Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
ADGYFNEETHION YR EGLWYS.
ADGYFNEETHION YR EGLWYS. MAE yn dda iawn genym ni ganfod un o arwyddion da yn yr amserau presenol. Yn nghanol y marweidd-dra a deimlir yn dra chyffredin, mae sylw mwy nag arfer yn cael ei dalu i'r Cenadiaethau Cartrefol. Mae Llythyr Cymmanfa y Gogledd ar y testun hwn mae Morganwg yn gwneyd ei rhan mae Mynwy yn cymmeryd mesurau i wneyd mwy nag erioed o'r blaen; a da iawn genym weled fod Cymmanfa Caerfyrddin a Chered- igion wedi galw sylw difrifol yr eglwysi at y pwnc pwysig hwn. A gawn ni alw sylw difrifol yr eglwysi, ac unigolion, at y llythyr rhagorol sydd yn canlyn. Y cwbl a ddywedwn yn mhellach yw, fod y llythyr hwn wedi ei ysgrifenu gan un o'r gweinidogion mwyaf cymmeradwy a gweithgar a fedd yr enwad.
CENADIAETH AETEEFOL Y BEDYDDWYR…
CENADIAETH AETEEFOL Y BED- YDDWYR YN SWYDDI CAERFYR. DDIN A CHEREDIGION. MR. GrcL.,—Trwy eicli caniatad, carwn yn fawr hysbysu ychydig o'r hyn sydd yn gor- pliwys ar fy meddwl yn nghylch yr achos pwysig liwn wrth yr eglwysi pertkvnol i'r siroedd uchod. Llawer o son a sibrwd sydd wedi bod gan lawer o honoch y byddai yn beth teilwng i wneuthur rhyw ymdrechfa er helaethu ein hegwyddorion a'n syniadau crefyddol yn llawer mwy cyffredin trwy bob congl a chymmydogaeth nag y maent hyd yn hyn. Mae hyd y nod vn yr oes oleu hon gannoedd, os nid miloedd, o ddynion mewn oed a synwyr heb glywed pregeth ysgryth- yrol erioed ar Fedydd, na gweled bedydd y Testament Newydd erioed yn cael ei wein- yddu yn y dull apostolaidd, a hyny yn swyddi Caerfyrddin a Cheredigion. Mae yn ddiau, frodyr, na ddvlai y pethau hyn fod felly; Daae yn brawf o dditfyg neillduol yn ein plith. Nid wyf yn meddwl mai diffyg sel yn yr eglwysi dros eu crefydd, na diffyg cariad Cristionogol at eu cyd-ddynion ac at y gwirionedd, yw yr achos o hyn ond fod yr achos yn gorwedd yn benaf wrth ddrws Swyddogion yr eglwysi, trwy ddiffyg cym- 1neryd sylw teilwng o'r achos, a chvnllunio a Baabwysiadu trefn er diwallu y diffyg mawr Wn. Credwyf yn benderfynol pe byddai i Crymdeithas Genadol reolaidd igael eu ffurfio (fel y mae rhyw awgrymu y dyddiau hyn am hyny), a dynion o chwaeth a doethineb ^eil-wng yn cael eu dewis i weithredu yn bwylio-or dros yr eglwysi, yn nghyd ag Y sgrifenydd talentog a dylanwadol, na fyddai srnom yr un diffyg i gael dynion leuainc teilwng o'n Hathrofeydd i fod yn genadon gweithgar a llwyddiannus, yn gystal a thry ddigonol i'w cynnal yn eithaf cysurus "Vd nes y byddai yr eglwysi yn alluog i'w eu hunain. Mae llawer o eglwysi "ychain a gweiniaid yn y ddwy sir hyn yn perthyn i ni yn llwyr analluog i gynnal gweinidogion eu hunain, ac yn rhy bell i ymuno ag un eglwys arall, neu ryw