Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

CYFARFOD LLENYDDOL YSGOL SILOH,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFARFOD LLENYDDOL YSGOL SILOH, TREDEGAR. Cynnaliodd yr ysgol uchod ei hail gyfarfod Uenyddol dydd Nadolig, 1862. Dechreuwyd y cyfarfod cyntaf am- ddau o'r gloch y prydnawn. Llywyddwydyn yddau gyfarfod cyntaf gan Mr. Evans (Fferyllydd). Agorodd y parchus lywydd y cwrdd yn ei ddull medrus, fFraeth, a digrifol arferol. Yna dahodd Mr. Levi Williams a'i gyfeillion y .1 Rosy Crown," nes swyno y gynnulleidfa; ac wedi cael anerchiad barddonol gan S. Thomas, awd yn mlaen a'r gwaith pwysig o wobrwyo'r buddugoliaethwyr. 1. Llywodraeth y Messiah. Dau yrri geisydd; goreu, Wm. Nichols. 2. "The Lord's Day." Pedwar ymgeisydd cydfudaugol, E. Evans ae E. Williams. 3. Canu Ho, ho, dacw y lan. Un ymgeisydd,sef J. Gabriel. 4. Daillenwyd Beirniadaeth Cynddelw ar y Pennillioll ar Enedigaeth Crist. Un ymgreisydd, Byr ei DdealJ, sef J. Morgan, ieuengaf. 5. Yinddyddan rhwng y Meddwyn a'i Wraig. Dau gwpl yn cystadlu goreu, T. Jones ac E.Joseph. 6. Canu Dydd Gwyl Dewi. Dau gwpl yn cystadlu cyd- fuddugol, J. Gabriel a'i gyfeillion, a J. Thomas a'i gyfeillion. 7'. Darllenodd y Parch. J. Lewis ei Feirniadaeth ar y traeth- odau ar Y BeibJ. Pedwar ymgeisydd goreu, Corsen Ysig, sef Win. Haddock. 8. Gorphenwyd. Pedwar yn cystadlu; a chafodd y pedwar eu gwobrwyo. 9. Darllenwyd Beirniad- aeth Cynddelw ar y Chwech Englyn er Cof am J. Morgans, Garn. Un ymgeisydd, Eiddil ei Awen, sef S. Thomas. 10. Canu Nid oes dim la Dau gwpl yn cystadlu goreu, E. Davies ac M. Gabriel. 11. Voice from Heaven." Un ym- geisydd, A. Bowen. 12. Araeth ar y Sabboth. Un ymgeis- ydd, C. James. 13. Canu, 0 gollvrng fl. Dau gwpl yn cys- tadlu cydfuddugol, G. Jenkins a'i frodyt, a D. Davies a'i gyf- eillion. 14. Peidiwch myn'd i'r dafarn, John. Dwy yn cystadlu; cydfuddugol, E. Evans ac E. Morgan. Terfynwyd cyfarfod y prydnawn ar hyna, ac aeth pawb allan er mwyn cael ychydig luniaeth i'r corff. Erbyn chwech o'r gloch, yr oedd capel eang Siloh wedi ei orl&nw a brodyr a chyfeillion lion a difrifol. Wedi i'r llywydd gymmeryd y gadair, ac anerch y cyfarfod yn fyr a gwresog, galwodd ar dair geneth ieuainc i ganu,"The bells are ringing." Canasant yn etfeithioldros ben, ac adroddodd Mrs. M. Wil- liams ddarn o farddoniaeth nes gwefreiddio yr boll dorf. Y na dechreuwyd eilwaith a gwobrwyo. 15. Yr Athraw Ffyddlon. Saith ymgeisydd; cydfuddugol, R. Jenkins a T. Morgan. 16. A little while." Tair yn ymgeisio goreu, C.Rees. 17. Solo Bass, The Trumpet shall Sound." Un ymgeisydd, G. Jenkins. 18. Hen Ffon fy Nhad, Pump ymgeisydd goren, J. Davies. 19. Darllenwyd Beirniadaetb Cynddelw ar yr Alareb er CoffiHlwriaeth am y brodyr W. Jones, J. Arthur, a J. Williams, atbrawon ffyddlon yn ysgol Silbh. Dau ymgeis- ydd goreu, Mab y Gan, sef S. Thomas. 