Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

HANESION CYFFREDINOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HANESION CYFFREDINOL. COTWM YN AMERICA.— Ymddengys fod Iarll Russell wedi derbyn adroddiad gwerthfawr o'r Unol Da'eithiau o barth i'r swm o gotwrn sydd yn Nhaleithiau Deheuol America. Cyfrifir nad oedd yno yn nechreu y rhyfel ddim llai nag oddeutu 4,200,000 o fyrnau o gotwm, ac fod agos i'w hanner wedi eu dinystrio ar ol hyny. Dywedir na bydd cnwd 1862 yn fwyoâ 1.000,000 o fyrnau. LLOFRUDDIAETH GLASGOW.—Y mae yr Ar. glwydd Provost wedi derbyn llythyr oddiwrth Syr G. Grey yn hysbysu mai gorcliymyn y Frenines ydyw, fod i'r ddedfryd a basiwyd ar Jessie M'Lach- lan gael ei gohirio hyd nes y gyveIo ei Mawrhvdi yn dda amlygu ei liewyllys yn mliellach. Aeth yr Arglwydd Provost ganol nos i'r carchar i hysbysu y genadwri i'r wraig druan, yr hon a amlygai deimlad dwys. CAMLAS SUEZ.- Dywed y Moniteur fod y rhan o'r Camlas rhwng Port Said a Trinseh yn awr wedi ei orphen, a'i fod yn brawf diammheuol o'r posibl- rwydd o wneyd y camlas yn effeithiol yn ol y cyn- llun gwreiddiol. Y mae cymmundeb mordwyol yn awr yu agored cyn belled a Trinseh, ac nid oes dim i'w wneuthur tudraw i'r lie hwnw na wnaethwyd gan yr hynafiaid gydag adnoddau llawer llai nag sydd gan wyddonwyr diweddar. Yn niwedd Hyd- ref yr oedd 12,000 o weithwyr i weithio ar y camlus o Trinseh i Suez, a gobeithir y Hwyddir i uno y y ddau for cyn diwedd y flwyddyn nesaf. TERFYSG YN BLACKBURN.-Dydd Iau, Tach- wedd 6fed, ymgynnullodd torf derfysglyd o gwm- pas neuadd y dref i ofyn am ryddhad pedwar o ddynion oeddynt wedi eu dedfrydu am herwhelwa ar diroedd y Milwriad Butler Bowden, o Pleasing ton. Ymosodasant ar yr heddgeidwaid, a dechreul- asant dori ffenestri Neuadd y Dref a'r Llys Biro.. Aeth rhan o'r dorf hefyd at balas y Milwria'd Butler Bowden, i'r dyben o niweidio ei eiddo. N- weidi.vyd amryw o'r heddgeidwaid trwy gael eu taraw a oheryg. Anfonwyd am gymhorth o Pres- ton. Cauwyd yrholl fasnachdei, a galwwyd am y inilwyr. Buwyd cryn amser cyn Uwyddo i ddaroa- twng y terfysg. GALAR-wiSGOEDD.—Y mae lliw y gwisgoedd a ddefnyddir i arwyrido galar yn amrywio mewn gwahanol wledydd. Yn Ewrop, y lliw a arferir yw du. Gan ei fod yn wrtbgyferbyniol i oleuni, y mae yn ddangosiad o ddiwedd bywyd. Yn China, arferir gwyu arwydd purdeh, yr un lliw ag a arferid gan y Spartiaid a'r Rbufeiniaid gynt. \'n yr Aipht, melyn yw lliw y galar.wisgoedd, gan mai hwnw yw lliw y dail pan yn syrthio, a'r blodau pan yn gwywo; arwydda ddiflaniad gobeithion bywyd. Yn Ethiopia, gwineu yw lliw y galar- wisgoedd, i arwyddo lliw y pridd, yn yr hwn y gosodwyd y marw. Yn Twrci, defnyddir gwisg- oedd glas, yn arwydd o'r dedwyddwch i'r hwn y tybir fod yrymadawedig wedi myned. GWRTHDARAWIAD AR FFOROD HAJARN C". LEDONIA.