achos CYffelyb, yn fwy na hanner eu hamser heb yr 1111 math o weinidogaeth, ond rhyw gyrddau gweddi gweiniaid; a phan y byddont yn cael enw o weini logaeth, ni fydd ganddynt na P^yd, dawn, na dylanwad; ond, trwy y biJnyddau, yn achos y diffyg mawr o weinid- ogaeth addas, yn rhyw ddyhoeni, ac heb fawr e'vyrch arnynt, fel y gwyddom. Mae rhai Cymmydogaethau yn y siroedd hyn heb yood ond ychydig iawn am y Bedydclwyr o oWbl, on<j trwy glywed ereill yn eu darlunio, ddarllen rhyw hanes o honynt mewn cy- a°eddiadau misol, a'u cyffelyb, o eiddo enw- fr pU ereill, ac weithiau nid yn y modd mwyaf ere'Vr J a 80Qest- Mae cymmydogaethau Ul drachefn yn y siroedd hyn ag ydym yn 4ea yddus 0 honynt, yn llawn aeddfed i ein hegwyddorion a'n harferion, y dynion sydd fwyaf goleuedig, ac yn darllen fwyaf. Mewn rhai cymmydogaethau mae dynion ydynt yn Fedyddwyr llwyr a thrwyadl yn gorfod ymuno ag enwadau ereill o daenellwyr babanod, am nad oes Bedydd- wyr yn gyfleus iddynt heb wneuthur rhyw aberth mawr iawn. Ac mewn gwirionedd, fel mae Cristionogaeth yn llwyddo, a'r oes yn cael eu goleuo trwy yr ysgolion Sabbothol, yr argraffwasg, &c., mae lluoedd yn mhlith enwadau ereill yn llwyr argyhoeddedig mai yr ynfydrwydd mwyafyw taenellu ar fabanod diwybodaeth—nad yw yn ateb yr un dyben ond twyllo eu hunain a'r plant am un o or- dinhadau pwysicaf Cristionogaeth. Ychydig iawn yn ddiau yw nifer y bobl sydd yn chwilio yr ysgrythyrau yn ddiragfarn dros- tynt eu hunain, ac am gyflawnu ewyllys Duw yn yr oes oleu hon, heb weled yn eglur pwy yw y deiliaid, a pha ddull yw bedydd y Testament Newydd. Gwir yw, y gall rhai aros a'r gorchudd heb ei symud oddiar eu llygaid trwy rym rhagfarn, neu beidio ag ymofyn a therfysgu eu meddyliau o gwbl yn ei gylch, gan hyderu fod pob peth yn dda o'u hochr, gan fod llawer o ddynion dysgedig a da, fel hwythau, heb eu bedyddio erLoed ac os gallant ateb i fyny a standard fawr Crist- ionogaeth hyd at fedydd yn unig, y maent yn gobeithio y gwna yr Arglwyddfaddeu iddvnt am y diffyg a'r coil hwnw yn y dydd di- weddaf. Ond och mae llawer iawn o bobl dda yn y gofid a'r trallod parhaus yn nghylch eu bedydd, yn llwyr argyhoeddedig wrth ddarllen ysgrythyrau y Testament Newydd, nad yw yr hyn a gawsant vn eu mabandod o dan yr enw bedydd yn ddim o gwbl, gan nad oes crybwylliad am ei gyffelyb yn Ngair Duw, ac felly yn cario baich o bryder, gofid, a chydwybod yn cyhuddo trwy eu hoes yn yr achos nis gallent am y byd ddarllen amryw ranau o'r. Testament Newydd, megys Math. 3., Marc 1., Luc 7., loan 1., Actau 2. a 8., Rhuf. 6., Col. 2., 1 Pedr 3 yn nghyd a chom- missiwn y Brenin Iesu yn yr efengylau i'w ganlynwyr, ac etto rhyw lechu y mae llawer o'r bobi sydd yn y teimladau