Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
Y FORWARD MOVEMENT.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y FORWARD MOVEMENT. AT OLYGYDD Y GOLEUAD. Syr,—Da. oedd genyf ddarllen ysgrif Dr. James ar y Symudiad uchod yn y GOLETJAD cliiweddaf; a chan i mi gael cyfle yn ddivveddar i weled peth o hono yn nghanol ei waith yn Ngha,erdydd a'r am- gylchoedd, yr wyf yn dymuno cadarnhau pob peth a ddy wed .efe. Nis gall neb did oedd lai na gwel- ed fod yr*-Arglwydd yn amIwg: yn dangos i ni ein gwaith fel fcnwad yn Nghymru—gofalu: na byddo i grefydd C,\jjjru golli ei gafael ar drigolion. yr oes a'r genliodiaetb hon sydd yn codi, a'r cenhedlaeth- au a, ddaw,; j Yr wyf yn cofio yn dda, fod peth tebyg i dristw oh >rn fy meddianu; flyriyddau yn ol wrth feddwl tocV a-f hos Saesneg yn cael ei ddechreu yn Nhowvr., Iileirionydd, ac am'ryw o frodyr da ar gychuyn i.Jlod yn dywedyd nad oedd dim ond balchder lhodres ar y rhai mwyaf gwagsaw yn ein plith yn peri son am hynyma. Ond y mae yn dda ge|^f' feddwl, y mae y syniadau o'r fath yma wedij gju cyfyngu-i feddyhau ychydig o'r rhai mwyaf pwl sydd yn Meirion erbyn hyn. Y ffaith yw, y mae yma gyfnewidiad prysur sydd yn ddis- taw, on dol, yn ymidaenu dros wyneb y Dy- wysogae t hwn, da, y gwnawn, fel Methodist- I iaid, fod ymrdal ariio,. Y mae yn eglur fod, ac y bydd, yr iaith Saesneg wedi eriill y rhan helaethaf o Ddeheudir Cymru yn fuan, os nad yw yn awr felly. A gailwn fod yn sicr nad ydyw fynud yn rhy fuan yn cychwyn achosion Saesneg, ymhob tref ac ardal ag y mae poblogaeth liosog ynddynt; a gwnaeth boneddwr, sydd yn awr yn fyw, ac: mi cbeithiaf a fydd byw yn hir o amser, un o'r cymwynasau penaf oedd yn bosibl i'w chyiawni i achos yr Arglwydd yn ein plith, trwy ddiddyledu yn gyntaf ddyled oedd ar y capelau Saesneg yn N gogledd!CymTU:. Cafwyd g,yda, hyny rodd dywys- ogaidd tuag at y Genhadaeth Dramor; ac nid oes ball ar haelioni sym.1 a gloew yr un ,gwr da gyda dyledion ar y capelau Cymraeg. Ond yn y For- ward Movement, dyma, yr Arglwydd yn eglur yn cynyg i ni,cfel rhan o Eglwys Crist, dasg;, os gwnawn ef gyda ffyddlondeb. a fydd yn gocliad pen i grefydcl ysbrydol y^ein gwlad. Duw yn rhwydd, meddaf, 1 bob eglwys ac enwad sydd yn ceisio enill dynion at, Grist. Wjid y gwaith penaf y dylai y Method- istiaid i ofUW am dano yw darpar ar gyfer truein- iaid yn rnhrif drefydd a phentrefydd Morganwg a Mynwy yn gyntaf. Y mae amryw o froclyr da ag ydynt yn teimlo mesur helaeth o bryder wrth feddwl fod cyfrifoldeb arianol o gi-yn E40,000 yri gorphwys arnomi. Gwir yw hyn oil; eto, nid yw hynyma y gwir i gyd, nac yn agos i hyny. Y mae yn wir hefyd, fel y dywedodd Dr. James, nad oes henuriaid wedi eu gosod ymihob eglwys sydd jai i perthyn i'r Symudiad. hwn, a, diauTlros yr amser presenol mai hyn yw y goreu1. Yr hyn a osodai feddwl pob un o'r brodyr sydd yn teimlo pryder yw treifnu, o bydd modd iddynt, i fyned hyd yno i weled eu gwaith. Diau fod ein gweddi oil drostynt hwy sydd yn, llafurio o Sabbath i