Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
TY YR ARGLWYDDI.
TY YR ARGLWYDDI. Dydd Iau, y 5ed o'r mis hwn, agorwyd Senedd Prydain T?awr. Er nad oedd ein Brenines dirion yn wyddfodol ar yr ^eblysur; etto gwnawd y diffyg i fyny i raddau drwy fod ei j»ab henaf, Tywysog Cymru, yn bresenol aryr agoriad. Cym- aaerodd yr Arglwydd Ganghellydd ei eisteddle ar y sach wlan »tn 5 o'r gloch ac wedi i Dywysog Cymru gymmeryd y llwon, elfiteddodd fel un o bendcfigion v deyrnas ar un o feinciau croes y Tt. Yna, darllenodd yr Arglwydd Ganghellydd y ganlyuol
.ARAETH FRENINOL:—
ARAETH FRENINOL:— Fy Arglwyddi a BoneddigiQn- Y mae ei Mawrhydi yn gorchymyn i ni eich hysbysu, ei bod, O.ddiar pan gyfarfuasoch ddiweddaf, wedi gwneyd yn hysbys ei chaniatad i briodas gymmeryd lie rhwng ei Uchelder Breninol Tywysog Cymru a'i Huchelder Breninol y Dywysoges Alexandra, inerch y Tywysog Christian o Denmarc; ac y mae ei Mawrhydi •^•edi cwblhau cytmideb ar y mater a Brenin Denmarc, yr hwn a osodir ger eich bron. Y mae y profion parhaus ag y mae ei Mawrhydi wedi dderbyn o'ch yrnlyniad at ei pherson a'i theulu yn ei pherswadio y bydd i chwi gyfranogi o'i theimladau ar achlysur mor ddyddorawl i'w Mawrhydi; a'r hwn, gyda bendith IDuw, fel y gobeitliia, a brofa mor llesiol i ddedwyddwch ei theulu, ac i ddaioni ei phobl. Nid yw ei Mawrhydi yn ammheu na fydd i chwi ei galluogi hi i wneyd darpariadau gyferbyn a'r sefydliad (establishment) a dybiwch yn addas i radd ac urddas Etifedd Dyfodol coron y teyrn- asoedd hyn. Drwy i chwvldroad gymmeryd lie yn Groeg, a'r orsedd drwy hyny ddyfod yn wag. y mae y genedl Roegaidd wedi hysbysu ei dymuniad cryfaf fod i fab ei Mawrhydi, y Tywysog Alfred, i dderb. n y gorou Roegaidd. Nis gallai yr amtygiad digais a gwir- foddol hwn o etvyllys da tuag at ei Mawrnydi a'i theulu, a'r gwerthfawrogiad teilwng o'r budd a roddir gan egwyddorion ac ymarferion y cyfansoddiad Prydeinig, lai na bod yn wir foddhaol, X1 hyn a deimlir yn ddwys gan ei Mawrhydi. Ond y mae cytundebau diplomyddol coron ei Mawrhydi, yn righyd ag ystyriaethau pwysig ereil!, wedi attal ei Mawfhydi rhag ildio i'r dymuniad cyffredinol hwn o eiddo y genedl Roegaidd. Gobeithia ei Mawrhydi fodd bynag, y bydd i'r un egwyddorion o ddewisiad a arweiniasant feddyliau y genedl Roegaidd, yn y lIe cyntaf, at ei Uchelder Breninol y Tywysog Alfred, i'w harwain i ddewis penadur, dan lywyddiaeth yr hwn y bydd i deyrnas Groeg fwynhau bendithion Ilwyddiant tufewnol, a pherthynasau cyfeillgar a theyrnasoedd ereill ac os yn y cyfry w sefyllfa ar bethau y bydd rWeriniaeth y Saith Ynys wneyd yn hysbys ddymuniad pwyllog i ymuno a theyrnasoedd Groeg, bydd ei Mawrhydi yn barod i gym- meryd y cyfryw fesurau a fyddent