annedwydd hvn gyda thaenellwyr — rhai am eu bod wedi dechreu felly, a dim ganddynt yn erbyn y weinidogaeth na'r cymdeithion; ereill am nad oes Bedyddwyr yn gyfleus iddynt fyned atynt, ac heb garu tynu gwg ac anfoddlon- rwydd perthynasau a chyfeillion, a gwneu- thur twrw a son am eu henwau trwy y gym- mydogaeth, &c. — rhyw lechu yn adfydus mae lluoedd fel yna o grefyddwyr yr oes oleu hon, a chyda y rhwyddineb mwyaf yn addef mai y Bedyddwyr sydd yn gywir o ran eu barn ar y dull o fedyddio. Mae yn ddiam- mheu pe byddai mwy o ymdrech a llafur ynom, fel Bedyddwyr, i ledu ein hegwyddor- ion, y byddai ein cynnydd yn llawer helaeth- ach nag y mae. Mae yn llwyr hysbys i bawb cyfarwydd a hanesyddiaeth yr oes, fod taenellu ar fabanod vn rhoddi ffordd yn gyf- lym iawn i fedydd y crediniol braidd yn mhlith yr holl enwadau crefyddol yn yr America, a lleoedd ereill, megys y gwyr pawb sydd yn darllen hanesyddiaeth gref- yddol, fod taenellwyr babanod yn blino myned ag ymofynwyr crefydd i gapeli y Bedyddwyr, ond eu bod, lawer o honynt, yn gwneuthur bedyddfeini, neu ffynnonau, yn eu capeli eu hunain, er ateb ceisiadau eu hymofynwyr am aelodiaeth. Nid y Parch H. W. Beecher yn unig sydd wedi ei orfodi i wneyd hyn yn ei gapel, ond lluoedd o rai ereill hefyd, ac y mae yn rhaid iddynt wneu- thur felly neu golli eu poblogrwydd, eu dylan- wad, a'u defnyddioldeb, a chollent lawer o'u cynnulleidfaoedd yn ebrwydd heb wneuthur hyn. Mae y gwirionedd yn gadarn, ac nid 9 yw dweyd na gwneyd yn ei erbyn yn lladd dim arno, nac yn gwanychu ei ddylanwad; mae yn rhaid i Grist deyrnasu trwy ei wir- ionedd ar y byd, hyd oni osodo ei holl elyn- ion dan ei draed, ac y mae pob cyfeiliornad yn elyn i Grist a'i deyrnas; felly, pob peth nad yw o osodaeth y Brenin mewn crefydd, i lawr y bydd yn rhaid iddo ddyfod, a goreu pa gyntaf. Os edrychwn gartref, y mae Eglwys Loegr (fel y galwant hi) a'i llygaid yn agored, ac mewn lluoedd o bIwyfi bellach wedi darparu bedyddfeini yn y llanau, er cyfarfod barn a phenderfyniadau ymgeis-r wyr am aelodiaeth ac felly yn neillduol y gorfodir hwynt yn y cymmydogaethau a'r rhanau hyny o'r wlad lie y mae y Bedyddwyr yn gryf, a'u hegwyddorion wedi dyfod yn adnabyddus a chymmeradwy yn marn y lluaws. Er enghraifft, pa sawl Ilan sydd yn swyddi Mynwy, Morganwg, a Phenfro, a, ffynnonau er bedyddio y crediniol wedi eu gwneuthur ynddynt o fewn i'r ychydig flyn- yddoedd diweddaf yma ? Beth mae hyn, sef y ffaith uchod, yn ei brofi? Wel, bydd i'r gwirionedd lwyddo, ac ennill y byd yn raddol i dderbyn ac arfer bedydd y Testament Newydd yn gyffredinol. Geilw hyn yn uchel ar i ni, fel Bedyddwyr, wneuthur ein goreu dros y gwirionedd, ac ennill y wlad i roddi fyny draddodiadau pabaidd, a