tynu allan yn fyw, ond wedi eu hanafu yn dost. Nid ydys yn gwybod pa beth oedd yr achos o'r ffrwydriad. Dywed yr arolygydd tod pob peth yn ymddangos yn ddiogel pan fu ef yn arolygu ypwll y boreu hwnw. Nid oes braidd un teulu yn y gymftiydogaeth, nad oea ochain yno o herwydd colli rhyw aelod o hono.
AMERICA.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AMERICA. Mae yr Arago a'r Arabia newj dd gyrhaedd y deyrnas bon, yn dwyn newyddion o Gaerefrawg Newydd hyd y 9fed o'r mis diweddaf. Yr oedd y gweithrediadau yn y Congress wedi bod yn bwysig, a dadleu wedi bod yn nghylch cytundeb Dallas-Clarendon mewn perthynas i America Ganolog, ond heb ddyfod i un penderfyniad ar y mater. Enwir y Meistriaid Cobb, o Georgia; Floyd, o Virginia; Pickens, o Carolina Ddeheuol; Brown, o Ten- nesse; Bright, o Indiana Clifford, o Maine; Black, o Pennsylfania; a Jones, o Old Keystone, fel personau a ddewisir gan y Llywydd Buchanan i gymmeryd rhan yn ei weinyddiaeth. Yr oedd y Chwareudy Cenedlaethol yn Washington wedi ei ddinystrio gan dftn, a dim ond y muriau moelion yn aros. Newyddion o wahanol barthau a hysbysent fod y rhew yn tori i fyny, a'r afonydd yn codi yn raddol. Yr oedd 15,000 o dai wedi eu dinystrio yn yr Ynysoedd Philippaidd gan dymhestl ddychrynllyd. Yr Oedd un Dr. Harvey Burdett wedi ei lofruddio mewn modd ysgeler yn Nghaerefrawg, ar nos y 30ain o Ionawr. Nid oedd y trengholiad wedi ei ddwyn i derfyniad pan ym- adawodd yr agerlong.
CHINA.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Yn mysg y colledion a gafwyd trwy losgiad y gweithfa. oedd tramor yn Canton, y mae yn resyn fod argraffdy y Dr. Williams wedi ei'ddifetha, yr hwn oedd yn cynnwys y llythyrenau Chineaidd, a chopiau o yn agos yr holl weith- iau a gyhoeddwyd yn ystod y pedair blynedd ar hugain y bu y wasg hono mewn gweithrediad. Y mae rhai o hon- ynt nad argreffir byth mo bonynt mwyach. Dywed gohebydd y Morning Post yn Mharis fel y can- Iyn Yr wyfyn clywed fod acbos i gredu fod Rwsia eisoes wedi cynnyg cynnorthwy i China. Dywedir hefyd fod cytundeb newydd wedi ei lawnodi rhwng Rwsia a Phersia o fewn yr wytli wythnos ddiweddaf." Nis gellir ymddibynu ar y gohebydd yma bob amser, er hyny.