Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
TY YR ARGLWY DDI.—CHWEF. 16.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TY YR ARGLWY DDI.—CHWEF. 16. Gosododd Argl. Brougham ysgrif ar y bwrdd er hwylusu casgliad ystadegionamaethyddol. Dymunai larll Clarendon ar i larll Abermarle ohirio ei gynnygiad o berthynas i'r rhyfel a Phersia a dywedai ei fod ef, y boreu hwnw, wedi derbyn gohebiaeth a barai iddo obeithio y dygid yr ymrafael i derfyn- iad buan, Mewn atebiad oddiwrth Argl. Monteagle, gyda golwg ar y rhodd o arluniau achywrain-bethau gam Mr. Sheep- shanks, dywedai Argl. Stanley o Alderley, nad oedd y Llyw- odraeth etto wedi derbyn y rhodd. Ymddengys fod yr oediad hwn i'w briodoli i'r ffaith, y gofynir i'r pethau hyn gael eu har- ddangos ar y Sabbothau, os gwneir derbyniad o honynt, yr hyn sydd yn groM i feddwl y mwyrif o bobl Prydain Fawr.
TY Y CYFFREDIN.—Chwef. 16.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TY Y CYFFREDIN.—Chwef. 16. Codai Mr. Fitzgerald, yn ol hysbysiad blaenorol, i gynnyg, fod James Sadleir, Ysw,, aelod dros Tipperary, i gael ei ddi- aelodi, o herwydd ei fod yn carl ei gyhuddo o amrhyw weith- redoedd annghyfreithlawn, a'i fod wedi ffoi o'r wlad, yn lie ymddangos yn y i roddi cyfrif o'i ymddygiad. Wedi i Syr F. Theuiger, Mr. Roebuck, a Syr G. Grey, siarad, cydsyniwyd a'r penderfyniad yn unfrydol.
TY YR ARGLW YDDI.—CHWEF. 17.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TY YR ARGLW YDDI.—CHWEF. 17. Mewn atebiad i Iarll Caernarfon, dywedai larll Granville, had oedd un gwirionedd yn yr hysbysiad fod y Llyngesydd Sey- mour wedi dechreu taflu pelau poethion i dref Canton; ond, yn y gwrthwyneb, ei fod yn parhau yn Ilonydd, heb fabwysiadu unrhyw fesuraa newyddion. Cyflwynwyd deisebau y» erbyn y gwaddoliad i Maynooth. Hysbysai yr Arglwydd Gangbellydd ei fwriad i ddwyn i mewn saith ysgrif er di- wygio y ddeddf o barth cospi trosedd wyr.
TY Y CYFFREDIN.—CHWEF. 17.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TY Y CYFFREDIN.—CHWEF. 17. Cyflwynwyd amryw ddeisebau i'r Tf yn erbyn Gwaddoliad Maynooth, y doll ar bapyr, ac o du derbyniad Iuddewon i'r SJenedd heb y llw arferol.-Mewn atebiad i Argl. Goderick, dywedai Argl. Palmerston, y byddai i'r papyraa oedd wedi eu ipi gosod ar y bwrdd amlygu fod dau lestr yn dwyn banerau Pry- dain, heblaw yr Arrow, wedi eu difryo gan yr awdurdodau Chineaidd. Dywedodd hefyd nad oedd gwirionedd yn yr hys- bysiad fod y dref wedi ei than-beleni; ni wnaeth y Llyngesydd ond yn unig taflu rhai peleni i ganol y terfysgwyr, er eu gwas- garu. —— Cytunwyd ar benodiad pwyllgor er rheoleiddio etholiadau Seneddol, ac er attal trais i gael ei ymarferyd yn- ddynt. Caniatawyd i Mr. M'Mahon i ddwyn ysgrif i mewn, ercydvveddu deddfau y pysgodfeydd Gwyddelig ag eiddo y rhai Seisnig.-Cafodd Mr. Horseman ganiatad i ddwyn ys- grif i mewn i attal codi toll ar ffyrdd mawrion yn yr Iwerddon, a bod darbodaeth er adgyweirio y cyfryw ffyrdd, a thalu y ddyled arnynt, i gael ei godi yr un fath a thuag at y ffyrdd gy- hoeddus. Dygwyd hysbysiad Pwyllgor yr Adgyflemvad i fyny, a chytunwyd arno. Darllenwyd ysgrif y Galluoedd Llyngesol y drydedd waith, a phasiwyd hi.