Sabbath yn y gwahanol acldoldai sydd clan eu gofal,—y pregeth- wyr a'r gofalwyr. Y mae rhyw duedd i'w ganfod i wneyd math a apology drostynt, am nad ydynt yn. dwyn y gwaith ymlaen yn rheolaidd. Nid oes angen dim o'r fath, canys y maent yn nghanol eu cof cyn y buasent m,or lygadog ag y maent i ofalu laiC i fynUi planu eglwysi yn y llanerchau mwyaf dewisol i gorlanu y defaid. Ac y mae y Pen Bugail wedi dechreu dwyn y diadelloedd i mewn. Y mae yn hawdd gwelecl arnynt mai yn y prif-ffyrdd a'r caeau y mae-nt wedi byw. Ond ymha Ie, bynag y maent wedi bod, y mae yn hawdd deall fod efengyl wrth fodd y bob! hyn. Y mae yr Amen' wedi colli o lu o eglwysi Cymreig, a,o y mae yn clechreui cael ei glywed eisoes yn rhai or neuaddau hyn, fel eu gelwir. Nid wyf yn dweyd ei bod yn Hosan- nah' a, Haleliwia' ynddynt, ond y mae yno fwy nag allesid ei obeithio o gynorthwy oddiwrth ddyn- ion wedi dyfod i glywed a deall yr efengyl; a gellir teimlo hyny wrth geisio llefa.ru. Ac y mae dynion didwyll a difrifol yn rhyw ddeall yn reddfol beth yw efengyl pan glywant hi, ac y mae yno, gareg ateb yn eu calon a,'u genau i wirionedd y newydd. Dywedir fod y Pwyllgor yn cymeryd dynion a fydd wedi llafurio gydag enwadau eraill, ac yn rhoddi gofal rhai o'r a,chosion arnynf. A da. y gwnant hyny, pan y ceir prawf era b'6d yn gymwys o ran cymeriad, dawn, a gallu, i drin dynion, pan nad oes modd 'cael digon o'n bechgyn ein huinain yn barod i ymgymeryd a'r gwaith. Nid wyf yn dy- wedyd ayi Dr. J. Pugh a'i gydlafurwyr ymhob peth a wnant eu bod yn gwneuthur yr hyn sydd oreu ymhob amgylchiad, am y rheswm syml mai dynion ydynt yn llawn gwaith; ond 11 maent yn ddynion1 fel y gwelir oddiwrth y llanerchau a. ddewisasa.nt yn Nghaerdydd, a, Cwmrhonclda, a Chasnewydd, i adeiladu arnynt yr adeiladau cyfleus a destlus, ynghyda'r modd y dygir y cyfarfodydd hyn ymlaen. Da yn wir yw gweled foci y Pwyllgor Gweithiol yn cymeryd rhan fawr o'r trymwaith. Dywedir fod yma waith mawr o flaen Howell Harris a D. Row- land, a'r brodyr, pan ddechreuasant hwy 160 mlyn- edd yn ol, pan 'y dech.reuiasant hwy ac efengyleiddio. Cymru. Ac felly yr oedd; ond yr wyf yn credu. tod lawn cyniaint arall o ddynion yn awr yn dis- gwyl wrth byst pyrth y Methodistiaid am fyned- i.ad i mewn 1'n haddoldai yn Morganwg a Mynwy. A agorwn ni cldrysau pyrth ty yr Arglwydd iddynt? Myfi a obeithiaf yn fawr y gwneir, ac y daw i'r Genhadaeth Gartrefol well t,riiiiaeth. yn Ne a, Gog- ledcl Cymru nag y mae wedi ei gael er ei dechreu- ad. Da, genyf ddeall, er pan y mae y Symudiad Ymosodol wedi dechreu, fod arwyddion o fywyd newydd yn y ddau gylch hwn hefyd. Gweddiwn ni y pregethwyr am i sel y ty ein hysu ni a'r brodyr sydd gyda y Symudiad Ymos- odol, ac fe fydd hyn; ac onide, ni bydd, Ac fe ddaw pob peth at yr alwad os claw hyn,—yr aur, yr arian, a'r pres, at wasanaeth achos Durw. Hwyrach y goddefwch i mi yr wythnos nesaf alw sylw at ein Cenhadaeth. Gartrefol yn y Gogledd. Yr eiddoch yn gywir, Tanygrisiau, SAMUEL OWEN,
DOLGELLAU..
