Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
AMERICA.
AMERICA. Efrog Newydd, Chwef. 7. Nid oes newydd o werth ei grybwyll wedi dyfod oddiwrth fyddin Hooker, gan fod cyflwr drwg y ffyrdd yn gwneyd pob symudiad yn annichonadwy. Dyjpedir fod Than o lynges y Gwrthryfelwyr dan M'Gruder yn Galveston wedi ail gyrnmerydy Sabine 'Pass, Texas, yn nghyd a'r llong Morning Light, nifer o fagnelao, a rhyw gymmaint o arlwyon rhyfel. Ar y 4ydd, darfu i M'Gruder gyhoeddi hysbysiad fod Galveston aholl arfordir Texas mewri cyflwr o warchae.1 Yr oedd chwrsjh ugain o longau wedi hwylio o Newbero, oil yn ^wym i borthladdoedd y Dehau; ac yr oedd y MetTimac newydd yn gorwedd saith neu wyth milltir i'j tu isaf i Richmond. t Y r oeddys yn codi gwrthgloddiau yn mhob cyf- eiriad er amddifFyfl^chmood, prif ddinas y Gwrth- ryfelwyr. Dywed y brysebion diweddaf o Vicksburg fod yr hurdd-Iong Undebdl, Queen of the West, wedirhedeg y gwarchae yn Vicksburg- ar yr 2il. Ymosodwyd arni gan gant o fagnelau ar yr un pryd pan yr oedd yn myned heibio. Ymosodwyd arm hefyd gan agerlong, ond gwnawd honb yn ddiles yn fuan gan y Queen of the West, yr hon fu dan dan y gelyn am dri chwarcer awr. Mae y gwrthryfelwyr wedi symud o'r tu ol i Fred- ericksburg. Ymosodasant ar wnfadau yr Undebwyr ger Ynys 10, ond trechwyd hwy. Dywed y Charleston Despatch ddarfod i'r Gwrth- ryfelwyr agor tan o un o'u magnelfeydd ar y gwnfad Undebol P. Smith," yr hdhoedd yn gorwedd yn Stone Hiver, ac iddiroddi mewn yn mhea awr. Yr oeddys yn ei pharotoi i fyned i'r mor dan luman wrthryfelgar. Dywedir y bydd i Butler gymmeryd lie HaIIeck. Y mae dau gynnyg o flaen Llywodraeth Indiana er dwyn oddiamgylch gymmanfa i benderfynu telerau heddwch. Y mae Llywodraeth Efrog Newydd wedi pasio penderfyniad yn datgan hyder yn Llywodraeth Lincoln, ac yn gwystlo eu cydweithrediad yn y gwaith o lethu y gwrthryfel. M ae Mr. Wendel Phillips wedi bod yn darlithio yn Brooklyn, gan annog y bobl i hawlio oddiwrth y Llywydd Lincoln fyddin o 500,000 o Negroaid,wedi eu harfogi yn briodol, erbyn y laf o Fai. Mae y camlas ag y mae y Cadfridog Grant yn eu ffurfio, yn un holtol newydd, Profoddi yr un a wnaethpwyd gan y Cadfridog Williams yn ddiwerth. Yn ol y newyddion diweddaf yr oedd y dwfr yn dechreu llifo i mewn iddo. Y mae,nifer lluosog o filwyr wedi glanio, ac wedi cyrehu dros yr orynys i fan gyferbyn a Warrington, lie y maent yn awr yn gwersyllu. Y maent mewn sefyllfa ag y gallant dramwy at y fyddin sydd ar ochr isaf Louisiana, os llwydda'r fvddin hyny i basio am- ddifFynfa Hudson. Y mae gan yr Undebwyr yn awr lu y ddwy ochr i Vicksburg, ond credir na chynnygir gwneyd dim byd nes y cyramerir amddifFynfa Hud- son, ac yr una y Cadfridog Banks a'r Cadfridog M'Clernand. Efrog Newydd, Chwef. 