Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Y LOCUSTIAID YN NEHEUDIR AFFRICA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y LOCUSTIAID YN NEHEUDIR AFFRICA. Y MAE Cape Colony yn Neheudir Aftrica. Y mae yn cyrhaedd o wlad y Bitchwaiias, neu y Bosjesmyn, hyd y Penrhyn Gobaith Da. Daeth ya feddiaiit i'r Prydeinwyr ychydig cyn dechreu ein hanes. Yr oedd cyn hyny yn meddiant yr Isellmynwyr. Pan ddaeth yn feddiant i'r Saeson drwg gynghrair, cododd yr Isellmynwyr oedd yn preswylio yno mewn gwrth ryfel. Gorchfygwyd h wynt, ac attafael- wyd meddiannau yr arweinwyr, a chospwyd y rhan fwyaf o honynt. Ciliodd rhai gydag ychydig o'u heiddo symudol i wlad y Bitch- wanas, neu y Bushmen, fel y gelwid hwynt, yr hon sydd wlad annibynol, a sefydlasant ynddi. Cynnaliasant eu hunain iu tealuoedd drwy godi anifeiliaid, oblegid yr oedd yno borfeydd da. Yn mhlith y rhai a giliasant yr oeddHeinrich Von Richter a'i deulu. Yr oedd wedi sefydlu kraal, fel y galwant eu preswylfed, ar lan ffyn- non o ddwfr. Yr oedd hyn yn angenrheidiol, gan y gallent deithio milldiroedd lawer cyn cyrhaedd ffynnon drachefn. Yr oedd y kraal yn fath o gastell, yn yr hwn y cedwid yr anifeiliaid rhag rhuthriadau creaduriaidgwyllt- ion yn y nos. Yr oedd wedi ei wneyd fel gwrych ogoed wedi ei phlethu yn eu gilydd, ac yn ddigon cryf ac uchel i attal ymosodiadau y Ilew ei hun. Yn un pen o'r'amgauad hwn yr oedd y ty wedi ei adeilada o goed. Yr oedd yn dy cryf, ond hollol ddiaddurn y tu allan a'r tu fewn, Nid oedd cyileustra yn y wlad hono i addurno y tai, pe bai cyfoeth i'w gael; ond nid rhyw lawer o hwnw oedd gan Heinrich yn bresenol. Cynnwysai ei deulu o saith, efe ei hun, pedwar o blant, yn nghyd â. gwas a morwyn ddu. Y LOCUSTIAID. Ar un o'r prydnawnau hyfryd sydd i'w cael yn ami yn y wlad hon, pan y mae holl natur yn ei gwedd ardderchocaf, yr haul yn disgyn tua'r gorllewin, fel pe bai mewn cerbyd o aur, gan daflu ei gysgodion dros y gwastadedd gwyrddlas; eisteddai perchenog y kraal wrth ddrws ei fwthyn yn aberthu gyda'i bibell i'r duw myglys, fel y mae yr arferiad bron yn ddieithriaa yn mhlith yr Isellmynwyr. Yr oedd yn edrych yn dawel a boddlongar, a gwyliai symudiadau ei ddaufab henaf a'r gwas du yn casglu yr anifeiliaid oddiar y gwastad- edd i'w diogelfa dros y nos. Tra yr oedd etto yn eu gwylied, gwelai orwmwl mawr du yn ymgodi o'r terfyngylch yn y gogledd orllewin, y tu draw i'r fan yr oedd y bechgyn yn casglu yr anifeiliaid. Edrychai mewn pryder; yr oedd yn ofni fod ystorom yn dyfod, ond nid oedd hyny yn bosibl. Gwyddai Heinrich arwyddion y ty- wydd yn dda, ac yr oedd yr haul yn myned i lawr gydag arwyddion odegwch y prydnawn hwnw. Ar ol craflFu ychydig, tarawodd i'w feddwl fel saeth mai haid o locustiaid oeddynt. Yr oedd wedi