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DOLGELLAU. Y Parch. J. Williams, B.A.—Y Sabbath diweddaf oedd yr olaf i Mr. Williams wasanaefchu yn Salem fel bugail. Pregethocld y bregeth (pat nos Suit, a threuliodd y cyfarfod eglwysig olaf ,os lau. Dat- ganocld amryw o'r swyddogion eu. teimlacl; yn •ngwyneb toriad y cysylltiacl; rhwng Mr. Williaana ngwyneb toriad y cysylltiad rhwng Mr. Williaana a'r eglwys. Bwriedir gwneyd rhywbeth i rockli. | Hiynegiad i'r teimlacl hwn fel yr hysbyswyd o'r blaen. Priodas.—Dydd Gwener ymgasglodd riifef o gy feillion i gapel Bethel i fod yn dystion o briodas Miss Edwards, unig fereh J. Edwards, Ysw., Coed- cymer,-gyiit o Manchester, a Mr. D. 0. Evans, mab y Parch. D. Evans, M.A., Abermaw. Gwein- yddwyd gan dad y priodfab, yn cael ei gynqrtliwyo gan y Parch. R. Morris, M.A., B.D. Y gwas yd- oedd Mr. C. Evans, brawcl y priodfab, a Miss Jones, Towyn, oedd y forwyn briodas. Ymysg y rhai oedd yn bresenol, yr oedd .Mr. a Mrs. Edwards, Coedcymer; Mr. Llewelyn Edwards, Bala; Mrs. Evans Miss Evans, a Mr. Evans, Abermaw; Parch R. R. Williams, M.A., Towyn, a Mrs. Williams; Mr. John Jones, Caergybi; Parch. J. Hughes, Caergybi, a, Mrs. Hughes; Mrs. Morris, Dolgellau, a'r Parch. T. Hughes, Stockport. Yr oedd y capel wedi ei addurno yn dclestlus, aio ar ddyfodiad y briodas i mewn, chwareuodd Mr. D. R. Mills y Wedding March.' Yr oedd Miss Edwards wedi enill parch mawr yn y dref, a danghoswyd hyny drwy gyflwyno- nifer lliosog o anrhegion gwertli- fawr. Ysgol Dr. Williams.—Cynhaliwyd cyfarfod ter- fynol yr ysgol hon ddydd Mercher yr wythnos cyn y ddiweddaf, dan lywyddiaeth- Mrs. Holland, gan yr hon y cafwyd anerchiad yn dweyd am sefyllfa flodeuiog yr ysgol ymhob ystyr. Cyflwynwycl y gwobrwyon gan Mr. A. Osmond Williams, A.S., gan yr hwn, hefyd, y cafwyd anerchiad. Ymhlith I y rhai oedd yn bresenol, yr oedd Miss Fewings, un o gyn-brifathrawesaw yr ysgol, a thraddododd hi- thaui anerchiad maith yn mynegu; ei thcimladau ar ei hymweliad a.'r ysgol, ac ychydig o'i phrofiad wrth addysgu merched Queensland. Talwyd diolchgar- "wch i'r rhai a gymerasant ran ar gynygiad Mr. T. Edwards, U.H., Blaenau a chefnogiad Mr. Edw. Griffith, U.H. Yr Ysgol Ganolraddol.—Mr. C. R. Williams, cadeirydd! y Uywodraethwyr, oecld yn llywyddu, yn nghyfarfocl blynyddol yr ysgol hon dclydd. Gwener, pryd y rhanwyd y gwobrwyon gan Principal Rob- erts, Aberystwyth. Cafwyd anerchiadi godidog gan y Prifathraw ar addysg elfenol ac adclysg ganolraddol. Cafwyd hefyd anerchiad gan Mr. A. Osmond William's, A.S. Y Capel Sa.esllcg.