8. Dysgwylir i'r Llywydd Lincoln osod y Cadfridog M'Clellan yn ol ei swydd fel Prif Lywydd y fyddin o fewn yr wythnos nesaf. Nid yw pennodiad Hooker ond am dymhor byr. Nid oes dim o bwys yn ddysgwyjiedig o Vicksburg am fis. Hyderir y bydd y catnlas -yn barod erbyn hyny. Ymosodwyd ar lynges warchaeol Charleston yn ddisvmmwth gan longau y Gwrthryfelwyr, ar forau y 31ain o'r cynfis. Suddwyd un o longau yr Undeb, niweidiwyd un arall, a gyrwyd y lleill o'r golwg. Ar hyn danfonodd y Gwrthryfelwyr hysbysiad i bob tnan fod y gwarchae wedi ei godi, a bod rhyddid i longau fyned i mewn i ac allan o Charleston yn ddi- luddias am dri ugain niwrnod. O'r tu arall, dywed- wyd nad oedd y gwarchae wedi ei godi, ac nad oedd yn beth hynod yn y byd fod y llongau heb fod yn ganfyddadwy ar ddiwrnod niwlog. Mae y pwnc wedi cael ei drin gan newyddiaduron America d Lloegr, ood yr oeddynt braidd yn ddieithriaid yn barhu nad oedd y gwarchae wedi darfod, hyd y nod cyn clywed hanes yr Undebwyr o'r mater; ac wedi cael hwnw, y mae yn ymddangos yn eglur fod y gwarchae mor gadarn -ag erioed. Gofynwyd barn y Llywodraeth Brydeinig ar y pwnc, gan un o aelodau y Senedd, ond gommeddwyd ei roddi. Ymddengys ddarfod i bedwar Or llongau gwarchaeol ddychwelyd i'w gorsaf ger Charleston yn yr hwyr, a boreu dranoeth yr oedd yno ugain o longau. Pasiwyd yr ysgrif i arfogi negroaid gan y Cyn- nrychlolwyr ar yr 2il o Chwefror drwv fwyafrif o 83 yn erbyn 54. Y mae yn awdurdodi y Llywydd i ar ogi cynnifer o negroaid ag a farno efe yn ofynol ros ystod o ddim mwy na phum mlynedd. Bydd eu bwyd, eu dillad, a'u harfau yr un ag a roddir i'r milwyr ereill. Gellir pennodi swyddogion gwyn neu ddu arnynt, ond ni fvdd gan swyddog du un awdur- dod dros filwr gwyn. Ni fydd i negroaid perthy.nol i feistri teyrngarol gael eu cymmeryd fel hyn i wasan- aeth y Llywodraeth. Cyhuddwyd negrp o ledrad yn ddiweddar yn St. Louis, Missouri. Codwyd y pwnè, Ai dyn caeth ai rbydd oedd efe pan gyflawnodd y weithred. Dygwyd tystiolaeth i brofi ei fod gynt wedi bod yn gaethwas yn Mississippi. Datganodd y Barnwr mewn araeth gynnwysfawr fod y negro yn ddyn rhydd drwy rym teyrngri y Llywydd Lincoln. M«wn ymdrech a gymmerodd le ar yr afon Cum- berland rhwng nongau yr Undebwyr ac eiddo y Gwrthryfelwyr, cymmerodd yr olaf oddeutu ugain o negroaid oddiar fyrddau y llongau Undebol, ac heb unrhith o brawf, arweiniwyd hwy i gae ar bwys, cyJymwyd' eu dwylaw, a saethwyd hwy oil mewn gwaea oer. Diangodd dau drwy neidio o fwrdd un o'r llongau i'r dwfr, lie yr oeddynt yn dal eu hunain fyny wrth yr helm, a dim ond eu penau yn y golwg. 11. Gwelwvd hwy o'r tir, danfonwyd milwyr mewn badau atynt, saethwyd hwy yn eu penau nes oedd eu bym- y enydd yn daenedig dros wyneb y dwfr. Dyma beth mae y Gwrthryfelwyr yn wneyd a phob negro a fydd mor anffod.us a chwympo i'w dwylaw, a dyma'r getbern uffernol ag y mae rhai yn y wlad hon yn eu canmol mor uchel. Elrog Newydd, Chwef. II. Nid yw byddin y Potomac wedi symud. Gwnawd cynnyg gan yr Undebwyr i wthio llinellau y Gwrth- ryfelwyr yn ol yn nghymmydogaeth rorkstown, ond ni fuyn llwyddiannus. Collodd yr Undebwyr 30 rhwng clwyfedigion a IIaddedigion nid oedd son am golled y Gwrthryfelwyr. Cyrhaeddodd anturiaeth Forster Port Royal ar y 3lain o'r cynfis, ac