Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

16 erthygl ar y dudalen hon

** TONYPANDY.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TONYPANDY. ""HANDEL."—Traddodwyd darlith ar y testyn uchod, yn Ebenezer, gan^r Parch. W. Harris, Trecynon, Aberdar. Rhoddwyd bras- lun da iawn o brif helyntion ei fywyd i ni, wedi ei fritho a sketches difyrus a nodwedd- iadol o'r cerddor athrylithgar. Rhoddwyd golwg i ni arno fel dyn ac fel cerddor, yn nghyd & chyfeiriadau pwrpasol ac eglurhaol at eu ddarnau meistrolgar. Llywyddwyd gan Alaw Buallt, y cerddor adnabyddus. Yr elw at yagol ddyddiol Tonypandy, yr hon sydd yn awr fel pe yn dechreu byd newydd o dan Mr. J. W. Jones, gynt o Drecynon, Aberdar. Mae sefyllfa ganolog yr ysgol, a'r ft ait h mai rhoddion gwirfoddol sydd yn ei chynal heb un cynortbwyoddiwrth y glofeydd, yn dweyd mai trueni fyddai i'r ysgol fyned i lawr o eisieu support arianol i'w dodi ar ei thraed. Terfynwyd trwy i'r cor (o dan arweiniad Mr. Jones, Jerusalem) ganu yr Hallelujah Chorus." Canwyd darnau ereill yn ystod y cyfarfod. Terfynwyd yn y ffordd gyffredin, trwy roddi'r diolchiadau dyledus.

EISTEDDFOD CARMEL, TREHER-I…

CLYDACH.

PETHAU HYNOD 0 GWMOGWY.

DOLGELLAU.

ICAERDYDD.

TREHERBERT.

EISTEDDFOD Y GORDoFUilON"…

TAIBACH.

[No title]

Y FASGED.

LLOFFION 0 LLANEDI.

[No title]

AMRYWION 0 LANFABON.

[No title]

Advertising