Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Dewiswyd y Parch. W. S. Jones, M.A., yn gad- eirydd Bwrdd Ysgol newydd Machynlleth, a'r Parch Josiah Jones yn is-gadeirydd. Tireulio,dd Mr. O. M. Edwards, M.A., ei wyliaui yn Rhydychain, a dywedir ei fod! yn gweithio yn ddiwyd i orphen ei Hanes Cymrui i gyfres Story of the Nations." — — Bwriada y Parch. E. Cynffig Davies, M.A., Porthaethwy, ddwyn allan gyfrol o esboniad ar Epistol Qyritaf loan. Dygir y nodiadau hyn allan yn fisol yn y Cronicl. + Rhoddir canmoliaeth uchel i ddarlith y Parch. James Charles, Dinbych, ar Mr. Gee fel Ymneill- duwr. Mae gan Mr. Charles ddarlith arall yn cael ei pharotoi ar Mr. Gee fel Gwladgarwr. + Hysbysir fod y Trysorlys wedi penderfynu codi y rhodd at wneyd reilffordd i Llanfaircaereinion o saith mil i £ 14,500. Penderfynir yn awr i symud ymlaen ar unwaith, a gelwir cyfarfod o'r cyfran- ddalwyr. Anfonwyd allan ganol yr wythnos bapyraui pleid- leisio i weithwyr Bethesda, er penderfynu a dder- bynir cynygion Mr. Young ai peidio. Bydd yr at- ebion yn ol ar y 3ydd o'r mis hwn, ac os na, byddant yn ffafriol i ail ddeehreu gweithio, cauir y chwarel. —— Mae r Parch. Evan Hughes, TaJybont, Dyffryn Conwy, wedi ymddiswyddo o'r He Hehod, ac wedi derbyn galwad oddiwrth eglwysi Bethania a Phen- rhynside, Llandudno, i fyned yno i'w bugeilio. Bwriada ddechreu ar ei weinidbgaeth yn Chwefror uesaf. .+-- Un o effeithiau amlwg ac uniongyrchol y gorthr rwm sydd yn cael ei arfer yn ddistaw a. dichellgar yn rhai o brif chwareli Arfon ydyw, fod y dosbarth ieiieiigaf o'r gweithwyr yn ymadael o'r wlad. Daw y meistradoedd yn fuan i weled y canlyniad o,hyn, ond a bosibl yn rliy hwyr. -+- Ffaith ddyddorol a goffawyd mewn rhagor nag Wn o'r cyfarfodydd a gynhaliwyd ynglyn a'r ysgol- ion canolraddol y Nadolig ydyw hon,—fod ar ddi- Weddi y flwyddyn ddiweddaf 7,445 o ysgolheigion yn yr ysgolion hyn yn Nghymru. Ac y mae 5,652 wedi codi iddynt o'r ysgolion elfenol. -+-. Mewn anerchiad a draddododd yn Llandinam y nos o'r blaen, dywedai Mr. Edward Jones, Trewy- theii, fod trethdalwyr y plwyf wedi colli C82 y ddw)" flyuedd a haner diweddaf oherwydd esgeu- lusdra y rhieni yn danfon eu plant i'r ysgol yn gyson. Os ydyw felly mewn un plwyf., pa faint ydyw drwy yr 011 0 Gymru? Mae Cyfarfod Misol Llundain newydd1 drefnu i Mr. T. A. Levi, M.A., Ll.B., mab y Parch. Thomas Levi, i fyned drwy y cylch ar brawf fel ymgeisydd am y weinidogaeth. Ychydig flynyddoedd yn ol, dywedwyd yn y colofnau hyn fod Cymru yn colli ei meibion mwyaf dysgedig o'i phulpud. Mae'r llanw erbyn hyn wedi troi. + Ar y laf o lonawr, daeth y Burial Grounds Act i rytn, a thrwy yr hon y gwneir amryw gyfnewid- iadau 0 bwys i Anghydffurfwyr. 0 dan yr hen ddeddf, yr oedd y tal am gynal gwasanaeth claddu Yll gwah=iaethu rhwng clerigwr Eglwys Loegr, yr offieiriad Pabaidd, a'r gweinidog Ymneillduol. Gwneir i ffwrdd yn hollol yn awr a'r gwahaniaethau hyn. parpenr, hefyd, ar fod y tal o gini a roddir i'r clerigwr am hawl i fedd yn cael ei ddiddymu ymhen pymtheg mlynedd, neu gyda symmliad y clerigwr presenol. Wrth gwrs, nid yw y cyfnewid- iadau hyn ond briwsion yn disgyn oddiar fwrdd y Toriaid. Nid ydynt yn ceisio symud yr anghyf- iawnder sydd wrth wraidd yr holl gwynion. Yr un peth a wnai hyny fyddal gosod pob gweinidog yn hollol ar yr un tir. Bryfdir, Blaenau Ffestiniog, a enillodd y wobr o bum' punt yn Eisteddfod Nadolig y Bala am. farw- nad ar ol y diweddar Princicpal Edwards. lolo Caernarfon oedd y beirniad, ao er nad ystyriai y cynyrchion yn rhai o'r dosbart-h blaenaf, nid