yr oedd i adael yn uniongyrchol er cyhnorthwyo yn yr ymosodwyd ar Charlestown. ¡. Yr oedd yr hurddlong Undebol, Queen of the West, yn gwneyd dystryw mawr ar y Mississippi. Mae y Gwrthryfelwyr yn cadarnhau eu safle yn Fort Hudson, ac yn derbyn adgyfnerthion beunydd. Yr oedd yr Undebwyr wedi cymmeryd Lebanon, a 600 o garcharorion; Yr oedd y gwnfad Uudebol Montaulk wedi rhoddi fyny yr ymosodiad ar AmddifFynfa M' Allester: Tarawwyd y Montaulk chwech a deugain o weithiau, ond ni wnawd niwed o un pwys iddi. Gwnaeth agerlong, yr hon a dybid oedd yr Ala- bama, ei hymddangosiad ger y South West Pass yn ddiweddar. Cymmerwyd nifer o long-lywwyr i gar- char am ymddyddan a hi.
Y GWRTIIRYFEL YN POLAND.
Y GWRTIIRYFEL YN POLAND. Wilna, Chwef. 16. Y mae trefydd a chymmydogaethau Llywodraethau Wilna a Grodno, wedi eu cyhoeddi gan y Llywodr- aeth Rwsiaidd mewn sefyllfa o warchae. Y mae llonyddwch wedi ei adferyd i gymmydogaeth Kiew. Cracow, Chwef. 17. Mae mil a phum cant o filwyr Rwsiaidd wedi cyr- haedd Michaloyice. Gorchfygwyd corff o wrthry- felwyr gan Swientyka Tysz. Yr oedd amryw gat- rodau o filwyr Rwsiaidd wedi cychwyn yn erbyn y gwrthryfelwyr dan lywyddiaeth Langeiriez. Cracow, Chwef. 18. Y mosododd y gwrthryfelwyr ddoe ar Manchow, ond buont aflwyddiannus. Gosodwyd Manchow wedi hyny ar dan. Yn yr ymosodiad ar Manchow, lladd wyd 300 o'r gwrthryfelwj r. Dywed y Patrie fod y gwrthryfel wedi gwasgaru drwy holl deyrnas Poland. Y mae Llywodraethwyr Taleithiau Lithuania a Volhyna, wedi gwrthod anfon milwyr i gynnorthwyo y Bkwsiaid, gan yr ofnant y bydd eu hangen arnynt hwy i amddiffyn eu Taleith- iau eu huilain. Cracow, Chwef. 20. Mae y Llywydd yn ddiolchgar i Lywodraeth Prwsia am amddiffyniad y cyffin rhwng Prwsia a Pholand-Rwsiaidd ond dywed y buasai unrhyw ymyriad arbenig yn beryglus i Posen. Posen, Chwef 20. Ymosodwyd ar Staszow gan y Rwsiald, ond gwrthgyrwyd hwy. Paris, Chwef. 21. Dywed y Constitutional fod ymyriad Prwsia yn y gwrthryfel Polaidd wediei wneyd yn gwestiwn Ew- ropaidd. Berlin, Chwef. 21. Mewn eisteddiad ar faterion Polaidd, nid oedd na Gweinidogion na Dirprwywyr Breninol yn bresenol, ac ni ddanfonwyd neges gan y Llywodraeth. Ys- grifenwyd hyn fel ffaith neillduoi ar y Ilyfr. Cvtun- wyd yn unfrydol ar gynnyg a wnawd gan y rhydd- frydwyr o barthed i Poland. Berlin, Chwef. 22. Cyhoeddir mewn amryw bapyrau heddyw ddarfod i'r cyffin Rwsiaidd Dobryw, gyferbyn a'r gyffin-dref y Ily Brwsiaidd Gollub, gael ei feddiannu am wyth awr yn ystod y nos rhwng dyddiau Mercher a Iau, gan fil- wyr Prwsiaidd, o herwydd v cri y byddai i'r gwrthry- felwyr ddyfod yno. Berne, Chwef. 22. Dywedir fod cyfran o'r ffoedigion Polaidd yn bwr- iadu cynnyg gorsedd Poland i'r Count Walewski, os bydd i'r deyrnas gael ei hail sefydlu. Cracow, Chwef. 22. Nid yw y llythyr gerbyd o Warsaw wedi cyrhaedd yma, gan fod y dramwyfa reilfforddawl rhwng y He hwnw a Chracow wedi cael ei chau fyny. Y mae'r ftaith hon yn cadarnhau y swnfod brwydr wedi cym- meryd lie ger Petrikan a Radousk.