angenrheidiol er adchwilio cyt- undeb Tachwedd, 1815, drwy yr hwn yr adgyfansoddwyd y wer- ioiaeth, ac y gosodwyd hi dan amddiffyniad Coron Prydain. Y mae perthvnastu ei Mawrhydi a galluoedd tramor yn parhau yn gyfeillgar a boddhaol. I Y mae ei Mawrhydi wedi ymattal rhag gwneyd dim gyda golwg ar gymhell y pleidiau gwrthwynebol yn Ngogledd America i roddi fypy yr ymdrech rhyngddynt; canys nid yw yn yinddangos etto i'w Mawrhydi y byddai i'r fath gynuygion fod yn llwvddiannus. Y mae ei Mawrhydi wedi edrych gyda'r pryder mwyaf ar yr ymdrechfa anrheithiol a garir yn mlaen etto yn y parthau hyny ac wedi canfod gyda chalon ofidus y cyfyngder a'r dyoddefaint y mae y rhyfel hwnw wedi ddwyn ar ddosparth helaeth o ddeiliaid ei Mawrhydi, ond a ddygwyd ganddyntgyda gwroldebacamvnedd teihvng o efelychiad. Y mae yn gysur i'w Mawrhydi gael lie i obeithio fod v cyfyngder yn lleihau, a bod adfywiad yn cymmeryd ]!e vn y parthau gweithfaol. Y mae wedi rhoddi y boddhad mwyaf i'w Mawrhydi i ganfod gyda'r fath aelfrydedd y mae pob aosparth o'i deiliaid yii mhob parth o'i hamherodraeth wedi cyfranu er darbodi ar gyfer angen- ion eu cyd wladwyr dyoddefus ac y mae yr haelfrydedd gyda pha un y mae deiliaid trefedigol ei Mawrhydi wedi rhoddi eu cynnorth- wy yn profiler fod eu hanneddan yn mhell oddi wrthym, etto fod eu calonau yn meddu teimladau gwresog tuag at hen wlad eu tadau. Y mae y Pwyllgorau Darbodol wedi arolygu, gydagofatparhaus a diffunnt, ddosparthiad y drysorfa a roddwyd dan eu gofal. Y mae ei Mawrhydi yn gorchymyn i ni i'ch hysbysu ei bod wedi cwblhau cytundeb masnachol a llyngesol a Brenin y Belgiaid, ya-nghyd a chyfammod gyda golwg ar gwmnion arianol. Bydd i'r cyfryw gytundeb a'r cyfryw gyfaramod gael eu gosod o'ch blaen. Y mae ei Mawrhydi wedi gorehymyn fod y papyrau perthynol i achosion Itaii, Groeg, a Denmarc, i gael eu gosod o'ch blaen a bjdd i'r papyrau o berthynas i'r dygwyddiadau a gymmerasant Ie y:i ddiweddar yn Japan i gael eu gosod hefyd gerbron. Foneddigion Ty y Cyfiredin,— Ymae ei Mawrhydi yn gorchymyn fod yr amcangyfrifon am y flwyddyn ddyfodol i gael eu gosod ger- eich bron. Y maent wedi «u parotoi gyda golwg ddyladwy at gynnildob, ae a ddarparant i wneyd y cyfryw leibad yn y treulion ag a yrnddengys yn gyd- weddot a dygiad yn mlaen y gwasanaeth cyhoeddusyn eHeithidI. Fy Arglwyddi a Boneddigion,- Yr ydym yn cael ein gorchymyn sari ei Mawrhydi i'ch hysbysn, 'er fod rhyfel cartrefol yn Ngogledd America yn parhau, nad yw masnach gyffredinol y wlad wedi lleihau nemawr y flwyddyn ddi- weddaf. Y mae y cytundeb masnachol a gwblhaodd ei Mawrhydi ag Am- Tiarawdwr Ffrainc eisoes wedi cynnyrchu canlyniadau tra man- teisiol i'r ddwy genedl y mae yn ymwneyd a