Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Cwynion y Oyfundeb.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cwynion y Oyfundeb. Da genym gael ar ddeall fod cynllum y Gyman- fa Gyffredinol gyda golwg ar yr Ysgol Sabbothol wedi cael sylw bron yr oil o'r Cyfarfodydd Misol; ao y mae pob un wedi gwneyd rhyw ddarpariaethj er dwyn achos yr Ysgol o flaen pob eglwys ac Ys- gol. Yr ydym yn gweled fod rhai hefyd yn gwneyd cyffyrddiad a'r prif ddiffyg, sef diffyg dynion cym- wya mewn gwybodaeth Ysgrythyrol ac ysbryd gwaith. Rhaid cael y cyntaf er bod yn gymwys i gyfranu addysg yn yr Ysgol, a rhaid cael yr olaf er myned ymlaen mewn llafur meddwl ar gyfer yr Ysgol, a chael pawb i'r Ysgol sydd wedi arfer dyfod iddi, ynghyd ag ymdrechu yn barhaus i gael y dy- fodiaid i'r gwahanol ardaloedd i'w mynychu—myned ar ol yr hon a gollwyd. nes ei chael yn ol i'r gorlan, a chymell pawb i ddyfod i fewn fel y llanwer y ty. Nid ydym yn hollol glir gyda golwg ar y;. pa fodd i sicrhau aroiygAvyr ac athrawon cynnvys. Mae genym wahanol arholiadau, y rhai nad ydym yn credu y daw fawr o ddaioni o honynt byth, os na wneir hwynt yn fath o test ar lafur a gwybodaeth flaenorol y rhai a wneir yn athrawon. Mae eisiau i ni ddangos bellach ein bod yn credu yn yr arhol- iadau, nid yn unig fel cyfryngau i brofi wybodaeth plant, ond i brofi gwybodaeth rhai mewn oed hefyd. Mae yr arholiadau wedi bod am ddigon o amser bellach yn yr Ysgol Sabbothol i fod ynsafon i brofi pawb sydd dan 30 oed, am eu cyanwysder i ddysgu eraill, mor bell ag y mae gwybodaeth yn myned. Lie y dylech fod yn athrawon o ran amser ddy- wed yr ysgrifenydd at yr Hebreaid, ond nid oedd- ynt yn athrawon, ac nid oedd yntau yn meddwl eu gosod yn y swydd chwaith. Gosod rhai na buont eu hunain yn ddigon gostyngedig, yn ddigon ym- roddgar, ac yn ddigon dewr, i sefyll cystadleuaeth mewn llafur Beiblaidd, sydd yn awr mor gyffredin yn ein gwlad; ie, rhoddi y rhai hyny yn athrawon ac athrawesau yw rhoddi rhai i osod "qfJichiau ar eraill na allent hwy eui syfiyd ag un olú bysedd." Nid ydym yn ineddwl y daw llawer o lwyddiant os parheir i wneyd hyn. Mao cwyno mawr hefyd am y Genhadaeth Dram- or. Nid achwyn ar y Genhadaeth, ond cwyno yn nghylch y Genhadaeth. Mae gwaith mawr yn cael ei wneyd trwyddi, yr hwn ni ellir achwyn arno; bron na ellir dweyd am dani, "llawer merch a weithiodd yn rymus, ond ti a ragoraist arnynt oil." Ni ellir beio chwaith am nad oes ymgeiswyr am fyned allan i'r Maes Cenhadol. Gwelwyd peth felly am flynyddoedd ar ol sefydlu y Genhadaeth. Erbyn hyn mae cyfnewidiad er gwell wedi cymer- yd lie. Mae llawer o fechgyn a genethod yn awr er's blynyddoedd yn ein heglwysi yn dweyd, Wele ni anfonwoh ni." Mae yn wir fod y cynhauaf mor fawr" yn yr India, ac yn Llydaw, fel y gellir dweyd fod y "gweithwyr yn anaml" er cynifer sydd wedi myned allan. Oblegid helaethrwydd y gwaith, a'r drysau newyddion sydd yn parhaus agoryd,' clywir llais dras. y lli yn gwaeddi, Deuwch dros- odd a chynorfchwywch ni." Mae y brodorion yn gofyn i'r cenlxadon draw am ychwaneg o athrawon a chenhadon, ac y mae y rhai hyny yn ceisio eu hateb trwy anfon yma am ychwaneg o weithwyr. Mae hon yn sefyllfa ddymunol iawn ar bethau, a rhaid dweyd, O'r Arglwydd y mae hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni," wrth ein cymharu a'r hyn a fu. I Dyna ochr oleu y mater hwn, am yr hon nid oea achwyniad. Cwynir oblegid sefyllfa arianol y Gen, hadaeth. Yr ydym wedi cael medi y pethau ys- brydol" y llafuriasom am danynt, fel, erbyn hyn, y mae diffyg yn cael ei deimlo yn y pethau cnawdol." Gallem feddwl, wrth reol yr apostol yn y pethau hyn fod medi peth ysbrydol i fod yn gy- fartal i'r ymdrech gyda'r pethau' cnawdol. Os felly, mae y "llawenydd amser cynhauaf" ar y Cyfundeb i leihau, os bydd yn rhaid galw cenhad- on adref 0 ddiffyg arian i'w cynal ar y maes; ao os bydd yn rhaid atal rhai i fyned allan oblegid yr un rheswm. Ai fel hyn y mae yn rhaid i bethau fod ? A ydyw amgylchiadau y Methodistiaid mor gyfyng fel ag i'w cyfiawnhau am wneyd hyn? Mae yn wir max yn ol yr hyn sydd gan un y mae ei rodd yn

Haner Canrffo Gynydd a Llanw…