20. Y Lloer. Dau ymgeisydd cydfuddugol, G. Evans a T. Jones. 21. Quartett, II Hear, 0 Heavens." Dau gwpl yn cystadlu; goreu, G. Jenkins a'i gyfeillion. 22. Araeth ar Fywyd Crist yn Sites. onaeg. Un ymgeisydd, Wm. Davies. 23. Yr henwr Grwg- nachlyd. Dau ymgeisydd; goreu, W. Nichols. 24. Da lien- wydBeirniadaeth Cynddelw ar y Perinillion ar Ymadawiad y Parch. E. Thomas o Dredegar. Un ymgeisydd; Y Laslanc Llygadlon, sef S. Thomas. 25. Canu'r Triawd allan o Mawl a'th erys di. Dau gwpl yn cystadlu goreu, W. Evans a'i gyffflllion. 26. Araeth ar Fynyddau'r Beibl. Un ymgeisydd, T.Jones. 27. Yr Hen Lane. Un ymgeisydd, T. Jones. 28. Canu The better land." Un ewpl a ganodd, sef Mrs. Williams a'i chyfeillion. 29. Canu yr Hen Ganfed. Un ym- geisydd, sef M. Saunders. Yroedd y gystadleuaeth. holi yn gyfyngedig i wrrywod- dros bump a deugain bed. 30. Canu yr hen don Johanah, i fenywod dros ddeugain oed. Un ymgeis- ydd, sef Mrs. 1\1. Williams. 31. Darllen yr hyn a roddwyd ar y pryd. Deuddeg ymgeisydd cydfuddugol, E, Morgan a T. Jones. 32. Araethddifyfyr ar y Meddwl. Ugain ym- geisydd goreu, J. Vaughan. Digon yw dweyd i ni gael cyf- arfodydd dityrus, adeiladol,, a dymnnol iawn. Yr oedd yr adroddiadau mor rhagorol o dda, a'r canu o'r mwyaf swynol; ac er mwyn dvddordeb, darllenwyd rhif 9, 19, a 24, o'r cyf- ansoddiadau barddonol buddugal yn y cyfarfod. G-tibeithiwn y bydd i'n cyfarfodydd Uenyddol fod yn foddion iburoehwaeth yr ieuenctyd, ac i ddwyn talentau cuddied)g i iawn'yaQarferiad. Y mae diolchgarwch gwresog yn ddyledus i Feirniaid y Traeth- odau, a'r Farddoniaeth, a'r Gerddoriaeth, yn ngbyd ag~. i'r Llywydd, am eu medrusrwydd a'" gwasanaeth digyfryw i'r cyfarfod. YK YSGRIFENYDD. Y FEIRNIADAETH. ",Galareb er cof am W. Jones, J. Arthur, a J. Williams. —Daeth dwy Alareb i'm ttaw er cof am y brodyr teilwng hyn, sef yr eiddo Didymus a Mab y Gân. Mae pennillion Dldymus yn darllen yn dyner a theimladwy, ac yn glod i awdwr mor ieuanc; ond y mae Mab y Gan wedi tra ragori. G-alareb ragorol, a theilwng or wobr yw hon. Penniltion ar Enedigaeth Crist."—Un cyfansoddiad gan Byr ei Ddeall. Hynod mor annghelfydd ac anfedrus, Gvvnaed y Pwyllgor yr un a fyno, ei wobrwyo ai peidio. Chwech Englyn er cof am J. Morgans."—Un cyfansodd. ia 1 gan Eiddil ei Awen. Gwallus iawn o ran rheol a chyng- hanedd; ond amcana yn ddaat synwyr a phrin y mae gwobr mor fechan yn werth ei hattal. Pennillion ar Ymadawiad y Parch. Evan Thomas o Dre- degar."—Un cyfansoddiad, sef eiddo Y Laslanc Llygadlon. Mae y pennillion hyn yn dra awenyddol yn eusyniadau, a phviodol i'r testun, ac yn deilwng o^r wobr. Darllener hwy ar gyboedd v cyfarfod. Hyn yw fy marn yn fyr am deityngdod yjcyfansoddiadau. Cyfarfod da a gwyliau llawen i chwi oil. Yr eiddoch yn gywir, .1 R. ELLIS. Caerynarfon, Rhagfyr 20fed, 1862.

EISTEDDFOD UNDEBOL BEDYDDWYR…

NEILLDUAD aWEINIDOG YN ZOAR,…

YMDDYDDANION Y TEULU.