hwynt; ac nid yw sefyllfa y gyllidaetb, er fod amryw amgylcbiadau anffafriol wedi dygwydd, yn anfoddhaol. ,Gobeith;a ei Mawrhydi y cymmerir y canlyniadau hyn fel profion nad yw adnoddau y wlad wedi eu niweidio. Y mae yn foddhaol i'w Mawrhydi i ganfod y trefnusrwydd hapus a fodola drwy ei holl diriogaethau, yr hyn sydd yn elfen mor hanfodol i ddedwyddwch a Ilwyddiant cenedlaethau. Gosodir dan eich ystyriaeth amryw fesurau o ddefnyddioldeb a 'gwelliant cyhoeddus; a dwys weddia ei Mawrhydi ar fod i fendith yr Hollalluog Dduw arwain eich ymgynghorhd er ychwanegu llesiant a dedwyddwch ei phobl. Cynnygiwyd gan Jarll Dudley fod anercliiad i gael ei anfon mewn atebiad i araeth y Frenines. Eiliwyd y cynnygiad gar. Iarll Gi anard. Wedi i Iarll Derby ac ereill siarad, pasiwyd y penderfyniad. DyBD GWENER. — Cynnygiwyd gan Esgob Ripon fod dychweliad o boblogaeth archesgobaethau York a Ripon gael ei wnevd. Mewn atebiad i Arglwydd Llanofer, dywedodd Iarll de Grey a Ripon y byddai i V sgrifenydd y Rhyfel, pan yn cynnyg yr amcan-gyfrifon, roddi eglurhad o berthynas i gym- meradwyaeth pwyllgor y Gwirfoddiaid. DYDD LLUN.—Wedi ychydig eiriau oddiwrtb Arglwydd Rayenswortb, o berthynas i borthladdoedd noddfaol, darllen- odd yr Arglwydd Ystafellydd atebiad ei Mawrhydi i'r an- ercliiad. Wedi i addysg y tlodion fod dan sylw. torodd y$i fyny i am chwarter i saith.
TY Y CYFFREDIN.
TY Y CYFFREDIN. DYDD IAU, Chwef. 5.-Wedi i'r Llefarydd ddarllen Araeth ei Mawrhydi, cynnygiodd Mr. Calthorpe fod anerchiad i gael ei anfon aty Frenines mewn atebiad iddi. Eiliwyd y cynnyg gan Mr. Bazley. Wedi i Mr. Disraeli, ac ereill siarad, pas- iwyd y penderfyniad. DYDD GWENER.Cyflwynwyd deiseb gan Mr. Bright o Birmingham, yn dymuno lleihad yn nhreulion y "ad. Rhoddodd Mr. Layard eglurhad byr o berthynas i'r an- nghytundeb a Brazil. Aey. Hong Brydeinigynddrylliauyn Rio Grande, ac a yspeiliwyd, ac y mae lie i gredu i rai o'r morwyr gael eu llofrnddio. Ni chynnaliwyd rheithfarn deg ar y cyrff. Fodd bynag, yr oedd y Llywodraeth Brazilaidd wedi addaw gwneyd iawn, 4 dysgwyliai yr adlfurfid perthyn- asau cyfeillgar. Rhoddwyd yn ganlynol ganiatad i ddwyn amryw fesurao i mewn. DYDD LLON.—Tynwyd sylw y Ty at y twymynion a geid mewn cabs a ddefnyddid i gario dynion afiachus i ysbyttai, a dywedai Syr G. Grey y byddai iddo osod penran yn y gyfraith er symud yr achos. Rhoddwyd caaiatad i ddwyn mesur i mewn er adgyweirio y gyfaaith o berthynas i arferion llygredig mewn etholiadau. Darllenwyd y mesur y tro cyntaf. Caniatawyd i Syr R. Peel ddwyn mesur i :newn er cofres- tri genedigaethau a marwolaethau yn yr Iwerd lon. Darllen- wyd yr ysgrif y waith gyntaf. Cododd y Ty am chwarter i wyth.
COLEG Y PARCH. C. H. SPURGEON.
