Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

ARGRAFFIAD DIWYGIEDIG O'R…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ARGRAFFIAD DIWYGIEDIG O'R TESTA, MENT NEWYDD. MR. Got., — Dymunwyf eich sylw chwi a brodyr da ereill at yr hyn a ganlyn. Credwyf y byddai cael argraffiad diwygiedig o'r Testament Newydd ar yr areithfa o bwys a gwerth mawr. Y mae y Bedyddwyr yn selog dros burdeb egwyddor- ion crefydd teimlant y pwys o roddi Gair Duw yn ei burdeb i'r byd, o'r hyn y mae Cymdeithas Gyf- ieithiadol y Beibl yn gofgolofn. Yr wyf wadi bod yn meddwl y byddai dwyn allan y cynnygiad can- lynol yn fendith i'r byd, sef Fod Argraffiad Diwygiedig o'r Testament Newydd i gael ei ddwyn allan, ac i fod yn lyfr yr areithfa yn em plith. Addefir yn gyffredin y gellir diwygio yr hen gyf- ieithiad sydd genym. Mae genym yr un rhesymau drosddymnno cael cyfieithiad diwygiedig ag oedd gan gyfieitbwyr y cyfieithad awdurdodedig. Eu rhesymau hwy oeddynt y rhai caulynol yn mhlith ereill:—" He, Rainolds, moved his Majesty, that there might be a new translation of the Bible be. cause those which were allowed in the reign of King Henry VIII. and Edward VI., were corrupt, and not answerable to the truth of the original. For example first, Gal. 4. 25, the Greek word is not well translated as now it is, bordereth neither expressing the force of the word, nor the apostle's sense, nor the situation of the place. Secondly, Ps. 105. 28, They were not obedient;' the ori- ginal being. 'They were notdisohedient.' Thirdly, Ps. 106. 30, 'Then stood up Phinehas and prayed;' the Hebrew hath it, executed judgment. (Ander- ton's Annals of the English Bible, vol. ii., p. 369). Mae pethau mor bwysig a'r camgymrreriadau uchod yn ein cyfieithad cyffredin ag y byddai yn dda eu cyfnewid. Nid rhyw fympwy perthynol i'r Bedyddwyr, fel y garyr eich darllenwyr, Syr, yw yr awydd i gael cyfieithiad cywirach. Teimlai y taen- ellwyr dysgedig. Dr. G. Campbell a Dr. Macknight, hyn, a llafuriasant tuag at ddwyn oddiamgylch yr amcan clodwiw. Dichon y gwnelai Yr Oraclau Bywiol," cyf- ieithiedig gan y diweddar Williams o'r Drefnewydd, ateb y dyben yn rhagorol, gydag ychydig o gyfnew- idiad geiriol mewn rhai manau, er ei wneyd yn fwy ystwyth a dealladwy i'r werin. Byddai y manteision o hvn yn fawr. Gosodid allan feddwl Duw yn fwy eywir. Pahamy rhaid i Fedyddiwr ddarllen "bedyddio & dwfr," pan mai mewn dwfr y dylai fod ? Wrth wneyd hyny o'r areithfa, yr ydym tel pe baem yn cydnabod mai taenellwyr sydd iawn, ac yr ydym yn plygu i drawsly wodraeth ddynol mewn pwnc o grefydd. Gwyddis fod y brenin Iago wedi gor- chymyn i'r cyfieithwyr adael y terniau eglwysig yn annghyfiaith. Paham y rhaid l'n hegwyddorion oddef oddiwrth fympwyon un a dreuliasai ei fywyd cyn rhoi y gorchymyn uchod gyda'r ctfrn hela (Annals of the Eng. Bible, vol. ii., p. 368), ac oddiwrth olygiadau ei gyfieithwyr ? Dywedai Henry Jessey, Bedyddiwr enwog, ac un o'r Ddwy Fil, (vr hwn, gyda Mr. John Row, Pro- ffeswr Hebreig, Llywydd Coleg y Brenin, Aberdeen, a fwriadai ddwyn allan argraffiad newydd o'r Ys- grythyrau), fod y eyfieithiad awdurdodedig wedi cael ei wneyd i siarad tafodiaith yr esgobion." (Annals of the E. B., vol. ii., p. 378). Ynawr, .pan y defnyddia Ysbryd Duw y fath eiriau ag en, ekklesia, episkopos, baptizo, SfC., mewn eyfieithad fe ddylid eu cyfieithu yn gywir fel geiriau ereill. Pe mabwysiedid Yr Oraclau Bywiot fel llyfr yr areithfa, fe fyddai yn taflu goleuni newydd i'r gwrandawwyr ar lawer adnod. Wele ychydig enghreifftiau :— Y Cyfieithiad Awdurdodedig. Yr Oraclau Bywiol. Math. xi. 13.—"Canys "Canys hyd onid ym. yr, holi brophwydi a bro- ddangosodd loan, yr holl pbwydM.. hyd I.„„" Luc xviii. 3.