Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MR. GOLYGYDD,-A fyddwch chwi neu rai o'ch gohebwyr, mor garedig a rhoddi ychydig o eglurhad ar Hebreaid 6. 4, 5, 6. Bydd llawer yn dra diolchgar am hyn. TWM SHON. A wna Caeglas, Llanelli, Roi gwybod i Glan .Ef, Pwy oedd y Saith gwr cofus hyn, A enwwyd cyn eu geni ?" 'Nol i ti fanwl chwilio Gair y Gwirionedd drwyddo, Ti elli weled ynddo'n llyn Yr oil wyf yn ei geisio. I. G. ERI.
DYCHYMMYG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DYCHYMMYG. Mi welais wrthddrych hynod iawn, A hono'n llawn celfyddyd; Fe welwyd hon mewn llawer lie Yn tori pie mewn mynyd. Er nad oes bywyd ynddi 'nawr, Mae hi o ddirfawr ddefnydd; Ceir gweled ganddi bethau da, A bortha yr ymenydd. Cawd rhan lie nad oedd goleu'r dydd, A rhan o'r dolydd deiliog, A rhanau wnaeth celfyddwyr gwych, Nes daeth hi'n wrthddrych serchog. Pan fyddo hon mewn cyflawn waith Mae ganddi daith i rodio Pan luniwyd y Great Eastern wych, 'Roedd hi yn mynych weithio. Mae ganddi ben a dwy goes hir; Fe welir hon bryd arall A dan o benau heb un goes, Mae bron yn groes i'n deall. Mae ganddi gant o ranau man, Ohebwyr glan gwnewoh chwilio, A rhowch ei henw i mi'n llawn, Gwna hyn fy nghyflawn foddio. Felinfoel. IOAN af GWILYM.
BARDDONIAETH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BARDDONIAETH. GOFID MAM. Sylwi'n ddwys ar ddyoddefiadau Baban nas gall ddweyd ei glwy', Gwel'd y dagrau'n gwlychu'i ruddiau, Heb un modd i'w hatal hwy; Edrych ar ei agwedd dyner, Fel yn ceisio dweyd ei gam; Sychu'i ddagrau-cofio'i tliuder- Dyna ydyw gotid Mam. Eistedd wrth ei gryd nosweithiau, Olrhain llwybrau angeu du, Gwrando'r gwanaidd atnl och'neidiau, 'Nghyd a'i fer anadliad gu; Gwylio'r olaf ymdrech farwol, Teimlo gyda'r bach dinam Wedi'r ymdrech. methu'i adael- Dyna ydyw gotid Mam. Gwel'd ei thyner rosyn gwiwglod, Er mor hôff, yn gywo'i wedd Llithro drwy weddiau priod- Dagrau fyrdd—i oerllyd fedd: Meddwl am ei loi i huno Gyda'r pryf, a chofio am Ei agwedd isel waelaidd yno- Dyna ydyw gofid Mam. Ond, pan aiff y don fawr heibio, Pan lonydda cenlli'r iron, Ffydd a saif gan dawel dremio Tua'r nef a llygad lion Dywed, Draw mewn ardal hyfryd Mae fy maban—ni chaiff gam Cofio hyn ddiddyma'i thristyd- Dyma symud gofid Mam. lEuAN 0
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN GOHEBWYR A'N DARLLENWYR. GAN ein bod am y pythefnos diweddaf wedi bod yn rhedeg trwy siroedd Lloegr, nid ydym yo gallu rhoddi enwau y brodyr da sydd wedi dan- fon eu cynnyrchion at y Golygwyr. Yr ydym yn ysgrifenu o ganol Swydd Laneaster-o ganol y tlodi a'r angen dychrynllyd sydd yn cael ei detmlo }gan filoedd o weithwyr yn y parthau hyn. HEN LANC.-Bydd yn dda genym bob amser i glywed oddiwrthych cbwi. Os o wledydd tramor, goreu gyd. lFOR.-Nid oes dim modd i chwi lwyddo yn y llys o dan yr amgylchiadau a nodwch. MARY WILLIAMS.