Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

COFFADWRIAETH Y DDWY FIL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

gan yr Undeb yn elw i bob aelod trwy y corff i gyd; gan mai yr arian hyn mewn rhan sydd yn myned i gynnal y costiau undebol. Dyma le am •Printing and Binding Establishment, ond nid oes ganddynt yr un. Y mae yr un fath gydag Undeb y Fforestwyr. Maent hwy yn ei gael yn well i wneyd a'r crefftwyr, yn hytrach na cbael argraffwasg eu hunain. Yr unig euhriad ydyw ein llywodraeth. Mae ei llenyddiaeth yn eithriad. Mae gan y weinyddiaeth ei gwasg. Mae rhesymau boddhaol iddynt hwy dros hyn, gan fod yno lawer o ddirgeledigaethau yn cael eu hargraffu nad yw y byd yn eu gweled. Ond mae yn ffaith fod yr argraffu yn costio mil- oedd lawer yn fwy trwy hyn na phe buasent yn cael eu thoddi i public competition. Ac yn wir, nid yw y llywodraeth yn un rheol i neb weitliio wrthi: canys pwy a adeiladai long, neu a wnelai ddirn arall, fel y mae y llywodraeth yn ei wneuthur. Yr oedd llythyr wedi cael ei roddi yn ei law, yr hwn oedd i ymddangos yn y Bedyddiwr am tis Mawrth, ac wedi ei ysgrifenu gan frawd teilwng iawn, yr hwn a gyfenwai ei hun yn Llywarch" ac yr oedd Llywarch yn y gynnadledd hono, ac wedi gosod ei gynnyg eisoes ger ein bron. Joint Stock Company oedd amcan Llywarch, a chael gwasg bertbynol i'r enwad. Mae yn hawdd cael cwmpeini at hyn fel at unrhyw ganghen arall o fasnach. Ond pa fodd y gall y fath gwmpeini fod yn eiddo enwad y Bed. yddwyr ? Nis gall i'm tyb i fod unrhyw 1,500 neu 2,000 o Ranfeddiannwyr yn eiddo yr enwad. Mae yma rwystrau mawrion iawn ar ein ffordd. Cyn y gall y Bedyddwyr yn Nghymruddyfodyn gwmpeini, rhaid i'r eglwysi ddyfod yn rhanfedd. ianwyr, ac nid personau. Yna, wedi hyny, cyfyd dyryswch arall am nad yw yr enwad yn gorporation nac yn chartered body. Yr unig fodd fyddai i'r eglwysi dalu yr arian a'r golled mewn deed of trust i'r enwad yn enwau personau. Yna gall yr eglwysi trwy eu cynnrychiolwyr yn eu cynmanfa- oedd gael y llywyddiaeth ar yr eiddo. Ond nid oes dim yn newydd yn y meddylddrych o gael y jomt stock company, y mae genym amryw o bonynt yn awr. Y mae Seren Gomer, er en ghraifft, yn eiddo i 30 o Fedyddwyr mewn joint stock company-felly y deallwyf y mae y Great; nid wyf yn gwybod ai felly mae y Bedyddiwr ai peidio; nid felly mae y Gwyliedydd. Ond y pwnc ydyw, a fydd i unrhyw joint stock fod yn eiddo yr enwad heb ei fod yn cael ei greu gan yr enwad fel enwad, ac nid gan unigolion. Os bydd i ni eleni gymmeryd rhan, a thalu punt am dani, a chael swllt bob blwyddyn o log, nid wyf yn gweled pa beth a fydd byny er dangos parch i deimlad y ddwy fit. Y mae cannoedd o ddynian yn y wlad a gymmerant unrhyw nifer o ranau, pe gellid sicrhau