COLEG Y PARCH. C. H. SPURGEON. Nos Wener, Ionawr 30ain, cyfarfu cyfeillion, myfyrwyr, ac athrawan y coleg sydd mewn eyssylltiad ag eglwys y Parch. C. H. Spurgeon, yn y Tabernacl. Ymddengys fod y coleg hwn mewn sefyllfa flodeuog iawn. Yr oedd rhoddion wythnosol cynnulleidfa Mr. Spurgeon y Sabboth blaenorol yn cvrhaedd i X20 3s. lg.; ac yr oedd y swm hwn, er mor fawr yr yrndden- gys, dan y cyfartaledd o roddion wythnosol y gynnulleidfa at yr achos teilwng hwn. Rhif presenol y myfyrwyr yw 51 ac y mae 150 o fyfyrwyr yn y dosparthiadau hwyrol. Heblaw cyf- lenwi pwlpidau gweiginn, y mae myfyrwyr y coleg hwn yn pregethu mewn 27 o orsafoedd yn ac o aingylch i Lundain. Y mae 29 o eglwysi Bedyddiedig, gweinidogion y rhai a addvsg- wyd yn y coleg hwn. Treulion y coleg y llynedd oedd £ 2,000. O'r swm hwn codwyd yn agos ei banner drwy roddion wyth- nosol y gynnulleidfa, tua £250 drwy danysgrifiadau cyfeillion yn y Tabernacl, a je592 gan Mr. Spurgeon, a chyfeiilion drwyddo ef. DerbyniwydE59 gan Drysorfa y Bedyddwyr. Ymwelir a'r coleg bob dydd Llun a dydd Gwener gan Mr. Spurgeon ei hun, er gweled pa gynnydd a wneir gan y myfyr- wyr, ac er cyfranu liyfforddiadau duwinyddol iddynt. Wedi i'r cyfeillion yfed te gyda'u gilydd, eyfeiriodd Mr. Spurgeon at y pleser a deimlai yn y fath gynnulliadau, a'r lies a ddeilliai oddiwrthynt. Dywedai hefyd, wrth gyfeirio at y coleg, fod y myfyrwyr wedi codi o un i hanner cant, a bod yn agos i 200 yn y dosparthiadau hwyrol. Cyfrenid addysg rad yn y classes hyn i fobl ieuainc ag oeddynt yn dilyn eu gorchwylion yn y dydd, y rhati amlaf o ba rai oeddynt yn pregethu yn achly- surol, ac yr oedd eu llafur wedi ei fendithio yn hynod. Yn ychwanegol at barotoi gweinidogion i eglwysi yn y wlad hon, yr oedd un myfyriwr wedi ei anfon i Newfoundland, lie y mae wedi bod yn dra llwyddiannus a danfonid ereill i wledydd tramor pan y êaniatâi amgylcbiadau. Yr oedd Ilwyddiant y myfyrwyr wedi bod yn hynod yr oedd un o'r rhai cyntaf a fu yn y coleg wedi bedyddio 500 o bersonau. Yn ganlynol, rhoddoJd Mr. Spurgeoo a Mr. Rogers (un o'r athrawon) fras- lun o'r addysgiaeth a gyfrenid yn y coleg, ac ymadawodd y cyfeillion wedi cael boddlonrwydd mawr yn ngweitlirediadau y sefydliad daionus hwn.