-Nos Nadolig, cynhaliwyd cy- farfod llenyddol dan lywyddiaeth Mr. H. Morris, ao arweiniad Mr. W. Harvey Jones. Beirniadwyd y canu gan Mr. E. Williams (Llew Meirion). Cafwyd cyfarfod oedd yn dangos ol llawer o lafur gan Miss Davies gyda.'r plant. Pendref.—Dydd Mercher yr wythnos o'r blaen, cafwyd gwyl de ynglyn a'r Ysgol Sul yn Pendref. Yn yr hwyr, cafwyd darlith ddarluniadol, Y Ffordd i'r Nefoedd," gan Mr. R. C. Evans. Caed gwyl ragorol drwyddi draw. Salem.—Yn nghyfarfod y Nadolig yn Salemy lly- wyddid gan Mr. Ediw. Griffith, ao arweiniwyd gan I Mr. Hugh Roberts. Y beirniaid cerddorol oedd- ynt: Mrs. Williams, Clifton House, a Miss Griffith, Coedcelyn. Aed trwy raglen ragorol gyda'r plant, a, chaed aclroddiadau, &c., rhwng y cystadleuaeth- qU, Y Band of Hope.—Cynhaliodd. eglwys Bethel (M.C.) gyfarfod nos Nadolig gyda. phlant y GobeithJ IUJ. Llywyddwyd gan Mr. Richard Mills, ac ar- weiniwyd gan Mr. Robert Janres. Beirniadwyd y canu; gan y Parch. R. Morris, M.A., B.D.; yr ad rodcLiadaui gan Mri. D. E .Hughes a W. O. Wil- liams. Chwareuwyd ar yr harmonium gan Mr. D. R. Mills; ac arweiniwyd y Gobeithlu gan Mr. Mor- gan Jones. Aed trwy raglen ddifyr ac addysg- iadol. Cymerwyd rhan drwy ganut gan y Parch. R. Morris a Mri. E. J. Edwards a Morgan Jones, a, Miss Maggie Williams. Enillwyd gwobrwyon gan iMisses Kate: Edwards, Winnie Ellis, Jennie Ellis, MaggIe. Williams, Megan Evans, ac hefyd gan Thos. E. Williams, Griffith Ellis, D. J. Williams, Johnny Goodwin, John, Williams, David Ellis Jones, Idris Williams, R. Caradog Jones. Oaed hefyd un- awd ar yr harmonium gan Mr. Idris Williams; ao unawd ar y crwth g.an y Parch. R. Morris, M.A., B.D. Rhanwyd hefyd aur-afalau i'r plant, rhodd- edig gan foneddwr. Caed, cyfarfod da. Y Gymdeithas Lenyddol.—Nos Wener traddod- odd Principal Roberts, Aberystwyth, ddarlith ar Addysg ac Egwyddor i Gymdeithas Lenyddol y Methodistiaid, dan lywyddiaeth Mr. H. Morris. YNY rhan gyrxtaf, nododid y darlithydd y cyfnewid- iadau y rhaid ymgyraecld atynt yn nghyfundrefn addysg Cymru er uno a dwyn i fesur o dan reolaeth yr un awdurdod1 yr addysg elfenol a chanolraddol. credai y dylai pob pentref feddu ysgol grefftol ac art school, a thrwy, gyfeirio at Bow Street, Taly- bont, a Phennal, dangosoclcl yr hyn a allasai athraw aiddgar wneyd o dan yr