--+-MARK-LANE. LLUNDAIN.
--+- MARK-LANE. LLUNDAIN. yehwarter Y CHVRNRTE. • ■ «i. Gw»nitb gwyn 43 i 5(5 Ffa, Maztgan SO i 31 ooe h 42 54 PIJEON 37 43 Haitdd, atfr_!u. S8 39 Pjn, jrwynion 37 40 „ at falu sfS 29 llwydion 34 35 C«IRCH, SAISMJ L £ ) S3 PFLWR, SACHO28APWY«,GOREU 42 47 „ Yigotig JO 23 ail, o'r wlad >4 38 GWYDDELIF 16 23 Yd Indiaidd 32 s. Brar, goreu 00 68 Americanaidd, T baril.. 22 29 ail. SO 67 t ;BARA.—Bam Gwenith, 7ic. i 8c. y dorth 4 pwys teuluaidd «tto, Sfcch; i 7c. • GWER.—Town Tallow, 46.. 6ch. y cant; Rough Fat, 28.31c; yr 8 pwy. Rusiian candle, .711. Oe, y cant; Melted Stuff, 34g.0«.
MARCHNAD ANLFEILIAID LLUNDAIN.
MARCHNAD ANLFEILIAID LLUNDAIN. Yr 8 pwya. s. c. s. c. a. c. a. c; CIG EIDION GWAEL S 6 I A 10 CIG LLO 4 0 I 5 0 MAWR GORCU S 0 3 6 CIG MOEH 4 4 4 6 CIG DAFAD GWA«L 3 4 3 8 MAWR GOREU I446,
PRISOEDD YMENYN A CHAWS.
PRISOEDD YMENYN A CHAWS. LLUKDAiN.—Dorset, o 1188. i lQ4». y can pwy« Carlow, 100S. i 112».; Jersey, 98s. i i J 4B. Friesland, 126s. i 128*. CORK.—laf, lis* 2il, 118* 3ydd, 85S.; 4ydd, 60s.; 5ed, 46S^ 6ed, 00s.
MARCHNAD YD LLYNLLEIFIAD.
MARCHNAD YD LLYNLLEIFIAD. I. c. «.<, Gwenith Seisonig gwyn 9 6 i 10 3 y 100 pwyo. „ coch ..9 6 9 6 etto. Ceirch Sei*onig 3 6 4 A y 45 pwy*. Haidd Gwyddelig, at falu 3 8 4 2 y 60 pwys. Seiaonig, at lragu 38 0 41 0 y chwarter. FawrSeiMnig 40 0 42 0 y 280 pwys. MARCHNAD WLAN LLYNLLETFIAD. s. c. s. e. Laid Highland Wool v 24 pwys ..17 0 i 18 0 White Highland 21 0 23 0 Laid Crossed etto unwashed. 20 0 21 0 Etto irashed. 21 0 23 6 Laid Cbeviot etto un wuhed 2a 0 24 0 PRISOEDD Y LLEDR. pwys pwys c. e. Crop Hidu 23 i 40 12 i 15i „ 40 60 13t 21 English Butts 14 24 14 26 Foreign Butts 16 28 12J 24 Dressing Iiides, cominort 101 15 It saddlers 13 17 t. shaved. 12 16 Horse Butte, English 11 16 Horse hides, English 11 14 Calftkins 20 40 14 25 „ 40 66 15 88 « to 60 80 13 23
MARCHNADOEDD CYMREIG.