iddynt bum punt y cant o log ar eu harian. Mae hyn yn suddo yr amcan i lawr i drafodaeth fasnachol bob dydd o'r flwyddyn. Am hyn, a llawer. a allesid ei nodi, y mae yn ymddangos i mi y byddai sefydlu swyddfa argraff- yddol i enwad y Bedyddwyr yn Nghymru yn taraw yn erbyn lies, cysur, a defnyddioldeb dynion da yn yr enwad, ag ydynt yn barod ar draul fawr wedi sefydlu swyddfeydd yn ngwahanol bartbau o'r wlad, Ni ddylem ddrygu hawiiau unigolion heb lod y lies cyttredinol yn ddigon amlwg a plnvysig i'n cyfiawnhau yn y fath anturiaeth. Byddai hefyd yn taraw yn erbyn profiad addfed y cyfundebau crefyddol yn Lloegr, ac yn erbyn gwyliadwriaeth eang rliai o'r prif sefydliadau dyn. garol yn y byd. Tra y byddem hefyd yn gosod yr enwad i ddyfod yn atebol am anturiaeth nad oes modd geinm ar hyn o bryd i wybod mesur y eyf- rifoldeb a fyddai yn gydfynedot ag ef. Yr ydwyf felly yn tacr ddymuno ar y gynnadledd i arafu ac ymbwyllo cyn ymrwymo yr enwad i'r anturiaetn h"n. Yr wyf o galon yn cefnogi y cynnygiad o gael trysorfa at gylioedui ein gweithiau llenvddol, a rhoddi y drysorfa lion mewn ymddiriedaeth bri odol i fod yn eiddo yr enwad, ond dymunaf am i bwnc y swyddfa argraffyddol fod yn bwne agored, er cael ystyriaeth mewn adeg i cldvfod, pan byddwn yn canfod ein tfordd yn fwy goleu nag yw yn bosibl i ni wneyd gyda'n gwybodaeth bresenol. Dangoswyd cymmeradwyaeth mawr yn ami i'r hyn a ddywedai Mr. Price, ac ymddangosai fod y gynnadledd yn annghymmeradwyo yr amcan o gael argraffwasg i'r enwad. Eiliwyd y cynnygiad hwn gan y Parch. G. M. Humphreys, B.A., Merthyr, mewn araeth Seisnig bwrpasol, a chefnogwyd ef gan y Parch. E. Ro- berts, Maesaleg, mewn araeth ddyddorol iawn a sylwai fod arwyddion ac anhebgorion yr oes yn galw am yr hyn a gynnygai Mr. Price. Djlem gofio, meddai Mr. R., mai nid anrliydeddu person- au, ond mai anrbydeddu egwyddorion yr oeddem. Buasai yn hawdd cael y Drysorfa, dim ond i bob aelod yn yr Hen Gymmanfa a'r Dehau roddi deg ceiniog yr un> buasai hyny tua £ 2,000. Nid oedd eisieu ond cydweithrediad y gweinidogion a'r blaenoriaid, yna, yr oeddyr amean yn hawdd acyn sicr a byddai hyn yn fwy parhaus nag unrhyw beth arall ag oedd wedi ei gynnyg, a buasai y dry- sorfa fel ffynnon yn tarddu, ac yn ffrydio yn mlaen i leshau'r oesau dyfodol. Cynnygiodd y Parch. T. Lewis, Rhumni, welliant, sef fod J?2,000 yn cael eu casglu er ffurfio Loan Fund, ac eiliwyd y cynnygiad gan y Parch. D. Edwards, Ystalyfera. Ni wnaeth un o'r ddau frawd ond braidd gynnyg y peth uchod. Wedi hyn, cyfododd Mr. Llewellyn Jenkins, i wneuthur rhai sylwadau ar araeth Mr. Price, ac i egluro yn mhellach ei drefn ef ei hunan; sylwai nad oedd yn un rheol i ni weithredu wrthi. Dy- wedai Mr. Jenkins hefyd y byddai ystrydebu