-Bydd y gost o zC45 i d675. Mae yn annicbonadwy nodi y swm. Mae yn rhaid i chwi weithredu trwy gyfreitbiwr. ISAAC ROBERTS.—Mae y draul yn rhywle o ^16 i £17. Mae yn well i chwi ymgynghori k rhyw swyddog yn Llynlleifiad. Gallant hwy gael y fordaith am lai o arian, ac yn well i chwi; tra ar yr un pryd y byddant yn llesoli eu hunain. SIMON EVANs.-Mae y cyfaill a nodwch wedi eich twyllo. Nid oes dim gwir yn y chwedl. Gwell i chwi fod yn fwy ar eich gwyliadwriaeth. IOLO GOCH.—Mae y draul gyda yr agerlong yn £ 8. IFOR BACH.—Oddeutu f,2 5s. am y cant cyntaf; yna oddeutu 5s. y cant wedi hyny. JACOB JoNKS.—Gweii i chwi aros dipyn yn h&y. Mae eich profiad chwi etto yn rhy anaddfed i roddi barn ar y pwnc hwn. ANFONED AB ARTHUR ddau stamp i ni am y ddwy geiniog a dalasom am ei Jythyr; yna, ni a gawn weled beth i'w wneyd o'i ohebiaeth. Yr ydym wedi hyshysu eilwaith ac eilwaith ua wnawn ddim o'r gohebiaethau ag ydym vn gor. fod talu am eu cario i ni. Yr ydym wedi blino ar dalu fel hyn. AELon.-Derbyniasom eich gofyniadau, &c., i Lewis Lewis. Er eu bod, ar un olwg, yn ofyniadau tra phriodol, a digon naturiol iddo, ac yn gyfryw ag y byddai yn gywilyddus iddo feddwl eu hateb, pa faint bynag o bres sydd ar ei dalcen, ac i ha eithafoedd bynag y mae ei ga!on wedi ymroddii galedwch; etto, o herwydd dau neu dri o resymao, nid ydym yn gweled y priodoldeb o'u cyhoeddi. Yri un peth, mae pi ymddygiadau wedi myoed yn ddigon eyhoeddos yn barod, fel nad oes un eglwys, un gweinidog, nac un aelod da a duwiol, heb ffieiddio y fath ymddygiadau i'r graddau pellaf, ac oil yn dywedyd, Nid oes i ni gyfeiilach ircyfryiv un yn ei gyflwrpresenol." Ac os oes rhai yn ei bleidio, ac yn codi ei lewis," yn yr eglwys, nid oes genym ond eym h wyso yr hen ddiareb, yn ei hystyr helaethaf, atynt hwy ac yntau, Adar o'r un lliw a ehedant i'r un lie." Yn ail, pe byddai eich gofyniadau iddo yn cael ymddangos, ae iddo yntauiod mor ddigywilydd a'u hateb yn rhywfodd, etto, nid hyny fyddai$»t7<*ghvysHeol-y- Prior i weithredu a chario allan ei dysgyblaeth, &c.; ac nid hyny fyddai safon eglwysi y Bedydd "yr yn Nghym'ru i edrych arno, ac ymddwyn tuag ato. Nid tafod y criminal sydd yn safon \'n llys barn. Yn drydydd, ni a obeitliiwn fod hen egl wys Heol. y- Prior yn ddigon doeth. pwvllog, duwiol, a santaidd, fel nas gall dyn drwg (ac nis gwna dyn da hvny) achos! partiaeth, teii\sg a thrallod. o'i mewii byth os amgen, bydd yn syndod mawr i ni. Ac, os bydd eisieu help arni, mae digon o weinidogion cali a d llW- iol yn agos ati-yn y sir dim oiid gofyn iddynt am en cymhorth, gwnant hyny o gymnnvynas a hi yn union, yn ol eu dyledswydd, a iiafur eu swydd. Onid ydyw y dyn yn wrthddrych trueous.