Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Barddoniaeth.'.'

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Barddoniaeth. PRYDER A GOBAITH. PAN fo cymyl nos yn duo Holl obeithion ieuanc ffydd, Af i'w eysgod i freuddwydio Am y dydd. Pan fo ystryw trais fy mbechod Yn llwfrhau fy ngfoalon wan, Cofio wnaf am awr gollyngdod Yn y man. Mi feddyliais pan yn cychwyn Fod fy oes yn swyn i gyd, Cefais bigyn ar bob rhosyn Yn y byd. Yn v stormydd, goleu'r hafan Wyf yn fethu wel'd yn glir, Daw esboniad ar y eyfan Cyn bo hir. Fy nheimladau a archollwyd Gan uchelwyr isel foes, Ni wna golud brynu bywyd Ddiwedd oes. Os wy'n colliY clydd wrth ymladd Gyda threiswyr llym eu cledd, Byddant hwy a rrjinau'ri gydradd Yn y bedd. Rhoddwqh gofgolofnau trymion Ar eu beddau'n farwol baen. Buan bydd eu henwau'n feirwon Fel y maen. O'r naill du gorweddaf finau Gyda thlodion isel fryd, Ni wna'r angel ddarllen enwau Ddiwedd byd. Yn y fynwent cydorweddwn, A'n gweddillion fydd yn sarn, Cyd-orphwyswn, a chyd-godwn Ddydd y Farn. Tonau certh gofidiau chwerwon A lonyddant yn y man, Teflir fi gan donau'r afon Ar y lan. GWAENFAB. Y MOR. TRA hyf for dwfr-gartref yw,—llen-orchudd U weh llanerchau distryw Gorlidiog ruol ydyw. Erioed yn faes i'r don fyw. ING. ENHYD elvn bodclaeth—hedd yw ing, Ddengys ddyfnder alaeth "Dow gwmwl dig ami y daeth Ei ddu niwl ar ddynoliaeth. TALIESIN HIRAETHOG. FIN mwyn Daliesin iesin gwel oesau Yn nefoledig ei awen-flodau; Bardd di-hunan, i anian yn enau. A g-wladwr enwog, hvarlod ei riniau Yn Dwyr i'w afa.el neidiai'n llawrvfau. A bri feddianodd drwy buraf ddoniau Am un oedd o'i mvnyddau-Dinhvch swydd, Heb ei diddigrwydd, nis erbyd ddagrau. GRUGOG.

0:--Ar Finion y Ddyfrdwy.

--0-BLWCH MEDDYGTNIAETH DEULUAIDD.

Llenyddiaeth.

[No title]

Eisteddfod Cadeiriol Rhuddlan.

Nodiadau Cerddorol.

Cwreiohion.