Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

MARWOLAETH Y PARCH. W. EDWARDS,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MARWOLAETH Y PARCH. W. EDWARDS, ABERDAR. YMDAENODD y newydd dydd Gwener diw- eddaf fod y Parch W. EDWARDS wedi marw! Ni feddianwyd neb gan syndod dyeithriol, oblegid gwyddis ei fod am rai misoedd wedi bod yn dyoddef poenau mawr, a bod y dolur y dyoddefai oddiwrtho yn rhwym o brofi yn angeuol, ac nid oedd y wlad heb fod yn dysgwyl am y newydd galarus. Yr oedd. Mr EDWARDS yn un o'r gweinidogion mwyaf adnabyddus yn yr Enwad, atheimlid parch mawr iddo gan gylch eang o adna- byddiaeth. Yr oedd yn enedigol o Ffestin- iog, ac yno y derbyniwyd ef yn aelod, ac y dechreuodd bregethu. Cafodd ei addysg yn Aberhonddu, ac yr oedd yn mysg y to cyntaf o fyfyrwyr a fuont yno wedi symud- iad yr atbrofa o'r Drefnewydd. Mae amryw o'i gydfyfyrwyr wedi huno, a'r cyfryw sydd yn aros wedi myned yn henafgwyr yn mhlith gwyr. Decbreuodd ei weinidogaeth yn Ebenezer, Aberdar, ac yno y treuliodd ei holl oes. Cafodd y fraint o lafurio yno am ddeugain mlynedd, a gorpben ei waith yn y lie y dechreuodd. Gwelodd lawer o gyf- newidiadau yn Aberdar yn ystod ei fywyd. Gwelodd fasnach yn bywiogi yno, a'r lluaws yn dylifo i'r lie; ac wedi hyny daeth cyf- newidiad, trwy i weithfaoedd mawrion sefyll a llawer o'r trigolion i orfod ymadael. Ond trwy bob cyfnewidiadau yr oedd efe yn glynu wrth y lie. Cymerodd ran gyhoeddus yn holl fudiad- au yr Enwad, a gwnaeth lawer dros Athrofa Aberhonddu, a sefydliadau ereill. Yr oedd yn ddirwestwr selog ar hyd ei oes, a pbarha- odd i lynu wrth yr egwyddor ddirwestol hyd derfyn ei ddyddiau. Flynyddau yn ol c-lywid ei lais yn fynych yn y gwyliau dir- westol, ac yr oedd yn areitbio yn danllyd a selog. Syrthiodd i rai dadleuon cyhoeddus a gweinidogion o enwadau ereill, ac yn neill- duo] felly a Dr PRICE, Aberdar, ar Fedydd. Mewn cysylltiad a'r ddadl hono cyhoeddodd lyfr a alwai "Bapto," ac yr oedd yn dwyn profion o ymchwiliad llafurfawr i gysyllt. iadau y pwnc hwnw. Cyhoeddodd hefyd amryw fan lyfrau ereill oeddynt yn dwyn yr un nodweddion, ac ysgrifenodd hefyd lawer o erthyglau i'n cylchgronau misol a chwar- terol. Daliodd i bregethu yn gyson hyd o fewn rhyw dri mis i'w farwolaeth, ac yn Ngbymanfa Menai Bridge, yn mis Mehefin, yr ymddangosodd mewn cynulleidfa gy- hoeddus ddiweddaf. Pregethai yn lied faith, a braidd yn lluddedig iddo ei hun o ran dullwedd ei draddodiad, a diau fod hyny yn gwanhau ei gorff, os nad hefyd yn gwanhau effeithioldeb y traddodiad. Ar- weiniodd fywyd pur a bollol ddilychwin— disgynodd i'w fedd heb frycheuyn ar ei gymeriad crefyddol. Gwnaeth ei ran fel bugail ffyddlon a gofalus, ac yr oedd bob amser yn fab dyddanwch i'r trallodedig a galarus. Yr oedd yn nodedig o bFtfOd fel cymwynaswr, ac y mae lluaws yn fyw heddyw ydynt dan ddyled fawr iddo am gymwynasau. Os cymerai at yr ymddir- iedaeth o wneyd cymwynas, ni arbedai un drafferth nes ei chyflawni yn drwyadl. Nid oedd neb parotach nag efe i gynorthwyo brawd o weinidog mewn cyfyngder. Ar- weiniodd ei dymher boetblyd ef i lawer profedigaeth; ond ni ddeallasom ei fod yn cadw digofaint at neb. Tua blwyddyn yn ol cyflwynwyd iddo dysteb arianol gan ei eglwys a'i gyfeillion, ond ni chafodd fyw nemawr amser i'w mwynhau. Llanwodd Gadair yr Undeb yn Ffestiniog, ac y mae yn bruddaidd meddwl mai hwnw oedd y cyfarfod diweddaf iddo. Yr oedd yn rhy wanaidd ei iechyd i fod yn Llanelli, ac felly terfynodd ef ei bertbynas a'r Undeb yn y Gadair. Bu yn briod ddwywaith. Ei wraig gyntaf oedd ferch i'r diweddar Barch JOHN JONES, Talgarth, o'r hon y cafodd tri o blant, Dr ELLIS EDWARDS, St Clears; Mrs THOMAS, Canterbury a Mrs LESTER, Wim- bledon. Bydded Duw y tad a'r fam yn gysgod ac yu arweinyddYr plant. Yr oedd eu mam yn wraig nodedig am ei doethineb a'i charedigrwydd. Ei ail wraig oedd Mrs PHILLIPS, Towyn—mam Mrs LLOYD, Plas- meini—ac y mae hithau yn un o'r gwragedd mwyaf llednais, lletygar, a charedig. Nid yn ami y cafodd dyn ei fendithio a dwy wraig mor dda. Yn ei henaint a'i llesgedd bydded yr ARGLWYDD yn amddiffyn iddi yn ei hail-weddwdod. Wedi oes o lafur caled ac o ffyddlondeb difwlch i achos y GWAR- EDWR, hunodd yn dawel boreu dydd Gwener, Awst 29ain, yn ei 72 mlwydd o'i oedran! Bellach ni cbawn ei weled yn ein gwyliau arbenig, ac yn Morganwg yn neillduol, felly teimlir gwagder a cholled ar ei ol. Credwn ei fod wedi rhoddi fyny gwasanaethu un o'r eglwysi goreu ar y ddaear am ran a chyfran yn mreintiau a gogoniant yr Eglwys orfol- eddus yn y nefoedd. [Gwelir manylion y farwolaeth a'r gladdedigaeth mewn colofn arall].

MR GLADSTONE YN IMIDLOTHIAN.