derbyn gosodaeth amlwg Crist, Brenin yr Eglwys Gristionogol. Er gwneuthur ein rhan yn hyn o orchwyl, ymddengys i mi mai ein dyledswydd yw ymdrechu dros y Genadiaeth Artrefol yn y siroedd a nodwyd. Mae yma faes eang er ei wrteithio, ac os gwnawn gyf- iawnder o hono, nid oes ammheuaeth na welir ffrwyth toreithiog mewn canlyniad. DefFroed yr eglwysi ar unwaith at eu dyled- swyddau. Gan fod cynnifer o gasgliadau yn flynyddol yn ein heglwysi at wahanol achos- ion teilwng ereill, na ellir eu hebgor, ai nid gwell fyddai i ni fabwysiadu cynllun ein brodyr yn y gogledd? sef casgIu ein holl nerth yn nghyd, a chyfranu ein goreu un. waith bob blwyddyn at y Genadiaeth yn gyffredinol, a rhanu y caagliad hwnw rh wng t,Y gwahanol Genadiaethau, megys y Tramor, y Wyddelig, Cvfieithiad y Beibl, a'r Artrefol. Ymddengys i mi, pe yr ytndrechem fel eglwysi i gasglu at bob un o'r cyfryw ar eu penau eu hunain, y byddai lluosogrwydd y casgliadau yn foddion i ladd yr oil o honynt i raddau helaeth, er fod yr oil o honynt mor bwysig a'u gilydd, er lledaeniad Cristionog- aeth dros y byd. Anhawdd dweyd pa un o'r cymdeithasau hyn y dylid ymdrechu fwyaf o'u plaid, ond y mae y gorebymyn yn ben- dant ac eglur, "Fod yn rhaid dechreu yn gyntaf yn Jerusalem." Cymmered yr eg- lwysi eu ffyrdd a'u trefn eu hunain gyda golwg ar gasglu. Feallai na fuasai yn gyfleus i bawb fabwysiadu yr un cynllun i gasglu; ond y mater mawr yw, dyfod i'r maes, a gweithio gyda y Gymdeithas Genadol Artrefol a'n holl egni, fel dynion cyfrifol i Dduw, trwy y ddwy sir hyn, sydd wedi cael cymmaint o'i hesgeuluso genym. Os barnai y Pwyllgor, wedi ei ddewis gan y cyrddan chwarterol per- thynol i'r swyddau hyn, mai gwell fyddai i'r eghvysi wneuthur casgliadau blynyddol at y Genadiaeth Artrefol, byddwn yn llwyr foJd- lawn i gydweithredu hyd eithaf em gallu ag unrhyw gynllun a gaffo ei gefnogi yn oreu gan y Pwyllgor appwyntiedig ein hawydd mwyaf, lawer o honom, yw, cael gweled trefn newydd ar y symudiad rhagorol hwn, a'i ddwyn i weith- rediad gyda'r brys mwyaf; peidio siarad yn ei gylch nes y byddo farw, ond rhoi chwareu teg iddú fyw. Gorphwysaf, bellach, gan ddys- gwyl y gwneir rhywbeth yn effeithiol yn yr achos yn fuan. Pe byddai rhyw frodyr ereill yn cael ar eu meddwl i ysgrifenu yn yr achos pwysig hwn, gallai y fath ysgrifenu fod yn fuddiol iawn er caei pawb o honom ar ein goreu at eiu dyledswydd o wneuthur ein rhan gyda y mudiad teilwng hWft. Yr eiddoch yn tfyddlawn, EWYLLYSYDD DA YR ACHOS. Awst 24, 1864.
[No title]
+ Nos Wener, cafwyd dwy fenyw (chwiorydd) yn gorwedd yn farw yn mharlwr ea ty annedd, Mile- end-road, Llundain ac mewn ystafell arall gwr un o'r menywod, yn hollol farw. Bernir iddynt gael gael eu gwenwyno.