—" Yr wyf Yr wyf yn sicrhau i yn dywedyd i chwi y dial chwi, y dial efe hwyut ar efe hwynt ar irys. Eithr frys. Er hyny, pan ddel Mab y dyn, pan ddel, a Mab y Dyn, a gaifF efe y gaiff efeffyddaryddaear?" gred hon ar y ddaear ?" loan i. 9.—" Hwn "Efe oedd y gwir olanni, ydoedd v gwir oleuni, yr yr hwn, gan ddyfod i'r hwn sydd yn goleuo pob byd, sydd yn goleuo pob dyn a'r y sydd yn dyfod i'r dyn." byd." loan xii. 27.—"Yr "Yrawrhonycynhyrfir awrhen y cynhyrfwyd fy fy enaid, a pha beth a ddy- enaid: a pha beth a ddy- wedaf? Ai, 0 Dad, wedaf ? 0 Dad, gwared fi gwared fi allan o'r a wrhon ? allan o'r awr hon eithr o Na, eithr er mwyn hyn y herwydd hyn y daethum daethym i'r awr hon." j'r awr hon." Rhuf. viii. 33, 34.— "Pwyaryddddimyn "Pwy a rydd ddim yn erbyn etholedigion Duw ? erbyn etho!edigion Duw? Ai Duw yr hwn sydd yn Dnw yw yr hwn sydd yn en cyfiawnhau hwynt? cyfiawnhau: Pwy yw yr Pwy yw yr hwn sydd yn hwn sydd yn damnio? collfarnu? AiCrist, yr hwn Crist yw yr hwn a fufarw, a fu tarw; neu, yn hytrach, le, yn hytrach yr hwn a yr hwn a gyfodwyd, &c. gyfodwyd hefyd," &c. Nid yw y lleoedd hyn ond ychydig o engbreifftiau o ragoroldeb Yr Oraclau Bywiol." Dodir hwy gerbron y darllenydd i ddangos nad mewn cyssyllt- iad a bedydd yn unig y mae ei ragoroldeb. Yn awr, oni fyddai yn ddymunol cael ail-argraffiad o'r Oraclau Bywiol," neu Gyfieithiad Diwygiedig o'r Testament Newydd yn Gymraeg, a'i fod ar bob areithfa yn ein plith trwy Gymru ? Taflsi oleuni newydd i'r gwrandawwyr ar lawer adnod, a rhoddai foddlonrwydd i weinidogion i gael gwybod eu bod yn gosod allan feddwl yr Ysbryd mor gywir ag y gellir pan ya darllen Gair y bywyd i'w cynnulleid- faoedd. Pe cymmerid at byn, ac i bob eglwys yn Nghymru ymrwymo cymmeryd copi i fod ar yr areithfa, a phob ysgol Sabbothol i gymmeryd copi i'w ddarllen yn nechreu yr ysgol pan y darllenid yn y Testament Newydd, byddai hyny yn agos digon i ddigolledu yr hwn a'i hargraffai. Carai llawer ereill gael copiau olr fath dr) sor. Dichon y dywedir yn erbyn hyn; y byddai y fath ymddygiad yn sicr o dynu gwawd ereill, fod y Bed- 5 yddwyr yn myned i wneyd Beibl newydd, y gwnelai ereill yn bellach oddiwrthym nag ydynt ynawr, &c. Wel, beth os felly ? Nid dyna fyddai'r tro cyntaf ,w i ni gaelein gwawdio. Gwnelai gwawd dyn farw o flaen nerth gwirionedd Duw. Nid ydym yu ddy- ledus i enwadau ereill am einbodolaeth na'n Ilwydd- iant, a phe peidiem a chael yr hjn a gyunygir, mae'n debyg na fyddai mwy o undeb rhyngom nag wedi ei gael. I'r diduedd, ymddangosai y fath ymddygiad yn gysson. Oa ydym yn gwahaniaethu oddiwrth ereill yn ein bedydd, oni allem wahaniaethu oddiwrthynt mewn cyfieithiad ? A oes cyssondeb yn ein gwaith yn darlien "bedyddio i1 dwfr." ac wedi darfod, feallai, yn dweyd mai bedyddio neu drochi mewn dwfr a ddylai fod? Oni fyddai yn fwy cysson o lawer i ni gael cyfieithiad eywir o'r hyn a gredwn yn gydwyb >dol sydd wirionedd ? Mae genym ni gynnifer o resymau dros gael cyf- ieithiad ne vydd ag oedd gan y rhai a gymhellasant Iago i ddwyn allan y cyfieithiad awdurdodedig, ac, feallai, rhai cryfach. Mr. Gol., yr wyf yn cyflwyno y mater hwn i'ch sylw. Dyiaunwn gael eich barn arno yn SEREN CYMRU, a barn brodyr ereill. Ystyriwyf y mater yn deilwng o sylw cyfeillion y gwirionedd fel y mae yn yr lesu. DARLLENYDD. [Diolch yn fawr i'n gohebydd talentog am ddwyn i sylw bwnc gwir deilwng o ystyriaeth ddwys y cyf- enwad. A gawn ni daer ddymuno sylw a barn ein brodyr da ar y mater hwn. Bydd yn dda gan Olygwyr SEREN CYMRU roddi gwasanaeth y SEREN at ym- driniaeth b wyllog ac ystyriol ar y mater. Dymunem hysbysu ein darllenwyr fod ein gohebydd, Darllen- ydd, yn un o'n dynion goreu-yn Gristion llawn 0 waith, yn ysgolhaig aeddfed, ac felly yn un nad y* yn ysgrifenu o dan ei ddwylaw ar y testun pwySlg hwn.—GOL.]

LLOFFION.