CYMDEITHAS ARIANOL DDIRWESTOL…
CYMDEITHAS ARIANOL DDIRWESTOL CAER- SALEM NEWYDD A'R MYNYDD BACH. Cynnaliwyd cyfarfod cyntaf y Gymdeithas yn Nghaersalem Newydd, Chwefror 9fed, 1857. Y derbyniadau y noson hono ydoedd £20. Am y ddwy flynedd gyntaf, yr oedd cyfarfodydd y gymdeithas yn cael eu cynnal ar gylch yn y capeti ucbod a Silob, Glandwr; ond wedi hyny, mae Siloh we i hynodi ei hun yn sefydliad Cymdeithas Adeiladu, yr hon yn ddiau ydyw yr oreu o'r boll gymdeithasau hyny, yn gymmaint a'i bod ar osodiadau lawer mwy haelionus. Mae yr ardaloedd yn ddyledus iawn i'r Parch. T. Thomas. Nos Sadwrn, Ion. 31, ydoedd nos rhanu i'r aelodau wahanol dderbyniadau y gym- deithas yn y flwyddyn ddiweddaf: — a Derbyniwyd arian yr aelodau.. •• 303 7 6 Liog yn yr Ariandg, 4 10 8 „ Dirwjon •• •• « 7 10 Mewn llaw yn flaenorol 3 3 6 311 9 6 Talwyd i aelodau wedi tynu yn ol 14 10 0 Cyfanswm 325 19 6 Hon ydoedd y ohwechfed flwyddyn o'r dechreu i'r Gym- deithas werthfawr hon. Mae ei derbyniadau o'r dechreu yn sefyll fel yma :— £ s. c. Cyfanswm talisdau yr oelodau 1915 0 2 »» y L,°S •• •• •" 2? lln Q y Dirwyon •• •• „ „ a^dalwyd yu ol 41 13 6 1989 5 8 Swm go dda, Mr. Golygydd, wedi eu tatu gan weithwyr tlawd mewn cyn lleied o amser, onite ? Yr oedd yn dda gan fy nghalon eich clywed yn siarad yn y SEBEV yn ddiweddar ar ddyledswydd yr eglwysi i nodd: a aefydlu cymdeithasau o'r fath. Pwy a all amgyffred y canlyniadau gogoneddus yn yr amser a ddaw. Caniatewch i mi nodi yehydig o lawer o r hyn a welir eisoes yn yr ardal hon-dim son am glybiau arian yn y tafarndai-symud y clybiau ctaf yn glwt i Schoolrooms-eau allan y cwrw o'r clybiau claf-llawer o weithwyr anwyl yr ardaloedd wedi cael pob o dy cysurus yn eiddynt eu hunain— achub y tadau a'r meibion thaz syrthio i fynwes meddwdod- mynwes glirach ar foreu dydd Dnw, a gwell hwyl i fyned gyda'r fintai i fynydd tt yr Arglwydd, &c. Y mae un gair arall oeddwn yn feddwl ei grybwyll, sef fod swyddogion y Gymdeithas hon wedi ac yn gwneyd eu holl wajanaeth am dd:m. Y Trysorydd yw Mr. Williams, manager, Millbrook Iron Woiks; Ysgrifenydd, Mr. D. R. Davies, Treboeth Gor- uchwvlwyr, Mr. Thomas W. Morgan, Tirdeunaw, a Mr. Tho- mas L W s, Clyndu DBON.
[No title]
Mae brysebion wedi newydd en derbyn gan y Swyddfa Dramor yn hysbysu fod y llong Brydeinig" Martha ae Emily" wedi cael ei chymmeryd, a'r cadben wedi ei ladd, gan frodorho Formosa. Mae perchenogion y Great Eastern wedi gwneyd ymchwiliad i'r ddamwain a gyfarfu a'r Hong yn ddiweddar, ac y maent wedi cael hoddlonrwydd nad bai y Cadben Paton,na neb o'r swydd- ogion, oedd yr achos o'r ddamwain, eithr i hyny gael ei achosi o herwydd nad oedd y graig ar ba un y tarawodd wedi ei nodi ar y darlunleni. Syrtbiodd Mr.Wiles, o gwmpeini Gresbam, Wiles, a Brown, darllawyddion, South Walling, Lewes, i