YR AMHERODRAETH ASSYRIAIDD.…
YR AMHERODRAETH ASSYRIAIDD. LLYTHYE V. DILYNWYD Shalmaneser gan ei fab Sen- nacherib, neu Sargon, yr hwn yn 715 c.c., dwy flynedd ar ol ei esgyniad i'r orsedd, a benderfynodd ddarostwng Juda, yr unig dalaeth yn y parthau hyn yn awr heb fott dan lywodraeth Assyria. Trigolion Juda, wedi clywed y newydd hwn, o'r hanes am y parotoadau a wnelid i ddinystrio rnuriau eu dinas, a frawychwyd yn fawr, a mawrion y ddinas heb gydsyniad y brenin a anfonasant anrhegion lawer i frenin yr Aifft, gan ddeisyf ei gymhorth, yn enwedig gallu o wyr meirch a cherbydau. Derbyniodd y symudlad hwn y gwrthwynebiad cryfaf oddiwrth Isaiah, a phrofodd hefyd yn aflwyddiannus. Pan welodd llywodraethwyr Juda nad oedd ganddynt obaith i attal difrodau y gelyn yn y wlad oddiamgylch, penderfynasant barotoi y ddinas er gwynebu gwarchae ac heblaw adgyweirio yr hen fur, adeiladwyd ail fur, yn nghyd ag amryw amddiffynfeydd newyddion, a'r toll ffynnonau y tu allan i'r ddinas a gau- wyd i fyny, y rhai pe yn agored a fuasent o ddefnydd mawr i'r gelynion, a chefnogid y dinasyddion trwy esiampl bersonol y brenin i ymddibynu ar Dduw am eu diogelweh. Fodd bynag, pan wnaeth y lluoedd Assyr- iaidd eu hymddangosiad, digalonodd y brenin a'r bobl i'r fath raddau nes anfon cenadon at Sargon i gynnyg ymostyngiad ar y telerau a welai ef yn dda, a gosodwyd arnynt ddirwy o 300 talent o arian, i dalu pa un y gorfuwyd yspeilio y deml o'i thrysorau, ac hyd y nod yr aur oedd yn addurno v drysau a'r -colofnau. Wedi hyn, cyfeiriodd Sargon ei luoedd tua'r Aifft; ac ar ol darostwng amryw o ddinasoedd y terfyn oedd yn gwasanaethu fel amddiffynfeydd i wlad yr Aifft, efe a ad- feddyliodd y buasai yn teryglus iddo fyned yn mlaen tua'r Aifft, a gadael gallu fel yr eiddo Juda o'i ol ar y terfyn heb ei ddaros- twng, yr hwn a allai anfon gallu wrth ei sodlau a gadarnhaai y dinasoedd ag oedd efe newydd ddinystrio, ac attal ei ddychweliad pan fuasai ei filwyr wedi teneuo, a'i baroto- adau wedi eu difa; ac, o ganlyniad, trodd yn ei ol, gan benderfynu darostwng Juda, ac ennillodd rhag ei flaen yr holl ddinasoedd caerog yn y deheu, heblaw Libuah a Lachish, ar ba rai y bu gorfod arno osod gwarchae. Yn y cyfamser, anfonodd dri o'i gadlywydd- ion gyda chenad at Hesecia yn ceisio ganddo roi fyny y ddinas ar unwaith. Pan welodd y cenadau nad oedd y cais yn debyg o dder- byn cydsyniad, hwy a ddechreuasant regu a melldithio Duw Israel, a dangos i'r dinaswyr y ffolineb o ddysgwyl am gymhorth o'r Aifft, a'r sicrwydd o gymmeriad y ddinas er gwaeth- af ei hamddiffynfeydd, a'r fantais iddynt ym- ostwng ar unwaith yn lie cael eu darostwng drwy drais. Ond er gwaethaf y bygwth a'r addewidion teg, gorfu ar y llywyddion ddych- welyd yn aflwyddiannus at eu meistr, yr hwn oedd yn parhau i warchae ar Libuah a Lacish. Mae yr ymddygiad gwrol hwn o eiddo yr Iuddewon, ag sydd morannghysson a'u hymddygiad blaenorol, i'w briodoli yn gwbl, mae yn debyg, i brophwydoliaeth Isaiah am ddinystriad galluoedd Assyria, a diogelwch y ddinas yn ngwyneb eu hymosod- iad. Yn fuan wedi i'r cadlywyddion ddych- welyd o'u neges aflwyddiannus i Jerusalem, cyrhaeddodd y newydd i'r gwersyll fod brenin Ethiopia wedi clywed an; fwriad Sar- gon i ymosod ar yr Aifft, ac o ganlyniad yn ofni am ddiogelwch ei diriogaethau ei hun, wedi penderfynu attal mynediad yr Assyriaid i Affrica o gwbl, os oedd modd, a'i fod eisioes wedi arwain ei fyddinoedd i'r maes. Yr oedd yr amgylchiad hwn yn gosod y fyddin Assyriaicld mewn sefyllfabwysig a pheryglus. Pe buasai iddi gadarnhau ei hun yn y lie yr oedd i ddysgwyl am ymosodiad Tirhakah, buasai yn gosod ei hun rhwng dau elyn, gan