TY Y CYFFREDIN.—CHWEF. 18.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TY Y CYFFREDIN.—CHWEF. 18. Wedi i rai petbau fod dan sylw y T9, codai Syr J. Pack- ington i gynnyg dygiad ysgrif i mewn er hyrwyddo achos addysg. Dywedai nad oedd yn bwriadu cymmeryd llawer o amser y Ty, ond tybiai y byddai yn anweddus i gynnyg ysgrif i'r T9 ar achos o gymmaint pwys, heb wneyd rhai egluriadau ar yr egwyddorion a gynnwysai. Yr oedd yr ysgrif wedi ei thynu allan yn y fath fodd ag y beidio tnyned ar draws y pen- derfyniad y daeth y Tj? iddo ar gynnygiad Argl. J. Russell yn yr eisteddiad diweddaf. Y ddwy egwyddorbwysicaf yn mhen- derfyniad Argl. J. Russell oedd, fod y cynllun i fodyngyffred- inol a gorfodol; ond yr oedd yr ysgrif oedd efe yn fwriadu dd wyn i mewn yn hollol wahanol. Yr oedd efe yncynnygys- grif a fyddai yn oddefol, ac nid yn orfodol, ac un a fyddai yn lleol, ac nid yn gyffredinol. Nid oedd efe yn meddwl fod mwy o eisieu addysg yn y tref- ydd nag ydoedd yn y cymmydogaethau gwledig ond, erhyny, yn y dinasoedd a'r trefydd yr oedd yr eisieu hwnw yn cael ei deimlo fwyaf, ac yn y cyfryw fanau y bydd y prawf debycaf o gael ei wneyd yn effeithiol. Dywedwyd gan Mr. McAndrew, oddiwrth ei wybodaeth lleol am Fanchester, fod 30,100 o blant yn y dref hono nad oeddent yn gweithio nac yn myned i'r ys- gol ac yr oedd Mr. Canon Rickson wedi dweyd fod yn mhl wyf St. Andrews, yn cynnwys 97 o erwau, 13,000odrigolion,abod 43t ycant o'r plant rhwng 3 ae 16 oed, y rhai oeddent yn myned i'r ysgol Sul, 25 y cant yn gweithio 29 y cant yn myned i ysgolien dyddiol a46 y cant nad oeddentyn gweithio, nac yn myned i'r ysgol. Yr oedd egwyddor ei ysgrif ef yn driphlyg, sef bod rhyddid crefyddol i gael ei ganiatau, fodtreth leol i'r ysgolion i gael ei gosod, a bod yr ysgolion i fod dan lywyddiaeth y trethdalwyr. Yr oedd yr ysgrif yma wedi ei thynu i fyny gyda chynnorthwy pwyllgor yn gyfansoddedig o ddynion galluog ac enwog, ac yn uno nifer eyfartal o'r ddwy blaid, y grefyddol a'r fydol. Y seiliau ar ba rai y llwyddwyd i gael y ddwy blaid i uno oeddent y rhai canlynol,-cydaynia y blaid grefyddol fod y dretli i gael ei gosod er mantais i ysgol- ion bydol, ac yr oedd y blaid fydol, ar y tu araH,WHdiymiodd- loni ar fod i'r cynnorthwy oddiwrth y trethi gael ei roddi i bob ysgol oedd yn dyfod at y safon benodol, ar yr ammod yn unig fod yr arian a gyfrenid gan y trethdalwyr i beidio cael eu defnyddia i ddysgu athrawiaethau crefyddol. Cyfrenid y dreth i unrhyw ysgol fyddai yn dyfod i fyny at y safon, ac ni fyddai un gorfod- aeth i ddysgu athrawiaethau y byddai y rhieni yn eu herbyn. Cynnorthwyai y dreth y gyfundrefn breseno], parheid i gasglu yr arian oddiar y plant, ac ni ymyrid dim a chyfraniadau y pwyllgor addysg. Yn ychwanegol at hyn, rhoddid gallu i'r pwyllgorau lleol, pan brofid eubod yn dlawd, i sefydlu ysgolion rhad, neu i ganiatau i blant fyned i mewn i ysgolion fyddent eisoes mewn bod. Yr oedd yn gwybod y gellid ei gyhuddo wrth wneyd y cynnygiadau hyn o ddinystrio y gyfundrefn bre- senol, a rhoddi terfyn ar ymdrechion gwirfoddol; ond yr oedd efe wedi talu sylw. mawr i'r pwnc, a theimlai mai e; ddyled- swydd oedd gosod ei gynllun gerbron ySenedd. Pe byddai i'r mesur basio, tybiai y deilliai y manteision mw3'af oddiwrtho ac hyd y nod pe bydda; yn cael ei wrthod, fe wneid lIawer iawn o ddaioni trwy y ddadl ar y mesur.