mswn i ystond o gwrw yn ddiweddar, a chafwyd ei gorff yn mhen yehydig amser,-yn oer a marw. Cyflawnodd Mr. Charles Clark, un o yuaJon Wolveraaipton, a diweddar faer y dref hono, hunanladdiad ychydig ddiwrnodau yn ol. Tybir ei fod maes o'i synwyrau ar y pryd. Lladdodd dyn ieuanc o'r enw Taylor ei wraig yn Maencein- ion dydd Sadwrn. Ymddengys mai un o gymmeriad ysgafn ydoedd y wraig cyn ei phriodas, a'i bod yn ddiweddar wedi cymmeryd i fyny &'i hen arferion. Cafodd ef afael ynddi mewn t £ isel dydd Sadwrn, a chan esgus fod yn hynod o garedig, darbwyllodd hi i encilio gydag ef, pryd y darfu iddo ef yn union dori ei gwddf. Bu farw yn f'lan, a pban roddodd ef ei hun i fyny i'r awdurdodau, dywedai ei bod hi wedi derbyn ei haeddiant. Cafodd y trengholwyr ef yn euog o lofruddiaeth gwirfoddol, ac y mae yn awr yn ngharchar. Dygwydddodd tri than yn Llundain ar nos'Lun diweddaf, ac mewn un achos, yr oedd dim llai na thri o dan-beiriannau a phump o ysgolion diangol yno yn hynod o gynnar, wedi cael eu galw yn nghyd gan y gwefrhysbysydd, yr hyn sydd yn profl pa mor rbagorol yw y trefniadau yn Llundain er diifodd tanau. Mae y Llywodraeth wedi gorchymyn rhoddi cyfarchiad breiniol (royal salute) i'r llong George Griswold pan gyr- haetlda Lynlleifiad." Hon, fel y gwyr ein darllenwyr, y w y Ilong sydd yn dwyn help i bobl swydd Lanctster oddiwrth yr Americaniaii.] Gogleddol. Dywedir fod ntfeno swyddogion mHwraidd Itali wedi ceisio caniatad i gychwyn i Mexico, er dilyn tyn.eJ y fyddin Firengig. Yr oedd Jackson, y caethwas ffoedig, a diweddar gerbydwr Jefferson Davies, yn bresenol mewn cyfarfodydd mawrion a gynnaliwyd yn Aberdar a Merthyr er dadgan cydymdeimlad a'r Gogledd a'r Llywydd Lincoln. Tiaddododd y dyn du araeth bwrpasol iawn, yn yr hon yr oedd yn dangos echryslonrwydd caethwasiaeth. Mae cymmeradwyaeth mawr iddo. Gwnaeth Boneddwr ei ymddangosiad yn y Central Criminal Court yn ddiweddar dan amgylchiadau tra rhyfedd. Yr oedd wedi cael ei wysio ar yr uchelreithwyr, a daeth i'r llys i geisio esgusodiad ar y tir ei fod, er yn aelod o Eglwys Rufain, yn parbau i fod yn offeiriad o Eglwys Loegr. Esgusodwyd ef, wrth gwrs, gan y barnwr, am nad oedd yn.bosibl iddo ef rydd- hau ei hunan o'r offeiriadaeth. Mae papvrau Genoa yn cyhoeddi fod y meddyg. Dr. Basile, wedi ymadael o Caprera, gan fod clwyf Garibaldi wedi gwella i'r fath raddau fel nad oes eisieu help meddygon yn mhellacto. Mae Garibaldi yn medru cerdded drwy help ffyn baglau, ac y mae eisoes wedi bod maes yn pysgota. Dywed Dr. Basile y bydd yn alluog i farchogaeth yn mhen pythefnos, os myn. GOLEUDY YR WYSG.—Yn ystod yr ystormydd diweddar. a clnvyddiadau uchel y llanw, cafodd preswylfod eeidwad y goiendy uchod ei lanw o ddwfr. Ymddengys nad yw y mur amddiffynol ond un byr iawn, ac mai i hyny yn benaf y cyfrifir yr annghysur a ddyorldefwyd gany ceidwad. Y mae yn ofynol i'r awdurdodau wneyd rhvwbeth yn y mater hwn yn fuan. TAN DYCHRYNLLYD.