clywed fod locustiaid yn y rhan hon o Affrica, ond nid oedd wedi eu gweled erioed. Yr oedd y cwmwl yn cynnydduo hyd, ac yn mron a chuddio y gweddill o oleuni yr haul. Yr oedd y bechgyn yn awr wedi casglu yr anifeiliaid i gyd i'r kraal. Neidiodd Hans, y bachgen henaf, oddiar ei geffyl, ac aeth at ei dad. Hans, weli di'r cwmwl yna?" ebe'r tad. "Yrwyfyn sylwi arno er ys tuag awr,"ebe Hans, "ac nid yw ei ddiwedd wedi dyfod dros y terfyngylch etto, ond os ceidw y gwynt yr un cyfeiriad ag yw yn awr, ant heibio i ni tua'r gorllewin, oblegid darllenais eu bod yn wastad yn myned gyda'r gwynt. Gobeithio fod hyna yn wir, ac y bydd i'r gwynt i bara or gogledcl drwy'r nos," meddai'r tad, onide, os deuant arnom, dystrywiant yr ychydig gynauafsyddyndechreu addfedu, a bwytant i fyny holl ymborth yr anifeiliaid. Y Duw mawr yn ei drugaredd a ofala am danom." Arosodd y ddau yno, a chasglodd y teulu i gyd oddiamgylch iddynt i wylied symudiadau y nntai ofnadwy oedd yn dyfod ar eu tir. Yr oeddeuswn yn awr i'w glywed fel taranau pell, neu lu o feirch a cherbydau. Yr oedd y cwmwl yn dechreu myned heibio iddynt ar yr aswy; ond yr oedd symudiad newydd yn dechreu yn awr. Yr oedd Heinrich yn gobeithio y buasent yn parhau i fyned heibio iddo, ond nid felly yr oedd-yr oedd y locust- iaid yn myned i wersyllu. Paham ? Oddi- wrth ymddangosiad y rhai by n ychydig fyn- ydau yn ol, yr oeddynt yn heinyf eu gwala, ond yn awr disgynent yn heidiau mawrion, ac yn fuan byddent i gyd ar y llawr. Yr oedd yr haul wedi myned i lawr, a dyna'r secret. Pan a yr haul i lawr, nid oes ganddynt wres i'w cynnal i'r lan; ac heb wres ni allant ehedeg, felly, syrthiant yn gyflym i gyflwr o farweidd-dra, hyd nes y cyfyd yr haul drachein i'w deffroi. YDDYDDAN YN NGHYLCH LOCUSTIAID. Wedi iddynt weled y locustiaid yn gwersyllu, ac nad oeddent yn myned yn mhellach y nos- waith hono, aethant i mewn i'r ty i fwyta swper, ac ar ol bwyta eisteddasant i lawr i siarad ar y pwnc mwyaf pwysig iddynt hwy, sef ymweliad y locustiaid. Yr oedd y tad yn bryderus iawn, oblegid yr oedd ei holl eiddo yn y dafol y noswaith hono. Dywedai,— "Yr wyf yn gobeithio na thry y gwynt ddim heno i'r gorllewin, onide, darfu am danom, oblegid os try ni fydd glaswelltyn nâ dalen las ar bren i'w cael cyn yr hwyr nos yfory, a dystrywir ein cnwd o haidd ar ol i ni ei lafurio. Y Duw da yn ei drugaredd a ofalo am danom." „ Gwelais mewn llyfr teithiau sydd ya ly meddiant," meddai Hans, oblegid efe oedd ysgolor y teulu, eu bod yn cynneu tan mewn rhai parthau oddiamgylch i'w medd- iannau, a bod hyny yn eu hattal, os na fydd- ant yn haid fawr iawn. Ond yr wyf yn ofni fod hon yn un fawr iawn, a'u bod ar symud- iad, ac yna ant yn mlaen gyda'r gwroldeb mwyaf hyd nes mogir digon o honynt i ddi-

TRAETHODAU.