—ar ol bod yn .iangos y tfordd i ereill, etto heb galolJ a theimlad i fyned i'r tir ag y mae Duw wedi addaw maddeuant i bechadur, sef tir edifeirwch, a gadael pechodau. Efallai y gwel Aelod," ar ol taflu ei olwg yn bwyliog dros y pethau uchod, fod yn llawn cystal, os nid gwell, i ni beidic cyhoeddi <4 ofyniadau. —UOL. MORGAN JOSEPH.—Mae yn ymddangos i ni fod?y diaconiaid wedi ymddwyn yn hollol briodol. Paham y byddwch" mor barod i.' feio y brodyp hyn tra byddont yn gwneyd eul gorem dros yr achos. SW Bydd i ni roddi atebion i'r gweddill o'r gofyniadau yn ein Rhifyn nesaf. T A.LIA.DA. U Derbyniwyd taliadau oddiwrth, -J. J. Pencac- newydd, J. J. Tyddyn Dn, O. G. Fron Oleu, J. L. Caergybi, S. L. Branch End, J. H. Middlesbro, J. T. Cwmsyfion. D. M. Talgarth, S. G. Brynjwine, T. E. Rhosdeg, T. P. Garngaled, D. W. Crosspenmain, J. G. Pengarn, D. B. Pontymeistr, J. P. Blaenau, J. R. Tredegar, W. T. New Tredegar, J. J. Pentre Eatyll, R. D. Penyfai, LI. D. Blackmill, J. D. St. Brides, J. J. Edge Hill, D. E. Lantwit Vardre, O. D. Dowlais, E. H. Ystalyfera, D. J. Llangenech, H. E. Pembre, B. T. St. Clears, H. T. Tyddewi, J. E. Ffynnon, B. J. Swyddffynnon, T. J. Llanelli, J. M. Aberdar, R. P. Cilfowyr, a J. E. Mountain Ash.
Y PYTHEFNOS.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y PYTHEFNOS. MAE ein newyddioti o America yn debyg i'r hyn ag oeddynt bythefnos yn ol. Mae dwy neu dair o frwydrau wedi cymmeryd He o bob tu, ond nid oes un o'r cyfryw o fewr pwys, mor bell ag y maent yn dkl cysaylffiad a therfyniad yr ymryson. Mae M'Clellan yn symud i lawr tua'r dehau, ond nid oes unrhyw gyfnewidiad o bwys wedi cymmeryd lie yn sefyllfa y byddinoedd. Y mae ybobl mewn llawn waith gyda'r etholiadau, y rhai oeddynt yn cymmeryd lie yn y mia hwn. Dr aUwn fod y Democratiaid wedi ennill mewn rhai manau. Mae y blaid wleidyddol hon dros ddiogelu cyfanrwydd yr Undeb, ond dadleuant dros adael caetbwasanaeth fel y mae. Yn ddiweddar y mae amgylchiadau Am- erica wedi cael sylw difrifol Ewrop. Y mae Ffrainc wedi ceisio gan Loegr a Rwsia i uno a hi i geisio gan America i attal pob ymladd am chwe mis, er rhoddi cyfle i'r galluoedd hyn i gyflafareddu A'r ddwy blaid yn America. Da genym ddeall oddiwrth atebiad Iarll Russell. ac eiddo y Tywysog Gortschakoff, oa fydd i Loegr na liwsm gymmeryd rhan yn y fath beth. Ein bam- gydwybodol ni yw, mai gwell gadael i'r A merieaniaid benderfyno y mater eu bunain. Nid ydym ni yn gallu canfod unrhyw lee o ymyraeth o du Lloegr, nac unrhyw allu Ewropaidd arall; bydded i rii adael i'r Am- ericaniaid benderfynu eu hachos eu hunain. Nis gallant gario y rhyfel yn mlaen am amser maith etto, gan y bydd i'w hadnoddau ddarfod. Mae pethau yn debyg o fyned yn mlaen yn dda yn Groeg. Mae y pwyllgor yn ypa- ddwyn yn gall a phwyllog. Mae Brenin Prwsia yn ymddwyoYl1 ffol iawn, trwy *osod ei. huftan yn erbyn y wlad Mae toriaeth rone wrth wraidd y dyn hwn, a chreda ef y gall wneydfoly myno ond caiff ddeall yu wahanol yn dra buao.