oedd anhawsder i farnu m'ai eiddo Bryfdir oedd y goreu 0'1' pedwar ddaethai i law. — ♦ Mae amryw o'r Byrddau Ysgol drwy Gymru yn pwyso'r dlymunoldeb o godi yr oedran y gorfodir plant i aros yn yr ysgolion elfenol o 13eg i 14eg. Diameu fod hyn yn gam yn yr iawn gyfeiriad, a dylai arweinwyr addysg drwy y wlad ei gymeryd i fyny. Symudiad anmhoblogaidd fydd, yn enwedig yn yr ardaloedd amaethyddol. Er hyny, gan fod amgylchiadau y wlad yn galw yn eglur am dano, dylid ei bwyso ymlaen. —r— Rhyfedd yr ysbwriel a ysgrifenir i rai o'r papyr- au Cymreig er ceisio rhoddi myn'd" ynddynt. Gwneir pob ymdrech i godi'r cylchrediad, ac nid yw chwaeth dda na, dyrchafiad gwlad i sefyll ar y ffordd. A'r hyn sydd yn drist ydyw fod dynion parchuB yn talu i eraill am wneyd gwaith ag y bur asai yn warth ganddynt osod eu hellwau eu hunain wrtho. Ni cheir yn y papyrau Seisnig salaf ddim i'w gymharu a'r ysbwriel hwn a ddygir allan dan nawddogaeth gweinidogioll a blaenoriaid. 4 — Dywed y Llan fod y Parch. W. Parry-Williams wedi rhoddi i fyny ofalaeth eglwys yr Annibynwyr yn y Waenfawr er mwyn parotoi i fyned yn berson yn Eglwys Loegr. Mae Mr. Parry Williams yn ddi- ameu yn wr rhagorol, a chyhoeddir y newydd yma yn yr holl bapyrau: yn ddidraul. Ni ddylid gwar- afun y cyhoedduisrwydd hwn iddo, oblegid wedi iddo fyned drosodd mae'n sior na chlywir mwy am dano. 0 leiaf, dyna hanes y dychweledigion ddi- weddaf un ac oil. +■ ( Barna Syr Edward Reed, yr aelod dros Gaer- dydd, fod y rhyfel yn Neheuidir Affrica yn degae yn gyfiawn, ac ymosoda, ar yr aelodau: Cymreig yn arbenig oherwydd- iddynt siarad yn erbyn y Lly- wodraeth. Imperialist ydyw Syr fcdward, ac mewn pethau perthynol i'r ymeirodraeth camp i neb ddweyd y gwahaniaeth rhyngddo a Thori. Gallwn feddwl ei fod yn edrych ar ei gydaelodau Cymreig a'r Boers yri lied debyg i'w gilydd. « Elri Mr. Bryn Roberts wneyd camgymeriad wrth ddweyd mai milwyr Awstralia oedd wcdi codi mewn gwrthryfel yn Neheudir Affrica, yr oedd y ffeith- iau ganddo yn gywir gyda'r eithriad o enw'r gat- rawd. Dywedai y papyrau Toriaidd fod: yr oil a ddywedodd yn anwiredd ar y cychwyn; ond ar oi hyny daeth adroddiad arall, ac yn awr nis gwydd- ant yn iawn beth i'w ddweyd. Bwriada, Mr. Bryn Roberts alw sylw eto at y mater mor fuan ag: y cyfarfydda'r Senedd, ac erbyn hyny bydd yn ddir ameui ychwaneg o ffeithiau yn wybyddus. Nid wyf yn g,weled fod cymaint o bwys yn enw'r gatrawd wedi'r cwbl. Y ffeithiau sydd yn bwysig, fel y maent yn dangos beth yw teimlad y milwyr yn y fan a'r He. -+- Tra yn darllen The Welsh People," llyfr safonol y Prifathraw John Rhys, M.A., a Mr. D. Brynmor Jones, Ll.B., deuais ar dra,ws y frawddeg a, gan- lyn: In 1735 there were only eight Nonconform- ist places of worship in North Wales," gwel tudal. 470. Yn "Niwygwyr Oymrui," Map No. III., tudal. 152, rhoddir ar ddeall i ni fod yn 1739 yn Ngogledd Cymru gynifer ag lleg o fam-eglwysi, a chynifer a 61 yn ychwanegol at hyny o leoedd pregethu a ohangen-eglwysi. Felly yn lie wyth o leoedd add.. oli, dylasai'r "Welsh People" osod i lawr 72. Gresyn na buasai Mr. B. Gwynfe Evans wedi cael ymgom fechan a'r awdwyr galluog uchod cyn idd- ynt gyhoeddi'r Welsh People," rhag fod ei oracl ef yn croes ddweyd rhai a gyfrifir yn wir oraclau. Andwyol fydd i'r Saeson, yn wreng a boneddig, gredu'r "Welsh People," pryd na chant fyth y fraint o weled Map No. Ill, "Diyygwyr Cymrn." —————— IDa, genyf glywed fod y galwad am y Gyrnraes yn dra boddhaol: ar ddeehreu y flwyddyn. Er cychwyn- iad y cyhoeddiad hwn, gweithiodd Ceridwen Peris yn ddiwyd; ac