-Boreu dydd Mercher, Tachwedd 5ed, dygwyddodddamwain i'r Express Train sydd vn gadael Airdrie ?m Glasgow am ddeg o'r gloch. Pan yn agos i Gartcosli, torodd y cyssylltiad rhwng y peiriant a'r tender. Yr oedd y peiriant wedi mvned yn lied bell ei hun eyn i'r gyrwr ddurganlod fod y cyssylltiad rhyngddo a'r tren wedi tori. Wrth droi ei beiriant i fyned yn ol am y cerbydau, camgy mmerodd y cyllymdra yn inha un yr oedd y cerbydau yn teithio \n mlaen, a'i beiriant yntau yn ol. Y canlyniad oedd gwrthdarawiad, a ui- weidiwvd ugain o bersonau i raddau mwy neu lai. MARCHED DONIOL AMERICA. — Gwiad hynod yw Ameiica am fagu merched doniol; ac y maent yn arfer en doniau i weddio yn barhaus i raddau helaeth iawn yn eglwysi y Trefnyddion Esgobawl. Mae genethod cyffredin yn ami iawn yn y wlad yma yn cael addysg athrofaol lied uchel. Ac oblegid hyny, i ba gyiarfod gweddio cyffredin bynug yr etoch yn ein capeli ni yma, chwi gewch fod ein merched at eu gilydd yn tra ragori ar y dynion yn eu doniau gweddio. Yn ein ryfundeb ni yn unijj y rhoddir y rhyddid hwn yn helaeth i'r llestri gwanaf; a chan mai hyawdledd teimlad cryf a thyner yw y peth mwyaf effeithiol mewn gweddi gyhoeddus, a bod merched yn gyffredin yngryfach yn hyny na dynion, y mae yn hawdd cyfrif am y dyddordeb inawr a deimlir gan ein pobl ni yma, yn gyffredin, yn eu cyfarfodydd gweddi. Mae cael gwasanaeth calon dyner, a thafod llithrig merch wedi cael addysg dda, yn sicr o fod yn werthfawr mewn cyssylltiad a gwaith yr Arglwydd. Telir mwy o sylw yn y wlad hon i addvsg merched nag a wneir yn Mhrydain.—Gohebydd yr "Eurgrawn Wesleyaidd yn America. YR ESGOBION A'U CYFLOGAU.—Y mae canol- swm cyflogau holl esgobion Lloegr a Chymrii oddeutu £5,535 yn y flwyddyn, tra nad ydywcanol- swm cyflogau swyddogion ein llywodraeth ond £ 2,572. Y mae yr wyth esgob ar hugain yn difa gyda'u gilydd yr hyn a roddai gyflog o je200 yn y flwyddyn i saith cant a thriugain a phumtheg o offeiriaid neu pe rhoddid i bob un o honynt £ 2,000 yr un yn y flwyddyn, byddai y gweddill yn ddigon i ychwaneguE50 yn y flwyddyn at gyflogau 1,980 o offeiriaid tlodion, y rhai ydyntyn cyflawnu yr ychydig waith a berthyn i'r Eglwys. Sefydlwyd swm presenol cyflogau yr esgobion yn nechreuad yr hyn a elwir y diwygiad eglwysig. Yr oedd mewn llawer o'r esgobaethau cyn hyny yn llavver uwch., Ond y mae yr hyn a dynwyd o un logell wedi ei osod yn y llull, fel nad yw yr hyn a gyn- nilwyd yri ngostyngiad cyflogau rhai o'r esgobion wedi myned i wella aingvlchiadau offeiriaid tlod. ion, ond yn ol i logellau yr esgobion eu hunain, i wasanaethu i'w hurddas hwy. lECHYD GARIBALDI. Rhai dvddian yn ol, darfu i'r Proffeswr Partridge, a'r