amgylchiadau presenol yn y cyfeiriad hwn. Wedi nodi y cyfnewidiadau ang- enrheidiol yh addysg Cymru, ymholodd: y darlith- ydd a oedd eisieu i Gymru newid ei hegwyddorion hefyd? Tra. y cyclnabydclai yr angen am bnro yr egwyddorion, creclai nad oedd angen eu, newid: 1. Am fod gan y Cymry welediad clir am gysylltiad, dyn a chymdeitha-s; 2. Am gysylltiad dyn a natur; 3. Am safon gwerth cvnhenid a pherthynas dylcd- swydd a mwynhacl. Yr oedd y ddarlitli yn dcliameu yn un o'r rhai mwyaf aruchel a draddodwyd i'r Gymdeithas erioed, a, thalwyd diolchgarwch cynes i'r darlithydd ar gynygiad y llywydd a chefnogiad y Parch. Evan Roberts. Cyfarfod1 Ysgol.—Rhagfyr 23, cynhaliwyd cyfar fod ysgol yn Salem, clan lywyddiaeth Mr. R. C. Evans. Dechreuwyd cyfarfod y boreu gan Mr. W. O. Williams, n, chacd adroddiad o benod yn Llyfr y Diarhebion gan cldcsbarth o fechgyn yn rhagorol. Yr oedd y plant yn canui yn swynol, dan arwein- iad Mr. John Williams, Tudno Villa. Holwyd y plant gan y Parch. Jones Edwards yn Hanes lesu Grist. Caed atebion, da. Rhoddwyd cynghorion i'r plant gan y Parch. John Williams, B.A., a Mr. Edward Griffith, U.H. Yn nghyfarfod y cyntych iolwyr, caed fod 13 o ysgolion yn cael eu cynrych- ioli. Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod diw^klaf. Ca,ed; gair gan Mr. W. G; Jones o berthynaP*?^,r- holiad y Safonau, a hysbysodd Mr .Jones eu bod hwy yn meddwl dechreui eu hymweliad ar ol y Sul cyntaf yn lonawr. Dewiswyd swyddogion am y flwycldyn 1901,—yr hen swyddogion i fod yn eu lle- oedd eto. I archvvilio cyfrifon y trysorydd, Mr. Richard Owen a Win. Wynne. Etholwyd y Parch Treror Evans yn ofahvr am y flwyddyn 1902—3. Penodwyd y Parch. Jones Edwards, Mri. Edward Griffith, It. C. Evans, a W. O. Williams, i ffurfio yn bwyllgor i ystyried hanes yr Ysgol Sul yn y Dosbarth yn ystod y ganrif ddiweddaf. Pasiwyd ein bod yn cymeradwyo Mai 21ain fel diwrnod i ddechreui ar wraith cynhadledd yr Ysgol Sabbothol,. yr hon a gynhelir yn Nolgellaui y flwyddyn nesaf. Holwyd y dosbarth canol. a'r hyna,f yn nghyfarfod y prydnawn gan y Parch. Jones Edwards, a chaed ymdriniaeth ar y mater Sancteiddiadi y Sabbath." Agorwyd gan Mr. Wm. 0. Williams, a diolchwyd iddo amei sylwadau, gwerthfawr. Caed gair arno hefycL gan. Mr. J. Jones, Rhiwspardyn, a'r llywydd. Y cyfarfod nesaf yn y Bontddu. Cyfrifon yr Ysgol Sul i fod yn llaw: yr ysgrifenydd lonawr 5ed, 1901- Cafwyd ysfarfod ysgol rhagorol.-B. James, Ysg.