—Mr. Cowper a sylwai, nad oedd efyn meddwl y byddai un gwrthwynebiad i ddygiad y mesur i mewn, gan fod yr ysgrif yn fath ogyfarfyddiad rhwng y blaid grefyddol a'r un wladol. Wedi i Mr. E. Ball ac Argl. R. Cecil siarad, dywedai Mr. Cobden fod y pwne hwn bellach wedi bod dan sylw y T$am 20 mlynedd, a'i bod yn brvd bell- ach i ddyfod i benderfyniad yn ei gylch. Barnai ef y dylid penodi ar amser neillauol o'r dydd i gyfranu addysg grefyddol, fel y gwneir i ddysgu daearyddiaetb, &c. Yr oedd yn dda ganddo fod Syr J. Packington wedi dwyn yr ysgrif i mewn, a hyny o herwydd y rheswm canlynol-mor fuan ag y gotodid
i HANESION CYFFREDINOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
22ain, wedi dyoddef 28 o ddiwrnodau oediwrth niweidiau a gafodd drwy gwympo oddiar gefn ei geffyl pan ar ol y c*n hela. Perchid yr iarll yn fawr fel meistr tir, a gwnaethlawerdrosddiwylliaethyhobt weithgar. Gan- wyd ef ar yr lleg o Fehefin, 1797 yr oedd felly, pan fu farw, yn ei 60fed fhvydd o'i oedran. ATTAL CERBYDRES.—Mr. Harrison, boneddig yn byw yn Enfield, a ddirwywyd gan yr ynadon o 10s. a'r costau am rwystro ceidwad ar y Rheilffordd Ddwyreiniol yn nghyflawniad ei ddyledswydd. Pan ofynodd y ceidwad iddo am ei docyn yn Stratford, cymmerai Mr. Harrison arno ei fod yn chwilio am dano, gan dynu allan gyn- cwysiad ei logellau, yn llythyron, cyllell, allweddau, &c. -gan edrych ar bob ertbygi, er gweled ai hwnw oedd y tocyn. O'r diwedd, cafodd afael mewn tocyn am y tym- mor (season ticket). Cafodd y gerbydres ei rhwystro chwech mynyd drwy ymddygiad Mr. Harrison. Y dyben oedd, tori i lawr reol newydd o eiddo y cwmni, o fynu gweled tocynau am dymmor. bob tro y defnyddir hwynt. Barnai Mr. Ilammill fod yr hawl hon gan y ewmni, a chafodd Mr, Harrison ei ddirwyo yn y can- lyniad. LLEDBAD PENFFOBDD.-Fel yr oedd Mr. Ovenden, Llieinydd, o dref Warwick, yn dyfod gartref un pryd- nawn, canfu ddyn tal a chryf yn gorwedd ar y ffordd, yr hwn a argymmerai ei fod yn anhwylus iawn, a cheisiai gan Mr. Ovenden i'wgario i'r dref yn ei gert. Cydsyn- iodd Mr. O. a'i gais a phan yn y weithred o'i gynuor- thwyo i'r lan, ymosododd yr anfad-ddyn arno, gan ddweyd fod yn rhaid iddo gael ei arian. Ysgarmes a ganlynodd; a thynodd yr yspeilwr law-ddryll allan, a saethodd Mr. Ovenden yn ei ochr, a chymmerodd ymaith S,4 10s. o arian o'i logellau. Yn mhen ychydig amser, llwyddodd Mr. Ovenden i fyned i'w gert drachefn, ac aeth yn mlaen hyd nes y cafodd gynnorthwy. Mae boneddig- ion yr ardal wedi cynnyg X200 o wobr am ddal yr yspeiliwr. Mae Mr., Ovenden yn gwneyd yn dda.