meddyg Rws- iaidd enwog Pirogoff, wedi cydgyhoeddi adroddiad ar sefyllfa iechyd Garibaldi, yn mha un y dywedant ei bod yn hanfodol angenrheidiol i'r claf dreulio y gauaf mewn hinsawdd sych a chynhes; ac os gwneir y symudiad hwn, ymrwymant am ei adfer- iad.. Bernir mai Rhufain fyddai y lie goreu iddo ond nis gellir dysgwyl i'r Tad Santaidd wneuthur dim tuag at ei adferiad. Gan hyny, annogir ef i symud i Pisa, yr hon dref sydd yn mhob ystyr yn rhagori yn ddirfawr or Spezzia. Derbyniwyd llythyr yn y wlad hon yn ddiweddar oddiwrth Garibaldi; ac mewn un ystyr y mae yn un o'r rhai mwyaf biddhaol a ysgrifenwyd gan y Cadfridog. Atebiad ydyw i'r anerchiad a anfonwyd iddo ef gan weithwyr Llundain. Ar ot amlygu ei ddioich- garwch dwfn am y serch a ddangoswyd ato, dywed, —" Yr wyf finnau hefyd yn perthyn i'r un dos- parth, a fy unig ymffrost ydyw peidio ymwahanu byth oddiwrtho." BATHODYN GWOBRWYOL, a roddwyd am STARCH GLENFIELD, gan Farnwyr Dosparth 2, Arddengosfa 1862. Y mae y Starch enwog hwn yn cael ei ddefnyddio yn y Guicinly Breiniol, ac a gyhoeddirgan Olchwraig ei Mawrhydi y goreu acddefnyddiodd erioed. Trwswraig Ysnodi-nau el Mawrhydi a'i gesyd allin y gureu a ddefnyudiwyd ganddi; ac y mae y wobr trr-hod, gan rai o brif gelfyddydwyr yr oes, yn profi ei rayoriaeth, Gwerthir "STARCH BREINTIKUIG GLENFIELD yn niliob Dinas, Tref, a Phentref, yn Mhrydain Fawr a'r lwerddon, mewn sypynau ic., Ie, 2g., 4c., Be 8c. yr un, gan Grocers, Canwyll<vyr, Fferyllwyr, &c., ac yn gyfanwerth gan y gwueu- thurwyrWOTHERSPOON A'I GYF., GLASGOW A LLUNDAIN. MARWOLAETH TRWY FWYTA PYSGOD GWEN- WYNIG. — Bu farw merch ieuanc yn Llynlleitiad, y dydd arall, mewn canlyniad o iwytd y cregin bysgod a elwir mussels. Ymddengys fod y cregin hyn wedi glynu wrth waelod liong a ddaeth i'r porthiadd, a chasglwyd hwynt gan eu banfon ar liyd y dref i'w gweithu. Cyuimerwyd amryw bersonau yn glaf; ond trwy ymdiech y meddygoo achubwyd hwynt oil ond y ferch ieuanc a gry- bwyllwyd. MARWOLAETH CTBYDD. —Andrew Hutton, yn 55 mlwydd oed, cybydd nodedig yn yr Ysgotland, a fu farw y dydd arall o dan amgylchiadau tru- enus. With rodio un diwrnod trwy gae, canfyddai y gwartheg yn ymborthi ar ddail onen ac wrth eu canfod mewn gwedd mor ragorol, tybiodd v gallasai yr un peth wasanaethu fel ymbortli iddo yntau. Casglodd lawer o honynt, gan eu cymmeryd adref a'u berwi, a bu yn ymborthi arnynt am amryw ddyddiau. Y canlyniad fu iddo gael ei gymmeryd yn glaf, a bu farw mewn poen dirfawr. Yr oedd ganddo oddeutu f250, y rhai a ddarganfyddwyd wedi iddo farw. CYDYMDEIMLAD CANADA A'R CALEDU YN SWYDD LANCASTER.