Llyfr Hyrnnau, a llyfrau ereill, yn arbed y draul o gys. sodi, yr hyn na thalai i argraffydd Ileol i'w wneu. thur; ond y byddai yn elw mawr i wasg o eiddo yr enwad, ac y buasai yr elw hwnw yn fanteisiol i gyrmal yr hen weinidogion. Traddododd Mr. W. Harries, Merthyr, araeth Seisnig wresog yn erbyn yr amcan, gan ddadgan na byddai y fath beth ond Truck System enwadol; ac os mabwysiedid y peth, y byddai arno ef gy. wilydd i fod yn Fedyddiwr. Wedi Mr. Roberts, Blaenau, sylwi ar anadd- fedrwydd a cholliadau y ddau gynnyg; i Mr. Ro- berts, Pontypridd, ddangos Hog y Loan Fund, ac i'r Dr. Davies, Aberafon, sylwi ar y priodoldeb o wneuthur areithiau byrion, a phleidio'r amcan o gael Loan Fund, cynnygiodd y Parch. Cornelius Griffiths, Merthyr, ac eiliodd y Parch. D. Morgan, Blaenafon, y mesur canlynol:—Fod trysorfao ddiin llai na dwy fil o bunnau i gael eu casglu yn goff. adwriaethol am y Ddwy Fil a fwriwyd allan o Eg- lwys Loegr, a'r cyfryw swm i gael ei gydranu i'r ddau ddvben canivnol 1. Er cyhoeddi llyfrau a fyddont o duedd i ddad- blygu gerbron y byd yr egwyddorion mawr a phwysig a gredir ac a goleddir gan ein cyfenwad hefyd, llyfrau cymhwys at wasanaeth yr Ysgol Sab- bothol; gyda thraethodau bychain er egluro hawl, iau Crist ar ufydddod personol dynion—yn nghyd a phetliau pwysig ereill; a bod y cyfryw drysorfa i fod o dan reoleiddiad Pwyllgor dewisiedig gan y cyfenwad. 2. Er ffurtio trlsorfa cr cynnorthwyo ein heg- lwysi i dalu eu dyledion, ar yr un egwyddor a'r Loan Fund ag sydd yn awr yn Lloegr. Tynwyd yi boll gynnygion ereill yn ol, a phas- iwyd hwn yn unfrydol. Yna cynnygiodd y Parch. W. Roberts, Blaenau ac eiliodd y Parch. J. Row- lands, Cwmafon, y penderfyniad canlynol, a phas- iwyd ef uufr,vdal Fod y cyfarfod hwn yn dymuno hysbysu ein bad fel Bedyddwyr yn barod i gydweithredu a'r boll enwadau Y ml,eillduol ereill yn Nghymru yn y pethau y galiwn avduuo mearvs. 1. Darlithiau, cyfarfodydd cylioeddus, &c., y» egluro egwyddorion YiuneiUduatuli. *■ 2. Rhyddid yn gyffredinal-megys y Dreth Eg- lwys, mesur claddu Syr S. M. Peto, &c., &c. 3. Addysg yn gyffredinol—lledaeniad addysg yn yr egwyddorion y gallwn ni gydweithredu, yn lie bod ein plant yn cael eu dwyn i fyny yn pupil teachers, ac ysg lorion yn y National Schools. 4. Gofalu am yr elusenan (charities) adferu y rhai a gollwyd, megys yr Howell charity (Dinbych a Llandaf); Wynne .Charity (Newmarket), y rhai ydynt yn ngafael yr eglwys-a chadw ereill rliag colli. Cynnygiodd y Parch. J. Rowlands, ac eiliodd y Parch. W. Jenkins, fod y boneddigion canlynol i fod yn bwyllgor cyffredinol ar yr achlysur pre- senal Parch. D. Davies, D.D., Aberafon; Parch. T. Davies, D.D., Hwlffordd; Dr. Davies, Coed-duon Parch. R. Ellis, Sirhowy; W. Evans, Ysw., Tre- degar