I" DIWYGWYR CYMRU."—DADLE'iSTIAD…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
nodir yn map III., o un i un, o dengys yn bur am- lwg mai ffrwyth dychymyg toreithiûg Mr. Beriah Evans ydyw yr hyn a geir yn y map. Dywed Mr. Ivor Jones fod prawf sicr mai yn 1783 y sefydlwyd eglwys yn Nghaernarfon, ac nad oedd yn bod yno eglwys o gwbl yn 1739! Cyflelyb ydyw canlyniad beirniadaeth Mr. Ivor Jones ar leoedd eraill, a therfyna. fel y canlyn:—"Yn y cyffelyb fodd y geIlid myned ymlaen am y manau eraill nodir ar y map. Hyd y mae profion sicr wedi eu datguddio, nid oedd Siyy sir i gyd ond rhyw dri neUJ bedwar o leoedd lie uy| pregethid ynddynt gyda dim cysondeb yn y fhvyddVn 1739. Am y manau eraill ar y map, I plaawyd ynddynt aglwysi Annibynol, neu sefydl- wyd ynddynt orsafoedd pregethu,' yn mlynyddoedd diweddaf yj- haner olaf o'r ddeunawfed ganrif, neu ynte, yn mlynyddoedd cyntaf y ganrif sydd yn awr yn dibenuiir-)» Ystyriaf fi fod cael sicrwydd o gywirdeb gos- odiadaut Mr. Beriah Evans yn hynod o bwysig. Os gall efe brofi i foddlonrwydd cyffredinol fod ei osod- iadaw am rai manau yn Sir Gaernarfon yn cyd- sefyll a ffeithiau hanesyddol profedig,' yna par hyny chwyldroad holldl ynglyn a'r hanes a feddem fel enwad am Annibyniaeth foreuol yn y sir. Bydd i'r cyfryw brofion ddangos yn eglur nad oes un sail i lawer ogofnodion geir mewn hen 'Ddysgedydd- ion.' Hefyd, mai ifug yw llawer o bethau ysgri- fenwyd o liPyd i bryd, am, y fath ddynion a'r Parchn. Johil Griffiths a George Lewis, Caernarfon. Profanti hefyd mai tynu ar ei ddychynvyg, yr oedd y diweddar Barch. Win. Ambrose yn ei ysgrifaUl ar hanes rhai o eglwysi Eifionydd. O'r adeg y cy- hoedda awdwr 'Diwygwyr Cymru' ei 'ffeithiau hanesyddol profedig' o'r pryd hyny allan, meddaf, bydd rhanau helaeth o 'Hanes yr Eglwysi Anni bynol/ gan y Doctoriaid Thomas Rees a John Tho- mas, yn hollol ddiwerth. Yna" bydd yn rhaid edrych ar lawer o bethau ysgrifen wydyn nghofiant yr Hybarch David Griffiths, fel cofnodion, heb y mesur lleiaf o sail iddynt. Y pryd hyny bydd yn ofynol i olygydd y Tadau Annibynol' alw yn ol gyda brys rai o'r pethau ysgrifenodd efe am hanes Annibyniaeth foreuol yn ninas Bangor, yn ei fyw- graffiad o'r Dr. Arthur Jones. Y pryd hyny bydd yn rJiaid tynu allan o Ddysgedyddion' cymharol ddiweddajr,' rai o ysgrifau y cewri—Ap Fychan, Tanymarian, a D. S. Jones, flliwilog, &c. Dyna amser cynhyrfus yn ngwersyll Annibyniaeth Sir Gaornarfon fydd hwrnv, pan y bydd 'ffeithiau hanesyddol profedig' Mr. Beriah Evans yn tynu i lawr yn llwch y cestyll adeiladwyd gan ddychymyg clamcaniaethol' y, gwyr a enwyd, vnghydag eraill." Buasai 4^i dda genyf gael rhoddi ychwaneg o ddyfyniadau o'r llythyr pwysig hwn, oblegid ei fod yn rhoddi cyfleusdra, a.rflderchog. i weled hanesydd a dycbymygwr ochr yn ochr. Am Mr. Ivor Jones, profa yr hyn a ysgrifena fod ei ymchwiliadau yn drylwyr a diduedd, ac mai ei amcan ydoedd dyfod o hyd i'r gwir. Oncl beth tybed a ddywedir beflach am y "chwiloleu" o Gaernarfon ? Mae'n sicr na welwyd erioed y fath gast-ell bonibastaidd yn disevn i'r llwch. ;■ NODwR. O.Y.—A ydyw Mr. Beriah Evans yn barod i dderbyn yr her i fyned dros y siroedd eraill o un i un ?