—Torodd tan dychrynllyd allan yn nh^ Mr. Fletcher, Heol Lombard, Llundain, dydd Mawrth. Cyn gynted ag y rhoddwyd y gair allan, torodd y tSn trwy ffenestri un o'r ystafelloedd, ac er i'rjtan.beiriannau gyrbaedd yno yn dra buan, ac i'r tan gael ei ddiffodd, Uosgwyd Mr. Fletcher yn ulw. CLEFYD Y DEFAID.-Cof gan ein darllenwyr ddarfod i glefyd tost dori allan yn mysg y defaid yn swydd Wilts ryw ychydig fisoedd yn ol. Pennodwyd pwyllgor gan y ffermwyr i ystyried y ffordd oreu i attal y clefyd rhag lledaenu, ac i wella y defaid afiach. Mewn cyfarfod mawr a gynnaliwyd yn De- vizes dydd Llun diweddaf, hysbysodd y pwyllgor fod y clefyd yn awr wedi diflanu, ac nad oedd eisieu eu gwasanaeth hwy bellach. Rhoddwyd diolchgarwch gwresog y cyfarfod i r pwyllgor am eu ffyddlondeb dibaid. MARWOLAETH RHYFEDD.—Ar nos Fercher diweddaf, yr oedd Mr. Mason, gwraig i liwiwr sidan, yn byw yn Heol Bank, Macclesfield, yn eistedd ar bwys y tan,a'i phlentyn ar ei glin- iau pryd y ffrwydrodd costrelaid o ddwfr, yr lion a gorc.wyd yn din,ac & osodwyd yn y ffwrn yn y boreu, ac y llauwyd y tf 0 darth Rbedodd amryw o'r cymmydogion i mewn pau fflywsant swn y ffrwydriad, a chawsant Mrs. Mason a rptentyn yn eu hyd ar y Uawr a'r llestri te a'r ford wedreudym. chwelyd. Yr otdd y fam a'r baban wedi eu hysgaldanu mor ofnadwy, fel y bu'r baban farw yn fuan, ac nid yw y meddyg- on sy'n trin Mrs. Mason yn dal un gobaith allan y bydd iddi wella. DYGWYDDIAD DYDDOUOL.—Yn nghanol sypyn o dlillad a ddanfonwyd rywle i swydd Lancaster er dilladu y trueiniiid sydd yno yn dyoddef o herwydd diffyg gwaith, yr oedd capan bachgenyn. Yn y capan yr oedd llythyr, wedi ei gyfeirio at fachgen amddifad neu ddifam." Ar agoriad y llythyr, caf. wyd swllt ynamgauedig, yn ngbyd a'r hyn a ganlyn "Bydded i wisgydd ieuanc y capan hwn gyfarfod a i ddiweddar her. chenog yn y nefoedd. Yr oedd yn brydweddol ac yn dda; a symudwyd ef drwy ddamwain o'r byd hwn i fyd gwell. Ben- dith mam alarus fyddo ar ben y sawl a wisgo gapan ei bacligen gwiw BATHODYN GWOBRWYOL, a roddwyd am STARCH GLEN- FIELD gan Farnwyr Dosparth 2, Arddangosfa 1862. Y mae y Starch' enwog hwn yn cael ei ddefnyddio yn y Golchdy Breiniol, ac a gyhoeddir gan Olchwraig ei Mawrhydi y goreu a ddefnyddiodd erioed. Trwswraig Ysnodenau ei Mawrhydi a'i gesyd allan y goreu a ddefnyddiwyd ganddi; ac y mae y wobr ucAod gan rai o brif gelfyddydwyr yr oea, yn proi fei ragor- iaeth. Gwerthir "STARCH BREINTIEDIG GLBNFIELD yn mhob Dinas, Tref, a Phentref, yn Mhrydain Fawr a'r Iwer- ddon, mewn sypynau Je., lc., 2g., 4c. 8c., yr un gan Grocers, Canwyllwyr, Ffervllwyr, &c., ac yn gyfanwerth gan y gwneu- tburwyr WOTHERSPOON A'I GYF., GLASGOW a LLUN- DAIN.