—Mewn cyfarfod a gynnal- iwyd yn Toronto, er cyfranu at y dyoddefwyr yn Swydd Lancaster, awgrymwyd fod gohebiaeth i gael ei liagor rhwng y pwyllgorau ereill yn Mhon- treul, Quebec, a threfydd ereill, gyda'r amcan o wneyd y cyfraniadau i ddwyn y cymmeriad o gas- gliad trefedigaethol, ac os cydunid, fod yr hanner i gael ei anfon yn ddioed i Loegr, a bod yr hanner arall i gael ei gadw yn yr ariandy, i'r dyben o gyn- northwyo y cyfryw o honynt a chwennychent ym- fudo i Canada yn y gwanwyn. Derbyniwyd yr awgrymiad yn ffafriol gan y pwyllgorau, oddieithr gan ddau nea dri o aelodau, y rhai a dybient yr edryehid ar y cynnyg yn Lloegr fel mudiad hunan- lesiol o du Canada. Y PARCH. DAVID THOMAS, STOCKWELL.- Deallwn fod y gweinidog parchus uchod wedi der- byn y radd o Ddoctor mewn Duwinyddiaeth oddi- wrth Brif-ysgol Pennsylvania, America. Mae y Dr.Thomas yn fab i'r diweddar Barch. W.Thomas, o Sardis, ger Dinbych, sir Benfro; ac yn Gymro trwyadl o ran gwaedoliaetb. Efe yw golygydd yr Homilist." ac y mae wedi enwogi ei bun fel awdwr y "Code of Creeds, Crisis of Being,"&c. YR ARDDANGOSFA GENEDLAETHOL.—Y mae cynnwysiad yr Arddangosfa yn awr yn cael ei brysur wasgaru. Y mae yn agored bob dydd, ac eir i mewn drwy dalu 5si; ond y mae nifer yr ym- welwyr yn fychao.. Dywedir y bydd i'r gwobrau a dllyfarnwyd i'r cystadleuwyr gael en rhoddi gan Dywysog Cymru yn mis lonawr nesaf. ARCHESGOBAETH YORK. — Dywedir mai y Gwir Barchedig Dr. Thomson, Esgob Caerloyw a Chaerodor, sydd i gael ei godi i Archosgobaeth York. Ganwyd Dr. Thomson yn 1819, a ordein- iwyd yn 1842, ac a benodwyd yn Esgob Caerloyw y flwyddyn ddiweddaf. Y mae efe yn is-lywydd i'r Gymdeithas Feiblaidd Hrydeinig a Thramor, ac yr oedd hefyd yn olygydd un o'r cyfYoIaii mewn atebiad i'r Essays and Reviews." Dywedir mai Dr. Jeune, Llywydd Coleg Penfro, Rhydychain, sydd i gfnlyn Dr. Thomson yn esgobaatb Caerloyw. AFRLLABAU DR. LOCOCK.—Dyfyniad olythvr oddiwrth Mr. J. Froud, Fferyllydd, Derchesterr —" Foneddigion.-Werli newydd dderbyn yi hyn a ganlyn, yr wyf yn ei gyflwyno ef i cllwi fel prawf ychwanegol o ragoroldeb Afrlladan Dr. Locock, y rhai a ganmolir yn fawr yn y gymmyd- ogaeth hon. Galwodd offeiriad arn if prydnawn heddyw, yr hwn a ddywedodd fod ei chwaer wedi caellla wer o ryddhad drwy ddefnyddio yr Atr- lladau. Bu yn dyoddt f yn cldwys am flynyd iau oddiwrth beswch poenus. Defnyddiodd am amser maith y meddyginiaethau a gyhoeddir beunydd drwy y was,a;, ac am y rlni y taenir y fath chwedlau tedclol, ond yn gwbl oter; eithr wedi rhoddi prawf i Afrlladau Dr. Locock, calodd ryddhad buan, a thrwy barhau i'w cymmeryd, cafudd ymwared llwyr.—Ydwyf, foneddigion, yr eiddoch, &c.,—JAMES FROUD. RHYBDDIJ.— Mrie ar bob blwch o'r GWIR FEDDYGINIAETH y geiriau, "DR. LOCOCK'S W AFEIIS" mewn lljth- vreuau gwyn ar sail goch ar argratf y llywodraeth, beo yr byn ni bydd y moddion ond TWYLL A BOCED.