MARCHNADOEDD CYMREIG. AMLTTCH.—Gwinith, 45s. i 491. (y chwarter) haidd, 26s. og, i 32s. Oc.; ceirch, 17.. & i 19s. Oc.; ymenyn tfres,15c. i 15ic. y pwys; llestri, 12Jc. i 13c. J pwys; cig eidion, 6Jc. i 8c.; cig dafad, 7c. i 8jc. BANGOR.—Gwenith, 42s. 0c. i 45s. Oe. y chwarter haidd, 28s. Oe. i 3ls. Oc.; ceirch, 19s. Och. i 20s. 6ch.; ymenyn ffres, 16c. i 16c. CAERNARFON.—Gwenith, 43s. 0c. i 45s. Oe. y chwarter haidd, 28s.)0c. i 32s. Oo. y chwarter ceirch, 18s. 6c. i 21s. 0c. y chwarter blawd ceirch, 331.. 0c. i 34B. Oc. y 240 PWYI; ymenyn ffres, 161. i 16c. y pwys llestri, 12c. i 12c. y pwys. CABRFTBODIN.—Gwenith, 5s. 6ch. i 6s. 6ch. J 64 pwys haidd, 3s. 9c. i 4s. 6ch. y 54 pwys; ceirch, 2s. 2c i 2s. 6ch. y 40 pwys ymenyn llestri, 101c. illc. y pwys caws, 18s. i 2ls. y can pwys. DINBYCH.-Gwenith, 14s. Ocri 16s. Oc. yr R>ob haidd, 9s. 0a. i 12s. Oc. yr hob ceirch, 6s. Oc. i 7. 6e. yr hob blawd ceirchy 32s. Oe. i 33s. Oe, y 240 pwys ymenyn ffres, 15c. i l6c.; llestri, lite. i 12c. y pwys. HWXFFORDD.— Gwenith, 5s. 6ch. i 6s. 3e. y bwysel; haiid, 3s. ch. i 4s. 3C. y bwysel; ceirch, 2s. Oe, i 2s. 6ch. y bwysel ymen- 6yn ffres, Is. 2c. y pwya; etto llestri. 10c, LLAKHILO.—Gwenith, 6s. 9ch. i 7s. 3c. y bwysel; haidd, 4s. Oc. i 4s. 6ch.; ceirch, 2s. Oe. i 2s. 6ch.; ymenyn ffres, 12c. i 131-. y pwys etto llestri, 101e. i lie.; cig eidion, 6ch. i 7c.; cig dafadr 6J. i 7c. y pwys. LX.AN'HI.LI.—Gwenith, 6s. 3e. i 7s. Oe. y bwysel; haidd, 3s. 6«.. i 3s. 9c.; ceirch, 2s. 0c. i 2s. 3ch.; ymenyn fires, 13c. i 15c.; etto llestri, 12c. i 12jc.; cig eidion, 6. i IHc.; cigtdnfad, 6ich. i 7e y pwys; pore, 6ch. i 7ic. y pwys. BATHODYN GWOBRWYOL, a roddwyd am STARCH GLEN- FIELD, gan Farnwyr Dosparth 2, Arddangosfa 1862. Y mae y Starch enwog hwn yn cael ei ddefnyddio yn y Golchdy Breiniol, ac a gyhoeddir gan Olchwraig ei Mawrhydi y goreu a ddefnyddiodd erioed. Trwswraig Ysnodenau ei Mawrhydi a'i gesyd allan y goreu a ddefnyddiwyd ganddi; ac y mae y wobr ucAod, gan rai o brif gelfyddydwyr yr oes, yn proi fei ragor- iaeth. Gwerthir "STARCH BRKINTIBDIG GLBNFIKLD yn mhob Dinas, Tref, a Phentref, yn Mhrydain Fawr &'r Iwer- ddon, mewn sypynau ie., lc., 2g., 4c. 8c., yr un gan Grocers, Canwyllwyr, Fferyllwyr, &c., ac yn gyfanwerth gan y gwneu- thurwyr WOTHERSPOON A'l GYF., GLASGOW a LLUK- DAIN.