Parch. E. Evans Dowlais; Parch. B. Evans, Castellnedd; W. Harris Ysw., Merthyr; Parch. W. Hughes Llanelli; Parch. G. W. Hum- phreys, B.A., Merthyr; Ll. Jenkins, Ysw., Maes- ycwmwr; Parch. John Emlyn Jones, A.C., Caer- dydd; Parch, H. W. Jones, Caerfyrddin; T. Joseph Ysw., Merthyr; Parch. J. Lloyd, Mer- thyr B. Lewis, Ysw., Nantyglo; Parch. T. LewiSi Rhumni; J. Lewis, Ysw., Caergybi; J. Lewis, Ysw., Aberdar; E. Lewis Ysw., Aberdar; J. Lewis, Ysw., Cwmtwrch; Parch. W. Morgan, D.D., Caergybi; Parch. D. Morgan, Blaenafon; Parch. J. R. Morgan, Llanelli; Parch. W. Owen, Felinganol; Parch. J. G. Owen, Rhyl; J. Palmer, Ysw., Amlwch; Parch. J. Prichard, D.D., Llan- gollen; Parch. T. Price, Aberdar; G. Price, Ysw., Aberdar Parch. W. Reynolds, Felinganol; Parch. W. Roberts, Blaenau; Parch. E. Roberts, Pont- ypridd; Parch. J. Robinson, Llansilin Parch. J. Rowlands, Cwmafon Parch. T. Thomas, D.D., Pontypwl; Parch. E. Thomas, Casnewydd; Parch. N. Thomas, Caerdydd Parch. S. Williams, Nant- yglo. Gyda gallu i ychwanegu at y nifer. Penderfyn- wyd hefyd fod pwyllgor gweithiol dewisedig o'r rhai blaenorol i gael ei bennodi, ac i fod yn gyn- nwysedig o'r boneddigion canlynol Parch. B.;Evans, Castellnedd W. Evans Ysw., Tredegar; Parch. G.W.Humphreys, Merthyr; Mr. LI. Jenkins, Maesycwmwr; Jobn Phillips, Ysw., Aberdar; Parch. John Emlyn Jones, Caer- dydd T. Joseph, Ysw., Ystrad Parch. T. Lewis, Rhumni; Parch. D. Morgan, Blaenafon; Parch. J. R. Morgan, Llanelli; Parch. T. Price, Aber- dar; E. G. Price, Ysw., Aberdar; Parch. W. Roberts, Blaenau Parch. J. Rowlands, Cwmafon Parch. N.Thomas, Caerdydd; Parch. S. Williams, Nantyglo. Cynnygiwyd y penderfyniad yma gan y Parch. N. Thomas, Caerdydd eiliwyd ef gan y Parch. T. Price, a chariwyd ef yn unfrydol a chalonog Fod y cyfarfod hwn yn llawenhau fod ein brodyr yn y Gogledd yn sefydlu Athrofa; ac yn dymuno bendith lor ar yr ymdrech hwn o'u heiddo er hel- aethiad teyrnas Iesu Grist, ac yn taer erfyn ar yr holl eglwysi i gyfranu er (.-ynnorthwy.o,yr-atLTofa newydd. Ar gynnygiad y Parch. J. R. Morgan, ac eiliad y Parch. D. Morgan, penderfyiiwyd tod diolch- garwch y cyfarfod yn cael ei roddi i'r Dr. Prichard a Mr. Robinson, am eu caredigrwydd yn dyfod o'r Gogledd i'r Gynnadledd. Ar gynnygiady Parch. T. Price, ac eiliad y Parch. W. Thomas, penderfynwyd fod diolcbgar- wch calonog y cyfarfod yn cael ei roddi i eglwysi Merthyr a Dowlais, am eu haelioni yn parotoi llun- iaeth ganol dydd a'r hwyr i'r brodyr ag oedd yo bresenol. Ar gynnygiad y Parch. W. Roberts, ac eiliad y Parch. B. Kvans, cytunwyd yn unfrydol at fod diolchgarwcli yn cael ei gyflwyno i'r Parchii. D. Morgan, J. Rhys Morgan, a B. Evans, am eU gwasanaeth fel ysgnienyddion, ac i Mr. E. G.