Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

ATEBION.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ATEBION. Ateb i Ab Prydderch. Buasai yn dda genyf pe buasai rhyw un mwygalluog na mi yn ateb gofyniadau Ab Prydderch yn y SEREN am Chwefror 28ain. Ond gan nadoeanebaranynei ateb, cynnygiaf a ganlyn i'ch sylw, gan obeithio y byddwch mor garedig a rhoddi lie iddynt. Y cyntaf a'r ail ofyniad sydd yn bur anhawdd i'w hateb gyda sicrwydd. Beth bynag, y mae yn sicr i Ynys yr la gael ei darganfod yn y flwyddyn 860, ac fe wnaeth y Daniaid hi yn drefedigaeth yn. 874. Eil- waith, fe ddarganfyddwyd Greenland gan y Daniaid yn 981, ac fe'i poblogwyd yn dra buan o Denmark, ac Ynys yr. Ia ac y mae yn bur debyg i'r trefedigwyr hyn i ymledu tualr gogledd, ac mai eu hiliogaeth hwy yw yr Esquimaux presenel a breswyliant y gororau rhewllyd. Y trydydd gofyniad. Yn y dyffrynoedd mwyaf dehenol o'r Arctic Regions fe gynnyrehir rhyw yehydig o lysieufwyd, ond eu prif ymborth yw eig pysgod, pa rai sydd yn heigiau yn eu hafenydd a'u moroedd. Y pedwerydd gofyniad. Ymwisgant mewn crwyn eirth a bleiddiaid, &c. Yn y parthau mwyaf gogleddol nid ydynt byth yn ymolcbi eu crwyn, ond ireiddiant eu hunain ag olew, fel y mae yn anhawdd adnabod eu lliw gwreiddiol—y mae y fath drwch a hwnw o frasder yn amddiffyn eu cyrff rhag llymdra yr oerfel. Nid yw eu tai ond tyllao wedi eu cloddio yn y ddaear, ac yn cael eu hamddiffyn gan furiau a tb6 ychydig droedfoddi uwchlaw yr arwynebedd. Cloddir gio mewn rhai o'r gororau hyn, yn neillduol yn Siberia, ac y mae yn werthfawr iawn iddynt fel tanwydd. Y pumrned gofyniad. Pan gyrhaeddodd y newydd hwn gyntaf i Ewrop, fe daniodd calonau antfyddwyr o lawenydd. Cawsant damaid blasus o'r fath a garent; taerent ond cael China yn iaith gyffredin y byddai yn foddion i daliu yr hen Feibl i ebargofiant tragywyddol. Ond erbyn i Dr. Morrison, ac ereill o genhadau Crist- ionogol, fyned i China, a dysgu ei iaith, a gwireyd ym- chwiliad teg iddi, cawsant allan y ffeitbiau canlynol:— fod gan y Chineaid lei cenedloedd Paganaidd ereill, ddau amseryddiaeth, y naill yn wladol, ac yn debyg o fod yn wirioneddol, a'r llall yu ddychymmygion disail. Mae amseryddiaeth wladol y Chineaid yn cyrhaedd ychydig tu ol i'r diluw, sef tua 144 o flynyddiau. Ond am yr amseryddiaeth a feddant tu ol i hyny, yn ol dysgedig- ion penaf China eu hunain, nid ydynt ond dychymmyg- ion disail. Y ehweched gofyniad. Nac oes, medd rhai ysgrif- enwyr. Dywed ereill fod y fath debygolrwyddrhwng iaith China, Japan, a Tartary, fel y gall y dair cenedl ddeall Uawysgrif ac argraff eu gilydd yn dda, ond fod y lath wahaniaeth rhyngddynt yn seinio eu geiriau, fel na ddeallant eu gilydd yn siarad mwy na phe bai Cymro, vn siarad i hwy. Y seithfed gofyniad. Oes, rhai geiriau cyfansawdd pan yn gyfansoddedig o ddau wreiddyn. Er enghraifft, Hoonan sydd air dau sill mae hoo yn arwyddo llyn, o nan yn arwyddo deheu, felly Hoonan a arwydda Llyn Deheuol. Mewn gobaith y boddlona yr uchod Ab Pryddereb ae ereill, y gorphwys, Yr eiddoch yn ostyngedig, Merthyr. I I. AB OWEN. Ateb i Un o,r Sling. Syr,—Y mfte yn ddiainmheuol mai mab Brehin Edora a aberthwyd ar y mur, oblegid cyfeirir at yr am- gylchiad yn yr ail bennod o lyfr Amos, a'r adnod gyntaf, lie y dywedir am dair o anwireddau, Moab, ac am bedair ni throaf ymaith tiohosp hi, am iddo losgi esgyrn Brenin Edom yn galch; sef ei gyntafanedig, etifedd y goron, yr hwn sydd yn cael ei ystyried yn y fan hyn yn frenin. Hyn yn fyr oddiwrth Merthyr. I. AB OWEN.

DYCHYMMYG.

BARDDONIAETHv '' .-

TROAD Y DDWY FIL ALLAN 0 EGLWYS…