yn awr mae Cymdeithas Ddirwestol y Merched yn dangos ei chymeradwyaeth o hono drwy ei fabwysiadu fel organ swyddogol y Gym- deithas. Gwna hyny les, mae'n ddiau, o'r ddwy cch-r. -+- Sonir yn yr Unol Dalaethau am roi toll ar chwareu'r bel droed, hyny yw, am hawlio treth i'r Llywodraeth o'r symia.u a dderbynir wrth lidiart y cae chwareu: Yr hyn sydd yn syn ydyw, fod hyn yn cael ei awgrymu oherwydd y teimlir angen gwneyd rhywbeth i atal rhwysg y pla chwareu, yr hwn sydd yn peryglu ac yn difetha maisnach rhai rhanau. ♦ Yn y rhifyn diweddaf o'r Oswestry Advertizer ceir gan Mr. Thos. W. Hancock adgofion hynod ddydd- orol am Sasiwn Llajifyllin yn 1833, pryd y pre- gethai John Elias oddiar y geiriau "A ddygir y caffaeliad oddiar y cadarn," &c. Yn Saesneg yr ysgrifena Mr. Hancock, a gwn y maddeuir i mi am roi y dyfyniad yma yn y fan hon —" Of his sermon one sentence, word for word, I have not forgotten, being aided by the remarkable way in which it was spoken. The impressive action, manner, and voice present themselves at this day as life itself before. my mental vision. Describing the spiritual condition of man after the Fall, and the great power of tho Evil One in and over the unregener- ate, he uttered these remarkable words-" Y mac'1' diafol yn myn d a'r b-y-d vn ei g-iA-ddan-e-dd tu ag U ffern," that is, "The devil holds the world as a beast of prey clutches its victim, and bears it off to his horrid lair." The preacher bent himself low down at the right-hand side of the pulpit (and there) closing his two hands tigh%ly to his jaw (much as a dog is sometimes, seen to g;uard his bone), he uttered the above words; and', with that retaining action, he lifted himself as if he had a victim in his power—clutched and gripped. So weighted, he passed slowly over to the other side of the pulpit and leaning over the edge, he opened his clenched hands and dropped the victim as it were a real trailing, bleeding, mangled corpse, down into the pit. There the preacher remained with opened hands, dipping downwards, himself straining and gazing steadfastly to view the descent into the unfathomable deep. After a few seconds, from this strained posture he resumed his usual attitude, and looked at his hearers with most intense solicitude and anxiety, from side to side, at gallery and flo,or-repcating the process again and again, without uttering a word. Then slowly passing his left hand to his breast, he gripped his buttoned coat, with the uplifted right hand nervous and tremulous with life, the index finger pointing—here and there and there and there— upwards, downwards, and from side to side-a visible sign of the struggling thoughts of his soul! Neeq. I say that the whole scene was impressive to the last degree. All were spell-bound, till sighs and moaning and tears came to the relief. Fear fell upon the young. He dwelt on God's holiness and justice with such transcendant power that a man in the gallery, in his, affright, jumped up, and cried Mr. Elias-a, oes, (iobaith? Un. Mr. Elias—is there no hope?" The preacher thus arrested, stopped instanly in his discourse'. There was breathless anxiety, After a pause, he lifted up his hand—and the answer came in a strangely altered tone of voice-" O-e-s--y m-a-e Gobaith."—" Y-e-s—there IS Hope;" then in sweetest notes, as by inspiration divine, he deliver- ed the Gospel's loving conditions of Hope and Life through the Crucified Saviour, and all became peace and joy-" diolch" was heard on all sides. There wa/S rejoicing as of II one that findeth great spoil,'